Glan Ceir Gorllewin, Hwlffordd

 

Disgrifiad o’r prosiect:

Mae prosiect Glan Cei’r Gorllewin yn Hwlffordd yn fenter adfywio allweddol sydd â’r nod o adfywio canol y dref trwy drawsnewid lleoliad amlwg ar lan yr afon yn gyrchfan fywiog ac amlbwrpas. Mae’r prosiect yn cynnwys ailddatblygu siop adrannol adfeiliedig yn adeilad cymysg ei ddefnydd, yn cynnwys bwyty ac unedau masnachol hyblyg.

 

Dyma amcanion y prosiect:

  • Gwella apêl weledol a bywiogrwydd ardal glan yr afon.
  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.
  • Gwella’r parth cyhoeddus gyda thirlunio a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel.
  • Cyfrannu at y gwaith ehangach o adfywio Hwlffordd drwy ddenu ymwelwyr a chreu cyrchfan fwy deniadol.
  • Hyrwyddo cynaliadwyedd trwy ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a bioamrywiaeth well gydag elfennau seilwaith gwyrdd.

 

Ariannu’r prosiect:

  • Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
  • Cyllid cyfalaf Cyngor Sir Penfro

 

Statws y prosiect:  

Mae datblygiad Glan Cei'r Gorllewin wedi’i gwblhau, gyda hen Ffowndri Marychurch i’w chwblhau Chwefror 2026.

 

Gwybodaeth bellach:

Darganfyddiad archaeolegol

Yn 2022, cwblhaodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gloddiadau ar y safle ac, yn ystod y gwaith adeiladu, datgelwyd canfyddiadau archaeolegol arwyddocaol a oedd yn gofyn am gloddio archaeolegol helaeth ar y safle. Cynhaliwyd hyn gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a datgelodd lawer o ddarganfyddiadau diddorol a phwysig, gan gynnwys arteffactau hanesyddol a chladdedigaethau dynol yn dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif. Roedd y gwaith hwn yn gyfle gwych i’r tîm cloddio a’r cyhoedd ddysgu mwy am ardal yn y dref sydd â gwerth hanesyddol sylweddol.

Ar un adeg, roedd ffowndri haearn o’r 19eg i’r 20fed ganrif ar y safle ond, oddi dani, daeth tystiolaeth o fynwent i’r amlwg, mynwent y credir ei bod yn gysylltiedig â mynachlog ganoloesol y Gwaredwr Sanctaidd (St. Saviour’s), nad yw ei lleoliad union erioed wedi’i gadarnhau. Dywedodd Fran Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed: ‘Dyma’r cloddiad archaeolegol mawr cyntaf i ddigwydd yn nhref ganoloesol Hwlffordd a bydd yn dweud cymaint wrthym am ddatblygiad parhaus y dref lewyrchus hon drwy’r oesoedd, a’i chysylltiad hanfodol ag afon Cleddau Wen.

‘Bydd yn rhoi cipolwg inni ar sut roedd pobl yn byw ac yn marw, eu galwedigaethau, beth roedden nhw’n ei fwyta a’i yfed hyd yn oed, a bydd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am flynyddoedd i ddod.’

Fideo: Cloddio archaeolegol - Glan Ceir Gorllewin Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)

 

Capsiwl amser Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi gadael anrheg i genedlaethau’r dyfodol ar y safle. Llenwodd y myfyrwyr Blwyddyn 7 gapsiwl amser gydag eitemau er mwyn dangos sut beth yw eu bywyd yn 2023. Roedd y prosiect capsiwl amser, dan arweiniad y contractwyr datblygu John Weaver (Contractors) Ltd, yn caniatáu i ddysgwyr ganolbwyntio ar eu tref yn ogystal â’r darganfyddiadau archaeolegol cyffrous a ddarganfuwyd yn ystod yr adeiladu. Dywedodd Victoria Hooper, Athrawes y Dyniaethau yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd: “Teimlai disgyblion Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn freintiedig o fod yn gwneud hanes fel rhan o brosiect y capsiwl amser. Fe wnaethon nhw fwynhau trafod syniadau, ysgrifennu am fywyd a digwyddiadau yn 2023 a llenwi’r capsiwl amser â ffotograffau, darnau arian, stamp, tei ysgol a hyd yn oed hen ffôn symudol.”

Oherwydd pwysigrwydd hanesyddol y safle datblygu a’r darganfyddiadau archaeolegol, cytunwyd bod claddu capsiwl amser yn ffordd addas o gysylltu â dyfodol yr ardal.

Am fwy o wybodaeth: Capsiwl amser Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)


Waldo Lounge

Loungers oedd y tenant cyntaf yn natblygiad Glan Cei’r Gorllewin Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd, gyda’r cwmni lletygarwch yn meddiannu llawr gwaelod yr adeilad, rhan o gynllun adfywio hirdymor y cyngor ar gyfer y dref sirol.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: “Rwy’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gyhoeddi’r denantiaeth gyntaf ar gyfer Glan Cei’r Gorllewin. Mae Loungers yn rhannu ein huchelgais a’n potensial ar gyfer datblygiad Glan Cei’r Gorllewin yng nghanol Hwlffordd. Bydd Glan Cei’r Gorllewin yn chwarae rhan allweddol wrth wella nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd yn Hwlffordd ac mae Loungers yn cyd-fynd yn berffaith â’r weledigaeth honno.

“Rhan bwysig o ethos Loungers yw elfen gymunedol ei gaffis a’i fariau cymdogaeth a’i ymrwymiad i weithio gyda grwpiau, elusennau, sefydliadau a busnesau lleol ac edrychwn ymlaen at weld hynny’n parhau yn Hwlffordd.

“Fel cyngor, rydym wedi bod yn glir na fyddwn yn eistedd ar ein rhwyfau a gadael i ganol ein trefi ddirywio ac mae hwn yn gam pwysig ymlaen.

 


Hen Ffowndri Marychurch

Mae’r cwmni poblogaidd Tenby Brewing Company wedi cytuno ar delerau pennawd i brydlesu hen Ffowndri Marychurch yng Nglan Cei'r Gorllewin, gan gydnabod y cyfleoedd cyffrous a ddarperir gan y datblygiad.

Mae Tenby Brewing Company wedi bod yn bragu cwrw annibynnol llawn blas ers 2015, gan ddefnyddio’r cynhwysion o’r ansawdd gorau a dŵr pur Sir Benfro, gyda’r cynnig a sefydlwyd yn Ninbych-y-pysgod ac Arberth bellach wedi’i ymestyn ymhellach ar draws y sir.

Bwriad y lleoliad newydd yw gweini cwrw a seidr Tenby Brewing Company, sydd eisoes ar gael mewn llawer o dafarndai, siopau a bwytai ledled y DU. Bydd y cydweithio ag amrywiaeth o gyflenwyr gwadd yn golygu bod bwyd stryd ar gael hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae Glan Cei’r Gorllewin yn rhan bwysig o’n cynllun adfywio hirdymor ar gyfer y dref sirol, ac mae hwn yn gam pwysig arall ymlaen. Mae’n wych cael Tenby Brewing Company yma.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr y cwmni, James Beaven: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod ein bar newydd sbon yn Hwlffordd bellach ar agor. Mae wedi’i leoli ar lan yr afon hardd yn yr ardal ddatblygu newydd fywiog gyferbyn â’r bont newydd. Mae’r ffowndri’n rhan o dreftadaeth ddiwydiannol y dref ac rydym yn teimlo’n freintiedig ein bod ni’n cael rhoi bywyd newydd i’r hen adeilad carreg. Bydd y bar yn gweini detholiad sy’n newid yn gyson o gwrw crefft ffres wedi’i fragu gan Tenby Brewing Co., ochr yn ochr â bwydlen fwyd stryd wych.”


Am fwy o wybodaeth: Bragdy poblogaidd yn ne Sir Benfro i ymuno ag adfywiad Hwlffordd

 

Am fwy o wybodaeth: 

Dyfarnwyd Prosiect Cei’r Gorllewin i JWC gyda Chyngor Sir Penfro (yn agor mewn tab newydd)

 logos

 

 

ID: 13785, adolygwyd 19/03/2026