Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Trosolwg ac Amserlen

Cynllunio Lleol yn adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn rheolaidd. Dechreuodd Cyngor Sir Penfro adolygu ei CDLl ar 5ed Mai 2017.

Arwynebedd Cynllun Amgen Cyngor Sir Penfro yw Sir Benfro, ac eithrio mannau yn y Parc Cenedlaethol.

Diben adolygu yw sicrhau bod y CDLl yn aros yn gyfredol. Mae adolygu’n rhoi cyfle i wneud newidiadau i’r Cynllun, os oes gofyn.

 

Cyfnod allweddol

Amseriadau pendant ac arwyddol*

Adroddiad yr Adolygiad Dechreuwyd paratoi ym mis Mai 2017, gyda’r ddogfen i’w chyhoeddi ar gyfer ymgynghori anffurfiol ym mis Tachwedd 2017, ochr yn ochr â’r Cytundeb Cyflawni. 
Cytundeb Cyflawni Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni cychwynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae tri rhifyn arall, yn 2020, 2023 a 2024 wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ers hynny.  Mae CSP felly yn gweithio i rifyn 2024 ar hyn o bryd.
Strategaeth Ddewisol  Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng Rhagfyr 2018 a Chwefror 2019. Cafwyd ymgynghoriad pellach, wedi’i dargedu, Ionawr a Mawrth 2022, mewn ymateb i fater cronfa ddata.
Adneuo Cyntaf Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng 15 Ionawr a 18 Mawrth 2020.
Ailadneuo Ailymwelir â’r cam Adneuo gydag ymgynghoriad Adneuo newydd yn dechrau mis Hydref 2024
Cyflwyniad i Lywodraeth Cymru Erbyn mis Mehefin 2025
 Archwiliad* Hydred / gaeaf 2025 
 Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd Mawrth 2026 
 Mabwysiadu* Mai 2026

 

 

 

 

 

Sut ydw i’n cymryd rhan

Os hoffech chi gael eich hysbysu o gynnydd wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol 2, anfonwch e-bost at ldp@pembrokeshire.gov.uk, gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ac a fyddai’n well gennych gael cyswllt trwy e-bost neu bost. Ar gyfer y rheini heb gyfrif e-bost, ffoniwch 01437-764551 a gofynnwch am gael eich trosglwyddo i’r tîm Cynllun Datblygu Lleol.

ID: 2539, adolygwyd 26/09/2024