Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Tim Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu O Ryddid
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) Erthygl 5 o’r Ddeddf Hawliau Dynol sydd yn nodi bod 'gan bawb yr hawl i ryddid a diogelwch person. Ni chaiff unrhyw un ei amddifadu o'i ryddid [oni bai ei fod] yn unol â gweithdrefn a ragnodir yn y gyfraith'. Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yw'r weithdrefn angenrheidiol a ragnodir yn y gyfraith pan fydd yn ofynnol i amddifadu rhyddid preswylydd neu glaf heb y gallu i gydsynio i'w ofal neu driniaeth er mwyn ei gadw'n ddiogel rhag niwed.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn asesu cymhwysedd a meini prawf ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
Bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn cael ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Chod Ymarfer y Ddeddf ynghyd ag Ymarfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Manylion Cyswllt
- Enw'r Cartref Preswyl
- Gwybodaeth Iechyd a Meddygol
- Anghenion gofal cymdeithasol
- Enw a chyswllt Cynrychiolydd
- Cynllun gofal
- Anghenion gofal personol
- Ysgrif bortread
Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod: :
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn i chi gyflenwi tasg er budd cyhoeddus neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, a bod gan y dasg neu’r swyddogaeth sail glir yn ôl y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen eu diogelu’n fwy. Mae’r mathau hyn o ddata yn cael eu hystyried fel 'data categori arbennig' a gall gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu foesegol neu aelodaeth undeb llafur a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
Erthygl 9 (2)(e) Mae gwybodaeth eisoes wedi cael ei gwneud ar gael i'r cyhoedd gennych.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Seiciatryddion Ymgynghorol
- Iechyd
- Cartrefi Gofal
- Cynrychiolydd Cwsmer, fel arfer aelod o'r teulu neu eiriolwr o Mental Health Matters.
- Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (yn agor mewn tab newydd).
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma CIFAS (yn agor mewn tab newydd)
Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen, byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni hyd at 10 mlynedd ar ôl y cyswllt diwethaf.
Cofnodion Adnoddau Dynol sy'n ymwneud â staff sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed - Dinistrio 93 mlynedd gan staff DOB (neu ddyddiadau i redeg yn unol â ffeiliau LAC plant pa un bynnag sydd hwyaf).
Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiriad – mae gennych yr hawl i ofyn i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn ni’n ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth neu barhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 775798
Cwynion neu Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os hoffech chi gyflwyno cwyn ynghylch y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Ffôn: 0330 414 6421
Ein Manylion Cyswllt fel Rheolwr Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newid i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.