Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth

Cadwraeth yr Amgylchedd Adeiledig

Mae’r amgylchedd adeiledig hanesyddol yn cynorthwyo i ddangos hanes a datblygiad Sir Benfro. Mae’n meithrin ymdeimlad â lle ac yn golygu bod yno amgylchedd atyniadol i fyw, gweithio a hamddena ynddo. Mae’n bwysig inni ofalu am dreftadaeth adeiledig Sir Benfro nawr ac at y dyfodol hefyd.

Mae gan Sir Benfro (ac eithrio’r Parc Cenedlaethol) 24 Ardal Gadwraeth , 1632 Adeilad Rhestredig , 236 Heneb Restredig , 20 Parc a Gardd Hanesyddol a 2 Fenter Treftadaeth Treflun . Ar ben hynny yn Sir Benfro y mae’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol dynodedig yn y DU. Y rhain i gyd sy’n rhoi i’r ardal ei nodweddion naturiol a’i threftadaeth ddiwylliannol y mae’n rhaid eu gwarchod ac, os oes angen, gwella eu golwg.

ID: 2213, adolygwyd 24/01/2018

Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw ardal gadwraeth?

Yn ôl y diffiniad, Ardal Gadwraeth yw “ardal o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ac mae angen gwarchod neu hybu ei chymeriad neu ei golwg” (Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).

Felly Ardal Gadwraeth yw ardal y mae’r Cyngor wedi’i dynodi yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Yn sgil dynodi Ardal Gadwraeth bydd y Cyngor yn gallu monitro ac arwain newid a sicrhau bod cymeriad yr ardal yn cael ei warchod.

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn amrywio’n aruthrol o ran eu naws a’u cymeriad ac maent yn cynnwys y rhannau mwyaf pwysig a diddorol o drefi a phentrefi, o ran eu hanes a’u pensaernïaeth. Dynodi Ardal Gadwraeth yw un o’r ffyrdd pwysicaf o gydnabod, gwarchod a hybu hunaniaeth mannau sydd â chymeriad arbennig iddynt.

Ar hyn o bryd mae 24 o ardaloedd gadwraeth wedi cael eu dynodi gan Gyngor Sir Penfro, sy’n ymestyn dros 0.53% o’r Sir.

 

Caeriw Caeriw Cheriton Cosheston
Eglwyswrw Abergwaun  Cwm Abergwaun 
Wdig  Hwlffordd Honeyborough
Llandyfai Llangwm Llawhaden
Mathri Aberdaugleddaau Arberth
Y Mot Neyland Penfro
Doc Penfro Penalun Tŷ Scotsborough
Llandudoch St. Florence Cas-wis

 

Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth

Bydd Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth yn cael eu llunio ar gyfer pob Ardal Gadwraeth yn Sir Benfro. Bydd y ddogfen yma yn dweud yn union beth yw cymeriad arbennig a hynodrwydd lleol yr ardal; bydd hefyd yn awgrymu cyfleoedd ar gyfer gofalu amdani a’i hybu. Ar ben hynny bydd y ddogfen yn cynnwys strategaethau ar gyfer cynnal a chadw a rheoli’r Ardal Gadwraeth yn y tymor hir. Gall pob un o’r gwerthusiadau hefyd fod yn gyfrwng i roi gwybodaeth pan fydd ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu yn yr ardaloedd hyn.

Bydd ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan bwysig iawn o’r broses werthuso. Byddwn yn rhoi gwerth mawr ar gyfraniadau pobl leol er mwyn sicrhau:

  • Bod y ddogfen yn cynrychioli’n iawn, wybodaeth a phrofiad y bobl leol
  • Ei bod mor fanwl gywir a chynhwysfawr ag y bo modd
  • Ei bod yn cynyddu ac yn cyd-ddeall y cymeriad arbennig sydd gan ardal
  • Ei bod yn sicrhau bod pawb yn cael dweud eu barn am reoli’r ardal

Yn gyfredol mae'r Gwerthusiadau Cymeriad Ardal Gadwraeth canlynol wedi'u mabwysiadu:

Adolygiad ar yr Ardaloedd Cadwraeth

 

ARFARNIAD CYMERIAD A CHYNLLUNIAU RHEOLI ARDALOEDD CADWRAETH AR GYFER PENFRO

YMGYNGHORIAD: 112 MEDI TAN 24 HYDREF 2016

Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn ymgynghori ar ddyfodol Ardal Gadwraeth Penfro.  Gallai pobl drafod y pynciau allweddol a fydd yn cael eu cynnwys o fewn y Cynllun Gwerthuso a Rheoli a siarad â swyddogion am eu barn am ddyfodol yr Ardal Gadwraeth.

Caiff sylwadau eu bwydo i mewn i ddrafft cyntaf Gwerthusiad Cymeriad a Chynllun Rheoli'r Ardal Gadwraeth a bydd yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer cynigion datblygu a rheoli yn y dyfodol o fewn yr Ardal Gadwraeth.  Mae rheoli newid yn effeithiol o fewn ein Hardaloedd Cadwraeth yn ganolog i sicrhau ein bod yn diogelu ardaloedd hanesyddol y Sir mewn ffyrdd sy'n eu gwneud yn llefydd cynaliadwy lle bydd pobl eisiau byw a gweithio ynddynt ac ymweld â nhw. Maent yn cynrychioli rhai o'r goreuon ymysg ein treftadaeth adeiledig ac fe'u gwerthfawrogir gan drigolion a thwristiaid.  

 

Ar hyn o bryd mae’r Tîm Cadwraeth yn cynnal adolygiad ar yr Ardaloedd Gadwraeth yn Sir Benfro ac maent yn ystyried ardaloedd eraill yn y sir a allai fodloni’r meini prawf er mwyn cael eu dynodi’n ardal gadwraeth. Ar ôl yr adolygiad hwn efallai y tybir y bydd yn rhaid adolygu a newid ffiniau rhai o’r Ardaloedd Gadwraeth presennol.

Mae dogfennau'r Arfarniadau Cymeriad a'r Cynllun Rheoli yn adolygu cymeriad a diddordeb arbennig yr Ardaloedd Cadwraeth ac yn adolygu ffiniau'r ardaloedd cadwraeth.

Bydd y dogfennau'n arwain trigolion a pherchnogion o fewn yr Ardaloedd Cadwraeth ynglŷn â newidiadau dylunio adeiladau ac yn rhoi arweiniad ar gyfer rheoli'r Ardaloedd Cadwraeth a bydd hyn, dros amser, yn gymorth i gefnogi cymunedau a'r amgylchedd.

Datblygiad mewn Ardal Gadwraeth

Yn sgil dynodi ardal yn Ardal Gadwraeth fe geir rheolaeth ar ddymchwel a rheolaeth gadarnach ar ddatblygiad gyda’r bwriad o warchod a hybu diddordeb arbennig yr Ardal Gadwraeth.

Nid yw cael Ardal Gadwraeth yn golygu na cheir unrhyw newidiadau o gwbl. Bydd yn rhaid cael Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer ceisiadau cynllunio am ddatblygiad mewn Ardal Gadwraeth. Dylai’r holl geisiadau gael eu hategu gan luniadau hollol fanwl ac, os oes angen, gan gynigion manwl ynghylch tirlunio. Bydd hyn yn galluogi i asesiad priodol gael ei gynnal ar y cynnig a’r effaith a gaiff ar yr Ardal Gadwraeth. Dylid darllen y rhain ar y cyd â’r polisïau cynllun datblygu presennol a lunnir gan Gyngor Sir Penfro (, Mabwysiadwyd 28ain Chwefror 2013); o ran y polisïau hyn mae’r canlynol yn arbennig o berthnasol:

Polisi GN.38 - Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

I wneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth dilynwch y ddolen isod.

Cyfarwyddiadau Erthygl 4

Dan yr amgylchiadau arferol nid oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer sawl addasiad neu ychwanegiad at adeiladau. Fodd bynnag pe byddai perygl i fân addasiadau newid cymeriad Ardal Gadwraeth, yna gall yr hawliau datblygu arferol gael eu dileu trwy gyfrwng yr hyn a elwir yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4.

Yn aml bydd dynodi Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu y gallai fod angen caniatâd ar gyfer mân addasiadau, fel amnewid drysau a ffenestri, adeiladu cynteddau, a hyd yn oed peintio’r tu allan i’r adeilad. Bydd hyn yn cynorthwyo i sicrhau bod y manylion sy’n gallu cyfrannu at gymeriad arbennig Ardal Gadwraeth benodol, yn cael eu gwarchod a bod unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud mewn modd sy’n gydnaws â’r ardal.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Doc Penfro wedi bod ar waith ers 30 Hydref 2008, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod. 

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Doc Penfro

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Hwlffordd wedi bod ar waith ers 2 Tachwedd 2009, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Hwlffordd

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r Ardaloedd Cadwraeth yn Sir Benfro mae croeso ichi gysylltu a ni, y Tîm Cadwraeth:

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) ar gyfer rhannau o Wdig a Chwm Gwaun wedi bod ar waith ers 29 Chwefror 2016.  Mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

 Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2) - Wdig

Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2)- Cwm Abergwaun

 

ID: 2214, adolygwyd 24/01/2018

Tirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol

Cofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.

Mae Cymru’n frith o barciau a gerddi hanesyddol, sy’n rhan hanfodol bwysig ac annatod o gyfansoddiad hanesyddol a diwylliannol y wlad. Cyfrifoldebau creiddiol Cadw yw cy northwyo perchnogion i ofalu amdanynt a’u gwarchod.

Ers 1992, mae Cadw wedi cynnal arolwg cynhwysfawr ar barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae’r parciau a gerddi y credir iddynt fod o bwysigrwydd cenedlaethol, wedi cael eu cynnwys ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru. Cafodd y Gofrestr ei llunio er mwyn cynorthwyo perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy, i warchod parciau a gerddi hanesyddol mewn modd gwybodus. Cofrestr anstatudol ydyw ac fe gafodd ei chyhoeddi yn chwe chyfrol; mae hi’n ymdrin â chyn ardaloedd cynghorau sir ac awdurdodau unedol. Cafodd ei chwblhau yn 2002 ond nid rhestr gau ydyw: gellir ychwanegu (neu ddileu) safleoedd ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae 372 o safleoedd

Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio’r Gofrestr wedi ceisio bod mor drylwyr ag y bo modd. Caiff pob safle ei arolygu a’i ymchwilio gan bwyll, caiff ei hanes ei ddadansoddi a’i ysgrifennu, ac fe geir disgrifiad o’r safle ar gyfer y Gofrestr. Mae map sy’n dangos ffiniau parc, gardd a gardd gegin y safle fel y mae heddiw (os yw’n berthnasol), y golygfeydd arwyddocaol a’r lleoliad hanfodol, wedi cael ei gynnwys hefyd. Bydd Gradd I, II* a II yn cael ei ddyfarnu i’r safleoedd yn yr un modd ag adeiladau rhestredig. Wrth ddewis y safleoedd ar gyfer y Gofrestr fe roddir ystyriaeth i nifer o ffactorau; dyddiad y safle; ym mha gyflwr mae ei gadwraeth; a yw e’n enghraifft dda o’i fath ai peidio; a fu dylunwyr adnabyddus yn gweithio arno, a yw’r safle’n gysylltiedig â phobl o bwys ac a oes rhywbeth anarferol neu brin yn ei gylch. Mae 20 o Barciau a Gerddi Hanesyddol yn Sir Benfro ac yn eu plith mae’r mannau poblogaidd hyn - Orielton, Castell Malgwyn, Palas yr Esgob yn Llandyfai a Llys a Ffynone Llandyfai.


Gwarchod a chynllunio

Gall Cadw roi cymorth gyda gwarchod parciau a gerddi hanesyddol trwy roi cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar safleoedd cofrestredig. Y bwriad yw sicrhau na fydd difrod yn cael ei wneud i arweddion arwyddocaol y safleoedd, fel y cynllun hanesyddol adeiledd, arweddion adeiledig a’r hyn a blannwyd yno. Nid gwarchod popeth a’i gadw fel y mae yw’r bwriad o gwbl; yn wir, mewn sawl achos mae’r gwaith datblygu’n llariaidd a llesol. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â gadael i ddatblygiad nad yw’n gydnaws â’r ardal, wneud niwed i gymeriad hanesyddol a gweledol y parciau a’r gerddi hanesyddol. Bydd hynny’n ddull angenrheidiol a buddiol o geisio sicrhau na fydd hynny’n digwydd.

Nid yw’r Gofrestr yn cael effaith ar y camau rheoli sy’n bodoli eisoes ynghylch cynllunio ac adeiladau rhestredig; fodd bynnag mae ymgynghoriadau statudol ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar barciau a gerddi sydd ar y Gofrestr, yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hatgyfeirio at Gymdeithas Hanes Gerddi a bydd y rhai hynny sy’n cael eu dyfarnu’n Radd I a II* yn cael eu hatgyfeirio at Cadw hefyd. Yn y cyfamser mae system ymgynghori debyg, ond un wirfoddol, wedi cael ei sefydlu.

Dyma’r polisïau yn y Cydgynllun Datblygu Unedol (CDU) sy’n ymwneud â Thirweddau a Pharciau a Gerddi Hanesyddol:

Polisi 85 – Tirweddau Hanesyddol

Polisi 86 – Parciau a Gerddi Hanesyddol

Bydd polis ï au newydd yn ymwneud â Thirweddau a Pharciau a Gerddi hanesyddol yng Nghyngor Sir Penfro yn disodli’r polis ï au presennol pan fydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei fabwysiadu .

Dylai unrhyw ymholiadau am barciau a gerddi hanesyddol gael eu cyfeirio at:

ID: 2215, adolygwyd 24/01/2018

Adeiladau Rhestredig

Beth yw Adeilad Rhestredig?

Caiff adeilad ei restru er mwyn sicrhau bod ei bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod i’r eithaf.

Bydd rhestru’r adeilad yn ei warchod drwyddo draw, y tu mewn a’r tu allan, ac mewn rhai achosion bydd hynny’n cynnwys yr eiddo cyfagos hefyd.

Prif ddiben rhestru’r adeilad yw gwarchod yr adeilad a’i amgylchoedd rhag newidiadau a fydd yn newid, yn berthnasol, bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol arbennig yr adeilad neu ei leoliad.


Graddau’r Rhestru

Bydd Adeiladau Rhestredig yn cael eu dosbarthu’n raddau er mwyn dangos eu priod bwysigrwydd. Dyma’r graddau:

Gradd I – Adeiladau sydd o ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer. Ar hyn o bryd mae llai na 2% o Adeiladau Rhestredig Gradd 1 yng Nghymru ac mae rhai ohonynt yn Sir Benfro;

Gradd II* - Adeiladau hynod bwysig sy’n bwysicach na dim ond bod o ddiddordeb arbennig;

Gradd II – Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy’n cyfiawnhau pob ymdrech a wneir dros eu gwarchod.

Gradd III – Adeiladau o ddiddordeb lleol


Adeiladau Rhestredig yn Sir Benfro

Mae 1632 o Adeiladau Rhestredig yn Sir Benfro ac mae pob un ohonynt yn rhan bwysig o dreftadaeth adeiledig y sir. Mae adeiladau rhestredig yn Sir Benfro’n amrywio o dai clom a Chestyll hyd at Swyddfeydd Post Edwardaidd, ac mae pob un ohonynt yn rhan o dreftadaeth adeiledig neilltuol Sir Benfro.

Mae gan y Cyngor restr lawn o’r holl Adeiladau Rhestredig y mae’n gyfrifol amdanynt, a disgrifiad cryno ohonynt hefyd. Mae gwybodaeth am bob un o’n Hadeiladau Rhestredig ar gael ar ein Gronfa Ddata gynhwysfawr ynghylch Adeiladau Rhestredig. Mae’r rhestri’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  1. Stryd, enw neu rif yr adeilad
  2. Ei radd
  3. Cyfeir-rif a’r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
  4. Disgrifiad cryno o’r adeilad, yn bennaf at ddibenion adnabod, er mwyn disgrifio’r rheswm dros ei restru, hanes yr adeilad a’r arweddion o bwysigrwydd
  5. Cyfeiriad, os yw’n berthnasol, at wybodaeth gyhoeddedig arall am yr adeilad a’i bwysigrwydd.

Chwilio'r Gofrestr Adeiladau Rhestredig yma

Beth mae rhestru’n ei feddwl?

Bwriad rhestru adeilad yw sicrhau ein bod yn gwarchod ac yn gofalu am adeiladau pwysig yn barhaol. Er mwyn cael uwchwarchodaeth fel hyn mae’n rhaid cael math o drefn cynllunio arbennig o’r enw Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Mae’n drosedd i unrhyw berson wneud unrhyw waith newid, estyniad neu ddymchwel (naill ai i’r tu mewn neu i’r tu allan) a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad unwaith y bydd wedi’i restru, oni bai bod caniatâd cynllunio wedi cael ei sicrhau gan yr Awdurdod Cynllunio.

Gallwn ni roi cyfarwyddyd mewn unrhyw achos penodol a dylid rhoi gwybod am unrhyw waith cyn iddo ddechrau. Ni fydd y Cyngor Sir yn codi tâl am broses y Caniatâd Adeilad Rhestredig, serch hynny bydd yn rhaid cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os oes angen. Cafodd y polisïau cynllun datblygu presennol mewn perthynas ag Adeiladau Rhestredig eu llunio gan Gyngor Sir Penfro ac maent wedi eu cynnwys yn (a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2013) a dyma hwy:

Polisi GN.38 - Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

Bydd y swyddogion cynllunio yn dal sylw ar y polisïau hyn pan fyddant yn ystyried unrhyw gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Yn hytrach nag atal newid, byddwn yn ceisio sicrhau bod yr holl waith a wneir yn gydnaws â chymeriad arbennig yr adeilad.

Bydd polisïau newydd sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig yng Nghyngor Sir Penfro’n disodli’r polisïau presennol pan fydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei fabwysiadu.


Cyfrifoldeb y Perchennog

Os ydych chi’n berchen ar Adeilad Rhestredig neu os daw un i’ch meddiant, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr eiddo’n cael ei gynnal a chadw mewn cyflwr da o fewn rheswm. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’w chael yn Adeiladau Rhestredig – Taflen Cyngor i Berchnogion Eiddo Cyngor Sir Penfro. Byddwch cystal â dilyn y ddolen er mwyn cael gwybodaeth am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, gwaith heb ei awdurdodi, atgyweiriadau a grantiau. Ar ben hynny gallwch fwrw golwg ar Taflen Caniatâd Rhestredig Cadw .

Sylwer: Mae’n drosedd i unrhyw berson wneud unrhyw waith heb ei awdurdodi ar adeilad rhestredig statudol heb yn gyntaf sicrhau’r Caniatâd Adeilad Rhestredig Angenrheidiol.

I wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig dilynwch y ddolen isod os gwelwch yn dda:


Arolwg ar Adeiladau mewn Perygl

Yn ddiweddar cafodd Arolwg Adeiladau mewn Perygl ei gynnal yn Sir Benfro. Erbyn hyn mae’r holl adeiladau rhestredig yn y sir wedi cael eu hasesu a rhoddwyd sgôr iddynt yn ôl pa gyflwr yr oeddent ynddo. Bydd hyn yn cynorthwyo ein tîm cadwraeth i enwi a chael gwybod am yr adeiladau rhestredig hynny sy’n agored i niwed a rhaid rhoi sylw amlwg iddynt er mwyn eu hadfer neu eu hatgyweirio.


Grantiau

O ran atgyweirio adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol eithriadol - fel arfer y rhai hynny sydd wedi eu rhestru’n Radd I neu II* - gwaith ar adeiladau mewn ardaloedd gadwraeth, fe allai grantiau fod ar gael gan Cadw.

Yn ddiweddar mae naw o adeiladau hanesyddol yng Nghymru wedi derbyn swm grant o £385,247 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo i ariannu atgyweiriadau hanfodol bwysig. Ymysg y grantiau a ddyfarnwyd mae’r tir o amgylch Tŷ Foley, Adeilad Rhestredig Gradd II* yn Hwlffordd, a gafodd gyfanswm o £75,000, ynghyd â’r Morglawdd deheuol ym Mhenfro sydd wedi cael cyfanswm o £7,500. Bydd y grantiau hyn yn sicrhau bod rhai o’n hadeiladau hanesyddol pwysicaf yn cael eu cynnal a chadw er mwyn i’r cenedlaethau i ddod eu mwynhau. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n barod er mwyn adfer y tir o amgylch Tŷ Foley, Hwlffordd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth mae croeso ichi gysylltu a ni, y Tîm Gadwraeth:

ID: 2216, adolygwyd 24/01/2018

Henebion Rhestredig

Mae gan y Cyngor Sir restr o'r Henebion Rhestredig yn Sir Benfro.

Rheolwyr Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed sy'n cynnal yr Archifau Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer de-orllewin Cymru. Ar hyn o bryd mae mwy na 43,000 o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a hanesyddol wedi cael eu cofnodi.

Un o swyddogaethau pwysig Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yw darparu gwasanaeth rheoli datblygiad unffurf i awdurdodau cynllunio lleol ac i gyrff eraill sy'n ymwneud â datblygu a newid defnydd tir, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ledled Cymru.

Cadw (gwasanaeth yr amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru) yw'r ymgynghorydd ffurfiol ar gyfer Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro, mewn perthynas ag unrhyw waith sydd yn yr arfaeth ar gyfer Henebion Rhestredig yn y Sir. Mae Cadw yn defnyddio'r wybodaeth sydd yn yr Archifau Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r wybodaeth arbenigol a'r medrusrwydd sydd ar gael yn y gwasanaeth, er mwyn pwyso a mesur a rhoi sylwadau ar yr holl geisiadau cynllunio a allai gael effaith andwyol ar yr amgylchedd hanesyddol.

Mae'r polisi canlynol sydd i'w cael yn , yn berthnasol i'r Henebion Rhestredig yn Sir Benfro:

GN.38 Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

Bydd Cyngor Sir Penfro'n defnyddio'r cyngor a gaiff gan Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, er mwyn pwyso a mesur yr effaith bosibl a gaiff y datblygiad ar y dreftadaeth. O ganlyniad i hynny, bydd yn ceisio sicrhau taw ond y difrod lleiaf posib a geir.

ID: 2217, adolygwyd 24/01/2018