Addewid Preifatrwydd
Maes Awyr Hwlffordd Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â sut y bydd Cyngor Sir Penfro (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion yn unol â gofynion Maes Awyr.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn wneud y canlynol:
- Cysylltu â gweithredwyr canolfannau, ymwelwyr cyson, peilotiaid sy'n ymweld a thenantiaid maes awyr.
- Codi anfonebau a chofnodi gwybodaeth hedfan.
Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018
- Gorchymyn Mordwyaeth Awyr 2016
- Cawn ein rheoleiddio gan y CAA - rheoliadau'r DU | Awdurdod Hedfan Sifil (yn agor mewn tab newydd)
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.
Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?
Y categorïau o ddata personol sy’n cael eu casglu yw:
- Cofnod symudiad – Dyddiad, cofrestriad awyren, math o awyren, maes awyr y mae’r awyren yn gadael ohono, amser cyrraedd y maes awyr, amser gadael, enw'r gweithredwr, capten, nifer y symudiadau, PAX, POB, rhif anfoneb, categori hedfan
- Manylion cyswllt personol – Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, gwybodaeth am yr awyren, gwybodaeth ynghylch anfonebu, tystysgrifau yswiriant
- Ffurflen indemniad ymwelwyr y tu allan i oriau – Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, gwybodaeth hedfan, gwybodaeth am yr awyren
- Gwybodaeth am y cwmni – Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, gwybodaeth am yr awyren
- Llyfr ymwelwyr – Dyddiad, gwasanaeth, rheswm dros yr ymweliad
- Adroddiad hedfan cyffredinol – Porth cyrraedd/gadael, dyddiad, amser cyrraedd/gadael, gweithredwr, rhif ffôn, manylion yr awyren, enwau capten, criw a theithwyr, rhyw, dyddiad geni, man geni, cenedligrwydd, gwybodaeth pasbort, cyfeiriad cartref
- Teledu Cylch Cyfyng – delweddau camera
- Rydym hefyd yn casglu data i gynorthwyo gyda'r Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Coronafirws. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu’r data hwn, ewch i: coronafirws prawf olrhain diogelu
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:
- Erthygl 6 (1)(b) Contract: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennym gyda chi, neu oherwydd eich bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.
- Erthygl 6 (1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti, oni bai fod rheswm da i warchod data personol yr unigolyn sy'n diystyru'r buddiannau cyfreithlon hynny.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Efallai y bydd angen inni rannu'ch data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon, gan gynnwys y canlynol:
- Adrannau eraill CSP
- Yr Heddlu
- Llu'r Ffiniau
- Cangen Arbennig
- Awdurdod Hedfan Sifil
Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
Pa mor hir ydyn ni’n cadw'ch gwybodaeth?
- Bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag sydd ei angen yn unig, byddwn yn cadw’r wybodaeth a roddwyd i ni am 7 mlynedd ar gyfer manylion ariannol, 6 mis ar gyfer Teledu Cylch Cyfyng, 5 mlynedd ar gyfer cadw cofnodion cyffredinol, neu am gyhyd ag y mae’r gweithredwr / tenant yn y Maes Awyr. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.
Eich hawliau
Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:
- Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
- Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
- Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i gludadwyedd data – mae gennych yr hawl i ofyn inni drosglwyddo eich gwybodaeth heb rwystr.
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
- Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol. Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:
Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 764551
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.