Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwaith Peirianneg

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu'ch data personol at ddibenion gweithgareddau adeiladu a chynnal a chadw'r priffyrdd.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Rydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu eich adnabod a rhoi adborth ar geisiadau am wasanaethau a chyfathrebu arall.

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cymru).

Byddwn ni hefyd yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r gyfraith ac efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill â chyfrifoldeb dros ganfod/atal twyll/troseddu neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).

Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?

Y categorïau ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu yw:

  • Enw a manylion cyswllt
  • Cyfeiriad yr eiddo

Rydym hefyd yn casglu delweddau drwy ein teledu cylch cyfyng ar gyfer atal a chanfod troseddau.

Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:

Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae angen inni brosesu er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sylfaen glir yn y gyfraith.

Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gellir defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i darparu i ni er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio mewnol ac allanol.

Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich  gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen yn unig. Byddwn yn cadw’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i ni am saith mlynedd a gwaredir ar eich gwybodaeth yn ddiogel unwaith nad yw ei hangen arnom mwyach.

Mae delweddau CCTV yn cael eu cadw am 30 diwrnod, oni bai bod angen cadw'r lluniau'n hirach ar gyfer ymchwiliadau ac achosion cyfreithiol.

Eich hawliau

Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gyrchu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:

Mynediad at Gofnodion 

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. I’r diben hwn, rydyn ni’n ystyried unrhyw gwynion ynghylch hyn o ddifrif. Anogwn i bobl dynnu ein sylw at y mater os ydynt yn credu bod ein ffordd o gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol, neu’n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr ynglŷn â phob agwedd ar y ffordd rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

E-bost: wales@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 8664, adolygwyd 02/11/2023