Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Atodiad G i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol – Adendwm i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, Gorffennaf 2023

Paratowyd yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ym mis Rhagfyr 2019 i ddangos sut yr oedd y Cyngor wedi cynnal ei Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, gan fod hwn yn gam ffurfiol ym mhroses Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n cynnwys penodau sy’n nodi cyhoeddusrwydd, dulliau ymgysylltu, y prif faterion a nodwyd o’r ymgynghoriad cyn-adneuo, sylwadau hwyr, tabl trosi polisi (o’r Strategaeth a Ffefrir i’r Cynllun Adneuo cyntaf) a’r camau nesaf.

Mae wedi’i osod yng nghyd-destun iteriad gwreiddiol Cytundeb Cyflawni CDLl 2, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar 7 Mehefin 2018. Paratowyd ail iteriad o Gytundeb Cyflawni CDLl 2, i ystyried pandemig COVID-19, a chymeradwywyd hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar 30 Hydref 2020. Mae trydydd iteriad o Gytundeb Cyflawni CDLl 2 bellach wedi’i gytuno gan Gabinet Cyngor Sir Penfro (24 Ebrill 2023) a’r Cyngor (11 Mai 2023) ac mae cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei cheisio ar hyn o bryd. Paratowyd y trydydd iteriad hwn yn bennaf i ystyried yr oedi a achoswyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd ar lygredd ffosffad mewn rhannau di-lanw o afonydd gwarchodedig (y rhai sydd â dynodiadau fel ardaloedd cadwraeth arbennig / safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) yng Nghymru, gan gynnwys Afon Teifi ac Afon Cleddau.

Mae dau iteriad diweddarach y Cytundeb Cyflawni wedi diweddaru manylion amrywiol mewn perthynas â dulliau ymgysylltu a’r ymgyngoreion a restrir, yn ogystal â nodi amserlenni diwygiedig ar gyfer cwblhau’r camau sy’n weddill o broses paratoi cynllun CDLl 2.

Mae’r Adendwm hwn i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn ystyried iteriadau diweddarach Cytundeb Cyflawni CDLl 2, ond fe’i paratowyd yn bennaf i adlewyrchu’r ymgynghoriad pellach, wedi’i dargedu, ar Strategaeth a Ffefrir CDLl 2 a gynhaliwyd yn 2022.

 

Gwybodaeth gefndir am Strategaeth a Ffefrir CDLl 2

Roedd y dogfennau cyn-adneuo yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a gynhaliwyd rhwng 17Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019 am 4.30pm. Roedd yr hysbysiad cyhoeddus a oedd yn cyd-fynd â’r ymgynghoriad yn nodi bod y Cynllun Datblygu Lleol yn gosod fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyfeirio twf newydd i leoliadau priodol yn Sir Benfro (ac eithrio lleoliadau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, lle mai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).

Cyhoeddwyd y dogfennau canlynol bryd hynny:

Y Strategaeth a Ffefrir ei hun, sy’n nodi gweledigaeth ddrafft, amcanion a’r strategaeth dwf gyffredinol, yn ogystal â pholisïau allweddol, ar gyfer CDLl 2.

  • Adroddiad Adolygu, yn nodi pa rannau o’r CDLl cyfredol (CDLl 1) yr oedd angen eu newid a pham roedd angen iddynt newid.
  • Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Cychwynnol, yn nodi sut mae cynigion y Strategaeth a Ffefrir wedi cael eu hasesu o ran eu heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol posibl.
  • Adroddiad Sgrinio Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd, yn darparu asesiad i weld a ydyw’r Strategaeth a Ffefrir yn debygol o gael effeithiau ar safleoedd Natura 2000 ai peidio.
  • Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol – yn dangos pob Safle Ymgeisiol sy’n cynnig tir i’w ddatblygu a’i warchod ac i ba raddau y mae unrhyw un o’r cynigion a gyflwynwyd yn debygol o gydymffurfio â’r Strategaeth a Ffefrir. Rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd cyn dechrau’r ymgynghoriad ar 17 Rhagfyr 2018.

Ar y cam hwnnw o broses y Cynllun, darparwyd cyfle pellach hefyd i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i’w cynnwys yn y CDLl. Cyflwynwyd 55 o safleoedd ychwanegol a darparwyd cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar y rhain, a oedd yn rhedeg o 17 Ebrill 2019 i 6 Mehefin 2019 am 4.30pm.

Yn dilyn y cam hwnnw o’r broses, daeth yn hysbys na chafodd nifer fach o unigolion ar gronfa ddata CDLl 1 Cyngor Sir Penfro eu hysbysu am y cyfle i gofrestru eu diddordeb ar gyfer cronfa ddata Cynllun CDLl 2. Y cyfanswm oedd 62 ac o’r rhain canfuwyd bod 38 wedi cofrestru i’w cynnwys ar gronfa ddata Cynllun 2 CDLl cyn i’r gwall gael ei nodi.

Fel rhan o’r unioni i hyn, ysgrifennodd y Cyngor at y personau yr effeithiwyd arnynt, yn eu gwahodd i a) cofrestru i gael hysbysiad ar y CDLl Newydd (CDLl 2), a b) cynnig cyfle i bob un ohonynt gyflwyno tir fel Safle Ymgeisiol. Arweiniodd hyn at ychwanegu tri Safle Ymgeisiol pellach, fel Adendwm i’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, yn ystod 2021. Cafodd y cyhoedd gyfle i wneud sylwadau ar y tri Safle Ymgeisiol pellach rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5pm. Roedd hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd mewn perthynas â’r Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn gynharach ym mhroses y cynllun. Bydd y tri safle pellach hyn yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r un fethodoleg â’r holl Safleoedd Ymgeisiol eraill ar y cyd â pharatoi’r ail Gynllun Adneuo a bydd yr Adroddiad Asesu Safle yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny ar yr un pryd ag y cyhoeddir CDLl 2, Cynllun Adneuo 2.

Rhan arall o’r ateb i’r mater cronfa ddata oedd rhoi cyfle cyfyngedig i’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y mater hwn i wneud sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a’i dogfennau cysylltiedig. Fel y nodwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019. Roedd ailagor yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mater cronfa ddata yn unig, a chysylltwyd â phob un ohonynt ar wahân. Hysbyswyd y rhai yr effeithiwyd arnynt ble i weld y dogfennau, sut i gael copïau papur (os oedd angen) a sut i gyflwyno sylwadau. Cafodd y rhai yr effeithiwyd arnynt gyfle i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a’i dogfennau cysylltiedig rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5pm. Fel y nodwyd uchod, nid oedd hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau ar y dogfennau hyn.

Er mwyn eglurder, cyhoeddwyd y Strategaeth a Ffefrir ochr yn ochr â nifer o ddogfennau eraill a bu’r ymgynghoriad cychwynnol rhwng 17Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019 yn gyfle i’r cyhoedd roi sylwadau ar bob un o’r rhain:

 

Adroddiad Adolygu’r CDLl – yn nodi beth y mae angen ei newid yn y CDLl a pham.

Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd – sy’n nodi effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yr opsiynau a ffefrir, polisïau strategol a pholisïau cyffredinol o fewn y Strategaeth a Ffefrir, i’w darllen ar y cyd ag Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a’i Atodiadau cysylltiedig.

Adroddiad Sgrinio Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd – sy’n edrych ar effaith polisïau’r Strategaeth a Ffefrir ar safleoedd Natura 2000. Mae’n sgrinio strategol lefel uchel o’r Strategaeth.

 

Y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

Roedd ailagor yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mater cronfa ddata rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5pm yn gyfle i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mater cronfa ddata i roi sylwadau ar y dogfennau cysylltiedig hefyd, i gyd-fynd â chwmpas yr ymgynghoriad gwreiddiol.

Roedd yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cynnwys Atodiad yn nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir CDLl 2 (y rhai a gyflwynwyd rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019). Mae’r wybodaeth gyfatebol mewn perthynas â’r ymateb unigol i  ymgynghoriad pellach, targedig y Strategaeth a Ffefrir yn 2022 yn cael ei chyflwyno yn Atodiad A i’r Adroddiad Cyngor hwn a bydd yn ffurfio Atodiad F newydd i ddogfennaeth yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ar wefan Cyngor Sir Penfro. Gan na chynigir unrhyw newidiadau pellach i’r ddogfen Strategaeth a Ffefrir ar hyn o bryd, nid oes angen i fersiwn y Strategaeth a Ffefrir o fis Mawrth 2019, lle dangosir y newidiadau, gan ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad gwreiddiol ac a gyflwynwyd fel Atodiad E i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol gael ei addasu ac y mae’n cynrychioli’r fersiwn o’r ddogfen hon a fydd yn cael ei symud ymlaen i gamau diweddarach y broses o baratoi’r Cynllun.

Mae un mater arall y mae angen mynd i’r afael ag ef yn ymwneud â’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd gan y cyhoedd mewn ymateb i’r tri ymgynghoriad ar Safleoedd Ymgeisiol CDLl 2. Hyd yma, nid yw’r rhain wedi’u cyhoeddi. Fodd bynnag, bydd Atodiad pellach i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, y cyfeirir ato fel Atodiad H, yn awr yn cael ei baratoi, a bydd yn nodi’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod pob un o’r tair rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd hwn yn gofnod ffeithiol o’r hyn a ddaeth i law ac ni fydd yn cynnwys ymateb ffurfiol gan y Cyngor i’r pwyntiau a godwyd. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Penfro cyn gynted ag y bo’n ymarferol a dim hwyrach na chyhoeddiad CDLl 2, Cynllun Adneuo 2.

 

 

ID: 11070, adolygwyd 13/12/2023