Addewid Preifatrwydd
hysbysiad preifatrwydd - tim gwella ysgolion a chomisiynu
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion darparu gwybodaeth am ddisgyblion i fonitro safonau ac atebolrwydd mewn ysgolion ac i fonitro cadw a recriwtio staff addysgu, o fewn Cyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Sir Penfro.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn wneud y canlynol:
- Asesu cymhwysedd i dderbyn ein gwasanaethau
- Darparu dulliau olrhain cryfach a phontio mwy effeithiol wrth i bobl ifanc symud drwy eu camau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
- Dangos mwy o atebolrwydd o ran ein gwasanaethau
- Bodloni gofynion statudol yn seiliedig ar ofynion Llywodraeth Cymru i rannu ein gwybodaeth gyda datganiadau’r Cyfrifiad Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), datganiadau’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Staff, datganiadau presenoldeb, data asesu, cronfa ddata Dechrau'n Deg, a data cydraddoldeb
- Darparu cymorth datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer hyfforddi staff addysgu mewn ysgolion
- Cynnal arfarniadau penaethiaid ar gyfer monitro perfformiad
Caiff y wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007, Herio Bwlio Awdurdodau Lleol Llywodraeth Cymru, Deddf Plant 2004, Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017, a wnaed o dan adran 113 (2) a (3) a Deddf Addysg 2005, a Strategaeth/Canllawiau Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru a Deddf Addysg 1996. Adnoddau Dynol
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/trosedd neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i’r timau perthnasol dderbyn y wybodaeth angenrheidiol.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Dyma'r categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu:
- Enw (gan gynnwys enwau eraill a elwir)
- Dyddiad geni
- Cyfeiriad
- Rhif unigryw’r dysgwr a rhif unigryw’r disgybl (RhUD) (disgyblion yn unig)
- Rhif Yswiriant Gwladol (staff yn unig)
- Ysgol
- Grŵp blwyddyn (disgyblion yn unig)
- Proffil personol, gan gynnwys cefndir teuluol, os yw'n briodol (disgyblion yn unig)
- Hanes addysg/hyfforddiant, gan gynnwys canlyniadau arholiadau, hanes presenoldeb a gwahardd, graddau a ragfynegir
- Rhwystrau i ddysgu a/neu ymgysylltu (disgyblion yn unig)
- Dangosyddion llesiant (disgyblion yn unig)
- Materion risg/diogelu
- Statws pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant(NEET) (disgyblion yn unig)
- Dyheadau pobl ifanc (disgyblion yn unig)
- Lleoliad ôl-16 ac ôl-18 bwriadedig (addysg bellach/uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth) (disgyblion yn unig)
- Ethnigrwydd
- Statws AAA/ADY
- Cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim (disgyblion yn unig)
- Statws plentyn sy'n derbyn gofal (disgyblion yn unig)
- Hanes ymddygiad (disgyblion yn unig)
- Data cydraddoldeb
- Cofnod cyflogaeth (staff yn unig)
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni i sicrhau bod prosesu’ch data personol yn gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu yn angenrheidiol er mwyn i chi gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
 phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Gwybodaeth am ddisgyblion
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys:
Adrannau mewnol yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a'r Gwasanaeth Ieuenctid, y Gwasanaeth Cynhwysiant, y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai, a’r Tîm Perfformiad a Chymunedol
Sefydliadau Allanol, Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol – Partneriaeth, Estyn
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus mae'n ei reoli. Felly, gallai’r wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol.
Bydd y wybodaeth bersonol rydym wedi ei chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych. Os canfyddir twyll, efallai y gwrthodir rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gennym ni a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, ar gael drwy fynd i CIFAS
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bo angen a byddwn yn cadw'r wybodaeth a roddwyd i ni am rhwng tair a phum mlynedd, yn dibynnu ar y prosiect y mae'n ymwneud ag ef, fel y nodir yn:
Cofnodion Addysgol, Adroddiadau Ysgol a'r System Drosglwyddo Gyffredin – cadw, gwaredu, datgelu a throsglwyddo gwybodaeth am ddisgyblion. Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif: 18/2006
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith nad oes ei hangen arnom rhagor.
Eich hawliau
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys fel a ganlyn:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i'ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesufod yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni gadw neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gyrchu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@sir-benfro.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posibl wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu bod dulliau o gasglu neu ein defnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am yr holl agweddau ar ein dulliau o gasglu a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@sir-benfro.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: wales@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data yw:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.