Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaethau cymdeithasol larymau cymunedol

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu'ch data personol at ddibenion rhoi Larwm Cymunedol i chi, a monitro a gweithredu’r gwasanaeth.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn roi Larwm Cymunedol i chi, a monitro a gweithredu'r gwasanaeth.

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).

Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?

Mae’r categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:

  • Enw
  • Oedran a dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Gwybodaeth iechyd meddygol/Rheswm dros wneud cais
  • Perthynas agosaf (dau ar y wefan/tri ar y ffurflen)
  • Enw a rhifau ffôn eich cysylltiadau brys (Sylwer bod yn rhaid i chi sicrhau bod y bobl yr ydych yn eu rhestru fel cysylltiadau wedi rhoi eu caniatâd i rannu eu gwybodaeth â Chyngor Sir Penfro a Careline at y diben hwn.)

Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:  

Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.

§  Erthygl 6 (1)(d) Buddiannau hanfodol: mae'r prosesu'n angenrheidiol i warchod bywyd rhywun.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu’n fwy. Mae’r mathau hyn o ddata yn cael eu hystyried fel ‘data categori arbennig’ a gall gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu foesegol neu aelodaeth undeb llafur a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydyn ni’n prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig yn ôl yr angen at ddibenion:

Erthygl 9 (2)(a) Rydych wedi rhoi eich cydsyniad penodol. Gallwch dynnu eich cydsyniad ar unrhyw adeg. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r gwasanaeth y mae ei fanylion cyswllt wedi'u rhestru uchod. 

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, a bydd y rhain yn cynnwys:

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.

Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd) 

Pa mor hir y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni am bum mlynedd ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben a byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth yn ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.

Eich Hawliau

Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Symud data – mae gennych yr hawl i ofyn am drosglwyddo'ch gwybodaeth heb atal.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I gyflwyno cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o'r farn fod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu yn ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o bob agwedd o’n proses casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

2nd Floor, Churchill House

Churchill Way

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘cwynion ac ymholiadau’.

Newid i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 8717, adolygwyd 16/04/2025