Addewid Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Y Tim Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion derbyn gwasanaethau gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae'r tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn dîm amlddisgyblaethol a chofnodir manylion personol ar system gofnodi electronig Hywel Dda. Bydd yr awdurdod lleol yn cofnodi gwybodaeth bersonol ar system gofnodi electronig Care First, os darperir gwasanaethau sy'n derbyn cyllid gan yr awdurdod lleol.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben y prosesu)

Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu darparu gwasanaethau i chi. Mae gwasanaethau a ddarperir gan y tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi'u lleoli yn y gwasanaeth iechyd, ac maent yn cael ei darparu gan dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, seiciatryddion, nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol. Ni fydd pob atgyfeiriad i'r gwasanaeth neu gyswllt â’r gwasanaeth yn derbyn gwasanaethau parhaus gan y tîm oherwydd efallai na fyddant yn bodloni meini prawf cymhwystra. Gan fod hwn yn wasanaeth a arweinir gan iechyd, nid yw'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol ond rydym yn darparu staff fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol.

Caiff yr wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mesur Iechyd Meddwl, Deddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).

Ni fyddwn ni’n datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.

Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu?

Dyma'r categorïau data personol sy'n cael eu casglu:

Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt, iechyd, ethnigrwydd, crefydd

Beth yw'n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon.  Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:

Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gyflawnir er budd cyhoeddus neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill, ac mae angen iddynt gael eu diogelu fwy. Dosberthir y rhain fel 'data categori arbennig' a gallent gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genetig neu fiometrig, iechyd a bywyd rhywiol, a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:

Erthygl 9 (2)(h) Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, at ddiben asesu gallu’r gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

(Amod perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1, Rhan 1: Diben iechyd neu ofal cymdeithasol)

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:

  • Iechyd, gwybodaeth a drosglwyddir i'r Tîm Amlddisgyblaethol i'w sgrinio a'i atgyfeirio at y gweithiwr mwyaf priodol e.e. gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol neu nyrs. 
  • Yn achos atgyfeiriadau brys, byddent yn cael eu brysbennu gan swyddog iechyd ar ddyletswydd ar gyfer iechyd meddwl cyffredinol neu gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy os oes angen Asesiad Deddf Iechyd Meddwl ac ni fyddent yn destun sgrinio gan y tîm Amlddisgyblaethol.
  • O dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, weithiau mae'n rhaid hysbysu’r perthynas agosaf neu ymgynghori ag ef.
  • Tîm Cymorth i Deuluoedd Integredig a sefydliadau allanol fel Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed ar gyfer cyfeirio at wasanaethau cefnogol. 
  • Cyfeirio at y tîm diogelu os caiff problemau eu nodi
  • Llywodraeth Cymru - Y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (Yn agor mewn tab newydd).

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r prosewyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei reoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni gael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gellir eich rhwystro rhag derbyn gwasanaethau penodol, arian neu waith. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd) 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen, byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir inni am 20 mlynedd yn dilyn y cyswllt diwethaf (neu wyth mlynedd ar ôl dyddiad marw, pa un bynnag sydd gyntaf) a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu yn ddiogel unwaith na fydd ei hangen arnom mwyach.

Eich Hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn beri oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I wneud cais, cysylltwch â:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bostiwch: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk      Rhif ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu’n defnydd gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon i'r cyfeiriad isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Ffôn: 0330 414 6421

Ein Manylion Cyswllt fel Rheolwr Data:

Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae manylion ein Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newid i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

 

ID: 8884, adolygwyd 16/04/2025