Addewid Preifatrwydd

Privacy Notice - Taclo Tlodi Mewn Gwaith Sir Benfro

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys sut mae Cyngor Sir Penfro (fel y rheolydd data) yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich data personol at ddibenion y cael mynediad at gymorth ymgyrch Taclo Tlodi mewn Gwaith Sir Benfro. 

Mae 'Taclo Tlodi mewn Gwaith Sir Benfro' yn brosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.  Mae'r prosiect yn cael ei reoli a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Penfro. Mae gan Gyngor Sir Penfro bolisi diogelu data ar waith i oruchwylio prosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel, yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (GDPR) Deddf Diogelu Data 2018 a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeiadd – cynllun a ariennir gan grant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Er mwyn cyflawni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop a dangos tystiolaeth o gyflawni allbynnau, mae'n ofynnol i’r prosiect Taclo Tlodi mewn Gwaith Sir Benfro gofnodi gwybodaeth am y rhai sy’n cymryd rhan ynddo. Os gofynnir amdani, bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwerthuswyr trydydd parti. Efallai y bydd y sefydliadau hyn am gysylltu â chyfranogwyr i wirio eu rhan yn y prosiect a chasglu adborth.

Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ‘Taclo Tlodi mewn Gwaith Sir Benfro’ (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i ni drwy’r cymwysiadau gwasanaeth ar y wefan hon Cyngor Sir Penfro, rydych yn cydnabod mai ‘Taclo Tlodi mewn Gwaith Sir Benfro’ yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a ddarperir i ni.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom (diben prosesu)

Rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyfredol a diduedd i chi
  • Monitro'r cymorth a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i’n cwsmeriaid
  • Rhannu gwybodaeth gydag adrannau mewnol a sefydliadau allanol priodol i sicrhau cydymffurfedd â pholisïau a gweithdrefnau diogelu os oes angen
  • Dangos tystiolaeth o'ch cymhwystra i dderbyn cymorth ariannol trwy ein prosiectau a ariennir gan grantiau

Caiff y wybodaeth rydych yn ei darparu ei phrosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 a Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau y mae eu hangen yn ôl y gyfraith a gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll/troseddau neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'n Gwasanaeth Archwilio yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.

Bydd eich data'n ddiogel ac yn gyfrinachol ar bob adeg a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen er mwyn i chi dderbyn ein gwasanaeth.

Pa fath o ddata personol sy'n cael ei gasglu?

Mae’r categorïau data personol sy'n cael eu casglu fel a ganlyn:

  • Bywgraffiadol (enw, manylion cyswllt, cyfeiriad ac ati)
  • Demograffig (rhyw, dyddiad geni)
  • Eich sefyllfa economaidd bresennol (derbyn budd-daliadau, sefyllfa a manylion cyflogaeth)
  • Manylion ynghylch unrhyw gymorth rydych yn ei dderbyn a pha gymorth y gallech fod ei angen neu’n dymuno ei gael, os yw'n berthnasol
  • Y rhwystrau sy'n eich atal rhag datblygu yn eich cyflogaeth neu eich hyfforddiant.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni ofyn am ddata ychwanegol neu i chi rannu data mwy sensitif megis unrhyw beth sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • Iechyd, anabledd, collfarniadau troseddol, gwybodaeth Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (cofrestr troseddwyr rhyw). Data categori arbennig yw hwn a bydd ond yn cael ei brosesu pan fydd yn angenrheidiol i wneud hynny.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod prosesu eich data personol yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithlon. Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i ni gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen eu diogelu’n fwy. Mae’r data hwn yn cael ei ddosbarthu fel ‘data categori arbennig’ a gallai gynnwys y canlynol:

  • Gwybodaeth am eich iechyd, meddyginiaethau neu driniaeth ac am unrhyw anabledd, gan gynnwys unrhyw rwystrau a wynebwch i sicrhau cyfle cyfartal, ac fel ein bod yn diwallu eich anghenion ac yn eich cadw'n ddiogel.
  • Manylion am eich hil ac ethnigrwydd i sicrhau cyfle cyfartal.
  • Hanes eich cofnod troseddol / Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd os ydym yn meddwl y gallai fod yn risg i eraill.

Rydym yn prosesu’r math hwn o ddata categori arbennig gan ei fod yn angenrheidiol am y rhesymau canlynol:

  • Erthygl 9 (2)(g) O fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Yr amod perthnasol yn Neddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Cyfle a thriniaeth gyfartal

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Er mwyn ein galluogi i'ch cefnogi a darparu cymorth, bydd angen i ni rannu eich data personol ag adrannau mewnol, sefydliadau eraill a thrydydd partïon. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithffyrdd +
  • Gweithffyrdd + i’r Di-waith Tymor Byr
  • Profiad ar gyfer Diwydiant
  • Diwydiannau Norman
  • Llywodraeth Cymru
  • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)
  • Y Comisiwn Ewropeaidd
  • Timau eraill o fewn Cyngor Sir Penfro, er enghraifft, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
  • Gwerthuswyr wedi'u caffael i fesur llwyddiant y prosiect

Rydym yn defnyddio proseswyr data (trydydd partïon) sy'n darparu gwasanaethau i ni o ran darpariaeth TG ac adfer ar ôl trychineb. Mae gennym gontractau ar waith gyda’r proseswyr data hyn ac ni allant wneud unrhyw beth â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Byddant yn cadw eich data yn ddiogel a bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu yn unol â GDPR y DU yn unig. Lle bo angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU fel rhan o’r contractau hyn, dim ond yn unol â GDPR y DU y gwneir hyn.

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei reoli. Felly, gall y wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni gael ei defnyddio er mwyn atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn dilysu eich hunaniaeth. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, yma CIFAS (yn agor mewn tab newydd) 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw'ch gwybodaeth?

Bydd Cyngor Sir Penfro ond yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag y bydd angen.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw’n ddiogel a’i chadw yn unol â Chanllawiau Cadw Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru: Rheolau Cymhwysedd WEFO (yn agor mewn tab newydd) a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel unwaith na fydd ei hangen mwyach, sef 31 Rhagfyr 2027 ar hyn o bryd.

Eich hawliau

Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:  

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Gall yr hawl i gyfyngu ar brosesu fod yn gymwys – gallwch ofyn i ni atal prosesu eich data personol; fodd bynnag, gallai hyn oedi neu ein hatal rhag cyflenwi gwasanaeth i chi.  Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl ddiamod a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i ddileu – gallwch ofyn inni ddileu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth, neu rhag parhau i ddarparu gwasanaeth. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen cadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i gludadwyedd data – mae gennych yr hawl i ofyn inni drosglwyddo eich gwybodaeth heb rwystr.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o'ch data personol.  Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r canlynol:

Mynediad i Gofnodion

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk     

Ffôn: 01437 764551

Cwynion neu ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio bodloni’r safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt yn credu ein bod yn casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion cynhwysfawr o'r holl agweddau ar sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen. Dylai unrhyw geisiadau am hyn gael eu hanfon at yr unigolyn yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio deddfwriaeth diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

E-bost: cymru@ico.org.uk

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Ein manylion cyswllt fel rheolydd data:

Cyngor Sir Penfro,

Neuadd y Sir,

Hwlffordd,

Sir Benfro,

SA61 1TP

Rhif ffôn: 01437 764551 neu ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi'i nodi uchod yn yr adran ‘Cwynion ac ymholiadau’.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

ID: 9801, adolygwyd 20/02/2025