Ceir De, Penfro

 

Disgrifiad o’r prosiect:

Bwriad y prosiect yw ailddatblygu’r safleoedd adfeiliedig yng Nghei’r De, Penfro mewn ffordd sy’n gwella Penfro er mwyn dod â’r safle pwysig hwn yn ôl i ddefnydd llawn a chynhyrchiol. Y nod yw creu datblygiad a fydd yn darparu safle defnydd cymysg effeithlon sydd wedi’i gynllunio’n dda ar gyfer hamdden, masnach a chyfleusterau dinesig.

 

  • Cam 1 – Adnewyddu ac ailadeiladu eiddo adfeiliedig yn Rhes y Castell (ger y Castell) a chreu canolfan ymwelwyr gyhoeddus newydd, llyfrgell a chaffi.
  • Cam 2 - Canolfan gymorth cymdeithasol bwrpasol i ddarparu gwasanaethau wedi’u cydleoli mewn cyfleuster newydd pwrpasol i ddarparu cymorth, hyfforddiant a therapi i aelodau’r gymuned a allai fod dan anfantais oherwydd heriau cymdeithasol neu iechyd. Bydd y ganolfan yn darparu mynediad at ddau wasanaeth a fydd yn cael eu trefnu fel endidau ar wahân o fewn trefniant yr adeilad - canolfan gofal dyddiol a chanolfan hyfforddi mentrau cymdeithasol.
  • Mae tir cyhoeddus wedi’i thirlunio yn cysylltu’r ddau gam yn un ganolfan wasanaethau gydlynol yng nghanol y dref

 

Ariannu’r prosiect:

  • Cyfanswm gwerth y prosiect – £27.5 miliwn
  • Roedd y prosiect yn destun contract galluogi cychwynnol i ddiogelu’r adeiladau, gyda swm y contract cyfredol ar gyfer y prosiect yn £18.1 miliwn.
  • Cyllid drwy fatrics o’r canlynol: Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£5.8 miliwn), Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (£6.5 miliwn), Cronfa Ffyniant Bro y DU (£4.16 miliwn), gyda’r gost a’r prif gydbwysedd yn cael eu darparu gan Cyngor Sir Penfro (£10.8 miliwn).

 

Statws y prosiect:  

Ar y gweill

 

Gwybodaeth bellach:

Creu datblygiad a fydd yn darparu safle defnydd cymysg effeithlon sydd wedi’i gynllunio’n dda ar gyfer hamdden, masnach, cyfleusterau dinesig, preswyl a chyflogaeth.

Bydd cyflawni cynllun Cei’r De yn darparu ar gyfer y canlynol:

  • adfywio adeiladau o ansawdd uchel
  • gwella treflun canol tref Penfro a’r hyn sydd ganddi i’w cynnig
  • man dinesig a rennir ar gyfer llyfrgell a Chanolfan Ymwelwyr Harri Tudur
  • ystod briodol o unedau dinesig a masnachol
  • athreiddedd y parth cyhoeddus; cysylltu a gwella cyffiniau asedau allweddol y castell a Phwll y Felin

 

 logos

 

ID: 13784, adolygwyd 30/10/2025