Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth

Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw ardal gadwraeth?

Yn ôl y diffiniad, Ardal Gadwraeth yw “ardal o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ac mae angen gwarchod neu hybu ei chymeriad neu ei golwg” (Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).

Felly Ardal Gadwraeth yw ardal y mae’r Cyngor wedi’i dynodi yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Yn sgil dynodi Ardal Gadwraeth bydd y Cyngor yn gallu monitro ac arwain newid a sicrhau bod cymeriad yr ardal yn cael ei warchod.

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn amrywio’n aruthrol o ran eu naws a’u cymeriad ac maent yn cynnwys y rhannau mwyaf pwysig a diddorol o drefi a phentrefi, o ran eu hanes a’u pensaernïaeth. Dynodi Ardal Gadwraeth yw un o’r ffyrdd pwysicaf o gydnabod, gwarchod a hybu hunaniaeth mannau sydd â chymeriad arbennig iddynt.

Ar hyn o bryd mae 24 o ardaloedd gadwraeth wedi cael eu dynodi gan Gyngor Sir Penfro, sy’n ymestyn dros 0.53% o’r Sir.

Caeriw

Caeriw Cheriton

Cosheston

Eglwyswrw

Abergwaun

Cwm Abergwaun

Wdig

Hwlffordd

Honeyborough

Llandyfai

Llangwm

Llawhaden

Mathri

Aberdaugleddaau

Arberth

Y Mot

Neyland

Penfro

Doc Penfro

Penalun

Tŷ Scotsborough

Llandudoch

St. Florence

Cas-wis 

Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth

Bydd Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth yn cael eu llunio ar gyfer pob Ardal Gadwraeth yn Sir Benfro. Bydd y ddogfen yma yn dweud yn union beth yw cymeriad arbennig a hynodrwydd lleol yr ardal; bydd hefyd yn awgrymu cyfleoedd ar gyfer gofalu amdani a’i hybu. Ar ben hynny bydd y ddogfen yn cynnwys strategaethau ar gyfer cynnal a chadw a rheoli’r Ardal Gadwraeth yn y tymor hir. Gall pob un o’r gwerthusiadau hefyd fod yn gyfrwng i roi gwybodaeth pan fydd ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu yn yr ardaloedd hyn.

Bydd ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan bwysig iawn o’r broses werthuso. Byddwn yn rhoi gwerth mawr ar gyfraniadau pobl leol er mwyn sicrhau:

  • Bod y ddogfen yn cynrychioli’n iawn, wybodaeth a phrofiad y bobl leol
  • Ei bod mor fanwl gywir a chynhwysfawr ag y bo modd
  • Ei bod yn cynyddu ac yn cyd-ddeall y cymeriad arbennig sydd gan ardal
  • Ei bod yn sicrhau bod pawb yn cael dweud eu barn am reoli’r ardal

Yn gyfredol mae'r Gwerthusiadau Cymeriad Ardal Gadwraeth canlynol wedi'u mabwysiadu:

 

Datblygiad mewn Ardal Gadwraeth

Yn sgil dynodi ardal yn Ardal Gadwraeth fe geir rheolaeth ar ddymchwel a rheolaeth gadarnach ar ddatblygiad gyda’r bwriad o warchod a hybu diddordeb arbennig yr Ardal Gadwraeth.

Nid yw cael Ardal Gadwraeth yn golygu na cheir unrhyw newidiadau o gwbl. Bydd yn rhaid cael Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer ceisiadau cynllunio am ddatblygiad mewn Ardal Gadwraeth. Dylai’r holl geisiadau gael eu hategu gan luniadau hollol fanwl ac, os oes angen, gan gynigion manwl ynghylch tirlunio. Dylid darllen y rhain ar y cyd â’r polisïau cynllun datblygu presennol a lunnir gan Gyngor Sir Penfro (, Mabwysiadwyd 28ain Chwefror 2013); o ran y polisïau hyn mae’r canlynol yn arbennig o berthnasol:

Polisi GN.38 - Gwarchod a Gwella yr Amgylchedd Hanesyddol

Gwneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth (yn agor mewn tab newydd)

 

Cyfarwyddiadau Erthygl 4

Dan yr amgylchiadau arferol nid oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer sawl addasiad neu ychwanegiad at adeiladau. Fodd bynnag pe byddai perygl i fân addasiadau newid cymeriad Ardal Gadwraeth, yna gall yr hawliau datblygu arferol gael eu dileu trwy gyfrwng yr hyn a elwir yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4.

Yn aml bydd dynodi Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu y gallai fod angen caniatâd ar gyfer mân addasiadau, fel amnewid drysau a ffenestri, adeiladu cynteddau, a hyd yn oed peintio’r tu allan i’r adeilad. Bydd hyn yn cynorthwyo i sicrhau bod y manylion sy’n gallu cyfrannu at gymeriad arbennig Ardal Gadwraeth benodol, yn cael eu gwarchod a bod unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud mewn modd sy’n gydnaws â’r ardal.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Doc Penfro wedi bod ar waith ers 30 Hydref 2008, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod. 

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Doc Penfro

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer rhannau o Ardal Gadwraeth Hwlffordd wedi bod ar waith ers 2 Tachwedd 2009, ac mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar - Hwlffordd

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r Ardaloedd Cadwraeth yn Sir Benfro mae croeso ichi gysylltu a ni, y Tîm Cadwraeth:

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) ar gyfer rhannau o Wdig a Chwm Gwaun wedi bod ar waith ers 29 Chwefror 2016.  Mae manylion y cyfarwyddyd wedi eu hamgáu isod.

 Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2) - Wdig

Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2)- Cwm Abergwaun

 

ID: 2214, adolygwyd 31/10/2023