Lleoedd llewyrchus
Mae agenda Creu Lleoedd Cyngor Sir Penfro yn ddull agored o lunio trefi a mannau cyhoeddus mewn ffyrdd sy’n gwella gwerth a rennir. Y nod yw creu lleoedd sy’n fywiog, yn gynhwysol ac yn ystyrlon – lleoedd lle mae pobl yn naturiol eisiau byw, gweithio, chwarae a chysylltu.
Egwyddorion craidd creu lleoedd
1. Wedi’i yrru gan y gymuned:
Trigolion lleol, busnesau a rhanddeiliaid sy’n arwain ac yn llunio’r broses.
2. Dylunio ar raddfa ddynol:
Pwyslais ar gysur a hygyrchedd a’i gwneud yn hawdd i gerdded.
3. Mannau aml-ddefnydd:
Mae’n cynnig lle ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau – o siopa mewn marchnadoedd a gwylio perfformiadau i ymlacio a chwarae.
4. Hunaniaeth a chymeriad lleol:
Yn dathlu diwylliant, hanes a gwerthoedd unigryw’r gymuned.
5. Cysylltedd cymdeithasol:
Yn meithrin rhyngweithio cymdeithasol, cynhwysiant, ac ymdeimlad o berthyn.
6. Yn addasu ac yn esblygu:
Yn cynnwys adborth a gwelliant parhaus.
Mae pobl yn ganolog i strategaeth gynllunio, dylunio a rheoli gofodau Creu Lleoedd. Mae’n cynnwys cynllunio, dylunio, rheoli a bywiogi gofodau i gefnogi iechyd, hapusrwydd a llesiant cyffredinol pobl.
Ein mentrau diweddar:
Dynodi llwybr/sut mae canfod eich ffordd o amgylch Hwlffordd
Mae arwyddion newydd bellach wedi’u gosod ar draws Hwlffordd er mwyn tywys ymwelwyr o Lan-yr-afon, cyfnewidfa drafnidiaeth newydd Hwlffordd, trwy ac o amgylch canol y dref ac ymlaen tuag at gastell Hwlffordd. Cynlluniwyd cyfres o fynegbyst a monolithau mapiau sy’n unigryw i Hwlffordd er mwyn adrodd hanes cyfoethog y dref, yn ogystal â darparu gwybodaeth am sut i deithio yma ac acw. Yn ogystal â hyn, dyluniodd yr artist Simon Watkinson ddynodwyr llwybr a meinciau creadigol wedi’u gwneud o ithfaen wedi’i ysgythru a’i lathru a phaneli enamel dau ddimensiwn i gyd fynd â’r arwyddion.
Dynodi llwybr/sut mae canfod eich ffordd o amgylch Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Gorymdaith Lusernau Hwlffordd
Yn 2024, comisiynodd Cyngor Sir Penfro brosiect dan arweiniad y gymuned, a gynlluniwyd i ddod â phobl ynghyd trwy oleuni a cherddoriaeth. Wedi ei hariannu gan Lywodraeth y DU, bu’r fenter yn gweithio mewn partneriaeth ag artistiaid lleol a gwirfoddolwyr o Gelfyddydau SPAN i greu gorymdaith lusernau yn Hwlffordd, gyda’r nod o gryfhau’r ymdeimlad o berthyn a chymuned ar draws canol y dref trwy brofiad creadigol wedi ei rannu.
Arweiniwyd yr orymdaith gan fand offerynnau taro Samba Doc, gydag aelodau o ganolfannau cymunedol yn dilyn, ynghyd â grwpiau o ysgolion cynradd a greodd eu llusernau eu hunain gyda chymorth Celfyddydau SPAN. Daeth y digwyddiad i ben gyda pherfformiad tân gan y Pembrokeshire Fire Spinners, yn dathlu Hwlffordd trwy greadigrwydd ar y cyd, a chyfranogiad gan y gymuned.
Fideo o orymdaith lusernau Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)
Prosiect Balŵn TEXTure
Ar ôl darganfod lliain bwrdd brodiog Hwlffordd, sy’n cynnwys enwau pobl leol o 1914 a 1923, ymunodd Cyngor Sir Penfro â’r artistiaid Neil Musson a Jono Retallick (M+R) i ddatblygu prosiect yn dathlu treftadaeth leol, sy’n pontio’r cenedlaethau. Wedi ei gomisiynu gan y cyngor a’i ariannu gan Lywodraeth y DU, aeth y prosiect ati i greu balŵn aer poeth pum metr fel symbol o gysondeb y gymuned dros amser.
Bu Musson a Retallick yn cydweithio â Choleg Sir Benfro, Eglwys y Santes Fair, Canolfan Ieuenctid The Edge, a HaverHub. Daeth y prosiect i’w anterth mewn digwyddiad cyhoeddus yn Sgwâr y Castell, lle casglwyd 285 o lofnodion newydd i’w rhoi ar y balŵn ochr yn ochr ag enwau hanesyddol o’r lliain bwrdd. Yna, hedfanwyd y balŵn aer poeth dros wahanol leoliadau yn Hwlffordd, gan gynrychioli cenedlaethau’r gorffennol a chenedlaethau’r presennol o gymuned y dref.
Fideo o brosiect balŵn TEXTure (yn agor mewn tab newydd)
Cantata ‘Plant St Saviour’
Fel rhan o Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn 2024, comisiynwyd y cyfansoddwr Alex McGee gan Gyngor Sir Penfro, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU, i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i greu cantata sy’n dathlu hanes Hwlffordd.
Bu McGee yn cydweithio ag Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton, Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, Cerddorfa Ieuenctid Sir Benfro, a Band Pres De Cymru i ddatblygu darn a ysbrydolwyd gan gloddiad archaeolegol yn Hwlffordd. Yn 2022, daeth gwaith cloddio ar draws gweddillion dros 240 o unigolion ar safle lle credir bod Priordy Sant Saviour wedi sefyll. Wedi ei daro’n ddirfawr gan nifer y plant a ddarganfuwyd yn ystod y cloddiad, roedd McGee yn awyddus i gynnwys pobl ifanc drwy gydol y broses greadigol.
Perfformiwyd y cantata gorffenedig yn gyhoeddus ar lan yr afon, gyda baneri wedi eu creu gan ysgolion cynradd lleol gyda chymorth Celfyddydau SPAN, gan greu dathliad gweledol a cherddorol o dreftadaeth y dref.
Creu fideo Cantata Plant St Saviour (yn agor mewn tab newydd)
Celf ar Droed Abergwaun ac Wdig
Mae Theatr Byd Bach wedi datblygu tair llwybr celf sy’n cysylltu Abergwaun ac Wdig, gwaith a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Penfro ac a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Daeth y prosiect â cherflunwyr lleol ac artistiaid digidol ynghyd i greu llwybrau wedi eu hysbrydoli gan arfordir a thirwedd nodedig yr ardal—nodweddion sydd ag arwyddocâd cryf i’r gymuned leol.
Cafodd cynllun y llwybrau, gan gynnwys eu themâu a’u cynnwys, ei lunio gyda mewnbwn oddi wrth drigolion o bob oed a gallu, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu gwerthfawrogiad a hunaniaeth gyffredin Abergwaun ac Wdig.
Mae’r prosiect hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr artistiaid a fu’n cymryd rhan, gan gynnal datblygiad gyrfaoedd a chyfleoedd. Dywedodd un artist lleol fod ymwneud â Theatr Byd Bach wedi arwain at waith llawrydd parhaus, a thynnodd sylw at werth y profiad a’r mentora a gafodd drwy gydol y prosiect.