Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd
Canlyniadau Cam 1 yr Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd (ASGLl) (Safleoedd Ymgeisio)
Canlyniadau Cam 1 yr Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd (ASGLl) (Safleoedd Dyrannu CDL1 Presennol)
Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Cam 1 De-orllewin Cymru, Adroddiad Terfynol, Tachwedd 2022
Paratowyd gan: JBA Consultancy (Jeremy Benn Associates Limited)
Comisiynwyd gan: Chwe Awdurdod Cynllunio Lleol yn Ne-orllewin Cymru – Cyngor Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Disgrifiwyd gan JBA Consultancy fel a ganlyn:
‘Astudiaeth ddesg yw'r Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Cam 1 hwn sy’n coladu gwybodaeth a oedd yn bodoli eisoes er mwyn cynnal asesiad eang o beryglon llifogydd posibl ar draws ardal gyfan yr astudiaeth (De-orllewin Cymru) o bob ffynhonnell llifogydd. Mae'r astudiaeth yn nodi ardaloedd sydd â risg uchel bosibl o lifogydd yn ogystal â darparu manylion am ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol ac unrhyw fanylion am unrhyw adeileddau neu weithdrefnau rheoli perygl llifogydd presennol’. © Jeremy Benn Associates Limited
Mae’r ddogfen hon yn gomisiwn rhanbarthol, sydd ar gael yn Saesneg yn unig. Cysylltwch â Thîm Cynlluniau Datblygu Cyngor Sir Penfro os hoffech weld copi (E-bost: ldp@pembrokeshire.gov.uk neu Ffôn: 01437-764551 a gofynnwch am Gynlluniau Datblygu).