Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Martello House
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion eich cefnogi tra’ch bod yn aros yn Martello House.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn wneud y canlynol:
- Asesu eich anghenion er mwyn penderfynu pa gymorth neu wasanaethau a allai fod yn ofynnol
- Rhoi mynediad i chi i’r cymorth a'r gwasanaethau perthnasol
- Rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill a sefydliadau allanol, megis darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a’r ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Hawliau Dynol 2010
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA)
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, a gallwn rannu'r wybodaeth hon hefyd gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).
Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Y categorïau ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu yw:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion cyswllt
- Perthynas agosaf
- Manylion cyswllt mewn argyfwng
- Meddyginiaeth ac alergeddau
- Amgylchiadau iechyd a chymdeithasol
- Anghenion cymorth
- Crefydd
- Ethnigrwydd
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r gwaith prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen lefel uwch o ddiogelu arnynt. Dosberthir hwn yn ‘ddata categori arbennig’ a gall gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barnau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu'r math hwn o ddata categori arbennig oherwydd ei fod yn angenrheidiol am resymau o dan:
- Erthygl 9 (2) (h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu’r gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Yr amod perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 yw Atodlen 1, Rhan 1: Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol
Rydym yn falch o ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei angen.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd parti, gan gynnwys y canlynol:
Adrannau mewnol:
Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, Gwasanaethau Synhwyraidd, y Tîm Iechyd Meddwl, y Tîm Camddefnyddio Sylweddau, y Tîm Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Preswyl Mewnol, Gwasanaethau Cartref Mewnol, Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol a Chanolfannau Gofal Diwrnod, yr Uned Busnes Gofal Cymdeithasol, Diogelu Integredig, Comisiynu Strategaethol, Broceriaeth, Teleofal, Tai, Grantiau, Cyfreithiol a Chyllid, Trafnidiaeth, Gweithffyrdd, Mân Ddyledwyr, Uned Ddiogelwch, Polisïau a Chynllunio, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DOLS).
Sefydliadau allanol:
Sefydliadau’r trydydd sector gan gynnwys sefydliadau elusennol a chysylltwyr cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed Powys, y gwasanaeth ambiwlans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnwys meddygfeydd meddygon teulu, nyrsys ardal, darparwyr gofal preswyl a dibreswyl, Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth(yn agor mewn tab newydd), Gyrfa Cymru, sefydliadau cefnogi'r lluoedd arfog, cwmnïau cyfleustodau, Trwyddedu Teledu, Gofal a Thrwsio, Advocacy, Dewis, darparwyr trafnidiaeth, Pembrokeshire People First, Ateb, Fferyllwyr, darparwyr gofal cartref, gwasanaethau gwirfoddol, AGC.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, efallai y caiff yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwiliad yn fewnol ac yn allanol.
Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir gwrthod eich mynediad at wasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni fel a ganlyn:
- yn achos pobl â salwch meddwl (pobl sydd ag “anhwylder meddyliol”) – yn cael ei chadw am 20 mlynedd ar ôl y cysylltiad diwethaf (neu 8 mlynedd ar ôl dyddiad y farwolaeth, pa un bynnag sydd gyntaf)
- yn achos pawb arall – yn cael ei chadw am 10 mlynedd o ddyddiad y cysylltiad diwethaf.
Caiff gwybodaeth ei dileu’n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys y canlynol:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
- Yr hawl i fynediad - mae gennych yr hawl i ofyn am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn ynglŷn â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o'r farn bod y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth neu’n ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o bob agwedd ar ein proses o gasglu gwybodaeth bersonol a’i defnyddio. Fodd bynnag, rydym yn falch o ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith ynglŷn â diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt ni fel rheolydd data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551
neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.