Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Hwb Cydlynu Cymunedol
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Hwb Cymunedol Cyngor Sir Penfro yn casglu, defnyddio a diogelu data personol at ddibenion eich cefnogi chi neu’ch teulu yn ystod pandemig y coronafeirws (COVD-19).
Pam rydym ni angen eich gwybodaeth (dibenion prosesu)
Yn y cyfnod anodd hwn, rydym ni’n gweithio'n agos iawn gydag adrannau eraill yn Cyngor Sir Penfro
Os byddwch yn cysylltu â'n Hwb Cymunedol, efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
Efallai y byddwch hefyd yn cysylltu â ni i gynnig helpu o ran gwirfoddoli i gefnogi ymdrech COVID-19.
Rydym yn prosesu eich data personol er mwyn gweithredu Hwb Cydlynu Cymunedol y Cyngor yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Dyma enghreifftiau o sut a phryd bydd eich data personol yn cael eu prosesu;
- cyfathrebu cyngor iechyd y cyhoedd neu ofal cymdeithasol
- trin ac ymateb i unrhyw ymholiadau allai fod gennych
- rhannu eich gwybodaeth bersonol rhwng adrannau o fewn Cyngor Sir Penfro er mwyn eich cefnogi chi a/neu eich teulu yn ystod y cyfnod hwn
- rhannu eich gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru oherwydd eich bod wedi cael eich adnabod fel rhywun sydd yn y grŵp gwarchod a bod angen parsel bwyd arnoch chi.
- rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau gwirfoddol a grwpiau cymorth yn y gymuned
- pasio eich manylion i PAVS i'w galluogi i gysylltu â chi ynglŷn â'ch cynnig i wirfoddoli yn ystod y cyfnod
Pa ddata personol sy'n cael eu casglu?
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, byddwn yn prosesu'r mathau canlynol o wybodaeth, byddwn ond yn prosesu'r hyn sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol;
- eich enw
- eich cyfeiriad cartref
- eich cyfeiriad e-bost
- eich rhif ffôn gan gynnwys rhifau ffôn cartref a/neu ffôn symudol (os yw’n berthnasol)
- eich dyddiad geni
- eich rhif GIG (at ddibenion gwarchod yn unig)
- anofeddiadau bwyd (at ddibenion gwarchod yn unig)
- eich dewis iaith
- a ydych chi’n ofalwr neu’r person sy’n derbyn gofal
- manylion y mater dan sylw; pryderon ynysu, presgripsiynau, manylion ymweliad gofal a gollwyd
- data arall rydych chi'n ei gynnig
Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ddata ychwanegol neu rannu data mwy sensitif fel data sy'n ymwneud â'ch iechyd neu anabledd. Maew hyn yn cael ei alw’n ddata categori arbennig a byddwn ni ond yn ei brosesu pan fydd angen gwneud hynny.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yw ei fod er budd y cyhoedd i ni ddelio â phandemig COVID-19.
Mae’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni er mwyn sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(e) - mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd.
Mae prosesu categorïau arbennig o ddata personol, sy'n cynnwys data sy'n ymwneud ag iechyd person, wedi'i wahardd oni bai bod amodau penodol pellach yn cael eu bodloni. Yr amodau ar gyfer prosesu data o'r fath yw:
- Erthygl 9 (2)(h) – mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu gweithio’r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau gofal cymdeithasol;
- Erthygl 9 (2)(i) – mae angen prosesu er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd;
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth
Er mwyn ein galluogi i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn a darparu cymorth gyda pharseli bwyd, dosbarthu meddyginiaeth, ynysu neu bryderon ynglŷn â’ch gofal neu i hwyluso'ch cynnig i wirfoddoli, bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â phartïon eraill. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Timau a gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Sir Penfro er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Gwasanaethau Refeniw
- Llywodraeth Cymru
- Grwpiau ac Asiantaethau Gwirfoddol, fel PAVS a Chysylltwyr Cymunedol
- Llesiant Delta
Mae gan Cyngor Sir Penfro ddyletswydd i warchod y gronfa gyhoeddus y mae’n ei rheoli. Felly, gellir defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni ar gyfer atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Am faint fydd fy nata personol yn cael ei gadw gan y Cyngor?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw’ch gwybodaeth am gyhyd ag sydd angen, gan ystyried cyngor y Llywodraeth a’r risg barhaus a gyflwynir gan COVID-19. Bydd y wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei chadw drwy gydol yr ymateb i COVID-19 ac amserlenni archwilio perthnasol o leiaf. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith nad oes ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, gan gynnwys:
- Eich hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn;
- Mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle mae amheuaeth ynghylch cywirdeb), gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol;
- Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol;
- Mae gennych hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 775798
Cwynion ac Ymholiadau
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y modd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
Gwefan: ICO
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.