Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Atodiad h syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol - 1 Ymatebion

Ymgyngoriadau cyhoeddus ar Safleoedd Ymgeisiol CDLl 2

 

  • Ymgynghoriad 1 – ar y gyfran gychwynnol o Safleoedd Ymgeisiol, a ddechreuodd ar 17/12/2018 ac a ddaeth i ben ar 04/02/2019 (gan gydredeg â'r ymgynghoriad cychwynnol ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl 2)
  • Ymgynghoriad 2 – ar y Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol (y rhai a gyflwynwyd ar yr un pryd â’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl 2), a ddechreuodd ar 17/04/2019 ac a ddaeth i ben ar 06/06/2019
  • Ymgynghoriad 3 – ar y Safleoedd Ymgeisiol Pellach (y rhai a gyflwynwyd gan bersonau yr effeithiwyd arnynt gan y mater gyda chronfa ddata CDLl 2), a ddechreuodd ar 19/01/2022 ac a ddaeth i ben ar 16/03/2022.
  • Mae cyfeiriadau at gefnogaeth neu wrthwynebiad ar y tudalennau sy'n dilyn yn ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw'r person neu'r sefydliad sy'n gwneud y sylw’n cefnogi’r cynnig ar gyfer y Safle Ymgeisiol ai peidio, nid pa un a yw’n cefnogi penderfyniad y Cyngor mewn perthynas â'r safle hwnnw.

 

Ymatebion Ymgynghoriad 1:

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r gyfran gychwynnol o Safleoedd Ymgeisiol, rhifau 001 i 467 gan gynnwys y rheiny

 
076: Penalun                     
ID Rhanddeiliad: 34863       
Gwrthwynebu

Credaf y dylid tynnu'r tir i'r gogledd o'r hen glwb nos (safle ymgeisiol 076) allan o'r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd pryderon ynghylch llifogydd.  Gweler adendwm sydd wedi’i atodi (isod).

Adendwm gan ID Rhanddeiliad: 34863 – tynnu safle ymgeisiol 076 (tir i'r gogledd o'r hen glwb nos) allan o'r cynllun datblygu lleol.

Yn dilyn fy nghais i ddiwygio'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, ysgrifennaf i amlinellu fy mhryderon ynghylch materion penodol ac, yn bwysicaf oll, y perygl o lifogydd i'r tir ac unedau eiddo cyfagos.

Llifogydd

Rwy'n atodi 3 map gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dangos bod y tir o fewn dalgylch Dyffryn Ritec ac wedi'i ddynodi'n orlifdir ar gyfer adegau pan fo'r afon yn torri ei glannau. Rwy'n lleygwr felly nid oes gennyf ddata ar amlder a difrifoldeb rhagamcanol llifogydd Ritec; fodd bynnag, rwyf wedi gweld y tir dan lifogydd yn rheolaidd ar nifer fawr o achlysuron gan gynnwys gaeafau 2012/2013 a 2015/2016 yn ogystal ag yn gynharach.

Mae fy eiddo, ym (lleoliad wedi’i olygu), ar bwys (safle wedi ‘i olygu) ac rwy'n cael rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru; tua dwy alwad y flwyddyn yw’r rhain, ar gyfartaledd, a hwythau’n dweud wrthyf am adael fy eiddo a symud i dir uwch. Roedd yr un diwethaf ar 2 Tachwedd 2018.

Hoffwn dynnu eich sylw hefyd at bryderon yn y dyfodol ynghylch perygl llifogydd a newid hinsawdd, yr ydych chi eich hunai wedi eu codi, gan eu hamlinellu yn eich Adroddiad Adolygu ar gyfer y cynllun datblygu hwn, yn 4.6.11

Hefyd, cydnabuwyd fod y maes parcio (ym mhen deheuol y cae), i'w ddefnyddio ar gyfer staff yn y cartref nyrsio (yr hen glwb nos), os bydd dyfroedd uchel efallai y bydd angen iddynt gael eu cludo i mewn. Mae'r darn hwn o dir tua metr yn uwch na gweddill y cae. Wedi’i atodi mae 00321459.pdf o'r cais cynllunio hwnnw.

Byddai unrhyw system i ddraenio'r tir hwn yn achosi i ddŵr gael ei ddadleoli i unedau eiddo a busnesau cyfagos. Mae'r cyngor eisoes yn ymwybodol bod Lôn Clickett, yr ochr arall i Afon Ritec, yn dod yn anhramwyadwy ar adegau o law trwm a moroedd uchel. Yn 2016 effeithiodd llifogydd ar rai carafanau yn Kiln Park.

Diffyg cyfleusterau carthffosiaeth a draenio dŵr wyneb presennol

Nid yw Bythynnod Causeway ac unedau eiddo yn Lôn Trefloyne wedi'u cysylltu â’r brif system garthffosiaeth a byddai adeiladu ar y tir (safle ymgeisiol 076) yn arwain at straen ychwanegol ar y lefel trwythiad. Mewn ymateb diweddar i'r cais i droi'r hen glwb nos yn gartref nyrsio, dywedodd cyngor y pentref, 00330810.pdf

"Bydd ystyried y caniatâd cynllunio presennol i godi dros 40 o gabanau pren yn cael effaith andwyol sylweddol ar reoli dŵr sydd eisoes yn drafferthus yn yr ardal hon. Mae'r ardal hon yn dueddol o gael llifogydd dŵr wyneb ac mae’r system garthffosiaeth hon, hyd eithaf cred y Cyngor, wedi bod yn destun sawl adroddiad am ei bod yn llifo’n ôl ac wedi ei blocio'

Hefyd, mae safle ymgeisiol arall i'r de o'r cae hwn, rhif 256 Gyferbyn â Bythynnod Causeway. Mae'r cae hwn ar fryn serth iawn; os caiff ei ddatblygu bydd unrhyw ddŵr sy'n rhedeg oddi ar y tir hwnnw'n ychwanegu at y lefel trwythiad a'r risg draenio dŵr wyneb ar gyfer y tir hwn isod, a drafodir yma.

Mynediad at y tir

Ar hyn o bryd, mae mynediad at y tir ac oddi arno trwy fynedfa ar Lôn Trefloyne ac yna ymlaen at ffordd Penalun sy'n lôn gul heb balmant. Bydd traffig prysur ar gyfer uned arlwyo a gwesty yn gwneud y gornel hon yn beryglus iawn.

Clustog rhag blerdwf trefol o Ddinbych-y-pysgod

Ar hyn o bryd mae'r tir yn gweithredu fel clustog rhag blerdwf trefol Dinbych-y-pysgod ac yn diffinio Penalun fel pentref gwahanredol. Unwaith yr adeiledir ar y tir hwnnw, bydd Penalun yn dod yn un o faestrefi Dinbych-y-pysgod.

Deunyddiau adeiladu tir

Arferai'r cae fod yn gorstir tan 1978/1979 pan gafodd ei godi i'w lefelau presennol gyda chraidd caled o Bafiliwn Traeth y De ar ôl i hwnnw gael ei ddymchwel a deunyddiau eraill, gan gynnwys caer danddaearol amddiffynfeydd maes yr Ail Ryfel Byd. Nid yw hon yn sylfaen gynaliadwy ar gyfer uned arlwyo na gwesty.

(Sylwer: nid yw'r dogfennau pellach y cyfeirir atynt yn y sylwadau hyn yn cael eu hatgynhyrchu yn y ddogfen hon)

 

266: Maddox Moor/Hook                     
ID Rhanddeiliad: 1485                     
Gwrthwynebu

Dylai safle ymgeisiol 266 ar ffin Maddox Moor/Hook fod yn safle coch a dylai, gobeithio, aros heb ei ddatblygu a chael ei adael fel "lletem werdd" rhwng Freystrop a CC Hook.           

 

016: Barnlake
ID Rhanddeiliad: 1536                     
Cefnogi

Mae eich adran wedi bod yn hynod o egnïol. Cyn bo hir byddwch yn drafftio Rhifyn Adneuo’r Cynllun Newydd.

Yn dilyn yr archwiliad o CDLl1 argymhellodd yr Arolygydd, (enw wedi’i olygu), fod "polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf yn cael eu diwygio i sicrhau cydlyniad ar draws y Cynllun a'u bod yn gyson â'i gilydd ac â pholisi cenedlaethol". Arweiniodd hyn at addasiadau i eiriad y Polisi; fodd bynnag ni chafodd unrhyw ddyraniadau perthnasol eu haddasu ar y cam hwyr hwnnw.

Enghraifft amlwg yw'r ailddatblygiad preswyl a hyrwyddir yn gyhoeddus yn hen Iard Adeiladu Llongau Barnlake Engineering yn Westfield Pill, Neyland, a amlygodd yn benodol yn ei Adroddiad dyddiedig 3-2-13.

Mae gen i bob hyder y byddwch chi ac uwch gydweithwyr yn sicrhau y bydd Polisi a dyraniadau yn llifo o ystyried materion "yn eu holl agweddau".

 

043: Penfro           
ID Rhanddeiliad:1934         
Gwrthwynebu

Mae fy ymateb i mewn perthynas â thref Penfro. Hoffwn wneud rhai pwyntiau cyffredinol yn gyntaf, ac wedyn, sylwadau penodol am safle ymgeisiol 043.

I ddychwelyd at fanylion y CDLl, mae gennyf rai sylwadau a rhai pryderon ynghylch safle ymgeisiol 043. Mae hwn yn cynnwys 8.14 hectar o gaeau gwyrdd. Yn y CDLl diwethaf, roeddech yn ystyried bod bron i 3.7 hectar o gaeau gwyrdd gerllaw iddo’n dir addas ar gyfer datblygiad preswyl dwysedd uchel. Nid yw'r amserlen darparu ar gyfer y safle hwnnw wedi cael ei bodloni. Codais bryderon amrywiol am y safle hwnnw, gan gynnwys pam yr ystyriwyd bod Monkton yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad dwysedd uchel pellach gyda'r heriau presennol y mae'r ward eisoes yn eu hwynebu.

Ni wnaf ddyfynnu ystadegau MALlC eto yma, nac ymhelaethu ar fy nghanfyddiad nad oedd gan ei drigolion lais cryf i wrthsefyll heriau pellach a allai gael eu hychwanegu. Mae angen meddwl yn sensitif ac yn ddychmygus.

Ar adeg cyflwyno safleoedd ymgeisiol ar gyfer y CDLl diwethaf ystyriwyd fod safle 043 yn "ddiangen" gan dîm y CDLl. Beth yw statws presennol y 3.7 hectar o gaeau gwyrdd yn ward Monkton, (ond ar bwys y safle hwn, sy’n 8.14 hectar, yn ward Santes Fair - De)?

A yw’r 8.14 hectar pellach yma o gaeau gwyrdd yn fwy addas ynteu a oes ei angen yn ychwanegol, o bosibl, at y 3.7 hectar o gaeau gwyrdd? Os mai’r ail o’r rhain sy’n wir, yna rwy'n dadlau bod gofyn i ochr ddeheuol Penfro fforffedu cyfran enfawr o'i hamgylchedd gwyrdd.

Mae pryderon a oedd yn berthnasol i'r 3.7 hectar hefyd yn berthnasol i safle ymgeisiol 043. Yn benodol, byddai problemau gyda chapasiti'r ffordd ar ochr orllewinol 043 i'w wasanaethu. Y prif bryder fyddai cyffordd Merchants Park a Heol y De gyda phrif Heol Monkton, sydd eisoes yn creu tagfeydd. Mae'r boblogaeth leol sy'n gyrru ar hyd y llwybr hwn yn ildio’n gwrtais i draffig o un cyfeiriad gan bod y ffordd yn rhy gul pan fydd ceir preswylwyr Merchants Park wedi'u parcio y tu allan i'w cartrefi. Sut fyddai'r llwybr hwn yn ymdopi â 600 o geir ychwanegol (posibl) o'r safle 8.14 hectar gydag aelwydydd o bosibl yn meddu ar ddau gar yr un?

Nid af i fanylder mawr am bwysigrwydd Norgan’s Hill i'r gymuned leol ac eithrio dweud ei fod yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan gerddwyr, rhedwyr, beicwyr a marchogion. Mae ochr ddwyreiniol Norgan’s Hill yn gyforiog o flodau gwyllt gan gynnwys clychau'r gog a thegeirianau gwyllt.

Bydd mapiau o'r 8.14 hectar yn datgelu amrywiaeth o ffynhonnau a ffrydiau naturiol gyda'r "lôn ddyfrllyd" yn ei rannu’n ddau. Bydd gorchuddio'r ardal fawr honno ag "amgylchedd adeiledig" yn sicr o arwain at leihad sylweddol yng nghapasiti 8.7 hectar o lystyfiant ar hyn o bryd i leddfu'r gwlybaniaeth hwnnw a’r llifogydd achlysurol a geir mewn gerddi a thir yn is i lawr y rhiw e.e. gerddi yn Lloyd George Lane/S Meadows.

Rwy'n gwerthfawrogi'r angen am safleoedd y gellir eu darparu ar gyfer tai fforddiadwy. Byddwn yn erfyn arnoch i roi ystyriaeth ofalus i oblygiadau dileu'r holl gaeau gwyrdd hyn sy'n cefnogi bioamrywiaeth wych a byddwn yn hapus i gadarnhau hyn â rhagor o fanylion.

 

379: Llanddewi Felffre     
ID Rhaddeiliad: 2036, 2249 a 34473           
Gwrthwynebu
  1. Mae'r safle hwn bron yn 4 hectar ac os caiff ei gymeradwyo gallai ddyblu nifer y tai yn y pentref. Byddai'n newid maint y pentref yn llwyr.
  2. Mae'n safle agored, ar lethr serth ar dir uchel ac yn wynebu cefn gwlad agored. Byddai'n weladwy iawn o gymaint â 15km i ffwrdd, yn enwedig o'r Gogledd a'r Gorllewin.
  3. Byddai'n rhaid i fynediad fod ar ffyrdd di-ddosbarth cul. Ceir cwynion yn lleol am swm y traffig yn barod. Ni fyddai mynediad o'r A40 (T) yn dderbyniol i'r Asiantaeth Cefnffyrdd felly byddai'r traffig ychwanegol yn achosi problemau diogelwch difrifol.
  4. Mae'r safle yn dir heb ei ddifetha, sy’n cynnal amrywiaeth o flodau gwyllt ac adar fel siglennod melyn a gwybedwyr ar wahân i rywogaethau mwy cyffredin. Byddai’r dŵr ffo o'r datblygiad yn effeithio ar y nant fach ar y gwaelod. Byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith andwyol ar hyn i gyd.
  5. Mae'r CDLl yn ystyried materion cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Byddai addysg, gwaith a siopa i gyd yn golygu teithio i leoedd eraill. Byddai'r maint, fel a soniwyd yn 1 uchod, yn golygu cynnydd enfawr mewn teithio, a byddai trafnidiaeth gyhoeddus wael yn golygu mai ceir yw'r unig ddull ymarferol ar gyfer teithio o gwmpas. Byddai gwasanaethau eraill fel gofal iechyd, a gweithgareddau cymdeithasol hefyd yn golygu teithio allan o'r pentref. Byddai'r amgylchedd (4 uchod) yn dioddef o'r traffig ychwanegol o'r datblygiad hwn.
  6. Mae safleoedd eraill wedi cael eu cyflwyno yn y pentref a fyddai o ran maint, safle a rhwyddineb mynediad yn cael llawer llai o effaith ac a ddylai ateb y galw yn y pentref bach hwn.
  7. Mae llawer o'r rhai sy'n byw yn y 12 o dai fwy neu lai yn agos at y safle wedi dod yno oherwydd cefn gwlad agored, y golygfeydd a'r llonyddwch. Byddai datblygu’n difetha hyn a'i werth amwynder yn gyffredinol, ac amwynder unedau eiddo cyfagos yn benodol.
  8. Cyflwynwyd y safle hwn ar gyfer y CDLl presennol a chafodd ei wrthod. Nid oes unrhyw beth am y safle wedi newid ers hynny i gefnogi cynnwys y safle hwn yn y CDLl Newydd.

 

379: Llanddewi Felffre     
ID Rhanddeiliad: 2261         
Gwrthwynebu
  1. Mae'r safle hwn bron yn 4 hectar ac os caiff ei gymeradwyo gallai ddyblu nifer y tai yn y pentref. Byddai'n newid maint y pentref yn llwyr.
  2. Mae'n safle agored, ar lethr serth ar dir uchel ac yn wynebu cefn gwlad agored. Byddai'n weladwy iawn o gymaint â 15km i ffwrdd, yn enwedig o'r Gogledd a'r Gorllewin.
  3. Byddai'n rhaid i fynediad fod ar ffyrdd di-ddosbarth cul. Ceir cwynion yn lleol am swm y traffig yn barod. Ni fyddai mynediad o'r A40 (T) yn dderbyniol i'r Asiantaeth Cefnffyrdd felly byddai'r traffig ychwanegol yn achosi problemau diogelwch difrifol.
  4. Mae'r safle yn dir heb ei ddifetha, sy’n cynnal amrywiaeth o flodau gwyllt ac adar fel siglennod melyn a gwybedwyr ar wahân i rywogaethau mwy cyffredin. Byddai’r dŵr ffo o'r datblygiad yn effeithio ar y nant fach ar y gwaelod. Byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith andwyol ar hyn i gyd.
  5. Mae'r CDLl yn ystyried materion cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Byddai addysg, gwaith a siopa i gyd yn golygu teithio i leoedd eraill. Byddai'r maint, fel a soniwyd yn 1 uchod, yn golygu cynnydd enfawr mewn teithio, a byddai trafnidiaeth gyhoeddus wael yn golygu mai ceir yw'r unig ddull ymarferol ar gyfer teithio o gwmpas. Byddai gwasanaethau eraill fel gofal iechyd, a gweithgareddau cymdeithasol hefyd yn golygu teithio allan o'r pentref. Byddai'r amgylchedd (4 uchod) yn dioddef o'r traffig ychwanegol o'r datblygiad hwn.
  6. Mae safleoedd eraill wedi cael eu cyflwyno yn y pentref a fyddai o ran maint, safle a rhwyddineb mynediad yn cael llawer llai o effaith ac a ddylai ateb y galw yn y pentref bach hwn.
  7. Mae llawer o'r rhai sy'n byw yn y 12 o dai fwy neu lai yn agos at y safle wedi dod yno oherwydd cefn gwlad agored, y golygfeydd a'r llonyddwch. Byddai datblygu’n difetha hyn a'i werth amwynder yn gyffredinol, ac amwynder unedau eiddo cyfagos yn benodol.
  8. Cyflwynwyd y safle hwn ar gyfer y CDLl presennol a chafodd ei wrthod. Nid oes unrhyw beth am y safle wedi newid ers hynny i gefnogi cynnwys y safle hwn yn y CDLl Newydd.

 

379: Llanddewi Felffre     
ID Rhanddeiliad: 2276         
Gwrthwynebu
  1. Mae'r safle hwn bron yn 4 hectar ac os caiff ei gymeradwyo gallai ddyblu nifer y tai yn y pentref. Byddai'n newid maint y pentref yn llwyr.
  2. Mae'n safle agored, ar lethr serth ar dir uchel ac yn wynebu cefn gwlad agored. Byddai'n weladwy iawn o gymaint â 15km i ffwrdd, yn enwedig o'r Gogledd a'r Gorllewin.
  3. Byddai'n rhaid i fynediad fod ar ffyrdd di-ddosbarth cul. Ceir cwynion yn lleol am swm y traffig yn barod. Ni fyddai mynediad o'r A40 (T) yn dderbyniol i'r Asiantaeth Cefnffyrdd felly byddai'r traffig ychwanegol yn achosi problemau diogelwch difrifol.
  4. Mae'r safle yn dir heb ei ddifetha, sy’n cynnal amrywiaeth o flodau gwyllt ac adar fel siglennod melyn a gwybedwyr ar wahân i rywogaethau mwy cyffredin. Byddai’r dŵr ffo o'r datblygiad yn effeithio ar y nant fach ar y gwaelod. Byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith andwyol ar hyn i gyd.
  5. Mae'r CDLl yn ystyried materion cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Byddai addysg, gwaith a siopa i gyd yn golygu teithio i leoedd eraill. Byddai'r maint, fel a soniwyd yn 1 uchod, yn golygu cynnydd enfawr mewn teithio, a byddai trafnidiaeth gyhoeddus wael yn golygu mai ceir yw'r unig ddull ymarferol ar gyfer teithio o gwmpas. Byddai gwasanaethau eraill fel gofal iechyd, a gweithgareddau cymdeithasol hefyd yn golygu teithio allan o'r pentref. Byddai'r amgylchedd (4 uchod) yn dioddef o'r traffig ychwanegol o'r datblygiad hwn.
  6. Mae safleoedd eraill wedi cael eu cyflwyno yn y pentref a fyddai o ran maint, safle a rhwyddineb mynediad yn cael llawer llai o effaith ac a ddylai ateb y galw yn y pentref bach hwn.
  7. Mae llawer o'r rhai sy'n byw yn y 12 o dai fwy neu lai yn agos at y safle wedi dod yno oherwydd cefn gwlad agored, y golygfeydd a'r llonyddwch. Byddai datblygu’n difetha hyn a'i werth amwynder yn gyffredinol, ac amwynder unedau eiddo cyfagos yn benodol.
  8. Cyflwynwyd y safle hwn ar gyfer y CDLl presennol a chafodd ei wrthod. Nid oes unrhyw beth am y safle wedi newid ers hynny i gefnogi cynnwys y safle hwn yn y CDLl Newydd.
054: Mathri           
ID Rhanddeiliad: 2277                     
Cefnogi

Parth: CDLl2 – Ymgynghoriad ar Safleoedd Ymgeisiol

Gan gyfeirio at eich llythyr dyddiedig 17/01/19, dymunwn i'r tir i'r gogledd o’m heiddo (a (enw’r eiddo wedi’i olygu)) gael ei gadw ar gyfer ei ddefnydd presennol. Mae mynediad at y safle hwn â cherbyd eisoes yn anodd a dim ond cynyddu’r broblem fyddai unrhyw ddatblygu pellach.

 

126, 127, 176, 415: East Williamston      
ID Rhanddeiliad: 2395                     
Gwrthwynebu

Rwy’n anghytuno â'r casgliad y dylid cynnwys East Williamston fel pentref gwasanaeth. Mae mynediad ffordd yn fynediad un ffordd, does dim trafnidiaeth gyhoeddus, dim nwy o'r grid, ac mae’r cyfleusterau pwmpio carthion yn gyfyngedig. Gallai'r safleoedd arfaethedig esgor ar 50-150 o gartrefi newydd a allai osod baich amhosibl ar y pentref o safbwynt diogelwch ac amgylcheddol.

 

041: Abergwaun   
ID Rhanddeiliad: 2739                     
Gwrthwynebu

Mae cae coffa 'Santes Fair' yn gofeb ryfel er cof am yr arwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Prynwyd y cae coffa hwn gan yr eglwys ym 1919 o'r arian a godwyd gan y gymuned leol.

Yn 1919/20 rhoddodd yr eglwys sicrhad i'r codwyr arian a'r gymuned leol y byddai cae coffa Santes Fair ar gael i unrhyw sect neu gred ac unrhyw chwaraeon cyhyd ag y byddai Abergwaun yn dal i sefyll. O ystyried y sicrhad a'r addewidion a wnaed gan yr eglwys, pe gwerthid y cae hwn, fy marn i yw y gallai'r eglwys fod yn agored i achos troseddol ac y gellid ei chyhuddo o gael arian trwy dwyll. Mae tudalen olaf y gweithredoedd yn nodi'n glir mai cae coffa yw'r cae hwn.

Mae cae coffa Santes Fair tua hanner maint y cae gwreiddiol. Cyngor Sir Penfro sy'n berchen ar yr hanner arall. Mae'r rhan hon o’r cae bellach yn cael ei meddiannu gan ran o Heol Preseli Road, tai cyngor a byngalos.

O ran gweddill y cae coffa, penderfynodd yr arolygiaeth gynllunio y dylai aros yn fan agored hamdden.

Yn ddiweddar, mae'r eglwys wedi gosod arwydd tir preifat – cadwch allan ar y gât wrth fynedfa cae coffa Santes Fair. O ystyried bod y cae hwn wedi'i ddatgan yn fan agored hamdden, mae'r arwydd hwn yn anghyfreithlon ac rwy'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Penfro gael gwared ag ef cyn gynted â phosibl.

O ystyried yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gennyf, dylai cae coffa Santes Fair aros fel y mae. Cofeb i arwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhag cywilydd yr eglwys.

 

130: Aberdaugleddau                  
ID Rhanddeiliad: 3434                     
Cefnogi

Gydag ymddiheuriadau, a fyddech cystal â derbyn yr ychwanegiad hwn at C2 Sylwadau ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol gan nad wyf yn gallu dod o hyd i'r Ffurflen Cyflwyno Safle ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir y cyfeirir ati ar y cwestiynau yn unrhyw le ar eich gwefan.

Mae gen i 2 safle wedi'u rhestru yn y gofrestr Safleoedd Ymgeisiol. Hoffwn bledio dros uwchraddio fy safle yn Aberdaugleddau – safle 130 – o’i ddynodiad presennol, sef ambr 3, i Gwyrdd 1.

Nid wyf yn siŵr ai dyma'r lle cywir neu hyd yn oed a oes gennyf yr hawl i restru fy mhle gan mai preswylydd cyffredin yn Sir Benfro ydw i sydd wedi bod yn rhedeg busnes adeiladu teuluol am y 40 mlynedd diwethaf, felly rwy'n teimlo fy mod yn gymwys i wneud sylwadau ynghylch fy ngweledigaeth ar gyfer fy Safle 130.

Ni allaf wrthwynebu'r datblygiadau dwysedd uchel, gofod bach presennol sy'n cael eu hadeiladu o amgylch y sir; yn wir, rwy'n llwyr gydnabod yr angen am dai o ansawdd yn ein sir, ond mae'n ymddangos bod y datblygiadau hyn yn gwasgu cymaint o unedau ag a ganiateir i mewn i ofod bach heb fawr o ystyriaeth i'r gymuned yn gyffredinol ac er bod y mathau hyn o ddatblygiadau yn ateb y gofyniad presennol,  mae fy 80 mlynedd o weld y newidiadau i'n cymunedau wedi fy arwain i gredu bod angen i ni ddarparu ac y dylem fod yn darparu cyfleoedd ar gyfer cymunedau cynaliadwy ar hyd yr un llinellau ag Aneddiadau Sir Benfro a adeiladwyd ar gyfer milwyr a oedd yn dychwelyd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae safle 130 yn ymestyn dros oddeutu 25 erw a allai ddarparu ar gyfer hyd at bedwar ar hugain (24) o leiniau un (1) erw gydag annedd fach, ysgubor, sied a llawr caled i ddarparu cymuned gynaliadwy o fath gardd farchnad ar ffiniau Aberdaugleddau.

Mae gan y safle fynediad da i mewn ac allan, trydan a dŵr ac, os oes angen, mynediad agos at yr orsaf pwmpio carthion yn Lower Priory; fodd bynnag, rwy'n cynnig y dylai fod gan yr anheddau’r nodweddion carbon isel gorau gyda gweithfeydd trin carthion ar eu pen eu hunain a rennir gan y gymuned, system cynhyrchu pŵer oddi ar y grid, systemau casglu dŵr glaw ac ailgylchu gwastraff i sicrhau bod y gymuned yn fodel ar gyfer byw'n gynaliadwy ac y bydd yn parhau i fod felly.

Mae'r safle wedi'i leoli'n ganolog ar ffin orllewinol Aberdaugleddau. Mae'r ysgolion a'r cyfleusterau siopa yn Aberdaugleddau o fewn pellter cerdded byr yn unig ar hyd llwybrau troed sydd eisoes yn bodoli.

Credaf y gallai safle 130 fod yn fantais gynllunio sylweddol i'r sir a rhoi rhywfaint o gydbwysedd i’r cyfeiriad presennol o ran datblygu tai. Nid yw'n ddatblygiad hirgul, mae o fewn gweledigaeth y CDLlau ac mae'n rhoi cyfle i ffwrdd o'r cysyniad o ddatblygiad dwysedd uchel.

Rwy'n gobeithio na chewch eich digio gan fy nghais ac na fydd yn syrthio ar glustiau byddar, rwy'n hen ffasiwn ac yn credu'n gryf yng ngrym y gymuned a bod cymunedau da’n creu pobl leol hapusach ac iachach ac yn gobeithio eich bod yn cytuno nad prosiect oferedd yw hwn i hen ŵr sy'n chwilio am etifeddiaeth yn Sir Benfro,  ond rwy'n teimlo'r posibilrwydd o lasbrint ar gyfer datblygiadau cynaliadwy yn y dyfodol a fydd yn galluogi cenedlaethau dyfu yn y gofod iach sydd gan fy mhlant a'm hwyrion i.

 

124: Hook             
ID Rhanddeiliad: 3896                     
Gwrthwynebu

Mae canol y pentref, sy'n cynnig cyfleusterau siop/swyddfa bost, ysgol, gwasanaethau bysiau a chlwb chwaraeon, heb sôn am argaeledd dau fan addoli, o leiaf ½ milltir o'r safle arfaethedig hwn.  Mae ardaloedd datblygu yn agosach at ganol y pentref, a fyddai'n cael budd o'r cyfleusterau hyn.

Byddai safle 124 yn cael ei gyrraedd o Pill Road sydd, er ei fod yn ddigonol i ddau gerbyd basio, gyda phwyll mawr, yn ildio i fynedfa arfaethedig y safle sy'n llythrennol yn ochr hen ardd ac nad yw'n addas ar gyfer derbyn cerbydau mawr.  Byddai gan yr holl gerbydau sy'n mynd i mewn ac allan o'r safle welededd a mynediad cyfyngedig, oherwydd dimensiwn y ffordd yn y man yma, nad yw ond yn 16 troedfedd o led.  Mae'n anodd gweld sut y gellid ehangu'r ffyrdd dynesu yn yr ardal hon.  Mae hefyd yn anodd rhagweld adeiladu llwybrau troed / palmentydd angenrheidiol, gan y byddai'r rhain yn lleihau'r ffordd fynediad ymhellach.  Rhaid rhoi ystyriaeth bellach i ddiogelwch peiriannau trwm a pheirianwaith a fyddai’n gweithredu mewn ardal lle roedd nifer o siafftiau archwilio, yn dyddio'n ôl i gyfnod y gwaith cloddio glo hanesyddol yn yr ardal.

A oes unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi i'r posibilrwydd y byddai datblygu'r safle hwn yn effeithio'n andwyol ar y bywyd gwyllt sy'n bodoli yn y coetir y tu ôl i lain 124?

O'n safbwynt ni, a) Fe symudon ni i'r wlad (manylion personol wedi’u golygu), mewn ardaloedd â mynediad eithafol i gerbydau, b) rydym wedi ystyried, yn ofalus iawn, y posibilrwydd y gallai safle gymaint â safle 124 gynnwys dros 50 eiddo.

Pa gynnig fyddai'n cael ei wneud i roi iawndal i ddeiliaid tai presennol am ddibrisio eu heiddo hwy eu hunain?  Pan brynasom ni ein heiddo yn 2018, cawsom ar ddeall bod caniatâd cynllunio amodol wedi'i roi, ar gyfer bloc stablau a chyfleuster ar gyfer storio tractor ac ati heb unrhyw ystyriaeth bellach ar gyfer datblygu at ddibenion domestig.  Mae ein gardd eisoes yn dueddol o fynd dan ddŵr. Dim ond gwaethygu’r mater fyddai cael gwared ar lawer o'r glaswelltir o safle 124.

Fe'n hysbysir yn ddibynadwy bod ein heiddo ni ym mhen pellaf y cyswllt â’r brif system ddraenio.  Mae pob eiddo ymhellach i lawr y bryn, o reidrwydd, wedi’u cysylltu â'u tanciau septig eu hunain, sy'n codi'r pryder ynghylch mynediad at y brif garthffos ar gyfer yr anheddau arfaethedig.

 

046: Abergwaun   
ID Rhanddeiliad:34584                   
Cefnogi

Does dim digon o dir yn Abergwaun i ddatblygu tai i bobl leol. Mae pobl yn cael eu cosbi am fod â’r nifer anghywir o ystafelloedd gwely o dan y dreth ystafell wely. Mae fy nhir yn addas ar gyfer tai ag 1-2 ystafell wely i bobl leol.

 

108, 464, 465 a 466: Neyland         
ID Rhanddeiliad: 34618                   
Cefnogi

Fel perchnogion safleoedd ymgeisiol 108, 464, 465 a 466 yn Neyland fe wnaethom gyflwyno safleoedd ar gyfer dyraniad preswyl a hoffem iddynt gael eu hystyried felly.

Gwybodaeth Atodol: Roedd sylwadau mewn ymateb i fersiwn adneuo Cydgynllun Datblygu Unedol 2003 ar gyfer safle o fewn yr un ardal yn Neyland, ond gyda maint gwahanol ar gyfer y safle.

 

113: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad:34822                   
Gwrthwynebu

Nid yw'r seilwaith ffyrdd yn Douglas James Way yn addas ar gyfer mwy o draffig, ceir carthffosiaeth / draenio annigonol ac mae'r gyffordd yn y pen uchaf eisoes yn beryglus.

 

379: Llanddewi Felffre     
ID Rhanddeiliiad:34823                  
Gwrthwynebu

Rwyf wedi ymddeol ac wedi symud i'r ardal hon yn ddiweddar oherwydd y tawelwch a’r olygfa o'm heiddo.

 

379: Llanddewi Felffre     
ID Rhanddeiliad:34824       
Gwrthwynebu

Safle mawr iawn fyddai'n dyblu'r tai yn y pentref. Mae'n gae amaethyddol a heb ei ddifetha. Byddai datblygiad yn golygu dinistrio ardal sy'n cynnal llawer o fywyd gwyllt. Mae'n safle ar lethr serth gyda nant fechan ar y gwaelod. Byddai dŵr sy'n rhedeg i lawr y llethr yn difetha hyn.

Mae'n llethr serth ar dir uchel sy'n wynebu cefn gwlad. Byddai'n cael ei weld o filltiroedd i ffwrdd a byddai mynediad ato o ffyrdd di-ddosbarth cul.

Byddai swyddi, siopa, ysgolion, gwasanaethau iechyd ac ati i gyd yn golygu bod angen teithio i'r dref a chyda gwasanaeth bws gwael, byddai'n rhaid defnyddio ceir. Ystyrir cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn y CDLl a byddai'r safle hwn yn effeithio'n wael ar y ddau. Mae'r cefn gwlad agored a'r golygfeydd am filltiroedd yn amwynderau a fyddai'n cael eu difetha'n llwyr. Byddai safleoedd eraill a gyflwynwyd yn y pentref yn cael llawer llai o effaith.

Gwrthodwyd y safle yn y CDLl presennol ac nid oes unrhyw beth amdano wedi newid i gefnogi ei dderbyn yn y CDLl newydd.

 

379: Llanddewi Felffre      
ID Rhanddeiliad: 34825                   
Gwrthwynebu

Byddai'n rhaid i fynediad fod ar ffordd gul ddi-ddosbarth. Ceir cwynion yn lleol am swm y traffig yn barod, ni fyddai mynediad o'r A40 yn dderbyniol i'r Asiantaeth Cefnffyrdd ac felly byddai'r traffig ychwanegol yn achosi problemau diogelwch difrifol.

Byddai'n rhaid cael cynnydd enfawr mewn capasiti carthffosiaeth. Pwy fyddai'n talu am hyn? Byddai angen gorsaf bwmpio hefyd a byddai mwy o arogleuon nag ar hyn o bryd.

Byddai'n rhoi dwywaith cymaint o dai i'r pentref ag sydd ganddo ar hyn o bryd ac yn dod â llawer o anhawster.

Byddai i’w weld o filltiroedd i ffwrdd a byddai’n difetha'r llonyddwch a'r golygfeydd ar hyn o bryd.

Mae'n safle ar lethr serth, beth am ddraenio? Mae llawer ohono'n Gorstir ar hyn o bryd a byddai dŵr wyneb ychwanegol yn effeithio ar y nant fechan ar y safle.

Byddai galw am wasanaethau fel addysg a gofal iechyd y byddai angen teithio ychwanegol ar gyfer pob un ohonynt - ceir fyddai'r unig ddull teithio ymarferol.

Mae safle arall wedi cael ei gyflwyno a fyddai'n fwy addas o ran maint a lleoliad ac a fyddai'n ddigon i ateb y galw.

Cyflwynwyd y wefan hwn o'r blaen ac fe’i gwrthodwyd, nid oes unrhyw beth amdano wedi newid ers hynny.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad:34826                   
Gwrthwynebu

Hoffwn wrthwynebu cynnwys Safle Ymgeisiol 114 fel safle Gwyrdd yn CDLl2 a chynnig ei ailneilltuo i'r categori 'Coch'.

Gan fy mod yn byw ar waelod Douglas James Way, rwy'n pryderu y byddai unrhyw gartrefi newydd a fyddai’n cael eu hadeiladu ar safle arfaethedig 114 yn cael eu cyrraedd o waelod y ffordd bresennol lle mae'n cwrdd â'r llwybr ceffylau i Bont Pelcomb; mae gennym eisoes fynedfa gudd ar gyfer ein heiddo ni; wrth adael ein heiddo mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o’r traffig fferm i ac o Slade Hall, a byddai bod â thraffig ychwanegol i fyny ac i lawr DJW yn gwneud y sefyllfa'n fwy anniogel.

Ni ellir cefnogi unrhyw draffig ychwanegol i fyny ac i lawr DJW a byddai'r gyffordd sydd eisoes yn anaddas ar y groesffordd â Hawthorn Rise yn dod hyd yn oed yn fwy anniogel ac yn lle y mae damweiniau cerbydau/cerddwyr yn dueddol o ddigwydd. Mae Douglas James Way eisoes yn rhy gul ac ni ellir ei lledu i wrthbwyso effaith parcio ar y ffordd, cerbydau ac offer fferm mawr iawn ynghyd ag unrhyw draffig newydd a fyddai’n teithio drwodd.

Profwyd problemau sylweddol yn hanesyddol gyda gorlwytho gwasanaethau cyfleustodau yn yr ardal hon, yn enwedig systemau draenio a charthffosiaeth.

Mae draenio naturiol yn rhan isaf Safle Ymgeisiol 114 wedi bod yn annigonol ers blynyddoedd.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34829                   
Gwrthwynebu

Nid yw safle ymgeisiol Rhif 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o'r categori gwyrdd i goch ar y seiliau canlynol:-

Mae'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw gartrefi newydd y tu ôl i DJW yn cael eu cyrraedd o waelod y ffordd bresennol. Rwy'n credu:-

Ni ellir cefnogi unrhyw draffig ychwanegol i fyny/i lawr DJW a byddai'r gyffordd sydd eisoes yn anaddas ar y groesffordd â Hawthorn Rise yn dod hyd yn oed yn fwy anniogel ac yn lle y mae damweiniau cerbydau/cerddwyr yn dueddol o ddigwydd. Mae ffordd DJW eisoes yn rhy gul ac ni ellir ei lledu i wrthbwyso effaith parcio ar y ffordd, cerbydau fferm ynghyd ag unrhyw draffig newydd a fyddai’n teithio drwodd.

Profwyd problemau sylweddol yn hanesyddol gyda gorlwytho gwasanaethau cyfleustodau yn yr ardal hon, yn enwedig systemau draenio/carthffosiaeth.

Mae draenio naturiol yn rhan isaf Safle Ymgeisiol 114 wedi bod yn annigonol ers blynyddoedd.

Rwy'n gobeithio y bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried cyn i'r Cynllun Adneuo gael ei baratoi’n derfynol.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34831                   
Gwrthwynebu

Nid yw mynediad a chynllun y ffordd yn addas ar gyfer traffig ychwanegol.  Rhy gul ac yn cael ei defnyddio hefyd gan beiriannau fferm mawr.  Dylai'r safle fod yn 'goch'.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34832                   
Gwrthwynebu

Gwrthwynebiad i safle ymgeisiol 114 I’r Gorllewin o Douglas James Way, Hwlffordd, fel datblygiad preswyl.

Fel un o drigolion Douglas James Way, hoffwn wrthwynebu'n ffurfiol y datblygiad arfaethedig uchod am y rhesymau canlynol:

Mae'r stryd breswyl gul, Douglas James Way yn fynediad a rennir i Fferm Slade Hall ac mae nifer uchel o offer amaethyddol mawr iawn yn ei defnyddio’n ddyddiol.

Nid yw'r gyffordd rhwng Douglas James Way a Hawthorn Rise yn addas ar gyfer y cynnydd tebygol mewn traffig oherwydd ei chynllun a'i lleoliad ar dro tynn. Mae troi i'r dde o Hawthorn Rise i mewn i Douglas James Way yn gornel ddall, yn croesi traffig sy'n dod tuag atoch ac mae'n arbennig o beryglus.

Mae trigolion Douglas James Way wedi gweld sawl problem dros y blynyddoedd gyda systemau draenio a charthffosiaeth gwael sy’n awgrymu bod y system ddraenio bresennol wedi'i dylunio'n wael ac eisoes wedi'i gorlwytho.

Mae'r darn o dir a nodwyd fel C114 a'i fynediad at Douglas James Way yn ardal o dir sy'n draenio'n wael ac fe'i gwelir yn aml dan lifogydd ar ôl  llawer o law, gallai unrhyw ddŵr ffo o'r datblygiad hwn achosi problemau amgylcheddol i'r nant sy'n llifo ochr yn ochr â North Court.

Ymddengys fod gwerthu a datblygu'r safle maes glas hwn ar gyfer defnydd fel datblygiad preswyl yn ddiangen oherwydd y nifer bresennol o safleoedd datblygu yn ardal Hwlffordd a'r cyffiniau sy'n methu â dod o hyd i brynwyr neu ddatblygwyr sy'n barod i'w cymryd ymlaen fel prosiectau hyfyw.

Am y rhesymau hyn, hoffwn weld categori Safle Ymgeisiol 114 yn cael ei newid o Wyrdd i Goch.

 

249: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34836       
Gwrthwynebu

Tynnu’r Safle Ymgeisiol â’r Cyfeirnod 249 allan, neu ei ailddosbarthu o’r Categori Gwyrdd i’r Categori Coch am y rhesymau canlynol:-

Fel preswylwyr ar ochr ogleddol Haven Road, mae fy ngwraig a minnau’n gwrthwynebu'n gryf unrhyw ddatblygiad tai arfaethedig yn y caeau y tu ôl i ni. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn dir amaethyddol o’r radd flaenaf, mae'r gwrychoedd coediog o'i amgylch yn cynnig cynefin delfrydol ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt fel Llwynogod, Moch Daear, Cnocelli’r Coed, Sgrech y Coed, Bwncathod i enwi dim ond ychydig. Rydym ni, fel eraill, yn mwynhau gallu gwylio ac astudio bywyd gwyllt o'r fath drwy ysbienddrych/telesgop gwylio adar o'n ffenestri sy'n edrych dros y caeau hyn. Byddai datblygiad arfaethedig o'r fath yn dinistrio eu cynefin ac ar yr un pryd yn difrodi'r olygfa anhygoel heb ei difetha yr ydym yn ei mwynhau ar hyn o bryd.

Mae pen uchaf Haven Road wedi dioddef ers amser maith gyda phroblemau carthffosiaeth a draenio oherwydd y brif bibell â diamedr bach a osodwyd yn wreiddiol. Fyddai'r system bresennol yn syml ddim yn ymdopi â'r allfa elifiant ychwanegol o ddatblygiad o'r maint hwn, heb addasiadau mawr, costus a'r angen posibl am osod gorsafoedd pwmpio carthffosiaeth.

Nid yw Haven Road yn ddigon agos i Hwlffordd i gefnogi datblygiad o'r fath h.y. siop groser/bapur agosaf – Trafalgar Road, y Dafarn agosaf – canol Hwlffordd. Mae’r gwasanaeth bws yn gyfyngedig iawn yn yr ardal hon ar gyfer ysgolion a chymudo. Mae’n rhy bell i blant gerdded i'r ysgol gan bod ysgolion newydd wedi'u lleoli’r ochr bellaf i Hwlffordd, gan arwain at fwy o dagfeydd (heb sôn am lygredd) traffig ar ein ffyrdd a thrwy'r dref.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34841       
Gwrthwynebu

Nid yw Safle 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o gategori "gwyrdd" i gategori “coch”.

 

249: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34842                   
Gwrthwynebu

Rwy'n ysgrifennu i gyflwyno gwrthwynebiad i'r cynllun arfaethedig uchod ac yn benodol cynnwys y Safle Ymgeisiol â’r Cyfeirnod 249 sy'n ymwneud â dau gae yn union y tu ôl i'm heiddo ar ochr ogleddol Haven Road.

Dim ond yn newydd gael fy ngwneud yn ymwybodol o’r cynlluniau hyn yr wyf fi a hynny gan gymdogion, nad ydynt hwythau ond newydd glywed eu hunain! Ni allaf gredu bod CSP heb hysbysu pob deiliad tŷ yng nghyffiniau cynllun o'r arwyddocâd hwn.

Rwyf fi (fel y mae fy nghymdogion i gyd ar Haven Road) yn gwrthwynebu datblygiad o'r fath yn llwyr ac yn gofyn yn gryf am dynnu’r Safle Ymgeisiol â'r Cyfeirnod 249 oddi ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol am y rhesymau canlynol:-

Mae'r caeau yn dir fferm âr - mae tri wedi cael eu colli i Baneli Solar yn barod!

Mae'r gwrychoedd a'r coed o amgylch yn gartref i sawl math o fywyd gwyllt – cwningod, llwynogod, moch daear a mannau nythu ar gyfer llawer o rywogaethau adar – yr ydym ni'r trigolion ar ochr ogleddol Haven Road yn mwynhau eu gwylio i gyd yn eu cynefin sydd heb ei ddifetha.

Mae'n hysbys iawn bod gan y pen hwn o Haven Road broblemau carthffosiaeth a draenio. Ni allaf ddychmygu'r problemau y byddwn ni ac unrhyw dai ychwanegol yn eu cael pe bai datblygiad o'r maint hwn yn mynd rhagddo

Mae gwasanaethau Bysiau’n gyfyngedig y pen yma i’r dref - does dim siopau o fewn pellter cerdded, felly byddai cynnydd mawr yn y boblogaeth yma yn golygu llawer mwy o draffig ar gyfer cymudo i’r gwaith a mynd â phlant i'r ysgol. Sylwer, bydd yr ysgolion uwchradd wedi'u lleoli yr ochr arall i'r dref cyn bo hir, felly mwy o draffig yn y dref a mwy o lygredd.

Rwy'n siŵr bod llawer mwy o resymau da pam na ddylid ystyried y cynllun arfaethedig hwn - rwy'n mawr obeithio y bydd hyn yn wir.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34843                   
Gwrthwynebu

Nid yw Safle 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o’r categori 'gwyrdd' i’r categori 'coch'.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad:34845                   
Gwrthwynebu

Mae Rhif 114 Douglas James Way yn anaddas ar gyfer mwy o draffig gan bod y ffordd yn gul a phobl yn parcio ar y stryd. Mae traffig fferm trwm yn mynd i mewn i Hawthorn Rise / Douglas James Way yn rheolaidd, gyda mynediad gwael a gwelededd cyfyngedig.

Rwy'n amgáu ymateb i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae fy ngwraig a minnau am wrthwynebu’r cynnig mewn perthynas â rhif 114 yn y ffordd gryfaf bosibl.

Mae ein prif wrthwynebiad yn ymwneud â'r ffaith bod Douglas James Way yn gwbl anaddas i gymryd mwy o draffig. Mae'r ffordd yn weddol gul ac wedi'i chyfyngu gan barcio ar y stryd. Hefyd defnyddir y ffordd yn aml gan beiriannau fferm llydan, mawr a thrwm. Mae cartref nyrsio Highgrove hefyd yn cynhyrchu traffig sylweddol yn ystod y dydd a gyda'r nos.

Ar ben hynny, nid yw'r mynediad i Douglas James Way o Hawthorn Rise yn ddiogel, hyd yn oed ar hyn o bryd, yn enwedig pan fyddwch wedi dod i fyny Hawthorn Rise ac yn dymuno troi i'r dde i mewn i Douglas James Way: mae gwelededd cyfyngedig o ran traffig yn dod i lawr o Haven Road.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34846                   
Gwrthwynebu

Mae canol y pentref, sy'n cynnig cyfleusterau siop/swyddfa bost, ysgol, gwasanaethau bysiau a chlwb chwaraeon, heb sôn am argaeledd dau fan addoli, o leiaf ½ milltir o'r safle arfaethedig hwn.  Mae ardaloedd datblygu yn agosach at ganol y pentref, a fyddai'n cael budd o'r cyfleusterau hyn.

Byddai safle 124 yn cael ei gyrraedd o Pill Road sydd, er ei fod yn ddigonol i ddau gerbyd basio, gyda phwyll mawr, yn ildio i fynedfa arfaethedig y safle sy'n llythrennol yn ochr hen ardd ac nad yw'n addas ar gyfer derbyn cerbydau mawr.  Byddai gan yr holl gerbydau sy'n mynd i mewn ac allan o'r safle welededd a mynediad cyfyngedig, oherwydd dimensiwn y ffordd yn y man yma, nad yw ond yn 16 troedfedd o led.  Mae'n anodd gweld sut y gellid ehangu'r ffyrdd dynesu yn yr ardal hon.  Mae hefyd yn anodd rhagweld adeiladu llwybrau troed / palmentydd angenrheidiol, gan y byddai'r rhain yn lleihau'r ffordd fynediad ymhellach.  Rhaid rhoi ystyriaeth bellach i ddiogelwch peiriannau trwm a pheirianwaith a fyddai’n gweithredu mewn ardal lle roedd nifer o siafftiau archwilio, yn dyddio'n ôl i gyfnod y gwaith cloddio glo hanesyddol yn yr ardal.

A oes unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi i'r posibilrwydd y byddai datblygu'r safle hwn yn effeithio'n andwyol ar y bywyd gwyllt sy'n bodoli yn y coetir y tu ôl i lain 124?

O'n safbwynt ni, a) Fe symudon ni i'r wlad (manylion personol wedi’u golygu), mewn ardaloedd â mynediad eithafol i gerbydau, b) rydym wedi ystyried, yn ofalus iawn, y posibilrwydd y gallai safle gymaint â safle 124 gynnwys dros 50 eiddo.

Pa gynnig fyddai'n cael ei wneud i roi iawndal i ddeiliaid tai presennol am ddibrisio eu heiddo hwy eu hunain?  Pan brynasom ni ein heiddo yn 2018, cawsom ar ddeall bod caniatâd cynllunio amodol wedi'i roi, ar gyfer bloc stablau a chyfleuster ar gyfer storio tractor ac ati heb unrhyw ystyriaeth bellach ar gyfer datblygu at ddibenion domestig.  Mae ein gardd eisoes yn dueddol o fynd dan ddŵr. Dim ond gwaethygu’r mater fyddai cael gwared ar lawer o'r glaswelltir o safle 124.

Fe'n hysbysir yn ddibynadwy bod ein heiddo ni ym mhen pellaf y cyswllt â’r brif system ddraenio.  Mae pob eiddo ymhellach i lawr y bryn, o reidrwydd, wedi’u cysylltu â'u tanciau septig eu hunain, sy'n codi'r pryder ynghylch mynediad at y brif garthffos ar gyfer yr anheddau arfaethedig.

Mae'r safle ymgeisiol yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl.  Mae'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw ddatblygiad preswyl i'r gorllewin o DJW yn cael ei gyrraedd o waelod y ffordd bresennol.

Rwy'n dod i'r casgliad pendant na ellir cefnogi mwy o draffig i fyny nac i lawr DJW ac y byddai’r gyffordd sydd eisoes yn wael gyda Hawthorn Rise yn dod hyd yn oed yn fwy anniogel / peryglus.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34847       
Gwrthwynebu

Mae Safle Ymgeisiol Rhif 114 yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl – gweler y sylwadau amgaeëdig.

Hoffwn wrthwynebu'r Datblygiad Tai posibl ar 1.15 hectar o dir amaethyddol i'r gorllewin o Douglas James Way. 

Mae'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw gartrefi newydd i'r gorllewin o DJW yn cael eu cyrraedd o waelod y ffordd bresennol. Rwy'n credu'n gryf na ellir cefnogi unrhyw draffig ychwanegol i fyny / i lawr DJW ac y byddai'r gyffordd ffordd sydd eisoes yn anaddas ar y groesffordd â Hawthorn Rise yn dod hyd yn oed yn fwy peryglus ac yn lle y mae damweiniau cerbydau/cerddwyr yn dueddol o ddigwydd. Bydd mwy o draffig ar ael y Bryn yn mynd allan o DJW ac yn dod i mewn i DJW a allai waethygu'r sefyllfa o ran troi i mewn i Gartref Preswyl Highgrove neu allan ohono.

Hefyd, bydd dod allan o fynediad DJC/DJW i DJW yn fwy peryglus gan y byddai mwy o draffig yn dod i fyny/i lawr DJW.

Mae safle ymgeisiol 114 yn floc gwlyb o dir gyda dŵr, yn dilyn glaw trwm, yn sefyll ac yn ffoi i ben isaf y cae - gan ffurfio llyn bach ar adegau oherwydd draeniad annigonol.

Mae problemau wedi bod gyda charthffosiaeth dros y blynyddoedd ac maent yn parhau o hyd ym mhen isaf DJW.

Hyderaf y bydd y ffeithiau hyn, pan edrychir arnynt gan y gwasanaethau cyfleustodau perthnasol yn golygu bod safle ymgeisiol 114 yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl ac y dylid ei ddiwygio yn y Cynllun o’r categori Gwyrdd i’r categori Coch.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34849       
Gwrthwynebu

Mae Safle Ymgeisiol Rhif: 114 yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl, dylid ei ddiwygio i’r categori 'Coch'.  Mae DJW eisoes yn rhy gul ar gyfer traffig sy'n bodoli eisoes.  Mae problemau draenio/carthffosiaeth; ac mae’r groesffordd gyda DJW yn Hawthorn Rise yn gythreulig, a byddai'n gwaethygu (gyda) datblygiad ychwanegol.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34864                   
Gwrthwynebu

Nid yw Safle Ymgeisiol Rhif 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o’r categori 'Gwyrdd' i’r categori 'Coch'.

 

249: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34866                   
Gwrthwynebu

Rwy'n ysgrifennu i wrthwynebu Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig Cyngor Sir Penfro sy'n cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio dau gae yn union y tu ôl i'm heiddo i sydd wedi'i leoli ar ochr ogleddol Haven Road. Cyfeirir at y caeau hyn fel Safle 249 ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

Dim ond yn newydd gael fy ngwneud yn ymwybodol o’r cynlluniau hyn yr wyf fi a hynny gan gymdogion, nad ydynt hwythau ond newydd glywed eu hunain! Rwy'n fenyw oedrannus ac fel llawer o’m cymdogion, nid oes gennyf fynediad at y rhyngrwyd, lle credaf fod y cynllun hwn wedi'i gyhoeddi. Dylai pob preswylydd y bydd cynllun datblygu o'r fath yn effeithio arnynt fod wedi cael eu hysbysu drwy lythyr o leiaf!

Rwy'n gwrthwynebu datblygiad o'r fath yn llwyr, fel y mae fy nghymdogion i gyd ar Haven Road, ac yn gofyn yn gryf am dynnu’r Safle Ymgeisiol â’r cyfeirnod 249 o'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol am y rhesymau canlynol -

Mae'r caeau'n dir amaethyddol o’r radd flaenaf – Sylwer yr amharwyd ar y dirwedd yn barod o ganlyniad i golli tri chae i Baneli Solar

Mae'r gwrychoedd a'r coed sy'n ffinio â'r caeau yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt fel llwynogod, cwningod, moch daear ac maent yn darparu lleoedd nythu i lawer o rywogaethau adar. Byddai datblygiad o'r fath yn dinistrio eu cynefin.

Bu problemau carthffosiaeth a draenio yn y pen yma i Haven Road. Felly mae pryder gwirioneddol y byddai mwy o dai mewn datblygiad o'r fath yn gwaethygu'r broblem.

Mae'r gwasanaeth Bws y pen hwn i'r dref yn gyfyngedig iawn, hefyd nid oes siopau o fewn pellter cerdded, felly byddai cynnydd mawr yn y boblogaeth yn golygu llawer mwy o draffig ar gyfer teithio i’r gwaith a’r ysgol. Yn fuan bydd yr holl ysgolion uwchradd wedi’u lleoli’r ochr bellaf i Hwlffordd, felly byddai’r holl draffig ar gyfer teithio i ysgolion yn ychwanegu at dagfeydd - a llygredd.

Gofynnaf felly am roi ystyriaeth ddifrifol i dynnu'r safle hwn (249) o'r gofrestr Safleoedd Ymgeisiol neu o leiaf ail-ddosbarthu'r safle hwn fel un amhriodol, sef cod Coch.

 

249: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34867                   
Gwrthwynebu

Gan gyfeirio at y cynllun uchod, hoffem godi gwrthwynebiadau i gynnwys "Safle ymgeisiol" Rhif 249 ar y seiliau canlynol:

Cynaliadwyedd – mae'r safle arfaethedig gryn bellter o amwynderau dinesig fel siopau, ysgolion ac ati ac nid oes ganddo wasanaeth bws mynych.

Mynediad – annigonol drwy Cuckoo Lane. Byddai'n ymddangos yn fwy rhesymegol cynnwys safleoedd 113 ac 114 yn lle safle 249.

Angen – ar hyn o bryd mae tua 50 o anheddau yn cael eu hadeiladu gyferbyn â'r Belle Vue y tu ôl i Hawthorn Rise.

Yn ddiweddar mae cartrefi Persimmon wedi cyflwyno cais am 179 o gartrefi ar y safle a arferai gael ei alw’n Glenover Fields.

Roedd yna gynnig i adeiladu tua 600 a mwy o gartrefi oddi ar Thomas Parry Way gyda mynediad o gylchfan eisoes yn ei le. Ar hyn o bryd mae (enw wedi ei olygu) yn adeiladu cartrefi, rhai ohonynt yn fforddiadwy, ar ddatblygiad presennol Glenover Fields.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34868                   
Gwrthwynebu

Mae safle ymgeisiol rhif 114 yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o'r categori Gwyrdd i’r categori Coch.

Petai'r tai arfaethedig yn cael eu hadeiladu i'r Gorllewin o Douglas James Way ble fyddai plant y teuluoedd sy'n symud i mewn i'r tai yn mynd i'r ysgol? Gan bod yr ysgolion yn Hwlffordd yn llawn.

Nid oes cyflogaeth yn yr ardal, dim ond cyflogaeth dymhorol.

Mae'r llwybr ceffylau ar waelod Douglas James Way yn cael ei defnyddio gan farchogion, beicwyr a rhedwyr. Felly nid yw'n fynediad addas ar gyfer ystâd dai sylweddol.

Mae'r tai yn Douglas James Way i gyd yn rhai unigol felly gallai'r effaith ar y gallu gwerthu ar ôl adeiladu ystâd dai sylweddol effeithio arnynt.

 

249: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34869                   
Gwrthwynebu

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i ddogfen y bu fy nghymydog yn ddigon caredig i ddod â hi i'm tŷ ddydd Sadwrn diwethaf (26 Ionawr) ar ôl iddynt weld sylw am Gynllun Datblygu Lleol 2 y Cyngor ar Facebook. Oni bai am hyn, byddwn yn dal yn gwbl anymwybodol o'r mater gan na fu unrhyw gyfathrebu arall gyda thrigolion ein hardal yn ôl pob golwg.

Ers hynny, rwyf wedi siarad gyda pherson a oedd yn barod i helpu yn Neuadd y Sir a ddywedodd wrthyf fod gennyf tan 4 Chwefror i wneud sylwadau ar y Cynllun. Dywedodd wrthyf hefyd nad oedd y ffaith bod y tir wedi cael ei ddewis fel ardal bosibl ar gyfer datblygu yn golygu y byddai'n cael caniatâd cynllunio yn awtomatig. Fodd bynnag, hoffwn wneud sawl pwynt ar y cam hwn o'r Cynllun a byddwn yn ddiolchgar i gwybod bod fy llythyr wedi cael ei ddarllen a'r pwyntiau wedi cael eu hystyried gan y Tîm Cynllunio.

Mae yna sawl rheswm pam fy mod yn ystyried bod yr ardal sydd wedi'i nodi fel #249 yn anaddas ar gyfer datblygu adeiladau. Rwy'n adnabod y caeau'n dda, gan bod (enw wedi ei olygu) wedi bod yn ddigon caredig i ganiatáu i mi gadw cychod gwenyn yn y gwaelod am sawl blwyddyn ac rwyf wedi cerdded i fyny ac i lawr yno lawer gwaith. Rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol rhestru'r pwyntiau ac yna ymdrin â nhw yn eu tro. Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i bob un o'r pwyntiau.

Mae'r tir yn hynod o serth ac yn aml dan ddŵr yn y gwaelod.

Mae'n wynebu'r gogledd ac oherwydd ei fod yng nghysgod copa’r bryn mae’n dywyll ac yn agored i'r gwaethaf o'r tywydd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae'n bell iawn o'r Ysgolion Uwchradd newydd.

Mae'n gynefin heb ei ddifetha i lawer o rywogaethau gwyllt (yn enwedig y gwrychoedd sy'n hen.)

Mae'r tir yn hynod o serth ac yn aml dan ddŵr yn y gwaelod.

Byddai serthrwydd ffyrdd yn ei gwneud hi'n anodd i bobl â llai o symudedd, bygis babanod a sgwteri symudedd. Unwaith y byddai ffyrdd a llwybrau wedi'u palmantu byddai problemau tebygol gyda llifogydd yn ystod glaw. Yn gyffredinol, byddai carthffosiaeth a draeniau yn anodd/amhosibl i’w cysylltu â system bresennol Haven Way (sydd eisoes wedi'i gorlwytho ac yn wael ac angen sylw’n aml).

Mae'n wynebu'r gogledd ac oherwydd ei fod yng nghysgod copa’r bryn mae’n dywyll ac yn agored i'r gwaethaf o'r tywydd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Safle #249 yn wynebu'r gogledd ac yn cael llai o olau haul na thir gwastad. Yn y chwe mis rhwng mis Medi a mis Mawrth mae'n cael ei gysgodi gan gopa’r bryn (Haven Road). Ni fyddai anheddau preswyl yn cael llawer o heulwen yn y gaeaf ac mae'n debygol y byddent yn lleoedd digalon i dreulio llawer o amser. Byddai'r gerddi'n foel ac yn anghynhyrchiol yn gyffredinol. Ni fyddai byw ar ochr dywyll y bryn yn ffafriol i gysur ac ynghyd ag anfanteision eraill byddai’n cyfrannu at broblemau cymdeithasol sydd eisoes wedi bod yn gysylltiedig ag ardaloedd datblygiadau tai cynharach yn y dref mewn lleoliadau tebyg. Byddai'n ffôl ailadrodd camgymeriadau blaenorol.

Mae'n bell iawn o'r Ysgolion Uwchradd newydd

Ers yr alwad wreiddiol am Safleoedd Ymgeisiol fis Mawrth diwethaf, rwy'n deall bod cytundeb ar lafar wedi bod ar gyfer y ffordd fynediad i ail Ysgol Uwchradd Hwlffordd ar y safle ger Prendergast. Pe bai'r ysgol wedi cael ei chynllunio ar gyfer safle Scarrowscant Lane, byddai rhesymeg dros godi mwy o dai yn yr ardal hon. Fodd bynnag, gyda'r ddwy Ysgol Uwchradd ar ochr Abergwaun i'r dref, mae'n ymddangos bod cynllunio datblygiadau tai ar yr ochr gyferbyn yn afresymol. Byddai safle #249 yn golygu taith ddwy filltir drwy'r dref i ddisgyblion yn y naill ysgol a'r llall, gan gynyddu'r traffig sydd eisoes yn drwm ar adegau tyngedfennol. Byddai teuluoedd heb unrhyw fodd i gludo eu plant yn wynebu dibyniaeth ar fysiau ysgol neu fysiau gwasanaeth (ac mae bysiau ysgol yn bwnc dyrys arall). Byddai problemau presenoldeb yn gwaethygu, yn enwedig ymhlith grwpiau difreintiedig y mae angen addysg arnynt fwyaf. Mae safle #249 hefyd gryn bellter o Ysgol Gymunedol Fenton. Taith gerdded hir i blant bach a rhieni gyda bygis / pramiau, ac arbennig o ddiflas yn y gaeaf.

Mae'n gynefin heb ei ddifetha i lawer o rywogaethau gwyllt (yn enwedig y gwrychoedd sy'n hen)

Pan fo ardaloedd yn yr ardal hon yn y dref y mae taer angen eu datblygu (er enghraifft, y safle garej segur ar gornel Snowdrop Lane/Dale road) rhaid bod hurtrwydd datblygu caeau gwyrdd filltir ymhellach allan o'r dref yn amlwg. Tybed, hefyd, beth sy'n digwydd i'r ardal oddi ar Thomas Parry Way yr oedd bwriad i'w datblygu sawl blwyddyn yn ôl ond gyda’r cyfan bellach i’w weld fel pe bai wedi’i ohirio. Mae caeau gwyrdd a gwrychoedd hynafol yn rhan o'n treftadaeth yn Sir Benfro yr ydym yn gyfrifol amdani. Bob dydd rydyn ni'n clywed am y difrod i'r Blaned a achosir gan y rhywogaeth ddynol trwy fod yn ddifeddwl a thrachwantus. Byddai adeiladu yng nghefn gwlad agored pan fo safleoedd eraill ar gael yn enghraifft arall o'r un peth. Mae'n debyg ein bod i gyd yn ymwybodol o'r arwyddair meddyliwch yn fyd-eang, gweithredwch yn lleol. Mae'n anodd atal cwympo coedwig law ym Mrasil ond gallwn o leiaf ailystyried adeiladu dros gaeau gwyrdd y tu allan i Hwlffordd. Nid fy ngardd i, sydd ar ben y bryn serth, cysgodol, sy’n wynebu'r gogledd ac sy'n cael ei drafod, yw'r mwyaf cynhyrchiol lle mae bresych neu ffa yn y cwestiwn. Fodd bynnag, bob blwyddyn ers 1982 rydym wedi bod yn bridio nadroedd glaswellt, ystlumod hirglust yn y garej, madfallod a llyffantod, ambell wiber a llawer o adar cefn gwlad agored. Yn ystod ail wythnos mis Mai mae'n bosib clywed y gog. Mae'r anifeiliaid hyn yn asedau amhrisiadwy sy'n gwneud ein sir yn arbennig iawn. Maen nhw dan fygythiad ac yn gostwng mewn niferoedd ac mae gennym gyfrifoldeb brys i ddiogelu'r cynefinoedd sy'n rhoi bywyd iddyn nhw. Mae gan y coed a'r gwrychoedd, y darn corslyd ar waelod y caeau werth na ellir ei gyfrifo mewn arian yn unig.

Cyfrifwyd bod poblogaeth y byd (yn agor mewn tab newydd) yn ôlpob tebyg  wedi sefydlogi a dechrau lleihau. Mae niferoedd gostyngol mewn ysgolion yn cadarnhau hyn yn lleol ac mi fentraf fod hyn yn cael ei ystyried gan Adran Gynllunio CSP.

Hoffwn ddiolch i chi am gymryd amser i ddarllen ac ystyried fy llythyr. Peidiwch â meddwl fy mod yn syml yn cwyno y byddai llawer o dai yn 'difetha fy ngolygfa'. Mewn gwirionedd, mae gennym gymaint o goed sy’n dal i sefyll yn ein gardd fel na fyddai datblygiad tai newydd yn weladwy o’r tŷ yn ôl pob tebyg. Bûm yn gweithio i CSP fel athro llythrennedd oedolion am 33 mlynedd ac rwy'n ymwybodol iawn o broblemau ac anawsterau pobl difreintiedig sy'n byw mewn tai diflas. Mae angen tai gweddus ar bobl gydag ymdeimlad o gymuned a mynediad at amwynderau ac ysgolion. Rwy'n credu mai #249 yw'r lle anghywir, dyna’r cyfan. Dylid ei dynnu o'r Cynllun Datblygu a dod o hyd i rywle gwell.

 

124: Hook             
ID Rhanddeiliad: 34870                   
Gwrthwynebu

Hoffwn wrthwynebu'r "cais" arfaethedig ar gyfer ardal o dir â’r rhif 124 ar y Cynllun Lleol yn Hook.

Mae'r darn hwn o dir y tu allan i ffin y pentref ac mae wedi'i leoli ar heol fach. Byddai datblygu'r ardal hon yn dod â llawer o broblemau pe bai hynny'n cael ei ganiatáu. Mae'r ysgolion yn Hook a Llangwm eisoes bron â bod yn llawn. Mae hen fapiau'n dangos bod y tir hwn wedi'i greithio gan hen weithfeydd glo ar ffurf pyllau cloch, felly rhaid nad yw'n addas ar gyfer adeiladu tai.

Nid yw mynediad i mewn i'r ardal hon yn addas ar gyfer niferoedd mawr o dai/ceir.

Mae nifer o leiniau ar gyfer adeiladu yn y pentref sydd eisoes ar gael i'w defnyddio yn ystod y 10 mlynedd nesaf y mae'r cynllun hwn yn eu cwmpasu.

Mae'r ffordd allan o Hook i gyfeiriad Freystrop wir yn annigonol ar gyfer symiau’r traffig sydd eisoes yn ei defnyddio. Ni all datblygiad pellach yn y pentref hwn a oedd unwaith yn hyfryd ond difetha'r hyn y mae pobl yn symud yma i'w fwynhau.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34871       
Gwrthwynebu

Hoffwn gyflwyno fy ngwrthwynebiad i safle 114 ar y Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig. Mae'n ymddangos mai'r unig ffordd resymegol i mewn i'r datblygiad yw trwy Douglas James Way.

Mae fy mhrif wrthwynebiad ar sail diogelwch:

  1. Y mynediad cyfyngol gwael wrth fynd i mewn neu allan o DJW i Hawthorn Rise. Mae Hawthorn Rise yn ffordd hynod o brysur y dyddiau hyn gan ei bod yn cael ei defnyddio at lawer o ddibenion gan gynnwys llwybr tarw i archfarchnad leol.
  2. Y ffordd gul bresennol y cyfyngwyd arni’n barod gan angen rhyw breswylydd i barcio ail gar ar y ffordd.
  3. Y defnydd mynych iawn gan beiriannau fferm a pheiriannau contractwyr sy’n llydan a thrwm.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34872                   
Gwrthwynebu

Hoffwn gyflwyno fy ngwrthwynebiad i safle 114 ar y Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig. Mae'n ymddangos mai'r unig ffordd resymegol i mewn i'r datblygiad yw trwy Douglas James Way.

Mae fy mhrif wrthwynebiad ar sail diogelwch:

  1. Y mynediad cyfyngol gwael wrth fynd i mewn neu allan o DJW i Hawthorn Rise. Mae Hawthorn Rise yn ffordd hynod o brysur y dyddiau hyn gan ei bod yn cael ei defnyddio at lawer o ddibenion gan gynnwys llwybr tarw i archfarchnad leol.
  2. Y ffordd gul bresennol y cyfyngwyd arni’n barod gan angen rhyw breswylydd i barcio ail gar ar y ffordd.
  3. Y defnydd mynych iawn gan beiriannau fferm a pheiriannau contractwyr sy’n llydan a thrwm.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34873       
Gwrthwynebu

Hoffwn gyflwyno fy ngwrthwynebiad i safle 114 ar y Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig. Mae'n ymddangos mai'r unig ffordd resymegol i mewn i'r datblygiad yw trwy Douglas James Way.

Mae fy mhrif wrthwynebiad ar sail diogelwch:

  1. Y mynediad cyfyngol gwael wrth fynd i mewn neu allan o DJW i Hawthorn Rise. Mae Hawthorn Rise yn ffordd hynod o brysur y dyddiau hyn gan ei bod yn cael ei defnyddio at lawer o ddibenion gan gynnwys llwybr tarw i archfarchnad leol.
  2. Y ffordd gul bresennol y cyfyngwyd arni’n barod gan angen rhyw breswylydd i barcio ail gar ar y ffordd.
  3. Y defnydd mynych iawn gan beiriannau fferm a pheiriannau contractwyr sy’n llydan a thrwm.

 

394, 395, 396 a 398: Pentlepoir                 
ID Rhanddeiliad: 34878                   
Gwrthwynebu

A fyddech cystal â derbyn y llythyr hwn fel gwrthwynebiad ffurfiol i nifer o safleoedd ymgeisiol arfaethedig sydd wedi'u cynnwys yn t76 o'r gofrestr Safleoedd Ymgeisiol (gweler y copi a'r map atodwyd i gyfeirio atynt).

Fy muddiant breintiedig cychwynnol yn un o'r safleoedd ymgeisiol arfaethedig hyn oedd ei leoliad daearyddol yn agos at fy nghartref, ond ar ôl ymchwilio ymhellach rwyf bellach yn mynd yn fwy pryderus ynghylch yr ymagwedd bosibl tuag at orddatblygu pentref Pentlepoir yn ei gyfanrwydd. Ar ôl adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol a'i bapurau tystiolaeth cysylltiedig yn llawn, mae'n amlwg bod y sir gyfan ar hyn o bryd yn adeiladu anheddau ar raddfa fwy na'r hyn y mae ei angen yn unol â'r cynlluniau amcanestyniadau poblogaeth presennol, a gyhoeddwyd ar wefan gynllunio Cyngor Sir Penfro.

Cyf: Cynlluniau Datblygu Amcanestyniadau Poblogaeth, Aelwydydd a'r Llafurlu

Medi 2008

Paratowyd gan (enw wedi ei olygu) Rheolwr System Wybodaeth Ddaearyddol/Gwybodaeth Polisi a Chynllunio Corfforaethol Cyngor Sir Penfro

"t.35 Gofyniad Anheddau Mae'r tabl canlynol yn awgrymu y bydd angen cyfanswm o 5155 o anheddau newydd ar gyfer ardal Sir Benfro y tu allan i'r Parc Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 2006-2021, sy'n cyfateb i gyfradd adeiladu gyfartalog o 345 o unedau’r flwyddyn, sy'n cymharu â chyfradd gwblhau gyfartalog gyfredol o tua 470 o anheddau’r flwyddyn."

Mae pentref Pentlepoir wedi tyfu'n gyson trwy gael ei ddatblygu o un flwyddyn i’r llall gan greu nifer o ystadau tai newydd sydd i gyd wedi bwydo'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i'r A478, sydd eisoes yn ffordd eithriadol o brysur sy'n gwasanaethu cyrchfannau gwyliau poblogaidd Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot. Yn sicr, dylid ystyried bod creu mwy o draffig sy'n ceisio ymuno â'r ffordd hon sydd eisoes yn brysur yn syniad peryglus.

Ar ôl adolygu'r safleoedd ymgeisiol arfaethedig ar y map (gweler yr atodiad) gallaf weld bod y rhan fwyaf o'r safleoedd y tu allan i'r llinell ddatblygu gymeradwy gyfredol ar gyfer y pentref a bod y mwyafrif ar ochr arfordirol yr A478 gan symud tuag at linell ffin y Parc Cenedlaethol, sy’n arwain at fy mhryderon a nodir fel a ganlyn :-

Safle 394 – mae hwn y tu mewn i'r llinell gymeradwy gyfredol ac mae'n ymddangos, ynghyd â Safle 019, ei fod yn barhad "tybiedig" i ddatblygiad mawr diweddaraf Coppins Park, a fyddai'n awgrymu na fyddai angen ffordd fynediad ychwanegol arnynt ar yr A478 ond y byddent yn sicr yn ychwanegu at swm y traffig.

Safle 395 – pe bai'r safle hwn yn cael ei  gymeradwyo yna byddai'n sicr yn mynd yn groes i lawer o'r pwyntiau a godir o fewn y CDLl presennol a dogfennau tystiolaeth ategol yn yr ystyr y byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle, oherwydd ei ardal ddaearyddol, yn sicr yn cynyddu pwynt datblygedig uchaf y pentref a fyddai'n bendant yn cael "Effaith weledol Negyddol/Niweidiol o ganlyniad i’r datblygiad – yn enwedig ar y dirwedd a/neu'r ardal" (cyf: CDLl2 – Tystiolaeth – adroddiad Diffinio Clystyrau o Aneddiadau). Byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn hefyd yn eithriadol o agos at y tyrau ffôn symudol lluosog a'r mast radio brys yr wyf yn sicr y dylid ei atal o fewn unrhyw gynllun datblygu lleol oherwydd tystiolaeth gymysg ar hyn o bryd ynghylch effeithiau ar iechyd os doir i gysylltiad â hwy dros gyfnod maith.  Nid oes gan safle 395 unrhyw fynediad ffordd uniongyrchol addas at yr A478 a fyddai'n gofyn am gymeradwyo safleoedd datblygu lluosog i gael mynediad yn ogystal â ffordd fynediad newydd sbon i'r A478.

Safle 396 – mae'r safle arfaethedig hwn hefyd yn rhannu llawer o faterion safle 395 ond nid yw'n ymddangos ei fod yn cyflwyno'r un agwedd weledol negyddol â safle 395 oherwydd nad yw'n cynyddu uchder datblygu'r pentref. Byddai hefyd angen ffordd fynediad newydd sbon i gefnffordd yr A478 sydd eisoes yn brysur. 

Safle 398 – cynnig sy'n ymddangos fel pe bai’n gynnig "mawr" sy'n cyfuno sawl cae gyda chyfran fach o'r cynnig yn rhannu'r un pryderon â safleoedd 395 a 39; fodd bynnag ymddengys fod y mwyafrif helaeth o’r cynnig hwn yn gyfagos i'r B4316 ac nad yw'n ffinio ag unrhyw anheddau presennol. Er y byddai unrhyw ddatblygiad yma'n cynyddu'r traffig ar y gyffordd sydd eisoes yn brysur rhwng yr A478/B4316 ("Fountain Head") gellir tybio y gallai cyfran o'r traffig cynyddol posibl anelu tua’r dwyrain ar y B4316 tuag at bentref Saundersfoot ac i ffwrdd o gefnffordd yr A478.

Fy mwriad, drwy'r llythyr gwrthwynebu hwn, yw apelio ar aelodau'r cyngor cymuned i adolygu ac ystyried y pwyntiau gwrthwynebu a godwyd gennyf yn llawn, a’u bod yn cymryd gofal mawr ac yn rhoi ystyriaeth i’r effeithiau hirdymor ac anghenion pentref gwledig Pentlepoir yn y pen draw. Gan y byddai datblygiad posibl o'r raddfa hon bron yn dyblu maint y pentref ac yn mynd ymhell y tu hwnt i’r angen presennol am dai yn yr ardal. Rwy'n llwyr werthfawrogi bod angen i'r cynghorau sicrhau bod y pentref yn parhau i fod yn llewyrchus ac i symud ymlaen, ond rwy'n eu hannog i ystyried eu dyletswyddau tuag at drigolion presennol Pentlepoir a golwg a theimlad y pentref ar y cyfan.

 

249: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34881                   
Gwrthwynebu

Yn Safle Ymgeisiol 249 (rhwng South Cuckoo Farm a Cuckoo Lane) mae'r fynedfa arfaethedig i'r gogledd o erddi 158-168 Haven Road yn lled trac sengl y cyfyngir arno gan dai presennol a gwrychoedd terfyn gerddi preswyl preifat presennol.

Hefyd, mae Cuckoo Lane ei hun yn rhy gul i gynnal symiau sylweddol y traffig sy'n debygol o fod yn ceisio llifo drwyddi yn ystod cyfnodau prysur.

Y canlyniad tebygol fyddai ymddygiad traffig sy'n annerbyniol yn amgylcheddol gyda cherbydau’n brecio ac yn cyflymu’n barhaus wrth i lif dwyffordd orfod rhannu'r ffordd gerbydau nad yw ond yn ddigon llydan i un cerbyd. Bydd hyn yn arwain at gynnydd dramatig mewn gweddillion hylosgi hydrocarbon a NOx a gludir yn yr awyr uwchlaw’r lefelau a brofir ar hyn o bryd, gan felly ddirywio ansawdd aer gyda pheryglon cysylltiedig cydnabyddedig i iechyd anadlol dynol.

Felly, cynigir y dylid dileu'r fynedfa a ddisgrifir uchod o'r cynlluniau ar gyfer safle ymgeisiol 249.

A fyddech cystal â thrin y llythyr hwn fel gwrthwynebiad i elfen o gynllunio safle ymgeisiol 249 ar Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol y CDLl (rhwng South Cuckoo Farm a Cuckoo Lane.)

Fel perchennog a phreswylydd yn 166 Haven Road, rwy'n pryderu o ddifrif am y lôn fynediad arfaethedig i safle 249 sy'n ymddangos fel pe bai'n cael ei chynllunio i redeg yn union ochr yn ochr â'm gwrych ar y ffin ogleddol.

Mae'r sianel fynediad arfaethedig i'r gogledd o erddi 158-168 Haven Road yn lled trac sengl, tynn y cyfyngir arno gan dai presennol a gwrychoedd terfyn gerddi preswyl preifat presennol.

Hefyd, mae Cuckoo Lane ei hun yn rhy gul i gynnal symiau sylweddol y traffig sy'n debygol o fod yn ceisio llifo drwyddi yn ystod cyfnodau prysur, gyda llawer o drigolion presennol yn parcio eu ceir ar y ffordd yn rhai o’r rhannau o Cuckoo Lane sydd ychydig yn fwy llydan.

Y canlyniad tebygol fyddai ymddygiad traffig sy'n annerbyniol yn amgylcheddol gyda cherbydau’n brecio ac yn cyflymu dro ar ôl tro wrth i lif dwyffordd orfod rhannu'r ffordd gerbydau nad yw ond yn ddigon llydan i un cerbyd, gyda'r broblem yn dechrau yn y man cyfyng y tu ôl i'm gardd a dim ond clirio o fewn yr ychydig fetrau olaf cyn i Cuckoo Lane ymuno â'r B4341.

Gallai hyn arwain at gynnydd dramatig mewn gweddillion hylosgi hydrocarbon yn yr awyr a chrynodiadau NOx yn yr awyr uwchlaw’r lefelau a brofir ar hyn o bryd, gan felly ddirywio ansawdd aer gyda pheryglon cysylltiedig cydnabyddedig i iechyd anadlol dynol.

Felly, o safbwynt cyfyngiadau gofodol ac o safbwynt iechyd yr amgylchedd nid yw hon yn elfen ddichonadwy o'r cynlluniau.  Felly, cynigir y dylid dileu'r fynedfa a ddisgrifir uchod o'r cynlluniau ar gyfer safle ymgeisiol 249.

 

124: Hook             
ID Rhanddeiliad: 34890                   
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 124

Mae'n anodd iawn gwneud sylwadau am y safle hwn pan wrthodir y cyfle i rywun ddarllen sylwadau’r ymgeisydd.

Cafodd cais cynllunio ei gymeradwyo'n amodol ar gyfer y tir hwn i godi bloc stablau a storio (gydag 13 o amod ynghlwm) yn 2018.

Mae cryn bellter o'r safle hwn i ganol y pentref ac mae awydd enfawr i weld canol y pentref yn datblygu, yn hytrach na datblygu ysbeidiol. Mae safleoedd datblygu sylweddol yng nghanol y pentref o hyd, gyda chaniatâd cynllunio llawn, ynghyd â lleiniau mewnlenwi, i fodloni datblygiad arfaethedig y pentref ar gyfer y dyfodol hirdymor.

Mae safle 124 ar bwys coetir bach a chwrs dŵr a fyddai'n cael effaith andwyol ar gynefin bywyd gwyllt yn yr ardal honno. Mae'r cwrs dŵr eisoes wedi cael ei newid gan yr ymgeisydd, er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw ganiatâd i wneud hynny.

Mae'r ffordd ddiddosbarth o Hook i Freystrop Cross yn ddrwgenwog am ei natur droellog ac ni wnaed unrhyw waith mawr i’w huwchraddio ers ei hadeiladu yn y 1950au. Rhaid ei bod yn cyrraedd ei chapasiti llawn yn awr.

Mae safle 124 ym mhen isaf y system garthffosydd ac nid yw’r system honno wedi cael ei huwchraddio o gwbl ers ei hadeiladu yn y 1950au. Mae'n rhaid ei bod yn cyrraedd ei chapasiti llawn yn awr.

Byddai maint y safle arfaethedig yn golygu bod ystâd yn datblygu ym mhennau pellaf y pentref, a allai’n realistig gynnwys 60 neu fwy o anheddau.

Mae Pill Road fel rheol yn eithaf cul ac mae dau gerbyd yn pasio ei gilydd gyda gofal. Mae'r 200 llath olaf i'r safle arfaethedig yn llawer culach a heb balmant. Rhybuddir cerbydau mawr nad oes man troi ar ôl iddynt fynd i mewn i'r rhan hon o'r briffordd. Wrth fynedfa'r safle arfaethedig, dim ond 16 troedfedd o led yw'r ffordd a does dim palmant.

Gallai maint y datblygiad arfaethedig olygu chwe deg mil (60,000) o deithiau cerbyd i'r safle hwn bob blwyddyn yn ôl yr amcangyfrif. Pob un yn mynd i mewn neu allan o lôn 16 troedfedd o led, heb unrhyw balmant.

Oherwydd agosrwydd y glofeydd "Commons" a "Winder" segur, ynghyd â'r ffaith bod y safle'n cynnwys llawer o byllau "cloch," byddai'n rhaid rafftio pob eiddo. Byddai hyn yn arwain at nifer enfawr o lorïau trwm iawn yn cario deunyddiau adeiladu ychwanegol, pob un yn mynd i mewn ac allan ar lôn nad yw ond 16 troedfedd o led.

Rydym yn gwrthwynebu'n gryf bod pobl o’r Gwasanaethau Eiddo yn rhan o'r gwaith o asesu Safle 124 oherwydd "Gwrthdaro Buddiannau" rhwng un aelod o staff a'r ymgeisydd.

Mae Ysgol Hook yn llawn ac yn ôl yr hyn yr ydym ni’n ei ddeall nid oes unrhyw gyllid pellach ar gael yn y dyfodol hyd y gellir rhagweld.

 

124: Hook             
ID Rhanddeiliad: 34891       
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 124

Rydym yn ysgrifennu gan gyfeirio at yr uchod, ac yn dymuno cofrestru ein gwrthwynebiad.

Gellir amlinellu ein gwrthwynebiadau’n fras fel a ganlyn:

Cyfyngir yn ddifrifol ar fynediad at y safle. Mae Pill Road ei hun yn ffordd gul ac yn aml yn profi tagfeydd, gan gael ei defnyddio'n ddyddiol gan faniau danfon nwyddau mawr, tanceri olew, cerbydau preswylwyr ac, ar fore Gwener, cerbydau casglu gwastraff. Mae ceir preswylwyr hefyd yn cael eu parcio ar Pill Road.

Am ran helaeth o'i hyd, nid oes palmant ar Pill Road, a fyddai’n hanfodol, does bosibl, pe bai nifer sylweddol o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle arfaethedig.

Byddai union seilwaith pentref Hook yn cael ei beryglu'n ddifrifol pe bai'r datblygiad tai hwn yn cael ei wireddu. Mae'r gymuned yn cael ei gwasanaethu gan un siop bentref, un ysgol gynradd - y ddwy ohonynt yn fwy na digon ar gyfer anghenion y boblogaeth bresennol ond byddent yn cael eu herio'n fawr gan y nifer sylweddol o bobl a allai, mewn egwyddor, fod yn byw yn Pill Road rywbryd yn y dyfodol.

 

124: Hook             
ID Rhanddeiliad: 34892                   
Gwrthwynebu

Nid yw datblygiad arfaethedig 124 yn gwneud rhyw lawer o synnwyr, os o gwbl. Mae’r tu allan i unrhyw linell ddatblygu naturiol ar gyfer y ffordd hon, ni fyddai’r seilwaith e.e. y ffordd, systemau carthffosiaeth, dŵr, cyfathrebu e.e. ffôn / band eang yn gallu cynnal datblygiadau o’r maint hwn gan eu bod i gyd yn gweithredu y tu hwnt i'w capasiti’n barod. Mae Ysgol Hook yn llawn fwy neu lai ac mae Ysgol Llangwm yn llawn.

Mae rhai yn dweud mai cyfle i'r (manylion personol wedi’u golygu) a byddai'n anghywir caniatáu’r newidiadau hyn oherwydd ei swydd.

Nid yw'r rhan hon o Pill Road yn addas ar gyfer mwy o draffig, o ystyried mai trac sengl gyda lleoedd pasio heb unrhyw balmant ydyw a bod y ffordd wedi’i goleuo’n wael yn y nos.

Pe bai angen mwy o ddatblygiad yna’r lle amlwg fyddai o gwmpas canol y pentref nid lle byddai allan o le ac yn effeithio ar dawelwch a bywyd gwyllt rhan isaf Pill Road, yn agos at y foryd.

Mae safleoedd heb eu datblygu gerllaw yn Hwlffordd gyda seilwaith eisoes yn ei le, sy’n llawer mwy addas.

Ni chafodd y ffyrdd sy'n arwain at Hook eu hadeiladu ar swm y traffig sy'n eu defnyddio ar hyn o bryd ac mae mân ddamweiniau’n gyffredin, byddai'n anghyfrifol caniatáu i fwy o ddatblygiadau ddigwydd yn Hook tan ar ôl i'r materion o ran y ffyrdd a'r seilwaith gael sylw.

Rwy'n hyderus, pan fydd tîm o CSP yn ymweld â Hook os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, y byddant yn deall fy mhryderon ac mai synnwyr cyffredin fydd drechaf; er lles y pentref a diogelwch ei drigolion.

 

421: Hill Mountain                        
ID Rhanddeiliad: 34893                   
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 421 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 422, 423, 425, 426, 419, 420 a 424 yn yr un pentref)

Mae gennym bryderon ynghylch mater traffig ychwanegol yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl i gael mynediad at y safle hwn ac argaeledd gwasanaethau ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae problemau eisoes yn bodoli gyda mwy o draffig yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl hon i gael mynediad at faes parcio'r Cwt Sgowtiaid a phroblemau gyda pharcio yn y lôn breifat trac sengl hon gan y rhai sy'n defnyddio'r Cwt Sgowtiaid; ar adegau mae niferoedd sylweddol o blant yn y lôn dywyll ac mae potensial eisoes i ddamwain ddigwydd. Hefyd, wrth ddod allan o'r lôn hon i mewn i'r brif ffordd mae gwelededd yn wael, a waethygir gan geir staff ac ymwelwyr y cartref gofal cyfagos sy’n parcio ar ymyl y ffordd o flaen y Cwt Sgowtiaid: bu rhai damweiniau bron â digwydd yn barod wrth i geir geisio cael mynediad at y brif ffordd. Hefyd, mae cerbydau amaethyddol wedi bod yn methu â chael mynediad at y lôn a dim ond gwaethygu y bydd y sefyllfa honno oherwydd swm cynyddol y traffig y bydd y datblygiad hwn yn ei greu. Gall yr uchod hefyd fod yn berthnasol i safleoedd 422/425/423/426 gan ddibynnu a fwriedir i'r safleoedd hynny gael eu cyrraedd trwy'r lôn trac sengl hon.

Nid yw'r safle arfaethedig yn cael ei wasanaethu ar hyn o bryd a bydd angen draenio dŵr budr trwy ei bwmpio i'r garthffos gyhoeddus agosaf: felly bydd angen gorsaf pwmpio carthion ar unrhyw ddatblygiad. Os caiff lleiniau eu gwerthu'n unigol, bydd angen eu gorsaf pwmpio carthion breifat eu hunain ar bob eiddo ac felly bydd angen mynediad dros dir trydydd parti nad ydynt yn berchen arno.

Mae'n ymddangos bod safleoedd 424/419/420 yn safleoedd llawer mwy addas gyda mynediad hawdd at wasanaethau a heb i’r brif ffordd brofi unrhyw faterion a nodwyd uchod.

 

421, 422 a 425: Hill Mountain                        
ID Rhanddeiliad: 34894                   
Gwrthwynebu

Safleoedd Ymgeisiol 421/422/425 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 423, 426, 419, 420 a 424 yn yr un pentref)

Mae gennym bryderon ynghylch mater traffig ychwanegol yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl i gael mynediad at y safle hwn ac argaeledd gwasanaethau ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae problemau eisoes yn bodoli gyda mwy o draffig yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl hon i gael mynediad at faes parcio'r Cwt Sgowtiaid a phroblemau gyda pharcio yn y lôn breifat trac sengl hon gan y rhai sy'n defnyddio'r Cwt Sgowtiaid; ar adegau mae niferoedd sylweddol o blant yn y lôn dywyll ac mae potensial eisoes i ddamwain ddigwydd. Hefyd, wrth ddod allan o'r lôn hon i mewn i'r brif ffordd mae gwelededd yn wael, a waethygir gan geir staff ac ymwelwyr y cartref gofal cyfagos sy’n parcio ar ymyl y ffordd o flaen y Cwt Sgowtiaid, yn ychwanegol at bobl yn defnyddio’r Cwt Sgowtiaid; bu rhai damweiniau bron â digwydd yn barod wrth i geir geisio cael mynediad at y brif ffordd. Hefyd, mae cerbydau amaethyddol wedi bod yn methu â chael mynediad at y lôn a dim ond gwaethygu y bydd y sefyllfa honno oherwydd swm cynyddol y traffig y bydd y datblygiad hwn yn ei greu. Gall yr uchod hefyd fod yn berthnasol i safleoedd 423/426 gan ddibynnu a fwriedir i'r safleoedd hynny gael eu cyrraedd trwy'r lôn trac sengl hon.

Nid yw'r safleoedd arfaethedig yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd a bydd angen draenio dŵr budr trwy ei bwmpio i'r garthffos gyhoeddus agosaf; felly bydd angen gorsaf pwmpio carthion ar unrhyw ddatblygiad. Os caiff lleiniau eu gwerthu'n unigol, bydd angen eu gorsaf pwmpio carthion breifat eu hunain ar bob eiddo ac felly efallai y bydd angen mynediad dros dir trydydd parti nad ydynt yn berchen arno.

Mae'n ymddangos bod safleoedd 424/419/420 yn safleoedd llawer mwy addas gyda mynediad hawdd at wasanaethau a heb i’r brif ffordd brofi unrhyw faterion a nodwyd uchod.

 

421, 423 a 426: Hill Mountain           
ID Rhanddeiliad: 34895                   
Gwrthwynebu

Cyf: Safleoedd 426, 423 a 421 (gan gyfeirio hefyd at Safle Ymgeisiol 424 yn yr un pentref)

Rydym wedi cael ein gwneud yn ymwybodol ac mae gennym bryderon ynghylch cymhwyso i gynigion datblygu yn y dyfodol o amgylch ochr orllewinol a deheuol Hill Mountain.

Rydym yn cefnogi'r angen am fwy o dai lleol ond rydym yn gwrthwynebu'r datblygiad ar safleoedd arfaethedig 426, 423 a 421.

Rydym yn pryderu am yr effaith y bydd y datblygiad hwn yn ei chael ar y traffig lleol, yn enwedig gyda’r Neuadd Sgowtiaid a'r cartref gofal sy’n mynd yn fwyfwy prysur. Ar hyn o bryd mae'r mynediad hwn yn lôn breifat trac sengl a ddefnyddir hefyd gan gerbydau fferm ac amaethyddol.

Mae gan y safleoedd arfaethedig wasanaethau a chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer unedau eiddo ychwanegol. Mae angen ystyried hyn. Ar hyn o bryd ychydig iawn o gyfleusterau sydd gan y pentref lleol ar gyfer mwy o dai.

Mae'r amgylchedd adeiledig presennol yn cael budd o olygfeydd gwledig deniadol a phrynodd llawer o berchnogion tai eu heiddo i fanteisio ar hyn a'r preifatrwydd a ddaw yn sgîl hyn.

Nid oeddem yn disgwyl i'r tir hwn gael ei ddatblygu ac mae wedi dod fel sioc.

Pe bai safle'n cael ei gymeradwyo, credwn mai safle arfaethedig 424 fyddai’n cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar bentrefan Hill Mountain.

 

421, 423 a 426: Hill Mountain           
ID Rhanddeiliad: 34896                   
Gwrthwynebu

RE: Cais am Ddatblygu yn y Dyfodol yn Hill Mountain ar Safleoedd Ymgeisiol 421, 423 a 426 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 419, 420 a 424 yn yr un pentref)

O ran y safleoedd uchod, byddem yn gwrthwynebu'n gryf bod datblygu’n digwydd yn yr ardaloedd hyn oherwydd yr effaith andwyol y byddai'n ei chael ar breifatrwydd ein heiddo ac o leiaf 4 eiddo cyfagos arall. Mae gan gefn ein heiddo ni, o'r gegin, 3 x ystafell wely, lolfa/ardal fyw a bwyta a'r ardd olygfeydd gwledig deniadol dros yr ardaloedd hyn a byddai datblygiad ar y tir hwn yn peryglu ein preifatrwydd yn ddifrifol oherwydd y ffaith y byddai unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol yn edrych yn uniongyrchol dros ein heiddo ni i'r graddau na fyddem yn gallu agor ein llenni. Prynasom ein heiddo yn y gred na fyddai unrhyw ddatblygiad pellach yn digwydd ar y tir hwn.

Ar ben hynny, byddai'r mynediad allan i'r brif ffordd gyda'r gyffordd o Ashdale Lane ar yr ochr gyferbyn a'r tro yn y ffordd wrth ddod o gyfeiriad Hwlffordd yn gwneud rhan sydd eisoes yn beryglus o'r ffordd hyd yn oed yn fwy peryglus.

Credwn na fyddai ardaloedd eraill o dir datblygu arfaethedig megis safle 419, 420 a 424 yn cael effaith mor andwyol ar unrhyw eiddo cyfagos a hefyd y byddai mynediad i gerbydau a chysylltiadau â gwasanaethau cyfleustodau yn llawer mwy hygyrch ar y safleoedd eraill hyn.

Hyderwn y cewch fod yr uchod i gyd yn iawn ac edrychwn ymlaen at glywed gennych yn y dyfodol agos.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34897                   
Gwrthwynebu

Cawsom ar ddeall mai tir amaethyddol yw hwn ac na ellir adeiladu arno.

 

249: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34898                   
Gwrthwynebu

Hoffwn gofrestru fy ngwrthwynebiad i gynigion ar gyfer rhoi Cod Gwyrdd i Safle Ymgeisiol 249 ar ochr ogleddol Haven Road, Hwlffordd.

Mae fy ngwrthwynebiad fel a ganlyn:-

Lleoliad y Safle/Cynaliadwyedd

Nid oes gan y safle hwn, sef 249, fynediad hawdd at siopau, gwasanaethau cyhoeddus na chanol y dref.  Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig a byddai pellter cerdded i'r gwasanaethau hynny yn rhy fawr i'r henoed ac i deuluoedd â phlant bach.  Felly, byddai trigolion yn gorfod defnyddio cerbydau gan felly greu tagfeydd ffyrdd a pharcio ychwanegol yn y dref.

Anfantais fawr arall i ddefnyddio’r safle hwn ar gyfer datblygiad preswyl yw'r ffaith bod yr ysgolion newydd, gan gynnwys yr holl ysgolion uwchradd, wedi'u lleoli yr ochr arall i'r dref.

Effaith Amgylcheddol

Ar yr adeg pan fo'r effaith amgylcheddol sy'n ymwneud â mewnforio bwyd yn destun cryn bryder i'r cyhoedd, byddai'r datblygiad arfaethedig hwn a fyddai'n cael gwared ar dir amaethyddol da o’r broses cynhyrchu bwyd yn gam yn ôl.  Dylid nodi bod tir amaethyddol o’r radd flaenaf ag aceredd sylweddol yn agos at y safle arfaethedig hwn eisoes wedi cael ei dynnu allan o’r broses cynhyrchu bwyd trwy osod paneli solar.

Byddai datblygu'r safle tir fferm hwn yn cael effaith negyddol sylweddol ar y bywyd gwyllt brodorol.  Byddai effaith ar bryfed, adar a mamaliaid o ganlyniad i golli glaswelltir a pherthi a chan yr ymyrraeth anochel â bywyd gwyllt yn y coetiroedd cyfagos.

Seilwaith a Gwasanaethau

Nid yw'r seilwaith sy'n gwasanaethu'r ardal hon yn Hwlffordd wedi'i fwriadu i gynnal nifer fawr o unedau eiddo preswyl, yn wir mae'r brif system ddraenio sy'n gwasanaethu Haven Road eisoes yn dioddef trafferthion am ei bod yn blocio a bod deunydd gwastraff yn gollwng ohoni.  Byddai gofynion ychwanegol unrhyw ddatblygiad newydd yn gorlwytho'r system bresennol ac felly’n gofyn am newidiadau mawr i’r seilwaith.

Diogelwch

Mae'n anochel y bydd traffig cerbydau i ac o'r safle yn creu perygl wrth ymuno â thraffig sy'n llifo'n rhydd ar ffordd brysur y B4341/Haven Road.  Bydd swm y traffig a fydd yn cael ei achosi’n risg nid dim ond i'r rhai sy'n mynd i mewn ac allan o'r safle ac i draffig drwodd ar y B4341 ond hefyd i gerddwyr Haven Road ei hun.

I gloi, teimlaf fod y dadleuon a gyflwynir uchod yn dangos yn glir bod safle Ymgeisiol 249 yn gwbl amhriodol ar gyfer datblygiad preswyl ac yn sicr nid yw'r safle hwn yn cyfiawnhau bod â chod Gwyrdd yn y cynllun datblygu lleol.

 

421: Mynydd Hill              
ID Rhanddeiliad: 34899                   
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 421 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 422, 423, 425, 426, 419, 420 a 424 yn yr un pentref)

Mae gennym bryderon ynghylch mater traffig ychwanegol yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl i gael mynediad at y safle hwn ac argaeledd gwasanaethau ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae problemau eisoes yn bodoli gyda mwy o draffig yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl hon i gael mynediad at faes parcio'r Cwt Sgowtiaid a phroblemau gyda pharcio yn y lôn breifat trac sengl hon gan y rhai sy'n defnyddio'r Cwt Sgowtiaid; ar adegau mae niferoedd sylweddol o blant yn y lôn dywyll ac mae potensial eisoes i ddamwain ddigwydd. Hefyd, wrth ddod allan o'r lôn hon i mewn i'r brif ffordd mae gwelededd yn wael, a waethygir gan geir staff ac ymwelwyr y cartref gofal cyfagos sy’n parcio ar ymyl y ffordd o flaen y Cwt Sgowtiaid, yn ychwanegol at bobl yn defnyddio’r Cwt Sgowtiaid; bu rhai damweiniau bron â digwydd yn barod wrth i geir geisio cael mynediad at y brif ffordd. Hefyd, mae cerbydau amaethyddol wedi bod yn methu â chael mynediad at y lôn a dim ond gwaethygu y bydd y sefyllfa honno oherwydd swm cynyddol y traffig y bydd y datblygiad hwn yn ei greu. Gall yr uchod hefyd fod yn berthnasol i safleoedd 422/425/423/426 gan ddibynnu a fwriedir i'r safleoedd hynny gael eu cyrraedd trwy'r lôn trac sengl hon.

Nid yw'r safle arfaethedig yn cael ei wasanaethu ar hyn o bryd a bydd angen draenio dŵr budr trwy ei bwmpio i'r garthffos gyhoeddus agosaf; felly bydd angen gorsaf pwmpio carthion ar unrhyw ddatblygiad. Os caiff lleiniau eu gwerthu'n unigol, bydd angen eu gorsaf pwmpio carthion breifat eu hunain ar bob eiddo ac felly efallai y bydd angen mynediad dros dir trydydd parti nad ydynt yn berchen arno.
Efallai nad yw hyn yn ystyriaeth gynllunio ond mae gennym bryderon hefyd y bydd unrhyw ddatblygiad ar y tir hwn yn effeithio ar breifatrwydd trwy edrych yn uniongyrchol dros ein gardd, lolfa, cegin ac ystafelloedd gwely. Hefyd, bydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ein heiddo.

Mae'n ymddangos bod safleoedd 424/419/420 yn safleoedd llawer mwy addas gyda mynediad hawdd at wasanaethau a heb i’r brif ffordd brofi unrhyw faterion a nodwyd uchod.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34900                   
Gwrthwynebu

Nid yw Safle Ymgeisiol 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o’r categori "gwyrdd" i’r categori "coch." Manylion ar y ddalen sydd wedi’i hatodi.

Nid yw safle Ymgeisydd Rhif 114, yn fy marn i, yn addas ar gyfer datblygiad preswyl am y rhesymau a grybwyllir isod. Felly, dylid ei ddiwygio yn y Cynllun o’r categori "gwyrdd" i’r categori "coch".

Mae'n debyg y byddai ar y datblygiad preswyl arfaethedig ar gyfer safle ymgeisiol 114 angen mynediad o waelod Douglas James Way. Rwy'n credu na ellir cefnogi'r traffig ychwanegol i fyny ac i lawr y ffordd hon. Mae croesffordd DJW gyda Hawthorn Rise eisoes yn gyffordd anaddas gan bod y fynedfa i DJW o Hawthorn Rise yn gornel ddall. Byddai'n ei gwneud yn fwy anniogel ac yn dueddol o fod â cherbydau’n mynd i fyny ac i lawr y ffordd yn aml.

Ar wahân i brif fater y ffordd fynediad, cafwyd enghreifftiau o orlwytho'r system garthffosiaeth yn ein hardal. Rwyf wedi bod yn byw yn Douglas James Close am bron i 20 mlynedd ac wedi cael profiad personol o hyn pan oedd y draen ger DJW wedi blocio sawl blwyddyn yn ôl.

Mae rhan isaf Safle Ymgeisiol 114 wastad wedi bod â system ddraenio wael. Ceir pyllau mawr o ddŵr sy’n ddisymud yn y cae pryd bynnag y ceir glaw trwm.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34901       
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 114 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 113 a 249 yn yr un dref)

Mae gennyf rai pryderon ynghylch addasrwydd y safle ymgeisiol uchod.

Mae nifer o’m cymdogion eisoes wedi mynegi ofnau dilys am broblemau posibl gyda charthffosiaeth yn seiliedig ar ddigwyddiadau yn y gorffennol a effeithiodd ar unedau eiddo ar ochr Ogleddol Douglas James Close. Ar ôl profi’r effeithiau hyn yn uniongyrchol, rwy'n cytuno â'r farn hon.

Mae pryderon wedi cael eu mynegi hefyd am fwy o lif traffig yn achosi problemau o ran llywio rhwng ceir wedi'u parcio ar y stryd a symudiad rheolaidd cerbydau mawr o Fferm Slade Hall. Mae'r mater parcio wedi dod yn broblem weddol difrifol yn ddiweddar gan ei bod bellach yn ymddangos bod mwy o unedau eiddo’n rhai amlfeddiannaeth.

Mae pen isaf y cae lle byddai mynedfa arfaethedig y safle’n ddrwg-enwog am fod yn gorslyd.

Fy mhryder i fy hun yw ei bod yn ymddangos nad yw’r cynnig presennol ond yn cwmpasu tua thraean o'r maes. A fyddai gweithgarwch amaethyddol yn parhau ar y ddwy ran o dair sy'n weddill ar ôl datblygu? Os felly, byddai hyn yn anghyfleus i’r ffermwr a meddianwyr yr unedau eiddo newydd. Os na fydd, a oes unrhyw gynlluniau i gynyddu maint yr ardal ddatblygedig yn ddiweddarach?

Ar ôl lwfio am ffyrdd/llwybrau troed, ymddengys na fyddai arwynebedd Llain 114 yn ddigon ar gyfer mwy na 4 eiddo pe baent o faint tebyg i'r rhai sydd eisoes yn sefyll yn Douglas James Close. Gellid gwasgu tua 10 eiddo cymharol fach i mewn.

Mae gan y 2 ardal arall ar y map a ddarparwyd (113/249) fantais o ran bod ganddynt naill ai fynediad sy'n bodoli eisoes trwy Douglas James Close neu, gydag ychydig o addasiadau, trwy Cuckoo Lane o Haven Road.

 

126, 127, 176 a 415: East Williamston      
ID Rhanddeiliad: 34902                   
Gwrthwynebu

Safleoedd 126, 127, 176, 415:

Byddai'r 4 safle hyn yn dyblu maint East Williamston er anfantais i bawb sy'n byw yma. Ni ddylid newid y llinell derfyn bresennol.

 

249: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34903                   
Gwrthwynebu

Dylid tynnu dyraniad Safle Ymgeisiol 249 "Rhwng South Cuckoo Farm a Cuckoo Lane", Hwlffordd ar gyfer datblygiad preswyl o'r Cynllun Datblygu Lleol am y rhesymau canlynol:

Nid yw'r safle'n perthyn yn dda i ffin anheddiad bresennol Hwlffordd gan y byddai ei ddyraniad yn arwain at golli tir maes glas. Mae estyn ffin yr anheddiad i gyfeiriad y gogledd ar hyd Haven Road yn tresmasu ar gefn gwlad agored a byddai'n arwain at golli tir amaethyddol.

Ceir dyraniadau tai presennol a Safleoedd Ymgeisiol arfaethedig o fewn ffin aneddiadau presennol Hwlffordd a fydd yn ateb gofynion tai yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Byddai dyrannu’r safle hwn ar gyfer datblygiad preswyl yn arwain at golli amwynder a mynediad at fannau gwyrdd gan bod llwybr troed cyhoeddus (PP23/4), a fwynheir gan lawer, yn pasio ar hyd y caeau hyn.

 

421: Mynydd Hill              
ID Rhanddeiliad: 2114                     
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 421 (gan gyfeirio hefyd at Safleoedd Ymgeisiol 422, 423, 425, 426, 419, 420 a 424 yn yr un pentref):

Mae gennym bryderon ynghylch mater traffig ychwanegol yn defnyddio'r lôn trac sengl i gael mynediad at y safle hwn ac argaeledd gwasanaethau ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae problemau eisoes yn bodoli gyda mwy o draffig yn defnyddio'r lôn breifat trac sengl hon i gael mynediad at faes parcio'r Cwt Sgowtiaid a phroblemau gyda pharcio yn y lôn breifat trac sengl hon gan y rhai sy'n defnyddio'r Cwt Sgowtiaid; ar adegau mae niferoedd sylweddol o blant yn y lôn dywyll ac mae potensial eisoes i ddamwain ddigwydd. Hefyd, wrth ddod allan o'r lôn hon i mewn i'r brif ffordd mae gwelededd yn wael, a waethygir gan geir staff ac ymwelwyr y cartref gofal cyfagos sy’n parcio ar ymyl y ffordd o flaen y Cwt Sgowtiaid, yn ychwanegol at bobl yn defnyddio’r Cwt Sgowtiaid; bu rhai damweiniau bron â digwydd yn barod wrth i geir geisio cael mynediad at y brif ffordd. Hefyd, mae cerbydau amaethyddol wedi bod yn methu â chael mynediad at y lôn a dim ond gwaethygu y bydd y sefyllfa honno oherwydd swm cynyddol y traffig y bydd y datblygiad hwn yn ei greu. Gall yr uchod hefyd fod yn berthnasol i safleoedd 422/425/423/426 gan ddibynnu a fwriedir i'r safleoedd hynny gael eu cyrraedd trwy'r lôn trac sengl hon.

Nid yw'r safle arfaethedig yn cael ei wasanaethu ar hyn o bryd a bydd angen draenio dŵr budr trwy ei bwmpio i'r garthffos gyhoeddus agosaf; felly bydd angen gorsaf pwmpio carthion ar unrhyw ddatblygiad. Os caiff lleiniau eu gwerthu'n unigol, bydd angen eu gorsaf pwmpio carthion breifat eu hunain ar bob eiddo ac felly efallai y bydd angen mynediad dros dir trydydd parti nad ydynt yn berchen arno.
Efallai nad yw hyn yn ystyriaeth gynllunio ond mae gennym bryderon hefyd y bydd unrhyw ddatblygiad ar y tir hwn yn effeithio ar breifatrwydd trwy edrych yn uniongyrchol dros ein gardd, lolfa, cegin ac ystafelloedd gwely. Hefyd, bydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ein heiddo.

Mae'n ymddangos bod safleoedd 424/419/420 yn safleoedd llawer mwy addas gyda mynediad hawdd at wasanaethau a heb i’r brif ffordd brofi unrhyw faterion a nodwyd uchod.

 

146 a 178: Thornton       
ID Rhanddeiliad: 34870                   
Gwrthwynebu
077, 085, 236, 245, 285, 454 a 455: Tiers Cross                
ID Rhanddeiliad: 34870
Ymateb dros dro

146 a 178: Nid oes angen y safleoedd hyn.  Mae digon o le ar gael hebddynt.

077, 085, 236, 245, 285, 454, 455: Ni ddarperir digon o fanylion am safleoedd 236, 283, 077, 245, 085, 454, 455 i alluogi'r cyngor i benderfynu a yw’n cefnogi'r ceisiadau ai peidio.  Rydym yn croesawu rhywfaint o ddatblygiad ond nid pob un a restrwyd.

 

114: Hwlffordd     
ID Rhanddeiliad: 34827       
Gwrthwynebu

Dylid trosglwyddo safle ymgeisiol rhif 114 i’r categori 'Coch' gan nad yw'n safle addas i'w ddatblygu.

Ysgrifennaf i wrthwynebu'r cynnig uchod i roi caniatâd i adeiladu tai ar y tir fel a nodwyd fel safle Ymgeisiol Rhif: 114.

Ceir llifogydd yn rhan isaf y safle arfaethedig pan fo glaw trwm, ac mae cysylltiadau gwael yn y system ddraenio yn yr ardal wedi achosi problemau yn y gorffennol.

Ond fy mhrif wrthwynebiad yw bod y fynedfa i'r safle yn dod oddi ar ffordd gul y ceir mynediad ati trwy gyffordd beryglus ym mhen uchaf D.J.Way.

Mae cerbydau sydd wedi'u parcio, a mynediad at eiddo yn union ar y gyffordd, yn ei gwneud yn ffordd anodd mynd i mewn iddi yn enwedig wrth ddynesu ati ar hyd Hawthorn Rise o City Road.  Ni fyddai traffig ychwanegol ond yn gwneud y sefyllfa'n waeth.

Mae hefyd yn arbennig o anodd i gerddwyr groesi'r ffordd yn y fan hon.

Rwy'n deall bod miloedd o gartrefi newydd yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol.  Mae'r safle hwn yn anaddas ar gyfer unrhyw ddatblygiad, ac ni ddylid ei gymeradwyo.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34830                   
Gwrthwynebu

Nid yw safle ymgeisiol: 114 yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o’r categori 'Gwyrdd' i’r categori 'Coch'.

 

113 a 114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34839                   
Gwrthwynebu

Mae safle 114 yn arbennig yn peri pryder o ran mynediad ar ac oddi ar yr ystâd ym mhen uchaf Hawthorn Rise ar dro egr iawn.

Safle 113 – mae'r un peth yn wir am y safle hwnnw os yw mynediad yn mynd i fod trwy D.J.Close ac allan i Hawthorn Rise.  Os bydd mynediad at 113 oddi ar Haven Road, yna ni fydd unrhyw effaith ar y traffig yn D.J.W.

Fel a sonnir uchod.  Mynediad at D.J.Way sydd wedi bod yn peri pryder i drigolion ers blynyddoedd lawer.  Mae'r fynedfa ar dro egr heb ryw lawer o olwg ar gerbydau sy'n dod tuag atoch, mae'n dro cul gyda chymhlethdod o ran y ffaith bod cartref preswyl ar y gornel.  Mae traffig (gan gynnwys ambiwlansys yn troi i mewn i'r cartref yn weddol rheolaidd) ynghyd â'r nifer o offer fferm sy'n mynd i fyny ac i lawr drwy'r dydd yn gwneud mynediad i mewn i'r ystâd yn weddol anodd a pheryglus ar adegau.  Rwy'n ofni na fydd datblygiad pellach gyda thraffig ychwanegol pan fydd yn cael ei adeiladu a thrigolion ychwanegol yn ddiweddarach ond yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol.

 

114: Hwlffordd                 
ID Rhanddeiliad: 34840                   
Gwrthwynebu

Safle Ymgeisiol 114 – Nid yw'r safle hwn yn addas ar gyfer datblygiad preswyl a dylid ei ddiwygio yn y cynllun o’r categori 'Gwyrdd' i’r categori 'Coch'.

 

114: Hwlffordd                   
ID Rhanddeiliad: 34844                      
Gwrthwynebu

Rwy'n berchen ar (lleoliad wedi’i olygu) ac yn byw ynddo, a dymunaf drwy hyn gyflwyno fy ngwrthwynebiadau i safle rhif 114 ar y cynllun datblygu lleol/newydd/strategaeth a ffefrir.

Nid yw preswylwyr wedi cael gwybod am y newidiadau arfaethedig hyn i'r cynllun, felly nid yw llawer yn ymwybodol o gwbl o'r effaith y gallai'r newidiadau ei chael arnynt hwy a'u heiddo.

Mae fy ngwrthwynebiadau yn seiliedig ar y mynediad gwael at y safle hwn, byddai’r datblygiad yn tarfu ar lwybr ceffylau a llwybr troed yr wyf yn eu defnyddio’n rheolaidd ac mae diffyg amlwg yn barod o ran llwybrau ceffylau yn ein Sir felly mae angen i’r rhai sydd gennym gael eu gwarchod.

Mae'r briffordd yn gwbl anaddas i fwy o draffig a gallai olygu y byddai llinellau melyn dwbl yn ymddangos ar y ffordd ac y byddai preswylwyr presennol yn methu â pharcio eu cerbydau y tu allan i'w cartrefi eu hunain fel y maent ar hyn o bryd.

Bu problem hirsefydlog gyda charthffosiaeth YN DJW ers blynyddoedd lawer, a byddai mwy o wastraff yn cynyddu maint y broblem hon.

Yn gwbl sicr byddai effaith ar brisiau tai a byddai trigolion yn gweld dibrisiant yng ngwerth eu cartrefi.

Byddwn yn gwerthfawrogi cadarnhad eich bod wedi cael fy ngwrthwynebiadau.

 

126, 127, 176 a 415: East Williamston      
ID Rhanddeiliad: 34848           
Gwrthwynebu

Mae angen tynnu East Williamston allan fel pentref gwasanaeth, cymuned wledig fach ydyw gydag ychydig iawn o wasanaethau.

Mae'r cynllun yn dangos y safleoedd posib ar gyfer mwy o dai, mae'r ffordd fynediad i'r pentref yn ffordd sengl, (a) trwy roi mwy o dai o'i chwmpas mae'n ychwanegu mwy o bwysau ar ein gwasanaethau lleol a mwy o bwysau ar y ffordd mynediad sengl.

Mae Mynediad Ffordd (yn cyfyngu ar y) datblygiad cyffredinol (posibl) yn yr ardal wledig hon.

Tynnwch ef o'r rhestr.

Cadw maint y pentref fel ag y mae a pheidio ag ehangu ffin y pentref (ddylai'r cynllun fod).

 

249: Hwlffordd                   
ID Rhanddeiliad: 34865          
Gwrthwynebu

Rwy'n ysgrifennu i gofrestru fy ngwrthwynebiad i Gynllun Datblygu Lleol arfaethedig Cyngor Sir Penfro sy'n cynnwys dau gae yn union y tu ôl i'm heiddo i sydd wedi'i leoli ar ochr ogleddol Haven Road.  Mae'r caeau hyn wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol fel rhan o’r safle y cyfeirir ato fel Safle 249.

Fel llawer o’m cymdogion, dim ond newydd gael fy ngwneud yn ymwybodol o’r cynlluniau hyn yr ydwyf, ac rwy'n arswydo o glywed y byddai’r mynediad bwriadedig i'r safle arfaethedig hwn, pe bai'n mynd yn ei flaen, yn cael ei greu trwy ddymchwel y tŷ drws nesaf i mi, (enw’r eiddo wedi’i olygu)!

Ar gyfer y datblygiad arfaethedig o'r maint hwn, siawns na ddylai'r Cyngor o leiaf fod wedi hysbysu, trwy lythyr, yr holl breswylwyr y mae’n debygol yr effeithir arnynt!

Rwy'n gwrthwynebu datblygiad o'r fath yn fawr iawn, fel y mae fy nghymdogion ar Haven Road, ac yn gofyn yn gryf am dynnu’r safle ymgeisiol â’r cyfeirnod 249 oddi ar y gofrestr safleoedd ymgeisiol am y rhesymau canlynol:

Mae'r caeau dan sylw yn dir amaethyddol ar ochr dyffryn, ar lethr sy’n mynd oddi wrth fy eiddo i ac maent yn rhan o dirwedd ddymunol iawn, sydd wedi cael ei difetha'n ddiweddar trwy orchuddio tri chae â phaneli solar.

Mae'r gwrychoedd a'r coetiroedd sy'n ffinio â'r caeau hyn yn gartref i amrywiaeth o ymlusgiaid a bywyd gwyllt, bywyd fel llwynogod a chwningod ac ati, ac maent hefyd yn darparu lleoliadau nythu i lawer o rywogaethau adar. Byddai datblygiad fel hyn yn dinistrio eu cynefin.

Cyfyngedig yw’r gwasanaeth bysiau sydd gennym y pen yma i'r dref.  Nid oes siopau o fewn pellter cerdded felly byddai cynnydd mawr yn y boblogaeth yn golygu llawer mwy o draffig ar gyfer teithio i’r gwaith a’r ysgol.

Yn fuan bydd yr holl ysgolion uwchradd wedi’u lleoli’r ochr bellaf i Hwlffordd, felly byddai’r holl draffig ysgolion yn ychwanegu at dagfeydd a llygredd.

Mae carthffosiaeth a draenio yn bryder arall - Mae'n ymddangos bod y system garthffosiaeth a draenio y pen yma i Haven Road yn cael trafferth ymdopi â'r boblogaeth bresennol, felly mae pryder difrifol y byddai mwy o dai ar ddatblygiad o'r fath yn creu problemau mawr.

Felly, rwy'n cynnig bod safle 249 yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, ond os na chaiff ei ddileu, dylid ei ail-gategoreiddio’n safle Coch.

ID: 11078, adolygwyd 13/12/2023