Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Tim Llesiant Ac Annibyniaeth Gymunedol A Thim Ailalluogi
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion gwasanaeth cartref/ail-alluogi sy’n darparu ymyriadau gofal personol yng nghartref personol yr unigolyn.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
- Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn asesu eich anghenion i benderfynu pa gymorth neu wasanaethau y gallai fod eu hangen.
- Er mwyn sicrhau bod gennych fynediad at gymorth a gwasanaethau perthnasol eraill yr ydym yn eu darparu a hefyd er mwyn eich cyfeirio at wasanaethau a sefydliadau priodol eraill.
- Er mwyn rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill a sefydliadau allanol, fel darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, i sicrhau bod y cymorth a'r gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol.
Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a’r ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
- Deddf Hawliau Dynol 2010
- Deddf Iechyd Meddwl 2007
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Byddwn ni hefyd yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r gyfraith ac efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill â chyfrifoldeb dros ganfod/atal twyll/troseddu neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sy'n ofynnol i ddarparu ein gwasanaeth i chi.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Y categorïau ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu yw:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt
- Amdanaf i – hoffterau a chasbethau
- Anghenion a manylion iechyd/meddygol
- Crefydd
- Ethnigrwydd
- Iaith
- Dogfennau cyfreithiol megis ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’
- Eiriolwr/atwrneiaeth / aelod o'r teulu / perthynas agosaf
Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae'r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae angen inni brosesu er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sylfaen glir yn y gyfraith. Ddim yn siŵr am un ohonynt?
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen eu diogelu’n fwy. Mae’r mathau hyn o ddata yn cael eu hystyried fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
Erthygl 9 (2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu’r gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
(Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 1: Diben iechyd neu ofal cymdeithasol.)
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gydag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys:
Adrannau mewnol fel:
- Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, Gwasanaethau Synhwyraidd, Camddefnyddio Sylweddau, Tîm Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Preswyl mewnol, canolfannau gweithgareddau cymdeithasol, canolfannau dydd, Uned Fusnes Gofal Cymdeithasol, Diogelu integredig, Comisiynu a Broceriaeth Strategol, teleofal, grantiau, Tai, Cyfreithiol a Chyllid. Storfa Offer Cymunedol. Adran Gofal Cymdeithasol a Thai
Gall sefydliadau allanol gynnwys:
- Sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys sefydliadau elusennol, Cysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed–Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys meddygfeydd, nyrsys ardal, Gwasanaeth Coluddyn ac Ymataliaeth. Pivot, Paul Sartori, nyrsys Macmillan. Sefydliadau cymorth y Lluoedd Arfog a Chyngor ar Bopeth. Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (Yn agor mewn tab newydd). Access UK Ltd sef ein Prosesydd Data.
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu arian y cyhoedd y mae’n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarparwyd i ni am 8 mlynedd o'ch pwynt cyswllt diwethaf. Cedwir gwybodaeth System Amserlennu Access UK am 8 mlynedd. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond gallai hyn ein gohirio neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gallai hyn ein gohirio neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i’r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi'u nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newid i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.