Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Atodiad F i'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol – sylwadau a gafwyd ar y Strategaeth a Ffefrir yn ystod yr ymgynghoriad pellach, wedi'i dargedu, ar y ddogfen honno a dogfennau cysylltiedig eraill, 2022
Mae'r un ymateb i'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ac ymateb ac argymhelliad swyddogion CSP mewn perthynas â hyn wedi'u nodi yn y tabl isod a chymerir ei fod yn gyfystyr â gwrthwynebiad i'r ddogfen honno:
ID Rhanddeiliad: 4277 ar ran ID Rhanddeiliad: 34376
Testun llawn y sylwadau:
Strategaeth a Ffefrir – Cyfle cyfyngedig i wneud Sylwadau i'r rhai a Eithriwyd yn Flaenorol – Cyfeirnod safle 524 tir sy'n wynebu'r B4586, Jeffreyston, Sir Benfro, SA68 0RN
Ar ran ID Rhanddeiliad: 34376 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Gwrthwynebydd'), yn flaenorol mae ID Rhanddeiliad: 4277 wedi paratoi a chyflwyno:-
- Cais Safle Ymgeisiol mewn perthynas â'r ardal uchod o dir
- Gwrthwynebiad i beidio â chynnwys yr un darn o dir hwnnw o fewn terfynau'r CDLl ar gyfer Jeffreyston
- Gwrthwynebiad i gynnwys y safle a ddyrannwyd HSG/047/00018 – 'I’r Gogledd o Sunnyside' o fewn y CDLl Adneuo.
Cyflwynwyd yr holl sylwadau hwyr hyn mewn perthynas â’r Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol / CDLl Newydd Sir Benfro 2017-2033 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'CDLl2').
Caniatawyd iddynt fel rhan o 'gyfle pellach wedi’i dargedu’ ar gyfer ceisiadau Safle Ymgeisiol a gynigiwyd yn hwyr gan yr ACLl i oresgyn y ffaith bod y Gwrthwynebydd ac eraill wedi'u heithrio o'r broses Safleoedd Ymgeisiol a'r cyfnod gwrthwynebu ffurfiol ar gyfer Drafft Adneuo CDLl2.
Cydnabyddir bod gan y Gwrthwynebydd, yn 2017, ddisgwyliad dilys y byddai’n cael gwybod am ymgyngoriadau ar y CDLl yn y dyfodol ac y byddai felly wedi gallu cymryd rhan ym mhroses y CDLl ar y camau ffurfiannol pwysig.
Fodd bynnag, oherwydd 'gwall gweinyddol annisgwyl yn 2017' (llythyr yr ACLl at y Gwrthwynebydd, dyddiedig 20 Gorffennaf 2021), gwrthodwyd cyfle i'r Gwrthwynebydd gymryd rhan.
Derbynnir bod cyfranogiad ac ymgynghoriad cyhoeddus yn ganolog i’r broses gynllunio statudol. Yn wir, mae gofyniad cyfreithiol ar gyfer ymgynghori i’w gael mewn nifer o ddarpariaethau statudol, ar draws y gyfundrefn gynllunio gyfan, gan gynnwys cynhyrchu cynlluniau datblygu.
Mae'r Gwrthwynebydd yn teimlo'n gryf y bu annhegwch gweithdrefnol sy'n achosi niwed sylweddol i’w sefyllfa wrth geisio hyrwyddo potensial datblygu ei dir yn Jeffreyston.
Mae'r cysyniad o gyfiawnder naturiol yn cynnwys rhai egwyddorion cyfreithiol sydd, gyda'i gilydd, yn gyfystyr â 'thegwch gweithdrefnol' wrth wneud penderfyniadau gweinyddol. Mae'n cyd-fynd yn agos â'r syniad o gyfranogiad y cyhoedd, elfen allweddol o system Cynllunio Gwlad a Thref y DU.
Dylai'r ACLl fod wedi cynnal trafodion y CDLl fel bod pob cyfranogwr yn y cam cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol wedi cael cyfle rhesymol i nodi tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ar y materion perthnasol sy'n effeithio ar eu safleoedd hwy neu safleoedd trydydd parti eraill yn y priod anheddiad. Roedd angen i bob Safle Ymgeisiol posibl fod wedi cael ei nodi ar y dechrau neu fod wedi dod i'r amlwg cyn penderfyniad ffurfiol a chyhoeddi CDLl Drafft.
Mae'r broses o baratoi CDLl yn eithaf cywir yn darparu ffynhonnell bosibl o ddisgwyliadau cyfreithlon ynghylch hawliau gweithdrefnol. Yn wir, yn nigwyddiad arloesol Uwchgynhadledd y Ddaear gan y Cenhedloedd Unedig yn Rio yn 1992, datganwyd fel a ganlyn: -
'... mae’n well ymdrin â materion amgylcheddol gyda chyfranogiad yr holl ddinasyddion dan sylw, ar y lefel berthnasol...’ ac '... y dylai pob unigolyn gael ... y cyfle i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu...' (Egwyddor 10)
Yn R v Brent London Borough Council, Ex p Gunning (1985) 84 LGR 168, cadarnhawyd fel a ganlyn:-
‘… Mae'n sail gyffredin, pa un a yw ymgynghori â phartïon â buddiant a'r cyhoedd yn ofyniad cyfreithiol ai peidio, os eir at i wneud hynny, rhaid ei wneud yn briodol. I fod yn briodol, rhaid ymgynghori ar adeg pan fo cynigion yn dal i fod ar gam ffurfiannol ..." (Fy mhwyslais i)
Yn Majed v Camden (2010) EWCA Civ 1029, er enghraifft, dywedwyd fel a ganlyn:-
‘… Daw disgwyliad dilys i rym pan fydd addewid neu arfer i wneud mwy na'r hyn sy'n ofynnol gan statud. Mae'n ymddangos i mi bod y Datganiad yn enghraifft batrymol o addewid ac arfer o'r fath ... Byddai'n anodd dychmygu datganiad mwy diamwys ynghylch pwy fyddai, a phwy na fyddai, yn cael eu hysbysu ... achos amlwg o dorri disgwyliad dilys yr apelydd y byddai'n cael ei hysbysu …’.
Os oes annhegwch gweithdrefnol sy'n achosi niwed sylweddol i barti wrth benderfynu ar gynnig cynllunio, gallai hynny fod yn sail dda i ddileu'r penderfyniad. Mae’r rheolau gweithdrefnol ar gyfer paratoi CDLl wedi esblygu i roi cymorth i gyflawni'r amcan o degwch gweithdrefnol, gan osgoi peryglon a hyrwyddo effeithlonrwydd. Serch hynny, nid yw canllawiau'r CDLl ynddynt eu hunain yn god cyflawn ar gyfer sicrhau tegwch gweithdrefnol ac mae cyfrifoldeb sylweddol yn gorwedd gyda'r ACLl, y mae dyletswydd arno i weithredu'n deg.
Yn wir, mae Llysoedd Uwch y DU wedi dileu penderfyniadau yn rheolaidd ar sail annhegwch gweithdrefnol.
Yn yr achos penodol hwn, bu achos amlwg o torri cyfiawnder naturiol, gan nad yw'r Gwrthwynebydd wedi cael digon o gyfle i hybu a hyrwyddo rhinweddau ei safle yng nghyd-destun y ‘chwarae teg’ a fodolai ar adeg cyflwyno'r Safleoedd Ymgeisiol.
Yn hytrach, mae'r Gwrthwynebydd wedi gorfod mynd i mewn i'r broses ar gam cymharol hwyr, a thrwy hynny gwrthodwyd cyfle llawn iddo i gyfranogi mewn modd cynhwysfawr.
Gwireb efallai yw datgan na ellir ond penderfynu ynghylch cryfder achos y Gwrthwynebydd ar ôl deall yr achos hwnnw, a thrwy ei brofi gan gyfeirio at gynigion yn yr achos gwrthwynebol. Mewn geiriau eraill, dylai safle'r Gwrthwynebydd fod wedi cael ei asesu ar gamau ffurfiannol y CDLl, y gellir ei gymharu â cham 'cynfas wag'. Yn hytrach, mae'r Gwrthwynebydd yn awr bron yn wynebu fait accompli yn yr ystyr bod yr holl benderfyniadau perthnasol eisoes wedi cael eu gwneud o ran nodi union aliniad y terfyn datblygu a'r dyraniadau safleoedd tai ar gyfer Jeffreyston.
Mae'r cwestiwn o degwch yn cael ei godi gan LDRA Limited v SSCLG (2016) EWHC 950 (Admin), lle gwrthododd y penderfynydd (Arolygydd yn yr achos hwn) safleoedd amgen ar y sail nad oedd safleoedd wedi'u nodi'n briodol ac felly bod achos o dorri cyfiawnder naturiol wedi digwydd.
Yn yr un modd, heb fod yn ymwybodol o safle'r Gwrthwynebydd yng ngham ‘cynfas gwag’ ffurfiannol y CDLl, nid oedd yn bosibl i'r ACLl arfer barn briodol a chadarn. At hynny, ystyriwyd safle 'I’r Gogledd o Sunnyside' dim ond yng nghyd-destun y ffaith mai hwnnw oedd yr unig safle a gynigiwyd bryd hynny. Byddai asesiad llawer mwy priodol wedi cynnwys dadansoddiad cymharol safonol o safle'r Gwrthwynebydd mewn perthynas â’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside'. Mae'n debygol y byddai cymhariaeth o'r fath wedi cadarnhau bod rhinweddau safle'r Gwrthwynebydd yn fwy na rhinweddau’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside' gyda'r canlyniad y byddai safle'r Gwrthwynebydd wedi cael ei ddyrannu o fewn ffin terfynau’r anheddiad. Mae'r Atodiad wrth yr ymateb hwn yn darparu cymhariaeth o'r fath ac yn dangos priodoleddau mwy cadarnhaol safle'r Gwrthwynebydd dros y tir 'I’r Gogledd o Sunnyside'.
Mae'n amlwg bod gan y Gwrthwynebydd yr opsiwn ar gyfer adolygiad barnwrol1 o unrhyw benderfyniad gan yr ACLl ar nifer o seiliau penodol, gan gynnwys bod yr ACLl wedi camarwain ei hun o ran y gyfraith, wedi arfer ei bŵer ar gam, ac ati. Hefyd dadleuir yn rheolaidd mewn achosion o'r fath, nad yw'r ACLl wedi ymlynu’n briodol wrth egwyddorion cyfiawnder naturiol wrth wneud y penderfyniad, gan ganiatáu i'r penderfyniad hwnnw gael ei herio 2. Yn yr un modd, pe bai disgwyliad dilys y byddai'r ACLl, yn ôl ei ddatganiadau neu ei ymddygiad ei hun, yn gweithredu mewn ffordd benodol ond ei fod wedi methu â gwneud hynny, gall fod her ddilys.
I bob pwrpas, mae'r Gwrthwynebydd bellach yn wynebu elfen o 'ragderfyniad' - lle mae'r penderfynydd (ACLl) yn pennu rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau ei dir gyda 'meddwl caeëdig', ar ôl penderfynu eisoes ar y fframwaith cynllunio ar gyfer Jeffreyston.
Mae cyfranogiad effeithiol a theg y cyhoedd mewn prosesau penderfynu’n gysylltiedig â darparu 'cyfiawnder naturiol' neu degwch gweithdrefnol ac er bod eithrio'r Gwrthwynebydd o gamau cynnar proses y CDLl efallai’n anffodus, nid yw'r cynnig i’w wahodd i gyflwyno Safle Ymgeisiol a chyflwyno gwrthwynebiad yn hwyr yn sicrhau cyfranogiad cwbl gyfartal.
Mae'r CDLl yn cyflwyno'r fframwaith datblygu arfaethedig ar gyfer Jeffreyston. Ceir rhagdybiaeth anochel y bu gan yr ACLl wybodaeth a dealltwriaeth lawn am dir y Gwrthwynebydd, pan ei bod yn amlwg nad yw hyn yn wir. Mae hefyd yn awgrymu'n gamarweiniol nad oedd unrhyw ddewisiadau amgen posibl i ddyrannu’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside'. Mewn gwirionedd felly, nid oedd gwerthusiad cymharol o rinweddau'r ddau safle. Byddai hyd yn oed ymarferiad syml, yn null y tabl sydd ynghlwm (gweler yr Atodiad wrth yr ymateb hwn), wedi rhoi rhywfaint o gysur i'r Gwrthwynebydd bod ei safle wedi cael ei ystyried yn llawn mewn perthynas â’r safle 'I'r Gogledd o Sunnyside'.
Mae'n amlwg y bydd cyfwng clir rhwng y Gwrthwynebydd a'r ACLl, a'r modd mwyaf pur a chyfiawn o fynd i'r afael â'r anghysondeb fyddai ailddechrau'r broses o baratoi’r CDLl, heb unrhyw farn a ffurfiwyd ymlaen llaw ynghylch addasrwydd safleoedd. Fodd bynnag, byddai ymarfer o'r fath yn gostus a byddai'n ychwanegu cryn oedi at broses y CDLl ac mae'n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gefnogol i hynny. Serch hynny, fel dewis arall, efallai y bydd yr ACLl yn dymuno ystyried ailedrych yn bwrpasol ar y fframwaith datblygu ar gyfer Jeffreyston yn unig, ar sail 'cynfas wag', a heb unrhyw farn ragdybiedig wrth symud ymlaen. Croesewir eich sylwadau ar yr awgrym hwn.
O ran y Strategaeth a Ffefrir, nid oes gan y Gwrthwynebydd ryw lawer o sylw i'w wneud mewn perthynas â dyraniad gofodol datblygu. Mae cyfeirio twf tuag at yr aneddiadau mwy, gyda 'dull datblygu rhaeadrol' tuag at yr aneddiadau llai, yn egwyddor hirsefydledig ar gyfer paratoi cynlluniau ar sail datblygu cynaliadwy. Mae'r ddogfen Strategaeth a Ffefrir, yn ôl ei natur, yn ymdrin â'r egwyddorion datblygu mwy haniaethol, yn hytrach nag ystyriaethau safle-benodol, sy'n fwy perthnasol i safle'r Gwrthwynebydd.
Fodd bynnag, mae un gwendid mawr yn y Strategaeth a Ffefrir, sef ei bod wedi cael ei goddiweddyd gan ddigwyddiadau cenedlaethol sy'n debygol o fod wedi effeithio ar senarios twf yn y dyfodol. Yn benodol, mae pandemig Covid wedi arwain at gynnydd pendant yn y lefelau mudo i Gymru. Byddwch yn ymwybodol mai'r union lefel o fudo yw'r elfen anoddaf o newid poblogaeth i’w phennu’n gywir, gan gofio bod cyfraddau marwolaethau a genedigaethau yn cael eu cofnodi'n ffurfiol. Mae gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn adroddiadau amrywiol ar y farchnad dai yn cadarnhau bod y galw am eiddo yng Nghymru wedi cynyddu’n fawr ers 2019. Mae'r cyfyngiadau a osodwyd ar yr economi gan Covid hefyd wedi gwanhau gallu'r diwydiant adeiladu i ateb y galw hwn. Hefyd, gall y pryderon diweddar am ollwng gormod o ffosffadau arwain at fwy o bwyslais ar gyfeirio twf i'r aneddiadau hynny y tu allan i'r coridorau afonydd a nodwyd, gan beryglu'r Strategaeth a Ffefrir. Felly, mae'n eithaf realistig nodi na fydd y ffigyrau tai a argymhellir yn y CDLl, gan gynnwys y rhai ar gyfer Jeffreyston, yn bodloni lefelau disgwyliedig y galw ar gyfer cyfnod y cynllun. Awgrymir yn ffurfiol felly y dylid ailystyried y Strategaeth a Ffefrir er mwyn pennu ffigyrau twf tai mwy cyfoes.
I grynhoi, felly, mae'n amlwg yr achoswyd niwed i’r Gwrthwynebydd o ran ceisio hyrwyddo potensial datblygu ei dir trwy beidio â bod yn rhan o gamau ffurfiannol cynnar y broses hon. Mae colli'r cam 'cynfas wag' yn golygu bod y Gwrthwynebydd dan anfantais o ganlyniad i beidio â gallu cyflwyno ei achos. Yn hytrach, bydd ei safle’n cael ei ystyried yn awr pan fydd yr ACLl eisoes wedi dod i gasgliad mewn perthynas â therfynau datblygu Jeffreyston. Teimlir mai'r unig ffordd o fynd i'r afael â'r anghysondeb hwn yw cynnal ailwerthusiad llwyr o derfynau Jeffreyston, gyda phob safle posibl yn cael ei ystyried o'r newydd ac ar delerau cyfartal.
Er nad yw'r arfer hwn wedi'i gyfarwyddo'n ffurfiol gan y ddau 'gyflwynydd Safle Ymgeisiol ychwanegol' arall yng Nghas-mael (Cyfeirnod safle 523 – Tir fferm yn Llys y Dryw) a Trooper's Inn (Cyfeirnod safle 525 – SM 098960), er budd cyfiawnder naturiol, ystyrir bod yr un cyfle ar gyfer gwerthusiad newydd yn cael ei roi yn yr achosion hyn hefyd.
Hyderaf y bydd cynnwys y llythyr hwn yn cael ystyriaeth ddyladwy ac edrychaf ymlaen at eich ymateb.
- Mae Rhan 54 o'r Rheolau Gweithdrefn Sifil yn caniatáu i'r llys adolygu cyfreithlondeb deddfiad, penderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gyhoeddus.
- Amhriodoldeb Gweithdrefnol – (y cyfeirir ato hefyd fel torri cyfiawnder naturiol), lle, wrth wneud penderfyniad, anwybyddwyd rheolau sylfaenol cyfiawnder naturiol, neu lle bu methiant i weithredu â thegwch gweithdrefnol tuag at berson neu i ymlynu wrth reolau gweithdrefnol a osodwyd yn benodol gan offeryn deddfwriaethol.
Atodiad(a baratowyd gan ID Rhanddeiliad: 34376) – Gwrthwynebiad i gynnwys safle a ddyrannwyd HSG/047/00018 – 'I’r Gogledd o Sunnyside', Jeffreyston (cyfeirnod safle 375), fel y’i cynigiwyd yn yr Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol / y CDLl Newydd (CDLl2) 2017-2033
Mae'r gwrthwynebiad hwn ar ffurf cymhariaeth rhwng nodweddion pwysig y Safle Ymgeisiol 'I’r Gogledd o Sunnyside' (cyfeirnod safle 375) a gyflwynwyd a nodweddion pwysig y Safle Ymgeisiol 'Ychwanegol' 'Ar bwys y B4586' (cyfeirnod safle 524) a gyflwynwyd
Pwnc
I’r Gogledd o Sunnyside (Cyfeirnon Safle Ymgeisol 375)
Y Gallu I’w gyflawni
Mae'r tir wedi bod yn cael ei gyflwyno i'w ddatblygu gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfluniadau am ryw 15 mlynedd; yn ystod y cyfnod hwnnw, ni fu unrhyw ddatblygu.
Fel tystiolaeth o fethiant y safle i sicrhau datblygiad, gweler y dystiolaeth hanesyddol ganlynol:
- Dogfennau caniatâd cynllunio dyddiedig 2007;
- Manylion gwerthu dyddiedig 2015, lle mae'r safle'n cael ei hyrwyddo fel un 'wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl drafft’; a hefyd
- Y manylion gwerthu cyfredol yn ôl pob golwg, dyddiedig 2020, lle mae'r safle'n cael ei hyrwyddo fel 'Dyraniad Arfaethedig yn y CDLl2 sy’n 0.7ha ar gyfer isafswm o 14 uned'.
Trwy unrhyw fesur y gellir ei gyfiawnhau mae'r safle wedi methu â chyflawni unrhyw amcan o ran 'y gallu i’w gyflawni'. Mae dynodiad parhaus y safle hwn fel safle ar gyfer tai yn Jeffreyston – yn wir, yr unig safle a ddynodwyd fel un ar gyfer tai yn Jeffreyston - bellach yn rhwystr i ddatblygiad naturiol y pentref gwasanaeth.
Tai Fforddiadwy
1*
* Fel a nodwyd yn y manylion gwerthu sydd ar gael ar hyn o bryd
Effaith ar gyllideb 'priffyrdd' y Cyngor
Mae'n cynyddu symudiad traffig o fewn y pentref yn sylweddol, gan greu rhwymedigaeth cynnal a chadw fythol a pharhaol.
Mynediad at y ffordd gyhoeddus
Lled y Ffordd Gerbydau – cyfyngedig
Aliniad llorweddol – gwael.
Lleiniau gwelededd heb gytundeb tirfeddiannwr trydydd parti - annerbyniol.
Llwybrau troed / beicio wedi’u gwella – dim.
Goblygiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy
Coed a phrysglwyni aeddfed – colled sylweddol.
Sbesimenau coed sy'n bwysig yn weledol – colled sylweddol.
Colled / Difrod i gynefin pwysig – oes.
Colled / Difrod i rywogaethau a warchodir – oes.
Colli amwynder gweledol – sylweddol
Pwnc
Ar bwys y B4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524)
Y gallu i’w gyflawni
Nid yw'r tir erioed wedi bod ar gael i'w ddatblygu o'r blaen. Mae'r cynnig a gyflwynwyd ar gyfer Safle Ymgeisiol, sy’n drylwyr ac wedi’i gostio, yn dangos yn glir bod y perchnogion yn ymrwymedig i helpu Sir Benfro - ac yn enwedig Jeffreyston – i ddatblygu – a hynny’n gyflym.
Tai Fforddiadwy
Effaith ar gyllideb 'priffyrdd' y Cyngor
Wrth ymyl prif ffordd drwodd; dim cynnydd mewn gwaith cynnal a chadw.
Mynediad at y ffordd gyhoeddus
Lled y Ffordd Gerbydau – digyfyngiad.
Aliniad llorweddol – da.
Lleiniau gwelededd heb gytundeb tirfeddiannwr trydydd parti - da.
Llwybrau troed / beicio gwell – helaeth.
Goblygiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy
Coed a phrysglwyni aeddfed – dim.
Sbesimenau coed sy'n bwysig yn weledol – dim.
Colled / Difrod i gynefin pwysig – nac oes.
Colled / Difrod i rywogaethau a warchodir – nac oes.
Colli amwynder gweledol – y mymryn lleiaf.
Budd datblygu yn y dyfodol
Mae datblygu’n ‘talgrynnu’r’ pentref, sydd â thai presennol ar ddwy ochr – ar ei hyd a chyferbyn.
Mae'r berthynas rhwng cymuned Jeffreyston a'i hysgol yn anarferol, yn yr ystyr bod y pentref a'r ysgol yn ddigon pell ar wahân i Gyngor Sir Penfro, yn 2003, brynu tir i greu llwybr troed / beicio gan alluogi'r ddau endid i gael eu cysylltu'n ddiogel â'i gilydd.
Mae'r cynnig hwn ar gyfer Safle Ymgeisiol yn ddatblygiad naturiol o'r fenter weledigaethol honno gan y Cyngor Sir. Wrth i'r pentref barhau i dyfu, fel y mae'n rhaid iddo’i wneud ac y bydd yn ei wneud wrth gwrs, mae'n rhesymegol bod y pentref yn ehangu yn yr ardal a fydd yn integreiddio'r pentref a'r ysgol yn gynyddol.
Byddai'r cynnig hwn ar gyfer Safle Ymgeisiol yn gyson â datblygiad y sir yn y dyfodol – mewn cynlluniau datblygu lleol olynol – tuag at integreiddio o'r fath.
Mae'r wybodaeth bellach a gyflwynir ar y cyd â'r sylwadau hyn yn cynnwys:
- Yr hysbysiad o benderfyniad a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer cais cynllunio 06/0836/PA, datblygiad preswyl, amlinellol, tir ar bwys Sunnyside Farm, Jeffreyston, Cilgeti, datblygiad preswyl, a gymeradwywyd yn amodol ar 4 Medi 2007.
- Manylion gwerthu safle datblygu Sunnyside, Hydref 2020 (Owen ac Owen, Syrfewyr Siartredig).
- Manylion gwerthu pellach ar gyfer safle datblygu Sunnyside (hefyd Owen ac Owen, Syrfewyr Siartredig).
(I’w nodi: Mae sylwadau pellach gan ID Rhanddeiliad: 4277 ar ran ID Rhanddeiliad: 34376 a ddaeth i law o fewn cyfnod yr ymgynghoriad wedi’i dargedu ar y Strategaeth a Ffefrir yn cael eu trin fel gwrthwynebiadau hwyr i Gynllun Adneuo’r CDLl 2 2020. Byddant yn cael eu hystyried yn anffurfiol gan swyddogion cynllunio CSP, ochr yn ochr â'r holl sylwadau eraill a wnaed ar y cyd â’r ymgynghoriad ar Gynllun Adneuo CDLl2 2020. Fodd bynnag, nid yw'r Cynllun Adneuo 1 CDLl 2 yn cael ei symud ymlaen i gamau diweddarach proses y Cynllun - ac yn benodol ni fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru nac yn ffurfio'r sail ar gyfer yr Archwiliad annibynnol dilynol. Felly, nid yw'r sylwadau ar Gynllun Adneuo 1 CDLl 2 yn cael eu cyflwyno’n ôl i'r Aelodau trwy brosesau ffurfiol).
Ymateb ac argymhelliad swyddogion CSP:
Cysylltodd ID Rhanddeiliad: 34376 â CSP dros y ffôn ar 17/09/2015 ac fe'i hychwanegwyd at gronfa ddata CDLl 1 ar yr un dyddiad. Dechreuodd CSP adolygu'r CDLl yn 2017 ac fe gysylltodd â'r rhai ar gronfa ddata'r CDLl bryd hynny i roi gwybod bod adolygiad o’r Cynllun wedi dechrau ac i ofyn iddynt gysylltu os oeddent yn dymuno i ni gysylltu â hwy ar gyfer CDLl 2. Fodd bynnag, oherwydd gwall gweinyddol, ni chafodd pawb ar gronfa ddata CDLl 1 wybod am y cyfle i gofrestru i fynd ar gronfa ddata CDLl 2. Roedd ID Rhanddeiliad: 34376 yn un o 62 o bobl / sefydliadau yr effeithiwyd arnynt.
Er nad yw anfon y llythyr hwn yn ofyniad rheoleiddiol, mae'r Cyngor yn derbyn bod gan y rhai yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys ID Rhanddeiliad: 34376, ddisgwyliad rhesymol y byddid yn cysylltu â nhw ar ddechrau’r broses i adolygu'r CDLl ac yn amlwg ni ddigwyddodd hynny. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cyngor yn edifar amdano ac yn ymddiheuro’n ddiamod amdano. Ers i'r gwall ddod i'r amlwg, mae'r Cyngor wedi cymryd amryw fesurau i geisio cywiro’r broblem. Fel y noda'r sylwadau hyn, yn brin o ailgychwyn proses y CDLl yn ei chyfanrwydd mae'n amhosibl unioni'r anawsterau yn llwyr. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi cymryd camau i gysylltu â phawb yr effeithiwyd arnynt, i roi cyfle iddynt a) gofrestru ar gronfa ddata CDLl 2, b) cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol ac c) cyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae ID Rhanddeiliad: 34376, mewn rhai achosion trwy ei asiant ID Rhanddeiliad: 4277, wedi achub ar bob un o’r tri chyfle.
O edrych ar y darlun ehangach, o'r 62 o bobl yr effeithiwyd arnynt gan fater y gronfa ddata, roedd 38 wedi llwyddo i gofrestru diddordeb yn CDLl 2 erbyn i'r gwall gael ei ganfod, mae sawl un arall bellach wedi cael eu hychwanegu at gronfa ddata CDLl 2, mae tri (gan gynnwys ID Rhanddeiliad: 34376) wedi cyflwyno Safle Ymgeisiol ar gyfer CDLl 2 ac un (ID Rhanddeiliad: 34376, yn bennaf trwy ei asiant ID Rhanddeiliad: 4277 ond hefyd yn rhannol yn ei rinwedd ei hun) wedi cyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir – testun yr ymateb hwn.
Nid yw'r amryw fesurau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd i unioni'r materion a gododd o fater y gronfa ddata yn darparu datrysiad perffaith, ond maent yn ymgais gwirioneddol i wneud iawn. Mae ID Rhanddeiliad: 4277, ac yntau’n ymateb ar ran ID Rhanddeiliad: 34376, wedi nodi y byddai ailgychwyn proses y Cynllun yn ei chyfanrwydd yn gostus ac yn ychwanegu oedi pellach. Mae wedi gofyn am ailystyried y sefyllfa yn Jeffreyston ar sail 'cynfas wag'. Mae CSP yn barod iawn i asesu Safle Ymgeisiol ID Rhanddeiliad: 34376 ar yr un sail â phob Safle Ymgeisiol arall. Felly, bydd yn edrych ar y sefyllfa mewn perthynas â datblygu ym mhentref Jeffreyston yn y dyfodol mewn modd cyfannol ar y cyd â pharatoi CDLl 2, Cynllun Adneuo 2.
O ran y sylwadau sy'n cyfeirio'n benodol at y Strategaeth a Ffefrir, nodir bod y sylwadau i'w gweld fel pe baent yn gefnogol, yn fras, i Strategaeth Aneddiadau’r Cynllun a dyheadau datblygu cynaliadwy'r Cyngor. Awgrymir gan ID Rhanddeiliad: 4277 mai'r prif wendid yw bod y Strategaeth a Ffefrir wedi cael ei goddiweddyd gan ddigwyddiadau cenedlaethol sydd wedi effeithio ar senarios twf cenedlaethol. Mae'n awgrymu bod mudo i Gymru wedi cynyddu ac na fydd darpariaeth tai CDLl 2, gan gynnwys ym mhentref Jeffreyston, yn bodloni lefelau’r galw yng nghyfnod y Cynllun.
Bydd y Cyngor yn dibynnu ar yr amcanestyniadau poblogaeth a thai diweddaraf sydd ar gael wrth bennu lefelau twf tai ac ar gyfer CDLl2, Cynllun Adneuo 2, bydd angen adlewyrchu'r ffaith bod y rhain wedi symud mewn cyfeiriad croes i'r rhai a awgrymwyd gan y cyflwynydd sylwadau ac felly bydd y ffigyrau darpariaeth tai yn debygol o gael eu lleihau rywfaint ar gyfer Cynllun Adneuo 2, er nad i'r graddau y byddai anghysondeb mawr â'r Strategaeth a Ffefrir.
Mae'n werth nodi hefyd bod y Cyngor wedi paratoi papur sylfaen dystiolaeth sy’n nodi Asesiad o Effaith Covid-19, gan edrych ar y materion a gododd o'r pandemig. Yn amlwg roedd effeithiau byrdymor a rhai tymor hwy ac nid oeddent bob amser yr un fath. Mae'r Asesiad o Effaith Covid-19 ar gael i'r cyhoedd ar wefan y Cyngor.
Mae Swyddogion CSP wedi trafod y posibilrwydd o ddychwelyd i'r cam Strategaeth a Ffefrir gyda Llywodraeth Cymru ac fe’u cynghorwyd fod goblygiadau dychwelyd at y cam cynnar hwn o broses y Cynllun ar gyfer amserlen a dilysrwydd y sylfaen dystiolaeth yn golygu na fyddai'n ddull gweithredu da. Cynghorodd Llywodraeth Cymru, os oedd CSP yn teimlo bod angen gwneud hyn, y dylai dynnu'r Cynllun yn ôl a dechrau eto. Yn amlwg, o ystyried yr amser a'r ymdrech a ddefnyddiwyd eisoes ar gael CDLl 2 i'r cam hwn, nid yw hynny'n opsiwn y mae CSP yn dymuno ei ddewis.
Argymhelliad: Nad yw'r Cyngor yn gwneud unrhyw newidiadau i ddogfen Strategaeth a Ffefrir y CDLl newydd (CDLl 2) mewn ymateb i'r ymateb a gafwyd i'r ymgynghoriad pellach wedi'i dargedu ar y ddogfen honno a gynhaliwyd yn 2022.