Cadw lle, talu a chofrestru ar-lein

Ar y dudalen hon:

Cysylltwch eich Fy Nghyfrif a'ch gyfrif Sir Benfro yn Dysgu

Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs

Ffurflen gofrestru ar-lein

 

I ddefnyddio'r system archebu ar-lein bydd angen Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro – Sut wyf yn cofrestru.

Pan fydd gennych Fy Nghyfrif mae angen i chi ei gysylltu â'ch cyfrif Sir Benfro yn Dysgu. Nid oes angen i chi gael cyfrif dysgwr Sir Benfro yn Dysgu sy'n bodoli eisoes.

Pan fyddwch wedi cysylltu eich cyfrifon gallwch Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs.

Pan fyddwch wedi cadw lle a thalu am eich cwrs, mewn canolfan neu ar-lein, byddwch yn gallu llenwi ar-lein eich ffurflen gofrestru.

 

Cysylltwch eich Fy Nghyfrif a'ch gyfrif Sir Benfro yn Dysgu

  1. Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
  2. Cliciwch Creu Dangosfrwdd Wrth Fesur
  3. Cliciwch ar y botwm Ychwanegu Teclyn ar eich dangosfwrdd.
    1. Dewiswch Ysgolion a Dysgu o'r rhestr o declynnau.
    2. Dewiswch y teclyn Sir Benfro yn Dysgu.
  4. Ychwanegir y teclyn i'ch Dangosfwrdd. Bydd angen ichi ychwanegu unrhyw declynnau eraill yr ydych yn eu defnyddio i'ch dangosfwrdd unigryw ee Fy Nhreth Gyngor, Balansau Arlwyo Heb Arian.
  5. Cliciwch Cysylltu eich cyfrif.

Nid oes angen i chi gael cyfrif dysgwr Sir Benfro yn Dysgu sy'n bodoli eisoes.

Bydd angen i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth i'n helpu i'ch adnabod:

  • Dyddiad Geni
  • Cyfenw yn 16 oed, os yn wahanol
  • Rhif adnabod dysgwr os oes un gennych

Os ydych mewn dosbarth bydd eich archebion yn dangos ar sgrin Fy Nosbarthiadau.

Sylwch y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru, naill ai ar-lein neu yn eich dosbarth cyntaf.

Mewngofnodi i Fy Nghyfrif 

 



Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs

Gallwch ddefnyddio hyn i reoli eich archebion:

  • Chwilio am gyrsiau
  • Talu ffioedd

I chwilio am gwrs, cliciwch ar y botwm Chwilio am Gwrs.

I dalu am gwrs:

  • Cliciwch ar y botwm Rheoli eich Lleoedd ar Gyrsiau
  • Cliciwch ar y botwm Talu Balans neu'r botwm Talu Isafswm (os yw ar gael)
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin dalu

Os oes gennych unrhyw broblemau cysylltwch â'r Ganolfan Ddysgu Gymunedol.

 

Ffurflen gofrestru ar-lein

Gallwch ddefnyddio eich teclyn Sir Benfro yn Dysgu i gwblhau eich ffurflen gofrestru ar gyfer cwrs.

  1. Cliciwch ar Rheoli eich lleoedd ar gyrsiau.
  2. Cliciwch ar y botwm Cwblhau cofrestru.
  3. Cwblhewch yr holl feysydd, cliciwch i’r dudalen nesa i gwblhau pob tudalen.
  4. Ar ddiwedd y ffurflen gofrestru, bydd gennych yr opsiwn i ddewis y dosbarth(iadau) yr ydych am gofrestru ar ei gyfer / eu cyfer.
  5. Cliciwch ar Gorffen yn y bar gwyrdd ar y gwaelod.
ID: 11475, adolygwyd 20/11/2024