Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

 Cynhaliwyd Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y Strategaeth a Ffefrir.

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn nodi dyletswyddau penodol yr Awdurdod i asesu ac ymgynghori ar effaith ei bolisïau arfaethedig ar bobl sy'n cael eu gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a’i allu i gyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu duedd rywiol yn dod o fewn y Ddeddf.

Mae'r gofyniad i asesu effaith yn golygu bod rhaid i'r Awdurdod ystyried tystiolaeth berthnasol er mwyn deall effaith debygol neu wirioneddol polisïau ac arferion ar grwpiau gwarchodedig.

 

Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw’r polisi neu'r arferiad yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon, nodi unrhyw effeithiau niweidiol ar grwpiau a warchodir, ystyried sut y gallai’r polisi neu’r arferiad hyrwyddo cyfle cyfartal yn well ac ystyried a fydd y polisi’n effeithio ar y cysylltiadau rhwng grwpiau gwahanol.

Cynllun Asesiad

Strategaeth a Ffefrir Strategaeth a Ffefri Asesiad Effaith Cydraddoldebau

ID: 2605, adolygwyd 30/09/2024