Cam 2 Pont Droed a Glan Ceir Gorllewin Hwlffordd
Disgrifiad o’r prosiect:
Mae'r cynllun yn gynllun gwella mynediad/cyfleusterau sy'n cynnwys adeiladu pont droed newydd a gwaith tirlunio allanol i'r gorllewin o afon Cleddau Wen yng Nglan Cei’r Gorllewin (gan gynnwys ar safle maes parcio presennol Twll yn y Wal, sydd wedi'i leoli gerllaw Stryd y Bont, Hwlffordd), ac i'r dwyrain o afon Cleddau Wen gerllaw Tŵr y Cloc a Chanolfan Siopa Glan-yr-Afon.
Mae'r cynllun yn cynnwys y gwaith canlynol:
- Cael gwared ar bont droed bresennol sy’n ymestyn ar draws afon Cleddau Wen;
- Gosod pont droed newydd, i ffurfio cysylltiad crwm cerfluniol rhwng Glan-yr-afon a Glan Cei’r Gorllewin, sy’n agor cysylltiad gweledol newydd â Chastell Hwlffordd i’r gorllewin;
- Ad-drefnu a gwella tir y cyhoedd yng Nglan Cei’r Gorllewin a Glan-yr-afon, gan ddarparu lleoedd aml-swyddogaeth a chysylltiadau sy’n blaenoriaethu cerddwyr, gan gysylltu llwybrau â’r bont droed newydd;
- Atgyweirio, adnewyddu ac ailwampio hen adeilad Ffowndri Cleddau o fewn Glan Cei’r Gorllewin.
Ffeithiau allweddol hyd yma:
- Dros 120 tunnell o ddur strwythurol
- Dros 12 tunnell o wifrau weldio wedi’u defnyddio
- Dros 3,000 o oriau wedi’u treulio’n cwblhau’r modelu 3D
- Dros 18,000 o oriau wedi’u treulio’n saernïo ers mis Hydref 2024
- Tua 3,500 o ddarnau unigol o ddur yn y brif bont droed
- Tua 1,200 o ddarnau unigol o ddur ar gyfer y rheilen warchod fewnol
Ffeithiau allweddol hyd yma:
- Dros 120 tunnell o ddur strwythurol
- Dros 12 tunnell o wifrau weldio wedi’u defnyddio
- Dros 3,000 o oriau wedi’u treulio’n cwblhau’r modelu 3D
- Dros 18,000 o oriau wedi’u treulio’n saernïo ers mis Hydref 2024
- Tua 3,500 o ddarnau unigol o ddur yn y brif bont droed
- Tua 1,200 o ddarnau unigol o ddur ar gyfer y rheilen warchod fewnol
Ariannu’r prosiect:
- Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU
- Lywodraeth Cymru
- Cyngor Sir Penfro
Statws y prosiect:
Wedi'i gwblhau
Gwybodaeth bellach:
Yn dilyn codi a gosod y bont yn llwyddiannus, agorwyd pont unigryw newydd Hwlffordd mewn seremoni a gynhaliwyd yn Glan-yr-afon ar 10 Hydref 2025. Dyfodiad y bont yw'r newyddion da diweddaraf i'r prosiect yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd y busnes lleol Tenby Brewing Company yn symud i hen Ffowndri Marychurch fel rhan o ddatblygiad Glan Cei'r Gorllewin, ochr yn ochr â Waldo Lounge.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, Aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro, Côr Ysgol Gymunedol Prendergast a berfformiodd yn yr agoriad a Henry Tufnell, AS Canolbarth a De Sir Benfro, a agorodd y bont droed yn swyddogol sy’n ychwanegiad arwyddocaol at dirwedd y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Mae’n wych gweld agoriad pont newydd y dref. Mae cysylltu datblygiad newydd Glan Cei'r Gorllewin, yr ydym yn disgwyl iddo fod ar agor a dan feddiannaeth lwyr dros y misoedd nesaf, â'r maes parcio newydd a'r gyfnewidfa fysiau (sy'n agor yn haf 2026) yn rhan bwysig o uwchgynllun ehangach Hwlffordd.”
Yn ogystal, mae prosiect Pont Droed Hwlffordd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer dwy wobr y Sefydliad Priffyrdd a Chludiant, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth a gynhelir yn ddiweddarach yn 2025.
Gwaith y Parth Cyhoeddus:
Mae gwaith y parth cyhoeddus gorffenedig yn cynnwys potiau plannu uchel wedi'u cynllunio i wella estheteg, hybu bioamrywiaeth a lleihau'r risg o lifogydd. Mae coed gwyntyllaidd ym mhotiau plannu’r ochr ogledd-orllewinol yn darparu sgrin, cysgod a strwythur, tra bod grid o goed yn diffinio'r sgwâr ac yn cadw golygfeydd o ffowndri hanesyddol y Cleddau. Mae potiau plannu yn cynnwys cymysgedd o blanhigion brodorol a phlanhigion sy'n hybu peillwyr. Maent wedi’u hadeiladu o waith bloc concrit â cherrig ar yr wyneb sydd wedi’u hadfer o'r hen faes parcio aml-lawr. Mae'r dyluniad yn ategu nodweddion treftadaeth cyfagos, gan gefnogi cynaliadwyedd, ac yn lleihau gwastraff. At ei gilydd, plannwyd 17 o goed newydd.
Budd cymunedol a gwerth cymdeithasol:
- Cyflogi hyfforddeion graddedig, prentisiaid, lleoliadau profiad gwaith trwy Cyfle, rhaglen Twf Swyddi Cymru a Mwy, Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG), a Gwaith yn yr Arfaeth.
- Ymgysylltu ag ysgolion trwy weithgareddau, cyflwyniadau a sgyrsiau.
- Ymgysylltu â’r gymuned trwy fynychu digwyddiadau, darparu arwyddion dynodi llwybr ac ati.
- Cyflogi is-gontractwyr a chyflenwyr ar y cynllun sydd i gyd yn fentrau bach a chanolig eu maint lleol yn Ne Cymru.
- Rhoddi’r trawstiau pren a’r byrddau decin plastig a atgyfnerthwyd â gwydr (GRP) a dynnwyd o ramp mynediad y llyfrgell i glwb HaverShed, sef sied i ddynion yn Hwlffordd, er mwyn iddynt ddefnyddio’r deunyddiau ar gyfer cynigion cymunedol yn y dyfodol.
- Cynnig cymorth i Gymdeithasau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i weld a oes unrhyw brosiectau cymunedol lleol y gallai'r contractwr eu cynorthwyo i wneud yn ystod oes y prosiect.
- Gosod rhai arwyddion cyfeirio i Glan-yr-afon fel rhan o’r gwaith yn ymwneud â gwerth cymdeithasol.
- Gwaith gwella i faes parcio Clwb Pêl-droed Hwlffordd yn stadiwm Bridge Meadows gan ddefnyddio’r deunyddiau dros ben o’r safle.
- Adleoli rhai o'r potiau plannu concrit presennol ar gyfer Canolfan Siopa Glan-yr-Afon i lôn yr hen bont er mwyn i'r cyngor osod planhigion newydd.