Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Arfarniad Rheoli Cynefinoedd
Mae Strategaeth Ddewisol y CDLl wedi cael ei sgrinio er mwyn penderfynu a fydd hi’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd sydd wedi cael eu dynodi oherwydd y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd ynddynt (Safleoedd Natura 2000). Mae’r broses hon yn rhan o’r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Rhoddir ystyriaeth i 21 o safleoedd Natura 2000 yn Sir Benfro neu sydd ar bwys ffin ardal y cynllun. Un enghraifft o safle Natura 2000 yn Sir Benfro yw AGA Afon Cleddau.
Mae sgrinio’r ARhC yn ceisio rhagfynegi’r effeithiau posibl a gaiff strategaeth ddewisol y CDLl ar safleoedd Natura 2000. Ni wyddys i sicrwydd ar hyn o bryd a allai’r CDLl gael effaith sylweddol debygol ar safleoedd Natura 2000.
Y camau a gwblhawyd ym mhroses y GRhC
Mae GRhC wedi cael ei gynnal ar Fersiwn a Adneuwyd y CDLl, ac mae’r adroddiad wedi dod i’r casgliad na fydd y Cynllun yn cael effaith sylweddol debygol ar y safleoedd Ewropeaidd. Mae’r adroddiad ar gael i ymgynghori yn ei gylch o 15 Ionawr 2020 tan ar 18 Mawrth 2020. Dylid rhoi sylwadau ar y ffurflen ymateb sydd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 yr Adroddiad GRhC a gellir defnyddio’r ddolen isod hefyd i’w lawrlwytho. Hysbyswyd yr ymgyngoreion statudol a byddant hefyd yn gwneud sylwadau ar yr ArfarniadRheoliadau Cynefinoedd.
HRA Report Non-Technical Summary
Cafodd Dewis Strategaeth y CDLl ei sgrinio er mwyn penderfynu a fyddai e’n cael unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, o bosibl, ar y safleoedd Ewropeaidd sydd wedi cael eu dynodi oherwydd y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd ganddynt (safleoedd Natura 2000). Mae’r broses hon yn rhan o’r Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC).
Sgrinio Dewis Strategaeth y GRhC
Sylwer: dogfen dechnegol yw’r Adroddiad Sgrinio ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ei chylch. Mae’r ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig.