Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth

Cadwraeth yr Amgylchedd Hanesyddol

Mae amgylchedd hanesyddol Sir Benfro yn cael ei reoleiddio gan ddau awdurdod ar wahân – Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I wirio p’un a yw eich adeilad yn y Parc Cenedlaethol, ewch i'w gwefan yma: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn agor mewn tab newydd) 

Fel arall arhoswch ar y dudalen hon.

Mae gan awdurdodaeth gynllunio Cyngor Sir Penfro amgylchedd hanesyddol amrywiol sy’n cynnwys:

  • 24 o Ardaloedd Cadwraeth
  • 1632 o Adeiladau Rhestredig
  • 236 o Henebion Rhestredig
  • 20 o Barciau a Gerddi Hanesyddol
ID: 2213, adolygwyd 31/10/2023

Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw ardal gadwraeth?

Yn ôl y diffiniad, Ardal Gadwraeth yw “ardal o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ac mae angen gwarchod neu hybu ei chymeriad neu ei golwg” (Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).

Felly Ardal Gadwraeth yw ardal y mae’r Cyngor wedi’i dynodi yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Yn sgil dynodi Ardal Gadwraeth bydd y Cyngor yn gallu monitro ac arwain newid a sicrhau bod cymeriad yr ardal yn cael ei warchod.

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn amrywio’n aruthrol o ran eu naws a’u cymeriad ac maent yn cynnwys y rhannau mwyaf pwysig a diddorol o drefi a phentrefi, o ran eu hanes a’u pensaernïaeth. Dynodi Ardal Gadwraeth yw un o’r ffyrdd pwysicaf o gydnabod, gwarchod a hybu hunaniaeth mannau sydd â chymeriad arbennig iddynt.

Ar hyn o bryd mae 24 o ardaloedd gadwraeth wedi cael eu dynodi gan Gyngor Sir Penfro, sy’n ymestyn dros 0.53% o’r Sir.

Caeriw

Caeriw Cheriton

Cosheston

Eglwyswrw

Abergwaun

Cwm Abergwaun

Wdig

Hwlffordd

Honeyborough

Llandyfai

Llangwm

Llawhaden

Mathri

Aberdaugleddaau

Arberth

Y Mot

Neyland

Penfro

Doc Penfro

Penalun

Tŷ Scotsborough

Llandudoch

St. Florence

Cas-wis 

Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth

Bydd Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth yn cael eu llunio ar gyfer pob Ardal Gadwraeth yn Sir Benfro. Bydd y ddogfen yma yn dweud yn union beth yw cymeriad arbennig a hynodrwydd lleol yr ardal; bydd hefyd yn awgrymu cyfleoedd ar gyfer gofalu amdani a’i hybu. Ar ben hynny bydd y ddogfen yn cynnwys strategaethau ar gyfer cynnal a chadw a rheoli’r Ardal Gadwraeth yn y tymor hir. Gall pob un o’r gwerthusiadau hefyd fod yn gyfrwng i roi gwybodaeth pan fydd ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu yn yr ardaloedd hyn.

Bydd ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan bwysig iawn o’r broses werthuso. Byddwn yn rhoi gwerth mawr ar gyfraniadau pobl leol er mwyn sicrhau:

  • Bod y ddogfen yn cynrychioli’n iawn, wybodaeth a phrofiad y bobl leol
  • Ei bod mor fanwl gywir a chynhwysfawr ag y bo modd
  • Ei bod yn cynyddu ac yn cyd-ddeall y cymeriad arbennig sydd gan ardal
  • Ei bod yn sicrhau bod pawb yn cael dweud eu barn am reoli’r ardal

Yn gyfredol mae'r Gwerthusiadau Cymeriad Ardal Gadwraeth canlynol wedi'u mabwysiadu:

 

Datblygiad mewn Ardal Gadwraeth

Yn sgil dynodi ardal yn Ardal Gadwraeth fe geir rheolaeth ar ddymchwel a rheolaeth gadarnach ar ddatblygiad gyda’r bwriad o warchod a hybu diddordeb arbennig yr Ardal Gadwraeth.

Nid yw cael Ardal Gadwraeth yn golygu na cheir unrhyw newidiadau o gwbl. Bydd yn rhaid cael Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer ceisiadau cynllunio am ddatblygiad mewn Ardal Gadwraeth. Dylai’r holl geisiadau gael eu hategu gan luniadau hollol fanwl ac, os oes angen, gan gynigion manwl ynghylch tirlunio. Dylid darllen y rhain ar y cyd â’r polisïau cynllun datblygu presennol a lunnir gan Gyngor Sir Penfro (, Mabwysiadwyd 28ain Chwefror 2013); o ran y polisïau hyn mae’r canlynol yn arbennig o berthnasol:

Polisi GN.38 - Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

Gwneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth (yn agor mewn tab newydd)

 

Cyfarwyddiadau Erthygl 4

Dan yr amgylchiadau arferol nid oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer sawl addasiad neu ychwanegiad at adeiladau. Fodd bynnag pe byddai perygl i fân addasiadau newid cymeriad Ardal Gadwraeth, yna gall yr hawliau datblygu arferol gael eu dileu trwy gyfrwng yr hyn a elwir yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4.

Yn aml bydd dynodi Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu y gallai fod angen caniatâd ar gyfer mân addasiadau, fel amnewid drysau a ffenestri, adeiladu cynteddau, a hyd yn oed peintio’r tu allan i’r adeilad. Bydd hyn yn cynorthwyo i sicrhau bod y manylion sy’n gallu cyfrannu at gymeriad arbennig Ardal Gadwraeth benodol, yn cael eu gwarchod a bod unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud mewn modd sy’n gydnaws â’r ardal.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Doc Penfro wedi bod ar waith ers 30 Hydref 2008, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod. 

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Doc Penfro

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Hwlffordd wedi bod ar waith ers 2 Tachwedd 2009, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Hwlffordd

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r Ardaloedd Cadwraeth yn Sir Benfro mae croeso ichi gysylltu a ni, y Tîm Cadwraeth:

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) ar gyfer rhannau o Wdig a Chwm Gwaun wedi bod ar waith ers 29 Chwefror 2016.  Mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

 Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2) - Wdig

Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2)- Cwm Abergwaun

 

ID: 2214, adolygwyd 31/10/2023

Tirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol

Cofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru

Mae Cymru’n frith o barciau a gerddi hanesyddol, sy’n rhan hanfodol bwysig ac annatod o gyfansoddiad hanesyddol a diwylliannol y wlad. Cyfrifoldebau creiddiol Cadw (yn agor mewn tab newydd) yw cy northwyo perchnogion i ofalu amdanynt a’u gwarchod.

Ers 1992, mae Cadw wedi cynnal arolwg cynhwysfawr ar barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae’r parciau a gerddi y credir iddynt fod o bwysigrwydd cenedlaethol, wedi cael eu cynnwys ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru. Cafodd y Gofrestr ei llunio er mwyn cynorthwyo perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy, i warchod parciau a gerddi hanesyddol mewn modd gwybodus. Cofrestr anstatudol ydyw ac fe gafodd ei chyhoeddi yn chwe chyfrol; mae hi’n ymdrin â chyn ardaloedd cynghorau sir ac awdurdodau unedol. Cafodd ei chwblhau yn 2002 ond nid rhestr gau ydyw: gellir ychwanegu (neu ddileu) safleoedd ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae 372 o safleoedd

Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio’r Gofrestr wedi ceisio bod mor drylwyr ag y bo modd. Caiff pob safle ei arolygu a’i ymchwilio gan bwyll, caiff ei hanes ei ddadansoddi a’i ysgrifennu, ac fe geir disgrifiad o’r safle ar gyfer y Gofrestr. Mae map sy’n dangos ffiniau parc, gardd a gardd gegin y safle fel y mae heddiw (os yw’n berthnasol), y golygfeydd arwyddocaol a’r lleoliad hanfodol, wedi cael ei gynnwys hefyd. Bydd Gradd I, II* a II yn cael ei ddyfarnu i’r safleoedd yn yr un modd ag adeiladau rhestredig. Wrth ddewis y safleoedd ar gyfer y Gofrestr fe roddir ystyriaeth i nifer o ffactorau; dyddiad y safle; ym mha gyflwr mae ei gadwraeth; a yw e’n enghraifft dda o’i fath ai peidio; a fu dylunwyr adnabyddus yn gweithio arno, a yw’r safle’n gysylltiedig â phobl o bwys ac a oes rhywbeth anarferol neu brin yn ei gylch. Mae 20 o Barciau a Gerddi Hanesyddol yn Sir Benfro ac yn eu plith mae’r mannau poblogaidd hyn - Orielton, Castell Malgwyn, Palas yr Esgob yn Llandyfai a Llys a Ffynone Llandyfai.


Gwarchod a chynllunio

Gall Cadw roi cymorth gyda gwarchod parciau a gerddi hanesyddol trwy roi cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar safleoedd cofrestredig. Y bwriad yw sicrhau na fydd difrod yn cael ei wneud i arweddion arwyddocaol y safleoedd, fel y cynllun hanesyddol adeiledd, arweddion adeiledig a’r hyn a blannwyd yno. Nid gwarchod popeth a’i gadw fel y mae yw’r bwriad o gwbl; yn wir, mewn sawl achos mae’r gwaith datblygu’n llariaidd a llesol. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â gadael i ddatblygiad nad yw’n gydnaws â’r ardal, wneud niwed i gymeriad hanesyddol a gweledol y parciau a’r gerddi hanesyddol. Bydd hynny’n ddull angenrheidiol a buddiol o geisio sicrhau na fydd hynny’n digwydd.

Nid yw’r Gofrestr yn cael effaith ar y camau rheoli sy’n bodoli eisoes ynghylch cynllunio ac adeiladau rhestredig; fodd bynnag mae ymgynghoriadau statudol ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar barciau a gerddi sydd ar y Gofrestr, yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hatgyfeirio at Gymdeithas Hanes Gerddi a bydd y rhai hynny sy’n cael eu dyfarnu’n Radd I a II* yn cael eu hatgyfeirio at Cadw hefyd. Yn y cyfamser mae system ymgynghori debyg, ond un wirfoddol, wedi cael ei sefydlu.

Dyma’r polisïau yn y Cydgynllun Datblygu Unedol (CDU) sy’n ymwneud â Thirweddau a Pharciau a Gerddi Hanesyddol:

Polisi 85 – Tirweddau Hanesyddol

Polisi 86 – Parciau a Gerddi Hanesyddol

Bydd polis ï au newydd yn ymwneud â Thirweddau a Pharciau a Gerddi hanesyddol yng Nghyngor Sir Penfro yn disodli’r polis ï au presennol pan fydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei fabwysiadu .

 

ID: 2215, adolygwyd 28/11/2023

Adeiladau Rhestredig

Beth yw Adeilad Rhestredig?

Graddau’r Rhestru

Ydy fy adeilad yn rhestredig?

Ble gallaf i ddod o hyd i gyngor ar adeilad rhestredig?

Rwyf am wneud gwaith ar fy Adeilad Rhestredig, a oes angen Cydsyniad Adeilad Rhestredig arnaf i?

Sut mae cyflwyno cais am Gydsyniad Adeilad Rhestredig, a beth sydd angen i mi ei gyflwyno?

Cyfrifoldeb y Perchennog

Arolwg ar Adeiladau mewn Perygl

Grantiau

Beth yw Adeilad Rhestredig?

Caiff adeilad ei restru er mwyn sicrhau bod ei bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod i’r eithaf.

Bydd rhestru’r adeilad yn ei warchod drwyddo draw, y tu mewn a’r tu allan, ac mewn rhai achosion bydd hynny’n cynnwys yr eiddo cyfagos hefyd.

Prif ddiben rhestru yw rheoli newidiadau i'r adeilad, a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad neu ei leoliad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Graddau’r Rhestru

Bydd Adeiladau Rhestredig yn cael eu dosbarthu’n raddau er mwyn dangos eu priod bwysigrwydd. Dyma’r graddau:

  • Gradd I – Adeiladau sydd o ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer. Ar hyn o bryd mae llai na 2% o Adeiladau Rhestredig Gradd 1 yng Nghymru ac mae rhai ohonynt yn Sir Benfro;
  • Gradd II* - Adeiladau hynod bwysig sy’n bwysicach na dim ond bod o ddiddordeb arbennig;
  • Gradd II – Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy’n cyfiawnhau pob ymdrech a wneir dros eu gwarchod.
  • Gradd III – Adeiladau o ddiddordeb lleol
  • Heb eu graddio – Adeiladau o ddiddordeb lleol.

Ydy fy adeilad yn rhestredig?

Cedwir cofnodion adeiladau rhestredig Sir Benfro yn y gronfa ddata adeiladau rhestredig cenedlaethol a gedwir gan Cadw. Chwilio map rhyngweithiol cronfa ddata Cadw (yn agor mewn tab newydd)

Ble gallaf i ddod o hyd i gyngor ar adeilad rhestredig?

Mae cyngor ar Adeiladau Rhestredig ar gael ar wefan Cadw (yn agor mewn tab newydd)

Rwyf am wneud gwaith ar fy Adeilad Rhestredig, a oes angen Cydsyniad Adeilad Rhestredig arnaf i?

Gwaith ar Adeiladau Rhestredig – Pryd mae angen Cydsyniad Adeilad Rhestredig a Chaniatâd Cynllunio arnaf i?

Mae’r tabl isod yn nodi’r senarios arferol pan fydd angen cydsyniad adeilad rhestredig arnoch chi

Y gwaith
A oes angen cydsyniad Adeilad Rhestredig?
A oes angen Caniatad cynllynio?
Atgyweiriadau tebyg am debyg i ffenestri a drysau pren  Nac oes  Nac oes
Amnewid ffenestri a drysau pren tebyg am debyg  Nac oes  Nac oes
Amnewid ffenestri/drysau gwydr sengl am unedau gwydr dwbl.  Oes  Nac oes, oni bai ei fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Erthygl 4.
Ail-baentio’r tu allan heb newid y lliw.  Nac oes  Nac oes
Ail-baentio’r tu allan a newid y lliw.  Oes  Nac oes, oni bai ei fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Erthygl 4.
Atgyweiriadau tebyg am debyg i waliau allanol.  Nac oes  Nac oes
Atgyweiriadau tebyg am debyg i orchudd to.  Nac oes  Nac oes
Newid i'r deunydd gorchuddio'r to  Oes  Oes
Atgyweiriadau tebyg am debyg i gwteri a phibellau dŵr glaw Nac oes  Nac oes
Newidiadau i gwteri a phibellau dŵr glaw.  Oes  Nac oes, oni bai ei fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Erthygl 4.
Newidiadau i doeau e.e. dormerau neu ffenestri to.  Oes  Nac oes, oni bai ei fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Erthygl 4.
Atgyweiriadau tebyg am debyg i waeth coed a gwaith plastr mewnol.  Weithiau (Gradd I)  Nac oes
Ail-baentio mewnol heb newid lliw.  Nac oes  Nac oes
Ail-baentio mewnol a newid y lliw  Weithiau (Gradd I)  Nac oes
Dymchwel adeilad yn rhannol neu’n llawn (gan gynnwys waliau terfyn ac adeiladau allanol.)  Oes  Cyflwyno Hysbysiad Dymchwel Ymlaen Llaw i'r Awdurdod Lleol.
Newidiadau mewnol Oes   Nac oes
Newidiadau allanol Oes   Weithiau
Estyniadau. Oes   Oes
Atodi hysbyseb. Oes   Angen cydsyniad i roi hysbyseb.

 

Sut mae cyflwyno cais am Gydsyniad Adeilad Rhestredig, a beth sydd angen i mi ei gyflwyno?

Cyflwynir ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig trwy Geisiadau Cynllunio Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Rydym yn cynghori eich bod yn penodi Pensaer, Syrfëwr neu Ymgynghorydd Cynllunio Treftadaeth cymwys sydd â phrofiad blaenorol yn ymwneud ag adeiladau rhestredig i gasglu a chyflwyno’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y Cais am Gydsyniad Adeilad Rhestredig. Bydd swm yr wybodaeth fanwl sydd ei hangen yn amrywio o gynnig i gynnig ond yn gyffredinol bydd angen y canlynol mewn cais:

Rhestr Wirio/Gofynion Dilysu Cydsyniad Adeilad Rhestredig

Ffurflen Gais Safonol (bydd angen cyflwyno pob cais ar Ffurflen Gais Safonol sydd ar gael ar wefan yr awdurdod lleol a gwefan y Porth Cynllunio)

Rhaid cwblhau'r cwestiynau canlynol sydd ar y ffurflen:

  • Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd
  • Enw a chyfeiriad yr asiant
  • Disgrifiad o'r gwaith arfaethedig
  • Manylion cyfeiriad y safle
  • Cynigion cysylltiedig
  • Cyngor cyn ymgeisio
  • Ymgynghori â chymdogion a chymuned
  • Gweithiwr/aelod o'r awdurdod
  • Deunyddiau
  • Dymchwel
  • Addasiadau adeilad rhestredig
  • Graddfa adeilad rhestredig
  • Imiwnedd rhag rhestru
  • Datganiad
  • Cwblhau tystysgrif perchnogaeth (Rheoliad 7 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012)
Cynlluniau a gwybodaeth berthnasol (cynlluniau, lluniadau neu wybodaeth angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith sy’n destun y cais)
  • Cynllun lleoliad
    • Graddfa �1:�15 neu �1:5.
  • Pwynt gogleddol
  • Amlinellu’r eiddo/safle'r cais gyda llinell goch.
  • Tynnwch linell las o amgylch unrhyw dir arall y mae'r ymgeisydd yn berchen arno, yn agos at neu'n gyfagos i safle'r cais.
  • Dangoswch yr eiddo/safle'r cais mewn perthynas ag o leiaf dwy ffordd a enwir ac adeiladau o amgylch lle bo modd.
  • Cynlluniau Safle (presennol ac arfaethedig)
    • Manylion cynllun presennol y safle:
      • Graddfa, fel arfer 1:200 neu raddfa briodol (1:500) i ganfod y lefel ofynnol o fanylder.
      • Pwynt gogleddol
      • Dangoswch yr eiddo / safle cyfan, gan gynnwys yr holl adeiladau, gerddi, mannau agored a maes parcio
    • Manylion cynllun arfaethedig y safle:
      • Graddfa, fel arfer 1:200 neu 1:500
      • Pwynt gogleddol
      • Dangoswch leoliad unrhyw adeilad neu estyniad newydd, mynediad i gerbydau/cerddwyr, newidiadau mewn lefelau, cynigion tirweddu, gan gynnwys coed i'w symud, plannu newydd, waliau a ffensys terfyn newydd neu wedi'u haddasu, a mannau agored newydd â wyneb caled.
      • Dangoswch gynigion yng nghyd-destun adeiladau/amgylchedd cyfagos.
  • Cynlluniau a lluniadau eraill neu wybodaeth angenrheidiol i ddisgrifio testun y cais gan gynnwys:
    • Gweddluniau presennol ac arfaethedig
      • Graddfa 1:50 neu 1:100 (yr un raddfa â chynlluniau llawr)
      • Dangoswch bob gweddlun o adeilad newydd neu estyniad
      • Ar gyfer estyniad neu addasiad, gwahaniaethwch yn glir rhwng y gweddluniau presennol ac arfaethedig.
      • Cynhwyswch fanylion y deunyddiau a'r ymddangosiad allanol
      • Dangoswch weddluniau yng nghyd-destun adeiladau cyfagos, lle bo'n briodol.
    • Cynlluniau llawr presennol ac arfaethedig
      • Graddfa 1:50 neu 1:100.
      • Yn achos estyniad, dangoswch gynllun llawr yr adeilad presennol i ddangos y berthynas rhwng y ddau, gan nodi'n glir y gwaith newydd.
      • Yn achos mân geisiadau gall fod yn briodol cyfuno'r cynllun llawr presennol a'r cynllun llawr arfaethedig (oni bai bod unrhyw waith dymchwel yn gysylltiedig).
      • Cynhwyswch gynllun to lle bo angen i ddangos to cymhleth neu addasiad i un.
    • Rhannau safle presennol ac arfaethedig a lefelau llawr a safle gorffenedig
      • Graddfa 1:50/1:100 (yr un raddfa â chynlluniau llawr), lle bo'n briodol.
  • Cynlluniau manwl h.y. yn dangos drysau newydd, ffenestri, blaenau siopau, paneli, lleoedd tân, mowldin plastr a manylion addurniadol eraill, fel arfer adrannau ar raddfa 1:2 ac 1:5 a gweddluniau ar Raddfa 1:10 ac 1:20.

Bydd yn dibynnu ar ddisgrifiad o'r datblygiad a'r hyn sy'n cael ei gynnig.

Gwiriwch gyda'r Swyddog Cadwraeth os oes angen.

Ffi (Dim angen ffi)
Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth (gweler Polisi Cynllunio Cymru (PPW) Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 24, 2017 a Chanllawiau Cadw: Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru, 2017) / Datganiad Dylunio a Mynediad

O 1 Medi 2017 mae angen Datganiad o’r Effaith ar Dreftadaeth i gefnogi unrhyw gais am gydsyniad adeilad rhestredig ac mae’n disodli’r Datganiad Dylunio a Mynediad yn y broses gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig.

(Ar gyfer ceisiadau cydsyniad adeilad rhestredig a ddilyswyd cyn 1 Medi 2017, rhaid cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad ym mhob achos ac eithrio pan fo’r cais ar gyfer gwaith mewnol yn unig)

Mewn nifer fach o achosion, efallai y bydd angen cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad a datganiad o’r effaith ar dreftadaeth; er enghraifft, cynigion i ymestyn adeilad rhestredig mewn ardal gadwraeth neu Safle Treftadaeth y Byd drwy greu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr, neu addasu adeilad rhestredig i greu datblygiad preswyl gyda 10 uned neu fwy.

Dylai’r broses asesu’r effaith ar dreftadaeth fod yn gymesur ag arwyddocâd yr ased hanesyddol ac â graddau’r newidiadau a gynigir.

Rhaid iddo gynnwys:

  • disgrifiad o waith arfaethedig, gan gynnwys yr egwyddorion a chysyniadau dylunio, a rhestr o waith, gan gyfeirio at unrhyw ffotograffau, cynlluniau a lluniadau sy'n cefnogi'r cais am gydsyniad
  • rhesymu dros y gwaith arfaethedig, sy'n egluro'r hyn yr ydych yn bwriadu ei gyflawni a pham fod eisiau neu angen y gwaith
  • disgrifiad byr o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad rhestredig ac asesiad o'i arwyddocâd, gyda phwyslais arbennig ar yr agweddau hynny y bydd y cynigion yn effeithio arnynt
  • asesiad o effaith y gwaith arfaethedig ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad rhestredig a'i arwyddocâd, gan gynnwys buddion posibl ac unrhyw niwed
  • crynodeb o'r opsiynau a'r rhesymau dros y dull a ffefrir

Rhaid i Ddatganiad Dylunio a Mynediad (cyfeirier at Ganllawiau Llywodraeth Cymru, Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru, 2017) ar gyfer ceisiadau am Gydsyniad Adeilad Rhestredig gynnwys, o leiaf, ymddangosiad, cynaliadwyedd amgylcheddol, cynllun a graddfa a dylai esbonio sut mae’r dyluniad yn ystyried:

  • Pensaernïaeth arbennig neu bwysigrwydd hanesyddol yr adeilad
  • Nodweddion ffisegol penodol yr adeilad (gan gynnwys ei arwyddocâd pensaernïol a/neu hanesyddol) sy'n cyfiawnhau ei ddynodiad fel adeilad rhestredig
  • Lleoliad yr adeilad
  • Mae'n rhaid iddo egluro'r polisi neu'r ymagwedd a fabwysiadwyd mewn perthynas â mynediad

Cyfrifoldeb y Perchennog

Os ydych chi’n berchen ar Adeilad Rhestredig neu os daw un i’ch meddiant, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr eiddo’n cael ei gynnal a chadw mewn cyflwr da o fewn rheswm. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’w chael yn Adeiladau Rhestredig – Taflen Cyngor i Berchnogion Eiddo Cyngor Sir Penfro. Byddwch cystal â dilyn y ddolen er mwyn cael gwybodaeth am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, gwaith heb ei awdurdodi, atgyweiriadau a grantiau.

Sylwer: Mae’n drosedd i unrhyw berson wneud unrhyw waith heb ei awdurdodi ar adeilad rhestredig statudol heb yn gyntaf sicrhau’r Caniatâd Adeilad Rhestredig Angenrheidiol.

Arolwg ar Adeiladau mewn Perygl

Yn ddiweddar cafodd Arolwg Adeiladau mewn Perygl ei gynnal yn Sir Benfro. Erbyn hyn mae’r holl adeiladau rhestredig yn y sir wedi cael eu hasesu a rhoddwyd sgôr iddynt yn ôl pa gyflwr yr oeddent ynddo. Bydd hyn yn cynorthwyo ein tîm cadwraeth i enwi a chael gwybod am yr adeiladau rhestredig hynny sy’n agored i niwed a rhaid rhoi sylw amlwg iddynt er mwyn eu hadfer neu eu hatgyweirio.

Grantiau

O ran atgyweirio adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol eithriadol - fel arfer y rhai hynny sydd wedi eu rhestru’n Radd I neu II* - gwaith ar adeiladau mewn ardaloedd gadwraeth, fe allai grantiau fod ar gael gan Cadw.

Yn ddiweddar mae naw o adeiladau hanesyddol yng Nghymru wedi derbyn swm grant o £385,247 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo i ariannu atgyweiriadau hanfodol bwysig. Ymysg y grantiau a ddyfarnwyd mae’r tir o amgylch Tŷ Foley, Adeilad Rhestredig Gradd II* yn Hwlffordd, a gafodd gyfanswm o £75,000, ynghyd â’r Morglawdd deheuol ym Mhenfro sydd wedi cael cyfanswm o £7,500. Bydd y grantiau hyn yn sicrhau bod rhai o’n hadeiladau hanesyddol pwysicaf yn cael eu cynnal a chadw er mwyn i’r cenedlaethau i ddod eu mwynhau. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n barod er mwyn adfer y tir o amgylch Tŷ Foley, Hwlffordd.

 

ID: 2216, adolygwyd 31/10/2023

Henebion Rhestredig

Mae gan y Cyngor Sir restr o'r Henebion Rhestredig yn Sir Benfro.

Rheolwyr Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed sy'n cynnal yr Archifau Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer de-orllewin Cymru. Ar hyn o bryd mae mwy na 43,000 o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a hanesyddol wedi cael eu cofnodi.

Un o swyddogaethau pwysig Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yw darparu gwasanaeth rheoli datblygiad unffurf i awdurdodau cynllunio lleol ac i gyrff eraill sy'n ymwneud â datblygu a newid defnydd tir, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ledled Cymru.

Cadw (gwasanaeth yr amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru) yw'r ymgynghorydd ffurfiol ar gyfer Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro, mewn perthynas ag unrhyw waith sydd yn yr arfaeth ar gyfer Henebion Rhestredig yn y Sir. Mae Cadw yn defnyddio'r wybodaeth sydd yn yr Archifau Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r wybodaeth arbenigol a'r medrusrwydd sydd ar gael yn y gwasanaeth, er mwyn pwyso a mesur a rhoi sylwadau ar yr holl geisiadau cynllunio a allai gael effaith andwyol ar yr amgylchedd hanesyddol.

Mae'r polisi canlynol sydd i'w cael yn berthnasol i'r Henebion Rhestredig yn Sir Benfro:

GN.38 Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

Bydd Cyngor Sir Penfro'n defnyddio'r cyngor a gaiff gan Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, er mwyn pwyso a mesur yr effaith bosibl a gaiff y datblygiad ar y dreftadaeth. O ganlyniad i hynny, bydd yn ceisio sicrhau taw ond y difrod lleiaf posib a geir.

ID: 2217, adolygwyd 25/01/2022