Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaethau Amgylcheddol
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion adran gwastraff ac ailgylchu y Gwasanaethau Amgylcheddol.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu:
- Darparu gwasanaethau a chymorth i chi, gan gynnwys tanysgrifiadau i wastraff gardd, cytundebau gwastraff masnach, casgliadau gwastraff ac ailgylchu â chymorth, ceisiadau am gynwysyddion/bagiau, cynllun arian yn ôl cewynnau go iawn, casgliadau gwastraff cewynnau untro a gwastraff anymataliaeth (cynhyrchion hylendid amsugnol), casgliadau cartref mwy, archebion canolfannau gwastraff ac ailgylchu a chasgliadau gwastraff swmpus.
- Ymchwilio i faterion rydych chi wedi dweud wrthym amdanynt
- Mynd i’r afael â phroblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon, cerbydau wedi’u gadael, a phori anghyfreithlon
- Helpu i ymchwilio i unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am eich gwasanaethau
- Gwirio ansawdd y gwasanaethau
- Cymorth gydag ymchwil a chynllunio gwasanaethau newydd
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol
Mae camerâu cylch cyfyng a chamerâu corff yn cael eu defnyddio yn ein canolfannau gwastraff ac ailgylchu sy’n cynnwys y canlynol: Manorowen, Tyddewi, Winsel, Waterloo, Crane Cross a Hermon. Mae system deledu cylch cyfyng ar waith yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff ger Aberdaugleddau. Mae gan ein cerbydau gwastraff ac ailgylchu system deledu cylch cyfyng hefyd. Y rhesymau dros hyn yw fel a ganlyn:
- Ar gyfer atal, lleihau, canfod ac ymchwilio i droseddau a digwyddiadau eraill
- Er mwyn sicrhau diogelwch ein staff, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd
- I gynorthwyo yn yr ymchwiliad i achosion lle mae amheuaeth o dorri polisïau a gweithdrefnau ailgylchu a gwastraff gan ein staff, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Mae swyddogion gorfodaeth amgylcheddol Cyngor Sir Penfro a chynghorwyr gwastraff yn gwisgo ac yn defnyddio camerâu corff. Mae hyn ar gyfer casglu tystiolaeth i gynorthwyo erlyniadau ac i wella diogelwch swyddogion.
Caiff y wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, a Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Polisi Preifatrwydd a Chwcis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion cyswllt gan gynnwys e-bost a rhif cyswllt
- Gwybodaeth am dalu
- Data iechyd (mae hyn yn ofynnol mewn perthynas â’n casgliadau gwastraff ac ailgylchu â chymorth)
- Nifer y bobl mewn aelwyd (cesglir gwybodaeth mewn perthynas â chasgliadau gwastraff ac ailgylchu o aelwydydd mwy)
- Dyddiad geni neu ddyddiad geni disgwyliedig eich plentyn, ei rywedd a’ch manylion ariannol (cesglir hyn mewn perthynas â chynllun arian yn ôl cewynnau go iawn)
- Rhif cofrestru cerbyd (cesglir hyn mewn perthynas â phrosesu ein system archebu canolfannau gwastraff ac ailgylchu, ymchwilio i dipio anghyfreithlon, pori anghyfreithlon, cerbydau wedi’u gadael a damweiniau traffig ffyrdd)
- Gwneuthuriad, model a lliw’r cerbyd ynghyd â lleoliad/llun o’r cerbyd (mewn perthynas â cherbydau sydd wedi’u gadael)
- Delweddau/fideo/sain (mae hyn yn cael ei gasglu trwy ein camerâu teledu cylch cyfyng a chamerâu corff)
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
- Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu’n fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol, a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
- Erthygl 9 (2)(g) O fudd sylweddol i’r cyhoedd.
(Y amod Perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Dibenion statudol a llywodraethol)
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- Heddlu
- FRAME Sir Benfro, systemau diogelwch deallus (Intelligent Security Systems (ISS)), Larymau Dyfed Alarms, Routeware Ltd sy’n broseswyr data i ni.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Pa mor hir ydyn ni’n cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni am a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Casgliadau a fethwyd a cheisiadau gwasanaeth – tair blynedd
Gwastraff gardd – dwy flynedd ar ôl terfynu’r gwasanaeth
Gwastraff masnach – tair blynedd
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu â chymorthhu - Cyhyd â bod y cwsmer yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
Ceisiadau am gynhwysydd/bagiau – Yn cael eu dinistrio ar ôl eu danfon
Cynllun arian yn ôl ar gyfer cewynnau go iawn - tair blynedd o’r cyswllt diwethaf
Gwasanaeth casglu cewynnau sy’n gynhyrchion hylendid amsugnol - Cyn belled ag y bo angen y gwasanaeth neu ar ôl tri chasgliad a fethwyd.
Casgliadau cartrefi mwy - Cyhyd ag y bo angen gwasanaeth neu ar ôl tri chasgliad a fethwyd
Tipio anghyfreithlon - saith mlynedd ar ôl y camau gweithredu diwethaf gan gynnwys erlyniad
Cerbydau wedi’u gadael - chwe mlynedd
Pori anghyfreithlon - chwe mlynedd
System archebu canolfannau gwastraff ac ailgylchu - pum mlynedd ar ôl cau’r cyfrif neu fod y cyfrif yn anweithredol
Casgliadau gwastraff swmpus - tair blynedd
Teledu cylch cyfyng ar gerbydau gwastraff ac ailgylchu: Lorïau gwastraff gardd, cynhyrchion hylendid amsugnol, bagiau llwyd a lifftiau bachyn - os nad oes unrhyw ddigwyddiad, yn cael ei throsysgrifo bob 2.5 wythnos. Pan fydd digwyddiad yn digwydd bydd angen cadw data yn hirach a phenderfynu fesul achos.
Teledu cylch cyfyng ar gerbydau gwastraff ac ailgylchu: Lorïau casglu wrth ymyl y ffordd - os nad oes unrhyw ddigwyddiadau mae gwybodaeth yn cael ei throsysgrifo bob deng diwrnod. Pan fydd digwyddiad yn digwydd bydd angen cadw data yn hirach a phenderfynu fesul achos.
Teledu cylch cyfyng mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu - 31 diwrnod, pan ceir digwyddiadau gellir eu cadw yn hirach.
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.