Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Adneuo
Mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a fydd yn darparu canllawiau trosfwaol ar gyfer datblygiadau tan 2033. Bydd yn cynnwys ardal Sir Benfro ac eithrio'r Parc Cenedlaethol.
Mae’r ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo 2 (y Cynllun) yn nodi angen am 5,840 o gartrefi newydd rhwng 2017 a 2033 (365 y flwyddyn), gan gynnwys 2,000 o gartrefi fforddiadwy.
Cynghorir trigolion i edrych ar destun y cynllun a’r mapiau i weld cynigion yn eu hardal. Mae'r cynllun yn cynnig ffiniau diwygiedig ar gyfer trefi a phentrefi (a elwir yn ffiniau aneddiadau) ac mae ystod o safleoedd yn cael eu dyrannu (eu nodi) ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, gan gynnwys 54 o safleoedd ar gyfer tai.
Nid yw’n bosibl bwrw ymlaen ag unrhyw sylwadau a wnaed ar y Cynllun Datblygu Lleol Adnau 2 cyntaf.
Cyfyngiadau mapiau rhyngweithiol (diweddaru'n rheolaidd) Ddim yn rhan o'r Cynllun Adnau
Gwerthusiad cynaladwyedd ac asesiad amgylcheddol strategol
Adroddiad ymgynghori cychwynnol - sgroliwch i lawr ar gyfer yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol
Edrychwch yn ôl ar y dudalen hon am unrhyw ddiweddariadau