Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw adeiladu ar enw da Sir Benfro fel lle gwych i ymweld ag ef a sicrhau ei fod yn dod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo hefyd. Mae technoleg wedi trawsnewid ein hanfantais flaenorol o fod yn anghysbell i fod yn rhywbeth cadarnhaol, lle mae gweithio o gartref mewn lleoliad hardd bellach yn realiti i lawer. Mae wedi agor byd o bosibiliadau lle gellir byw mewn un lleoliad a gweithio yn rhywle hollol wahanol.
Mae hynny’n rhoi cyfle unigryw inni yma yn Sir Benfro yr ydym yn gweithio i’w wireddu. Mae ein dull adfywio yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn darparu popeth sydd ei angen ar ein sir i ddatblygu’n lle gwych i fyw a gweithio ynddo y gwyddwn y gall fod.
Mae hynny’n golygu:
- Ail-lunio ein hamgylchedd adeiledig – drwy fuddsoddiadau sylweddol i roi hwb i drawsnewid ac adfywio ein sir a’n trefi allweddol.
- Gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o swyddi peirianneg glân a gwyrdd sy’n canolbwyntio ar Ddyfrffordd y Ddaugleddau.
- Sicrhau bod ein cynnig twristiaeth o’r radd flaenaf yn dod hyd yn oed yn gryfach, gan ryddhau’r diwydiant o gaethiwed cynnig twristiaeth a gynhelir gan y sector cyhoeddus a grymuso darparwyr a busnesau i arwain wrth reoli a marchnata’r gyrchfan honno i’r byd.
Bydd cyflawni ein gweledigaeth o wneud Sir Benfro yn lle gwych i ymweld ag ef, i fyw a gweithio ynddo, yn cael ei fesur yn erbyn y targedau canlynol:
Mewn cysylltiad ag eraill:
- Llundain ar y trên mewn llai na phedair awr
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- Canolfannau trefol cyffrous, bywiog
- Cartref ynni gwyrdd y DU
- Porthladd rhydd Aberdaugleddau
- Y gyrchfan a reolir orau yn y DU
- Ffordd wych o fyw
- Cyfleoedd gwaith medrus
Dewch i gael gwybod am:
- Cyrchfan dwristaidd o’r radd flaenaf gyda brand a phresenoldeb marchnata hyd yn oed yn gryfach
- Y gyrchfan i fynd iddi ar gyfer digwyddiadau mawr