Castell Hwlffordd a Chyswllt y Castell
Disgrifiad o’r prosiect:
Mae prosiect adfywio uchelgeisiol Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd yn cynnwys ailddatblygu Castell Hwlffordd, adeilad y Carchar a Thŷ’r Llywodraethwr i ddod yn atyniad treftadaeth blaenllaw ar gyfer Sir Benfro.
Bydd yr atyniad newydd i ymwelwyr yn adrodd hanes Sir Benfro, yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn adeilad y Carchar ar ei newydd wedd, gyda chyfuniad arloesol o hanes ac arddangosfeydd technolegol rhyngweithiol hwyliog. Bydd yr atyniad yn gweithredu fel canolfan bwysig i dwristiaid, a bydd yn cyfeirio ymwelwyr at safleoedd treftadaeth allweddol eraill o amgylch y sir. Ar safle ehangach y castell, bydd stori Castell Hwlffordd yn cael ei hadrodd, a bydd Amgueddfa Hwlffordd ar ei newydd wedd yn Nhŷ’r Llywodraethwr yn canolbwyntio ar stori’r dref leol. Bydd ardal hefyd ar gyfer gweithgareddau theatr, cerddoriaeth a digwyddiadau eraill megis ffeiriau yn y clos mewnol.
Dyfarnwyd y prif gontract adeiladu i Morgan Sindall, ac mae’r gwaith eisoes wedi hen ddechrau gyda cham cyntaf y gwaith adeiladu, a fydd yn mynd ag adeilad y carchar yn ôl i gyflwr cragen a chraidd yn barod i wneud y gwaith gosod offer ar gyfer yr arddangosfa.
Dyfarnwyd y contract dylunio a’r gwaith o osod yr offer ar gyfer yr arddangosfa i The Creative Core, sy’n cydweithio â Chyngor Sir Penfro, Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd, rhanddeiliaid cymunedol ac amryw o ymgynghorwyr eraill i ddatblygu’r dyluniadau. Os bydd ceisiadau am gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr eraill yn llwyddiannus, bydd cam cyflawni’r gwaith o osod yr arddangosfa yn dechrau ym mis Medi 2026.
Mae is-brosiect i ailgysylltu’r castell â chanol y dref, a gwella sut mae canfod eich ffordd o amgylch y dref, ar y gweill ar hyn o bryd gyda’n contractwyr, Walters. Mae’r gwaith hwn i fod i gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2026.
Ariannu’r prosiect:
Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro. Mae cyllid pellach yn cael ei geisio.
Statws y prosiect:
Ar waith
Gwybodaeth bellach:
Dywedodd ymgynghoriad cymunedol a gynhaliwyd yn 2022 wrthym fod 88% o drigolion Hwlffordd, o’r 1,000 o bobl a holwyd, wedi cefnogi ailddatblygu’r castell fel atyniad i ymwelwyr, cartref amgueddfa’r dref a gofod cymunedol. Cred pobl leol y bydd cynlluniau Cyngor Sir Penfro yn gwneud Hwlffordd yn lle gwell i fyw ynddo, i weithio ynddo, ac i ymweld ag ef.
Mae ymgynghoriad mwy diweddar a gynhaliwyd yn 2025 gyda bron i 800 o drigolion Sir Benfro wedi creu gweledigaeth gyffredin o ganolfan ddiwylliannol fyw, ddwyieithog a chynhwysol sy’n uno hunaniaethau cymhleth Sir Benfro ac yn gwahodd cyfranogiad, dysgu a balchder. Dangosodd data meintiol awydd clir ymysg y cyhoedd am brofiadau difyr, tra bod mewnwelediadau ansoddol yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ystyr diwylliannol, cynhwysiant, a pherchnogaeth gymunedol.
Mae’r ymgynghoriad wedi cadarnhau na ddylai Castell Hwlffordd fod yn amgueddfa statig ond yn hytrach yn ofod deinamig, adfywiol, gan ddathlu hynodrwydd lleol, meithrin cyfranogiad creadigol, a chysylltu treftadaeth â dyfodol Sir Benfro.
Trwy gydol y prosiect, mae nifer o fanteision cymunedol wedi’u cyflawni mewn perthynas â recriwtio a hyfforddiant wedi eu targedu, cyfleoedd cadwyn gyflenwi, a mentrau cymunedol amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
- Ffair Gyrfaoedd a gynhaliwyd hefyd ar 29 Hydref 2024 yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
- Cylchlythyr sy’n cael ei gylchredeg yn rheolaidd i drigolion lleol
- Rhodd Banc Bwyd y Nadolig, gwerth tua £300, ym mis Rhagfyr 2024
- Noddi Noson Wobrwyo Prentisiaethau Coleg Sir Benfro, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2024
- Lleoliad gwaith 16 wythnos ar gyfer ymgeisydd Gwaith yn yr Arfaeth, wedi’i ddilyn gan gyflogaeth barhaus ar y safle gyda SJB Brickwork, sy’n gontractwr lleol
- Ymweliad safle a sgwrs gyrfaoedd i fyfyrwyr prifysgol
- Digwyddiad Cysylltiadau Gyrfa SPARC, a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2025 yng Ngholeg Sir Benfro
- Cyfarfodydd rheolaidd â thrigolion er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y prosiect