Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Sir Benfro Yn Dysgu

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion cyrsiau Dysgu Oedolion a'r Gymuned Sir Benfro yn Dysgu.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)

Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu darparu
cyrsiau Dysgu Oedolion a'r Gymuned ar eich cyfer a'u gweinyddu.

Wrth ymweld â'r Ganolfan Ddysgu, lle mae teledu cylch cyfyng mewn grym, diben hwn yw atal a chanfod troseddau a diogelwch staff.  

Gyda'ch caniatâd, byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi gyda chylchlythyrau a deunydd marchnata sy'n ymwneud â Sir Benfro yn Dysgu. Gallwch optio allan o'r trefniant hwn ar unrhyw adeg trwy gysylltu â staff yn y Ganolfan Dysgu Cymunedol sy'n gweinyddu eich cwrs neu trwy anfon e-bost at learn@pembrokeshire.gov.uk

Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Llywodraeth Cymru.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chosteffeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.

Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?

Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:

  • Enw(au) llawn a chyfenw
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad preswyl, gan gynnwys cod post
  • Rhyw
  • Domisil
  • Lluniau teledu cylch cyfyng

Mae categorïau dewisol eraill ar gyfer casglu data personol fel a ganlyn:

  • Manylion cyswllt – rhif(au) ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Cyfenw yn 16 oed
  • Hunaniaeth genedlaethol
  • Lefel cymhwyster uchaf a lefel cymhwyster uchaf yn y Gymraeg
  • Rhuglder yn y Gymraeg
  • Gwybodaeth iechyd a meddygol
  • Statws cyflogaeth
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Ethnigrwydd

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu mewn ffordd gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:

Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract. Mae hyn mewn perthynas â chofrestru ar un o'n cyrsiau.

Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny. Mae hyn mewn perthynas â defnyddio teledu cylch cyfyng yn ein Canolfan Ddysgu.

Erthygl 6 (1)(a) Cydsyniad: rydych wedi rhoi cydsyniad clir i ni brosesu'ch data personol at ddiben penodol. Mae hyn mewn perthynas â marchnata a chylchlythyrau.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu’n fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol, a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:

Erthygl 9 (2)(g) O fudd sylweddol i’r cyhoedd yn unol â Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Llywodraeth Cymru.

(Amdodau perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Dibenion statudol a’r llywodraeth a Chydraddoldeb cyfle neu driniaeth) 

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen i ni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:

  • Adran TG Cyngor Sir Penfro
  • Llywodraeth Cymru trwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru
  • Coleg Sir Benfro – Pan fo dysgu ar-lein neu ddysgu cyfunol yn rhan o'r cwrs a ddewiswyd gennych, trosglwyddir gwybodaeth bersonol gyfyngedig o’r broses gofrestru am y cwrs trwy iddi gael ei hintegreiddio o fewn Parth Dysgu Sir Benfro yn Dysgu, a gynhelir gan Goleg Sir Benfro.  Defnyddir yr wybodaeth hon (enw a chyfeiriad e-bost) at ddibenion galluogi mynediad at Barth Dysgu Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer dysgu ar-lein a mynediad at adnoddau dysgu a BigBlueButton.
  • Cyrff dyfarnu perthnasol os yw eich gweithgaredd dysgu yn achrededig, e.e.  Agored Cymru, Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain (BSC), CBAC ac ati
  • Tiwtoriaid wedi'u contractio’n allanol lle nad yw eich hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan diwtor a gyflogir gan Gyngor Sir Penfro

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS 

Pa mor hir ydym yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen – gweler isod am faint y byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni. Cedwir lluniau teledu cylch cyfyng am 30 diwrnod. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach.

Eich hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i gludadwyedd data – mae gennych yr hawl i ofyn inni drosglwyddo eich gwybodaeth heb rwystr.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol.  I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk                   Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn ynglŷn â hyn o ddifrif.  Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydyn nhw'n credu bod y ffordd rydyn ni'n casglu gwybodaeth neu yn ei defnyddio yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk     Ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich data personol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith ynglŷn â diogelu data:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

E-bost: wales@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Ein manylion cyswllt ni fel rheolydd data yw:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 8875, adolygwyd 06/01/2023