Addewid Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Ymateb Covid-19
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn crynhoi rhai o’r ffyrdd allweddol y mae Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu ac yn defnyddio’ch data personol mewn ymateb i bandemig COVID-19.
Fel awdurdod gwasanaeth cyhoeddus, mae Cyngor Sir Penfro eisoes yn cadw data ar ddinasyddion, gweithwyr a rhanddeiliaid. Lle’r ydym eisoes yn cadw manylion ynghylch bregusrwydd, fel y’i diffinnir yn y canllawiau cyfredol gan y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, efallai y byddwn yn rhannu hyn at ddibenion cynllunio at argyfwng neu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol drwy rannu â gwasanaethau mewnol a chyrff allanol.
Pam bod angen eich gwybodaeth arnom (dibenion prosesu)
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio manylion newydd neu bresennol a gedwir gan y Cyngor er mwyn arfer ein swyddogaethau iechyd cyhoeddus statudol, parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol a darparu gwasanaethau ychwanegol y gallai fod eu hangen o ganlyniad i’r ymateb Cenedlaethol a Lleol i bandemig COVID-19. Mae’r swyddogaethau iechyd cyhoeddus statudol allweddol yn cynnwys:
- Rheoli risgiau i iechyd y cyhoedd
- Rheoli heintiau
- Darparu cefnogaeth a diogelwch iechyd
- Atal salwch
- Monitro diogelwch
- Ymchwil a chynllunio at argyfwng
- Dadansoddi patrymau a thueddiadau i'n helpu i greu strategaethau a gwneud penderfyniadau.
Ceir esboniad manylach ar feysydd gwasanaeth penodol eraill isod ac yn yr hysbysiadau preifatrwydd cysylltiedig.
Hwb Cydgysylltu Cymunedol
Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn Grwpiau Cymorth Cymunedol i helpu pobl sydd angen cymorth o ganlyniad i hunanynysu.
Mae data personol yn cael ei gasglu i asesu a darparu cefnogaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd mewn categorïau risg uchel ac a fyddai’n cael eu hystyried yn agored i niwed pe baent wedi’u heintio â’r Coronafeirws
Atgyfeirio Prawf COVID-19
Mae atgyfeiriadau ar gyfer profion COVID-19 ar weithwyr hanfodol ac aelodau cartrefi gweithwyr hanfodol yn cael eu coladu gan Gyngor Sir Penfro.
Cinio Ysgol Am Ddim
Er mwyn sicrhau bod disgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn parhau i dderbyn tâl atodol ariannol ar gyfer darparu pryd o fwyd pan nad yw’r disgybl yn mynychu’r ysgol, mae’r Cyngor wedi gorfod gosod mesurau ychwanegol ar waith. Mewn rhai achosion mae hyn wedi arwain at gasglu a defnyddio manylion ychwanegol.
Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru
Er y bydd data busnes, nad yw’n bersonol, yn cael ei gasglu’n bennaf, caiff rhywfaint o ddata personol ei gasglu fel rhan o’r broses ymgeisio am Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Er mwyn ymateb yn effeithiol i bandemig COVID-19, gallwn gasglu a phrosesu’r data canlynol, os bernir bod angen hynny ac mewn modd cymesur:
- Eich enw
- Eich dyddiad geni
- Eich cyfeiriad cartref
- Eich cyfeiriad e-bost
- Dynodwyr cenedlaethol e.e. rhif GIG, rhif Yswiriant Gwladol, ac ati.
- Eich rhif ffôn (llinell dir a/neu rifau ffôn symudol
- Gwybodaeth iechyd
- Manylion ariannol
- Data arall yn ôl yr angen neu a roddir yn wirfoddol.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn casglu’r data oddi wrthych chi; fodd bynnag, oherwydd cyflymder delio â’r pandemig, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn manylion gan gyrff y Llywodraeth, Iechyd, aelodau eich teulu a thrydydd parti arall.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data yw ei fod er budd y cyhoedd i ni ddelio â phandemig COVID-19.
Mae’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni er mwyn sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6(1)(d) – mae angen prosesu er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu ddata person naturiol arall;
- Erthygl 6(1)(e) – mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolydd;
Gwaherddir prosesu categorïau arbennig o ddata personol, sy’n cynnwys data sy’n ymwneud ag iechyd person, oni bai bod amodau penodol pellach yn cael eu bodloni. Dyma’r amodau canlynol ar gyfer prosesu data o'r fath:
- Erthygl 9(2)(h) – mae angen prosesu at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, er mwyn asesu gallu gweithio'r cyflogai, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau gofal cymdeithasol;
- Erthygl 9(2)(i) – mae angen prosesu er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd;
- Erthygl 9(2)(j) – mae angen prosesu ar gyfer archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth
Dros y cyfnod 1 Ebrill 2020 hyd 30 Medi 2020, gall y Cyngor brosesu manylion cyfrinachol am gleifion o dan Reoliad 3 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth am Gleifion) (COPI) 2002.
Lle bynnag y bo modd, rydym yn defnyddio manylion personol anadnabyddadwy; fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd parti, allai gynnwys:
- Llywodraeth Cymru a chyrff cysylltiedig
- Llywodraeth y DU ac Asiantaethau
- Byrddau Iechyd
- Darparwyr Gofal
- Grwpiau Cefnogi Cymunedol
- Darparwyr Cerdyn Rhagdaledig
- Sefydliadau Partner
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i warchod y gronfa gyhoeddus y mae’n ei rheoli. Felly, mae’n bosibl y bydd y wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni yn cael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Am ba mor hir y bydd fy nata personol yn cael ei gadw gan y Cyngor?
Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw’ch manylion am gyhyd ag sydd angen, gan ystyried cyngor y Llywodraeth a’r risg barhaus a gyflwynir gan COVID-19. Bydd y wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei chadw o leiaf drwy gydol yr ymateb i COVID-19 a graddfeydd amser cadw perthnasol.
Eich Hawliau
O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, gan gynnwys:
- Eich hawl i gywiriad – mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro manylion y credwch eu bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau manylion y credwch eu bod yn anghyflawn;
- Mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle mae amheuaeth ynghylch cywirdeb), gallwch ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol;
- Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol;
- Mae gennych hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol. I wneud cais, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Teleffon: 01437 775798
Cwynion ac Ymholiadau
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion holl gynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o fanylion personol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Teleffon: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn ynglŷn â’r ffordd rydym wedi prosesu eich manylion personol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow SK9 5AF
Gwefan: ICO
Rhif Teleffon: 0303 123 1113
Dyma yw ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. Rhif ffôn: 01437 764 551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Manylir ar fanylion ein Swyddog Diogelu Data uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.