Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Tim gofal canolraddol
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion asesu eich anghenion a darparu'r cymorth a'r gwasanaethau perthnasol sydd eu hangen arnoch gan y Tîm Gofal Canolraddol .
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu:
- Asesu eich anghenion i benderfynu pa gymorth neu wasanaethau ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu'r trydydd sector (PIVOT) efallai y bydd eu hangen arnoch
- Rhoi mynediad i chi at y cymorth a'r gwasanaethau perthnasol ar draws pob sector
- Comisiynu'r gwasanaethau priodol i chi
- Rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill a sefydliadau allanol, megis darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol
- Gweithredu ar atgyfeiriadau
- Cynnal ymchwiliadau
- Monitro'r cymorth a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i chi
- Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau diogelu i chi
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amodol arRan 2 – Swyddogaethau Cyffredinol a Rhan 9 – Cydweithrediad a Phartneriaeth.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Enw (gan gynnwys enwau eraill)
- Dyddiad geni
- Cyfeiriad
- Cod post
- Cyfeirnod arall (e.e. Rhif GIG, rhif Yswiriant Gwladol, unrhyw rif system/gwasanaeth )
- Gwybodaeth iechyd neu feddygol
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
Erthygl 6 (1)(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â'r gyfraith (heb gynnwys rhwymedigaethau contractiol).
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu’n fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol, a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
- Erthygl 9 (2)(g) O fudd sylweddol i’r cyhoedd.
Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 2 (6) – Dibenion statudol a’r llywodraeth.
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rhan 2 – Swyddogaethau Cyffredinol
- Rhan 9 – Cydweithrediad a Phartneriaeth
- Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
- Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958
- Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990
- Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Erthygl 9 (2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu gweithio’r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 1, (2) – Dibenion iechyd a gofal cymdeithasol.
- Erthygl 9 (2)(i) Budd y cyhoedd ym meysydd iechyd y cyhoedd; Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 1, (3) – yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
Yn fewnol o fewn y Tîm Gofal Canolraddol a fydd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol)
- Tîm Cyflawni ar y Cyd: Cyngor Sir Penfro
- Ailalluogi: Cyngor Sir Penfro
- PIVOT: Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
- Tîm Ymateb Acíwt: Hywel Dda
- Tîm Gofal yn y Cartref: Hywel Dda
- Cwympiadau integredig: Hywel Dda
- Atal derbyniadau cymunedol / cynllunio rhyddhau: Hywel Dda
- Therapi Galwedigaethol (gofal canolraddol): Hywel Dda
- Ffisiotherapi (gofal canolraddol): Hywel Dda
Bydd sefydliadau allanol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i‘r canlynol):
Sefydliadau Trydydd Sector eraill gan gynnwys Sefydliadau Elusennol a Chysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, gwasanaethau ehangach Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnwys Meddygfeydd meddygon teulu, Nyrsys Ardal, Cartrefi Gofal Preswyl, Gyrfa Cymru, y Lluoedd Arfog Sefydliadau Cymorth, Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (yn agor mewn tab newydd), Cwmnïau Cyfleustodau, Trwyddedu Teledu a Darparwyr Gofal y mae angen i ni rannu manylion eich Asesiad Gofal a'ch Cynllun Gofal a Chymorth â nhw er mwyn dod o hyd i'r gofal mwyaf priodol.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir ydyn ni’n cadw'ch gwybodaeth?
Bydd cofnodion o’ch gwybodaeth yn cael eu cadw yn unol â’n polisi cadw cofnodion, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Bydd gan bob sefydliad sy’n cymryd rhan bolisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd gwybodaeth bersonol a bydd y rhain yn cyfeirio’n benodol at gadw, storio a gwaredu cofnodion.
Gellir gweld y polisïau cadw hyn trwy ddilyn y dolenni canlynol:
Cyngor Sir Penfro
Polisi cadw a gwaredu cofnodion (yn agor mewn tab newydd)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Polisi cadw a gwaredu cofnodion (gig.cymru) (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro /PIVOT
“Yn unol â chanllawiau CThEM (yn agor mewn tab newydd) a geir yn www.gov.uk (mae’r ddolen lawn isod), mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn cadw eu holl ddogfennau busnes am hyd at saith mlynedd – chwe blynedd o’n cyfnod cyfrifyddu llawn diwethaf. Ar ôl hynny maent naill ai'n cael eu darnio'n fewnol, sef ein harfer arferol neu'n cael eu darnio'n ddiogel yn allanol.
Mae’r uchod yn berthnasol i bob cofnod nad ydynt yn rhan o raglen a ariennir gan yr UE. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn rhoi cyngor ar y cyfnod cadw ar gyfer rhaglenni unigol a ariennir gan yr UE. Unwaith y bydd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi rhoi gwybod nad oes angen cadw’r cofnodion mwyach, cânt eu darnio.”
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gael eich hysbysu - Mae gan unigolion yr hawl i wybod am gasglu a defnyddio eu data personol. Dyma ofyniad tryloyw allweddol dan GDPR y DU.
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: mynediadigofnodion@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Cyngor Sir Penfro
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: diogeludata@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Patrycja Duszynska, Swyddog Diogelu Data
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Adeilad Delfryn
Aberystwyth
SY23 1ER
E-bost: dpo.hdd@wales.nhs.uk
Ffôn: 01970 63 54 42
PIVOT/ Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
Sue James-Davies, Rheolwr Gwasanaethau Busnes
36/38 Y Stryd Fawr
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2DA
E-bost: sue.james-davies@pavs.org.uk
Ffôn: 01437 771199
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Information Commissioner’s Office – Wales
2nd Floor, Churchill House
Churchill Way
Cardiff
CF10 2HH
E-bostiwch: cymru@ico.org.uk
Rhif ffôn:0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.