Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd - Uned Busnes Gofal Cymdeithasol
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel rheolydd data) yn casglu, defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion darparu gweithwyr cymdeithasol cynhaliol ar gyfer gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant fel ei gilydd. Mae’n bwysig nodi nad yw’r Uned Busnes Gofal Cymdeithasol yn casglu data ond yn hytrach yn ei brosesu yn ôl y gofyn.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn prosesu gwybodaeth a gesglir gan Weithwyr Cymdeithasol sy'n dilyn polisi preifatrwydd trosfwaol y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi prynu eitemau y gofynnwyd amdanynt, trefnu contractau, prosesu ceisiadau am daliadau, prosesu post sy'n dod i mewn ac yn mynd allan, negeseuon e-bost a dderbynnir, cysylltu â chleientiaid a darparwyr.
Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â:
- Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018
- Deddf Gwasanaeth Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Plant 2004
- Deddf Iechyd Meddwl 2007 a Deddf Galluedd Meddwl 2005
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda’n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Mae'r categorïau data personol sy'n cael eu casglu gan y Gweithwyr Cymdeithasol a'u prosesu gan yr Uned Busnes Gofal Cymdeithasol fel a ganlyn:
- Enw
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
- Dyddiad Geni
- Manylion banc
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif GIG
- Rhif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Iaith gyntaf
- Ethnigrwydd
- Anableddau cofrestredig
- Statws iechyd
- Perthnasau
- Ysgolion a fynychwyd
- Anghenion cyfathrebu
- Crefydd
- Data personol a data categori arbennig
- Asesiadau gofal
- Dogfennau llys
- Dogfennau mabwysiadu
- Nodiadau diogelu
- Cofnodion meddygol
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu'n fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:
Erthygl 9(2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu gweithio'r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
(Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 1: Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol)
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Heddlu Dyfed Powys
- Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gwasanaethau Ambiwlans
- Gwasanaethau Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
- CAFCASS
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Byrddau iechyd
- Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau eirioli a gwasanaethau iechyd a llesiant eraill
- Sefydliadau'r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau cymorth perthnasol
- Darparwyr gofal, gan gynnwys asiantaethau a gweithwyr maethu annibynnol
- Timau gofal cymdeithasol
- Arolygwyr rheoleiddiol
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth yr ydych wedi’i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, ar gael yma CIFAS
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch gwybodaeth?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen, yn dibynnu ar y data a’r amgylchiadau fel y’u hamlinellir yn y ddogfen atodedig, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach.
Eich Hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn gan gynnwys:
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol, fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu - gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych hawl i ofyn inni am gopïau o’ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni'r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: cymru@ico.org.uk
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth am ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran 'Cwynion ac ymholiadau'.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.