Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Porthladdoedd Cwm Abergwaun a Dinbych-y-pysgod

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion rheoli Awdurdodau Porthladd Statudol porthladdoedd Dinbych-y-pysgod a Chwm Abergwaun.

Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn godi anfonebau a chontractau ar gyfer defnyddwyr y porthladdoedd, gwirio cymhwyster defnyddwyr, codi unrhyw negeseuon neu bryderon diogelwch gyda deiliaid angorfeydd a sicrhau bod pob eitem o eiddo o fewn stad y porthladd yn cael ei gyfrif rhag ofn bydd argyfwng.

Mae teledu cylch cyfyng ar waith ym Mhorthladdoedd Dinbych-y-pysgod a Chwm Abergwaun ar gyfer atal a chanfod trosedd, ac ar gyfer amddiffyn a diogelu defnyddwyr, y cyhoedd a staff.

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Cymalau Porthladdoedd 1847 a Gorchymyn Diwygio Porthladd Dinbych-y-pysgod 1975.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu â’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob amser a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?

Dyma'r categorïau data personol sy'n cael eu casglu:

  • Enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion yswiriant, manylion llestr, trwyddedau masnachol a chyswllt eilaidd ar y lan (enw a rhif).
  • Delweddau fideo ar gyfer teledu cylch cyfyng

Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu mewn ffordd gyfreithlon.  Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:

Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.

Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau dilys: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys neu fuddiannau dilys trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau dilys hynny

 

 phwy byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, a bydd y rhain yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Penfro - Adran Eiddo, Cynllunio ar gyfer Argyfyngau.
  • Mae'n bosibl y gallai rannu â'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MIAB), Llu'r Ffiniau, yr Heddlu a/neu Wylwyr y Glannau os gofynnir amdano fel rhan o ddigwyddiad.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych chi wedi’i darparu i ni gael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion cynnal archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu pwy ydych. Os caiff twyll ei ganfod, gellir gwrthod eich mynediad at wasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn

Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag sydd angen, byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni ar restr aros nes bydd angorfa ar gael. Mae'r  rhestr aros yn cael ei hadolygu bob blwyddyn oherwydd ffioedd rhestrau aros. Os bydd y cais yn llwyddiannus - hyd y cytundeb fydd hyd at 6 blynedd ar ôl iddo ddod i ben. Ar gyfer y storfa caiacau, mae'r data'n cael ei gadw am hyd defnyddio’r storfa a'i ddileu unwaith na fydd caiac yn cael ei storio mwyach. Caiff lluniau teledu cylch cyfyng eu dileu ar gylchred 30 diwrnod ond gellir eu cadw’n hirach os oes angen oherwydd digwyddiadau ac ati. Caiff eich gwybodaeth ei dileu’n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.

Eich Hawliau

Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiro - mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i Gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys - gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag cyflawni gwasanaeth i chi.  Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Wrthwynebu - nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu - gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Symud data - mae gennych yr hawl i ofyn am drosglwyddo'ch gwybodaeth heb rwystr.
  • Hawl Mynediad - mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I gyflwyno cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost:  accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk                          Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Benfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.  Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu cael am hyn o ddifrif.  Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost:  dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

 

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

E-bost:  wales@ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

 

Ein Manylion Cyswllt fel Rheolwr Data:

Cyngor Sir Benfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP.

Ffôn: 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 11471, adolygwyd 05/03/2024