Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth
Cadwraeth yr Amgylchedd Hanesyddol
Mae amgylchedd hanesyddol Sir Benfro yn cael ei reoleiddio gan ddau awdurdod ar wahân – Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I wirio p’un a yw eich adeilad yn y Parc Cenedlaethol, ewch i'w gwefan yma: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Fel arall arhoswch ar y dudalen hon.
Mae gan awdurdodaeth gynllunio Cyngor Sir Penfro amgylchedd hanesyddol amrywiol sy’n cynnwys:
- 24 o Ardaloedd Cadwraeth
- 1632 o Adeiladau Rhestredig
- 236 o Henebion Rhestredig
- 20 o Barciau a Gerddi Hanesyddol
ID: 2213, adolygwyd 31/10/2023