Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Atodiad h syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan A

Ymgynghoriad 2:

Roedd yr ymgynghoriad pellach hwn yn ymwneud yn benodol â'r Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol, ond roedd y rhan fwyaf o'r sylwadau'n ymwneud â'r gyfran wreiddiol o Safleoedd Ymgeisiol.

Caiff yr ymatebion ymgynghori sy'n ymwneud â'r Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol (rhifau 468 i 522 gan gynnwys y rheiny) eu rhestru yn gyntaf, ac yna'r rhai a gyflwynwyd mewn perthynas â'r gyfran gynharach o safleoedd.

 

473: Aberdaugleddau

ID Rhanddeiliad: 34433

Gwrthwynebu

Trosglwyddo Nwy – FM 28 – Herbrandston i Felindre – GT 117

Gweler yn y cynllun amgaeëdig â’r cyfeirnod GT 117 yn Atodiad 2. Mae'r safle arfaethedig (473) yn agos at biblinell pwysedd uchel sy’n eiddo i’r Grid Cenedlaethol.

Ni ddylid tresmasu ar y cliriadau diogelwch statudol rhwng llinellau uwchben, y tir a strwythurau adeiledig. Pan gynigir newidiadau i lefelau daear o dan linell sy'n bodoli eisoes, yna mae'n bwysig nad yw newidiadau yn lefelau'r tir yn arwain at dresmasu cliriadau diogelwch. Gall y Grid Cenedlaethol, ar gais, ddarparu lluniadau proffil llinell manwl i ddatblygwyr sy'n manylu ar uchder dargludyddion, uwchlaw datwm ordnans, ar safle penodol. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau’r Grid Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer datblygu’n agos at Linellau Uwchben.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 2036

Gwrthwynebu

Trafodwyd y safleoedd ychwanegol a oedd yn berthnasol i Landdewi Felffre o fewn y CDLl yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor. Gofynnon nhw i mi drosglwyddo'r gwrthwynebiadau canlynol i'r safle â’r cyfeirnod 496:

  1. Mae'r safle hwn ar ffordd gul ddiddosbarth a byddai mynediad yn cynyddu traffig i lefelau annerbyniol ac yn achosi problemau diogelwch.
  2. Byddai’r maint o 1.5 hectar yn ddigon ar gyfer tua 45 o dai, a fyddai’n anghymesur â maint presennol y pentref.
  3. Byddai materion o ran cynaliadwyedd a'r amgylchedd, sydd i'w hystyried ar gyfer y CDLl. Byddai datblygiad ar y safle hwn yn cynyddu teithio gan y trigolion hynny ar gyfer yr holl wasanaethau, a’r rheiny’n amrywio o addysg i ofal iechyd ac unrhyw weithgareddau cymdeithasol, yn ogystal â chyflogaeth, gan nad oes swyddi yn y pentref.
  4. Byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle yn cael effaith andwyol ar fywydau'r bobl sy'n byw ar hyd y ffordd ar hyn o bryd. Byddent yn colli eu preifatrwydd, a byddai'r lleoliad a'r wynebwedd cefn gwlad agored yn cael eu newid yn llwyr. Byddai gwerth amwynder yr ardal yn diflannu.
  5. Cafodd y safle ei gynnwys yn y safle a gyflwynwyd ar gyfer y CDLl presennol, ac fe'i gwrthodwyd. Nid oes unrhyw beth wedi newid ers hynny i gefnogi'r cais newydd hwn.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 2432

Gwrthwynebu

Gwrthodwyd y safle hwn ar gyfer y CDLl blaenorol am resymau da ac nid oes unrhyw beth wedi newid yn y cyfamser i gefnogi cais newydd.

Byddai datblygiad sy’n cynnwys anheddau lluosog ar un safle, o ystyried polisi uchafswm meddiannaeth yr Awdurdod, yn gwbl amhriodol ar gyfer maint presennol a natur wledig y pentref.

Unwaith y bydd gwelliannau cefnffordd Llanddewi Felffre i Benblewin wedi'u cwblhau a bod statws ffordd bresennol yr A40 yn cael ei newid i fod yn isffordd, bydd cyfleoedd eraill i ddatblygu ar hyd ffordd bresennol yr A40 mewn lleiniau llai a fydd yn llawer mwy priodol ar gyfer yr ardal.

Nid oes cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y pentref felly byddai'n rhaid i feddianwyr newydd deithio i'r gwaith ac ar gyfer pob gwasanaeth fel ysgolion, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol, yn groes i bolisïau'r Awdurdod ar faterion cynaliadwyedd a'r amgylchedd.

Mae mynediad o'r safle yn arwain at ffordd gul, ddiddosbarth a byddai'n cynyddu traffig i lefelau annerbyniol ac anniogel.

Byddai gwerth amwynder yr ardal wledig hon yn diflannu gan effeithio'n andwyol ar fywydau trigolion presennol.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 34825

Gwrthwynebu

Mae mynediad at y safle hwn ar hyd ffordd sengl gul heb unrhyw gilfannau pasio pwrpasol. Byddai'r cynnydd yn swm y traffig gan waith adeiladu a pherchnogion tai yn arwain at bryderon ychwanegol ynghylch sŵn, llygredd a diogelwch.

Mae ein heiddo’n fyngalo sy'n rhannu'r ffin â'r safle arfaethedig. Mae gennym bryderon mawr ynghylch ein preifatrwydd, llai o olau haul a'r gostyngiad posibl yng ngwerth yr eiddo oherwydd newid sylweddol i gefn gwlad cyfagos.

Byddai datblygu 45 o dai ar y safle hwn yn cynyddu'r angen am fwy o wasanaethau / gwell gwasanaethau fel trafnidiaeth, gofal iechyd, addysg ac amwynderau ac ychydig iawn o gyflogaeth sydd yn y pentref.

Does dim tystiolaeth ychwanegol/newydd wedi cael ei chyflwyno ers y tro diwethaf i'r cais gael ei wrthod gan y CDLl.

 

497 a 521: Llandudoch

ID Rhanddeiliad: 2724

Cefnogi

Gweler isod am yr ymateb gan ID Rhanddeiliad: 2724:

Safle 497: Ar bwys Chwarel Trefigin, y CC yn gefnogol ar yr amod nad yw'n effeithio ar unrhyw dai na Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn yr ardal arfaethedig neu ar bwys yr ardal arfaethedig.

Safle 521: Gyferbyn â Dwylan, Llandudoch, mae’r CC yn ei gefnogi mewn egwyddor gan y byddai parc cychod yn cael ei groesawu. Fodd bynnag, byddai cefnogaeth o'r fath yn amodol ar natur gwybodaeth bellach a manwl a allai gael ei chyflwyno yn y dyfodol.

499 Treffgarne ID Rhanddeiliad: 34876 Cefnogi

Rwy'n ysgrifennu ynghylch y safle ymgeisiol â’r rhif uchod sydd wedi cael ei gyflwyno. Rwy'n siomedig iawn bod fy nghais wedi cael ei osod yn y categori coch. Gan bod y safle yn gyfagos i ffiniau presennol y pentref, rwy'n teimlo y dylid caniatáu rhywfaint o ddatblygu. Mae'r strategaeth gyfredol yn mygu datblygiad pentrefi fel ein pentref ni. Rydym mewn ardal Gymraeg ac yn nalgylch Ysgol Gynradd Casblaidd, sydd wedi’i chategoreiddio’n ysgol Gymraeg.

Mae gennym eglwys a neuadd bentref sydd wedi cael ei hadnewyddu'n ddiweddar ac sy'n cael ei defnyddio'n aml iawn. Ers dechrau'r saithdegau mae datblygiad graddol wedi digwydd a hyd yn oed o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf caniatawyd pocedi o ddatblygiad.

Erbyn hyn mae deugain a saith o unedau eiddo o fewn llinellau agos y pentref a phedwar ar bymtheg arall o fewn ffin y Plwyf. Mae fy safle i’n gyfagos i ffordd wledig a, pe byddech chi'n caniatáu un neu ddau o leiniau, dim ond cynnydd canrannol bach fyddai hyn.

Byddai agwedd bresennol CSP at ddatblygu pentrefi llai yn arwain at dirywiad graddol pentrefi llai. Byddai newid i ganiatáu datblygiadau fel fy un i yn helpu i ddosbarthu'r boblogaeth yn hytrach na’i chrynhoi yn y canolfannau mwy. Ar gam cynnar yn y CDU ar y cyd, fe ofynnoch chi gwestiynau ynghylch yr effaith y byddai datblygiadau o'r fath yn ei chael ar y Gymraeg. Os na chaniateir datblygiad mewn pentrefi fel ein pentref ni, y fro Gymraeg, yna bydd yr iaith yn dirywio. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid yw polisi Cyngor Sir Penfro ar gyfer datblygu mewn pentrefi fel ein pentref ni yn adlewyrchu cefnogaeth i bolisi iaith Gymraeg y Llywodraeth.

Mae'n ymddangos yn annheg y gwahaniaethir yn erbyn pentrefi gwledig y gwyddys eu bod yn meithrin yr iaith, tra bod y dref fwy fel pe bai’n cael ei gwarchod.

 

505:  Y Garn

ID Rhanddeiliad: 1999

Gwrthwynebu

Cyflwynir y pwyntiau canlynol i wrthwynebu’r Safle Ymgeisiol (505) (gan gyfeirio hefyd at Safle Ymgeisiol 328):

Perthnasedd y Dyraniad Presennol: (I’r dwyrain o Pilgrims Way: HSG/114/CDLl/01). Mae'r ffaith bod y dyraniad hwn eisoes yn bodoli’n berthnasol iawn am y rhesymau canlynol:

Mae'r ffaith nad oes camau wedi cael eu cymryd yn ôl pob golwg i ddatblygu'r safle hwn yn dangos cost anghymesur creu datblygiad yn y lleoliad hwn a’r diffyg galw, ac nid yw'r naill ffactor na'r llall yn debygol o newid yn y dyfodol hyd y gellir rhagweld.

Y cyfyngiadau ar fynediad a nodir yn y CCAD sy'n cyfyngu mynediad trwy Faes Ffynnon i 25% o'r 44 uned a ganiateir, h.y. 11 uned, ac yn dynodi mynediad trwy Pilgrims Way i'r 75% sy'n weddill.

Pe bai’n cael ei ddatblygu trwy adeiladu'r 44 o dai, yna byddai hynny'n dihysbyddu capasiti'r ffyrdd hyn ac yn eu atal rhag gwasanaethu'r Safle Ymgeisiol hefyd.

Os na chaiff ei ddatblygu ac os caiff ei dynnu'n ôl fel dyraniad yn y CDLl, byddai'r SY hwn wedi'i gyfyngu i'r un ffigyrau mynediad.

Mynediad: Mae'r mynediad arfaethedig at y safle trwy Faes Ffynnon a Pilgrims Way yn broblem:

Mae'n ofynnol i draffig sy'n mynd i mewn ac allan o'r lôn wasanaeth sy'n arwain at y cae o Faes Ffynnon wneud tro main 90 gradd.

Nid oes llain gwelededd ar gyfer traffig sy’n dod i mewn i Faes Ffynnon o'r ffordd wasanaeth oherwydd strwythurau presennol.

Yn yr un modd, nid yw’r traffig hwnnw’n weledol rhag blaen i drigolion Maes Ffynnon sy'n dod o’u dreifiau ar bwys y lôn wasanaeth.

Sylw gan Adran Briffyrdd CSP: "byddai'n anodd creu radiysau arferol"; Byddem ni’n dweud ei bod yn amhosibl creu radiysau o'r fath.

Byddai'n anodd os nad yn amhosibl i gerbydau hir, e.e. cerbydau adeiladu mawr a cherbydau danfon nwyddau, faniau symud tŷ, cerbydau casglu gwastraff y cyngor ac ati, ddod rownd yr un gornel yn ddiogel, yn enwedig pan fydd y lôn wedi cael ei gwneud yn fwy cul byth gan balmentydd cerddwyr.

Yn yr un modd, mae problemau gyda chreu mynediad at y safle drwy Pilgrims Way a fyddai (yn ôl Adran Briffyrdd CSP) yn golygu "datrys problemau parcio ar y stryd i drigolion lleol a cholli ardaloedd gwyrdd presennol".

Traffig: Byddai effaith draffig sylweddol ar drigolion Pilgrims Way, Church Road ac, yn arbennig, Maes Ffynnon:

Buddsoddodd trigolion Maes Ffynnon, llawer ohonynt â phlant bach, yn sylweddol mewn prynu eiddo ar eu hystâd neu gael eu adeiladu ar y dybiaeth y byddent yn byw ar ffordd bengaead dawel (er eu bod eisoes wedi gorfod dioddef hyd at bedair blynedd ar ddeg o fyw ar safle adeiladu a ffordd ystâd heb ei gwneud oherwydd y farchnad eiddo wael ac oedi wedi hynny cyn gwerthu'r ychydig leiniau/tai olaf ar yr ystâd).

Os caniateir datblygu'r Safle Ymgeisiol, byddent yn wynebu blynyddoedd pellach o draffig adeiladu ac wedi hynny llawer mwy o draffig yn mynd drwy eu hystâd oherwydd y trigolion newydd, gyda materion a phryderon diogelwch cysylltiedig.

Er efallai na fydd y pwyntiau uchod yn gyfystyr ag ystyriaethau cynllunio llym, maent yn cyffwrdd â’r pwyntiau isod sy'n berthnasol i'r datblygiad arfaethedig.

Malltod: Byddai derbyn y Safle Ymgeisiol ac yn enwedig y materion traffig y cyfeirir atynt uchod yn rhoi malltod uniongyrchol a pharhaol ar werth a gwerthadwyedd y tai ar Faes Ffynnon, y mae rhai ohonynt eisoes ar y farchnad (ac wedi bod am beth amser).

Byddai adeiladu tai newydd yn agos at ymyl Ogleddol ystâd Maes Ffynnon yn cael yr effaith ddwbl hon i raddau dramatig, yn enwedig o ran y lleiniau heb eu gwerthu a'r tai presennol ar y ffin honno.

Anghenion Tai: Nid oes tystiolaeth amlwg bod anghenion tai y rhai sy'n gweithio, yn debygol o weithio, neu sydd eisoes yn byw yng nghyffiniau'r Garn yn gofyn am ddatblygiad o'r maint posibl a awgrymir gan ardal y Safle Ymgeisiol.

Mae nifer o unedau tai ar werth ac wedi bod ar werth am beth amser yn y Garn (llawer yn y tymor hir) sy'n ymddangos fel pe bai’n gwrth-ddweud unrhyw awgrym bod angen heb ei ddiwallu am dai preifat.

Mae'n ymddangos bod unrhyw angen gwirioneddol yn angen am dai fforddiadwy y gellid ei ddiwallu â safle llai nad yw'n peri rhai o'r anawsterau y cyfeirir atynt uchod ac isod.

Anawsterau Adeiladu: Mae nifer o ffactorau sy'n awgrymu y byddai'n anodd iawn denu datblygwr i ymgymryd â'r risgiau:

Nid yw'n glir i ba raddau y cynhaliwyd arolwg manwl o'r safle ond mae'r caeau ar lethrau serth mewn mannau ac mae'r safle wedi’i rannu gan gwrs dŵr mewn rhigol serth

Cost sylweddol caffael y safle gan gynnwys cost lleiniau pridwerth posibl.

Y cymysgedd gofynnol o dai.

Unrhyw ofyniad i dalu ardoll sylweddol i'r cyngor am gost gwella seilwaith y pentref, yn fwyaf arwyddocaol er mwyn ariannu ehangiad hanfodol i adeiladau ysgolion (nad oes lle amlwg ar ei gyfer) ac uwchraddio system ddraenio'r pentref

Yr ansicrwydd ynghylch pryd y byddai mynediad ar gael drwy'r safle presennol a ddyrannwyd o dan y CDLl, y mae gan ei berchennog, i bob pwrpas, lain bridwerth.

Rhywogaethau a Warchodir: Mae o leiaf un rhywogaeth a warchodir yn byw yn yr ardal (gwiberod) a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddatblygwr gael arolwg arbenigol a dilyn argymhellion yr arolwg ynghylch diogelu fflora a ffawna perthnasol.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: yn union ar bwys y Parc Cenedlaethol.

Pwyntiau Cyffredinol o Ran y Garn: Mae'r pentref ar ymyl eithaf ardal CSP a 6 milltir o'r ganolfan gyflogaeth agosaf gyda gwasanaeth bysiau cyfyngedig.

Mae’r tu allan i ardal "Sir Benfro – yr Hafan", yn y categori ail isaf ar gyfer "Cyfanswm Gweithwyr yn ôl ACEHI" ar lai na 100, a’r tu allan i “driongl y canolbwynt"

Safle Ymgeisiol Amgen: I'r graddau y bernir bod angen datblygu pellach yn y Garn, mae Safle Ymgeisiol 328 yn cynnig manteision amlwg o ran:

Mynediad ar hyd ffordd sy'n bodoli eisoes (Atlantic Way).

Cost adeiladu, y ystyried bod y tir yn wastad, bod mynediad da.

Nid yw'n ffinio'n uniongyrchol â’r Parc Cenedlaethol nac yn effeithio'n uniongyrchol arno.

Cefnogwyd y sylwadau hyn hefyd gan y trigolion canlynol:

(19 enwau wedi eu olygu)

 

522: Martletwy

ID Rhanddeiliad: 1564 a 2536

Gwrthwynebu

(Lleoliad wedi’i olygu) – mae'r cofnod yn Anghywir. Nid ydym erioed wedi gofyn am gynnwys ein tŷ a'n tiroedd fel safle datblygu. Tynnwch y rhain allan os gwelwch yn dda.

Fe wnaeth y Swyddogion Cynllunio a dynnodd y llinell o amgylch pentref Martletwy ar gyfer y CDLl dynnu ein cartref ni, a dim ond ein cartref, allan o amlen y pentref a hynny’n fwriadol, (roedd yn rhan o'r pentref ar gyfer y Cynllun blaenorol, sef y CDU ar y cyd), gan honni ei fod yn ymylol i'r pentref. Maent yn ein hasesu fel rhan o wasgariad o gartrefi, sydd wedi'u lleoli yr ochr arall i nant sy'n ffurfio ffin naturiol i'r Pentref, neu efallai gyda'r rhai ar yr ochr gyferbyn yng Nghoedwig Martletwy (coedwig gonifferaidd). Fe wnaethon ni ysgrifennu a gofyn am gael ein cynnwys yn y Pentref drachefn ond fe wnaethon nhw wrthod.

Ond rydym yn bendant yn y pentref, gan bod tair o ochrau ein heiddo’n ffinio ag ef.

Nodwn, am ryw reswm, fod y CDLl yn cynnwys traean o'n dreif ni ynghyd â'n mynedfa o fewn y Pentref. Er mwyn cynllunio’n rhesymegol, byddwn yn tynnu sylw'r Arolygydd Cynllunio a benodir i ystyried yr Adolygiad at hyn ac yn gofyn am dynnu’r rhain o amlen y pentref hefyd os na chaiff y tŷ a'r tir eu hadfer, gan mai mynedfa i'n cartref a'n tir ni yn unig ydyw. ((Enw wedi ei olygu) a oedd yn denantiaid blaenorol yn y tŷ’n rhentu caeau cyfagos ar gyfer merlen ac fe wnaeth fynedfa dros dro o'n tir ni, ond ailosodwyd y clawdd wedi iddynt adael yr eiddo, i sicrhau bod ffiniau tir Glebe yn gyfan). Ni yw perchenfeddianwyr cyntaf yr eiddo. (Enw wedi ei olygu) oedd y perchennog blaenorol.

Rwy'n nodi'r sylw gan Cadw ac rwy'n cysylltu â nhw i esbonio'r sefyllfa siomedig bod Eglwys Sant Marchell, sy'n rhan o leoliad ein tŷ, wedi'i chynnwys yn y Pentref ond nad yw ein cartref ni wedi’i gynnwys.

Sylw generig Ddim yn ymwneud â setliad penodol ID Rhanddeiliad: 1741 Ymateb ymgynghorol

Trafodwyd y pwnc hwn yng Nghyfarfod Llawn diwethaf y Cyngor ac fe gytunwyd ar y canlynol (ymddiheuriadau am yr oedi cyn ymateb):

Penderfynwyd: cynghori’r Rheolwr Cynlluniau Datblygu a Chadwraeth, Cyngor Sir Penfro, fod unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried nid dim ond yn unigol ond hefyd ar sail effaith gronnol y safleoedd a'r effaith bosibl ar y gorlifdir.

 

471, 518, 519 a 520: Arberth

ID Rhanddeiliad: 3994

Cefnogi

Tir yn Redstone, Arberth – Yn seiliedig ar asesiad desg o'r safle, mae'r tir yn Redstone, Arberth yn safle o ddiddordeb posibl yn y dyfodol i Persimmon Homes Gorllewin Cymru pe bai’n cael ei ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl.

Yn ystod y cam rhagarweiniol hwn wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y safle drwy'r broses a byddwn mewn cysylltiad pellach â pherchennog y tir os caiff y safle ei ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 3987

Gwrthwynebu

Sylwadau (ar safle ymgeisiol 496)

Byddai'r safle hwn ar ffordd gul ddiddosbarth a byddai mynediad yn cynyddu traffig i lefelau annerbyniol ac yn achosi problemau diogelwch.

Byddai’r maint (1.5ha) yn ddigon mawr ar gyfer tua 45 o dai, a fyddai’n anghymesur â maint presennol y pentref.

Mae materion o ran cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn cael eu hystyried yn y CDLl. Byddai datblygiad ar y safle hwn yn cynyddu teithio ar gyfer yr holl wasanaethau, e.e. addysg, gofal iechyd ac unrhyw weithgareddau cymdeithasol, yn ogystal â chyflogaeth, gan nad oes swyddi yn y pentref.

Byddai’r safle yn cael effaith andwyol ar fywydau'r bobl sy'n byw ar hyd y ffordd a’r lôn ar hyn o bryd. Byddent yn colli eu preifatrwydd, a byddai'r lleoliad yng nghefn gwlad agored yn cael ei newid yn llwyr. Byddai gwerth amwynder yr ardal yn diflannu.

Cynigiwyd y safle ar gyfer y CDLl presennol, ac fe'i gwrthodwyd. Nid oes unrhyw beth wedi newid ers hynny i gefnogi'r cais newydd hwn.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 3993

Gwrthwynebu

Byddai'r datblygiad hwn ar ffordd gul a fyddai'n achosi tagfeydd traffig a materion diogelwch.

Mae'r datblygiad yn anghymesur â gweddill y pentref. Byddai'n golygu cynnydd canrannol mawr yn nifer yr aelwydydd yn y pentref.

Byddai'n rhaid i bob aelwyd newydd deithio ar gyfer addysg, gofal iechyd, yr holl amwynderau (siopa, hamdden) a gwaith. Byddai'r effaith amgylcheddol yn fawr, yn enwedig o ystyried y safleoedd eraill a awgrymwyd fel rhan o'r CDLl.

Gwnaed cais ar gyfer y safle o'r blaen, ac fe’i gwrthodwyd, ac ni fu unrhyw newid mewn amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau newid yn y penderfyniad.

Mae poblogaeth y pentref sy'n byw yma wedi dewis lleoliad pentref am resymau penodol, megis ei leoliad yng nghefn gwlad, preifatrwydd, mannau rhydd, llonyddwch. Mae sawl tref yn lleol a fyddai'n gallu derbyn y nifer yma o dai heb effeithio'n andwyol ar fywydau'r rhai yn yr ardal gyfagos. Ni fyddai hyn yn wir ym mhentrefan Llanddewi Felffre.

 

496: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 3992

Gwrthwynebu

Mae’r Safle (Ymgeisiol) (496) yn cynnwys coed aeddfed, gwrychoedd a chyrsiau dŵr naturiol, a byddai eu newid yn niweidiol i fywyd gwyllt lleol a dŵr ffo. Ar hyn o bryd mae cymdogion agos yn mwynhau golygfeydd gwledig i raddau helaeth, byddai effaith negyddol ar hyn a byddai’n amharu ar y gymuned leol e.e. pobl yn symud, ac yn effeithio ar werthoedd eiddo.

Fel perchennog tir cyfagos, pe bai'r safle hwn yn cael ei ddatblygu, rwy'n debygol o geisio gwneud yr un peth a symud i ffwrdd. Symudais i eiddo gwledig, a dyna y mae arnaf ei eisiau.

 

500, 506 a 507: Treletert

ID Rhanddeiliad: 34762

Gwrthwynebu

Maddeuwch i mi am anfon yr ymateb hwn i'r ymgynghoriad ychydig yn hwyr, ond rwy'n gobeithio y gellir ei ystyried.

Mae'r safleoedd ychwanegol ar gyfer ardal (enw wedi ei olygu) wedi cael eu hystyried gan (enw wedi ei olygu) (cofnod 19/02) sydd â'r sylwadau canlynol:

506: Pryderon ynghylch maint yr ardal, gyda straen bosibl ar seilwaith, yn enwedig carthffosiaeth y credir ei bod eisoes wedi cyrraedd ei llawn gapasiti ac o bosibl yr ysgol hefyd. Pryderon hefyd ynghylch mynediad a'r effaith bosibl ar y Gymraeg.

507: Fel uchod ac eithrio maint gyda mynediad arbennig o anodd naill ai i'r A40 neu'n uniongyrchol i Heol Dewi Sant gan y bolardiau tawelu traffig.

500: Nodwyd ei fod eisoes o fewn y CDLl, ond bod mynediad yn dod allan yn agos at ran o Heol Dewi Sant y nodwyd eisoes ei bod yn beryglus.

Er bod yr ail ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ymwneud yn benodol â'r Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol (rhifau 468 i 522 gan gynnwys y rheiny), cafodd y Cyngor nifer sylweddol o sylwadau a oedd yn ymwneud â'r Safleoedd Ymgeisiol gwreiddiol (rhifau 1 i 467 gan gynnwys y rheiny) hefyd, a restrir isod er mwyn cyflwyno darlun cyflawn o ymateb y cyhoedd.

 

013, 024, 045, 074, 075, 122, 150, 151, 152, 280, 303, 306, 307, 321, 322, 323, 324, 325, 326, 327, 337, 342, 362, 377, 444, 445, 446, 447, 448, 449, 510 a 511: Doc Penfro

ID Rhanddeiliad: 3910

Cymysgedd o ymatebion yn cefnogi ac yn gwrthwynebu, y manylir arnynt isod

013 – cefnogi – Mae'r cae hwn o fewn ffin yr anheddiad a hefyd mewn ardal o ddatblygiad gweddol fodern. Mae'n drueni adeiladu ar y llain hon y gellid ei gwneud yn ardal amwynder / parc lleol, yn enwedig os yw safleoedd agored eraill yn yr ardal eisoes wedi'u clustnodi ar gyfer datblygu mewn CDLlau cynharach. Os oes mannau agored eraill ar gael i drigolion Doc Penfro, yna rwy'n cefnogi'r Safle Ymgeisiol hwn ar gyfer adeiladu tai, er o anfodd. Ar ôl edrych ar y CDLl cynharach, mae'n ymddangos bod ardaloedd o amwynder cyhoeddus eisoes wedi'u dyrannu gerllaw.

024 – cefnogi - Byddai defnyddio'r safle hwn i bwrpas dibreswyl yn parhau â'i batrwm defnydd; fodd bynnag, ni ddylid ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol. Gallai defnydd manwerthu parhaus neu gyfleuster twristiaeth fod yn briodol.

045 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad. Ni ddylid defnyddio defnydd amhriodol presennol o dan ddisgrifiad amaethyddiaeth i hyrwyddo'r safle hwn fel tir ar gyfer tai. Byddai caniatáu adeiladu ar y safle hwn yn gwneud adeiladu tai ar y caeau i'r de yn fwy derbyniol yn y cylch nesaf o adolygiadau (CDLl 3 ac yn ddiweddarach), gan ddileu'r "llain las" rhwng Penfro a Doc Penfro ac amharu ar werth amwynder y man gwyrdd hwn.

074 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad. Byddai'r tir hwn, pe bai'n cael ei neilltuo ar gyfer adeiladu, yn lleihau gwerth amwynder y tir yn ddifrifol o ben Sykemoor Road i Afon Penfro. Mae'n bwysig cynnal parth clustogi rhwng ffin bresennol yr anheddiad a'r glannau sy'n edrych dros yr afon, er mwyn cynnal apêl weledol ac amwynder yr afon ddeniadol a hanesyddol hon. Ymddengys y byddai penderfyniadau blaenorol i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer safle gerllaw'r llain hon yn dynodi bod adeiladu ar y llain hon yn annerbyniol. Byddai adeiladu ar y safle hwn hefyd yn achosi erydiad sylweddol yn ngwerth amwynder yr olygfa tuag at Benfro o'r ardal hamdden ym mhen deheuol Treowen Road (Safle 444).

075 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad. Byddai'r tir hwn, pe bai'n cael ei neilltuo ar gyfer adeiladu, yn lleihau gwerth amwynder y tir yn ddifrifol o ben Sykemoor Road i Afon Penfro. Mae'n bwysig cynnal parth clustogi rhwng ffin bresennol yr anheddiad a'r glannau sy'n edrych dros yr afon, er mwyn cynnal apêl weledol ac amwynder yr afon ddeniadol a hanesyddol hon. Ymddengys y byddai penderfyniadau blaenorol i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer safle gerllaw'r llain hon yn dynodi bod adeiladu ar y llain hon yn annerbyniol. Byddai adeiladu ar y safle hwn hefyd yn achosi erydiad sylweddol yn ngwerth amwynder yr olygfa tuag at Benfro o'r ardal hamdden ym mhen deheuol Treowen Road (Safle 444). Mae Llwybr Arfordir Penfro hefyd yn rhedeg drwy'r llain hon a byddai adeiladu ar draws y llwybr yn amhriodol ac yn groes i’r ethos y mae'r llwybr yn amcanu at ei gyfleu - h.y. mynediad i gefn gwlad.

122 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad. Mae'r darn hwn o dir yn galed ar y draethlin a byddai'n tynnu'n ddifrifol oddi ar amwynder gweledol yr olygfa o Bennar Isaf a geir o Afon Penfro. Mae'n debyg y bydd adeiladu ar y safle hwn yn dinistrio tystiolaeth archeolegol sy'n gysylltiedig â'r hen iard longau yn Jacobs’s Pill ac archaeoleg ddiwydiannol gynharach. Gallai gwaith adeiladu ac adeiladau terfynol hefyd rwystro mynediad ar hyd y blaendraeth yn y man hwn.

150 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad. Yn y pen draw, bydd rhoi caniatâd i adeiladu ar y safle hwn yn caniatáu datblygu ar hyd Military Road i gyd i Pennar Point. Fy mhrif bryder yw bod tai ar y safle hwn mewn safle gweladwy iawn, ar ben crib, ac na ellir eu cuddio yn effeithiol â choed oherwydd amlygiad i wynt heli. Byddai'n erydu'r manteision gweledol, o Afon Penfro a Barrack Hill, a gafwyd trwy gael gwared ar y tanciau olew ar hyd Military Road.

151 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad. Ar gyfer adeiladu tai, mae'r safle hwn yn rhy agos at Afon Penfro, ac mae hyn yn tynnu oddi ar amwynder gweledol lleoliad y ddyfrffordd hanesyddol hon.

152 – gwrthwynebu'n rhannol - Mae'r safle'n gorwedd o boptu ffin yr anheddiad, ac er na allaf weld unrhyw broblem gydag adeiladu tai ar y rhan o’r safle sydd o fewn ffin yr anheddiad, mae'r rhan i'r gorllewin o hyn, y tu allan i'r ffin, yn tynnu oddi ar amwynder gweledol lleoliad hanesyddol Afon Penfro.

280 – cefnogi - Yn cyd-fynd â’r defnydd o dir cyfagos.

303 – cefnogi - Mae'r safle wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer tai o'r blaen. Dim ond adeiladau unllawr ddylai fod i adlewyrchu hen arddull y tai ar y llain hon.

306 – cefnogi - Dim sylw ar hyn o bryd.

307 – cefnogi - Dim sylw ar y cam hwn.

321 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad. Yn rhy agos at flaendraeth sylweddol ar gyfer datblygu tai a byddai'n cael effaith andwyol ar amwynder gweledol o draffig ar ddyfrffordd Aberdaugleddau a thraethlinau cyfagos. Mae'n debygol ei fod wedi'i halogi'n fawr â hydrocarbonau. Dinistrio cynefin coetir crog. Gwelwyd cudyllod gleision yn yr ardal.

322 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad. Colli ecosystem y coetir cysgodol ac yn debygol o fod wedi'i halogi'n drwm â hydrocarbonau. Colli amwynder gweledol o nifer o lwybrau troed sy'n rhedeg ochr yn ochr a thrwy'r ardal.

323 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad, ond o fewn ffin Ardal Gadwraeth Doc Penfro. Safle sy’n amhriodol ac yn gosod cynsail i'w ystyried ar gyfer tai. Mae Barrack Hill yn amwynder o werth mawr i drigolion Doc Penfro. Mae'r eiddo wedi cael ei esgeuluso a'i gam-drin gan ei denantiaid presennol ac mae hwn yn gais prawf sinigaidd i brofi'r dyfroedd ar gyfer tresmasu ymhellach ar fan agored sy'n rhan sylweddol o hanes y dref - a dyna pam ei fod wedi’i gynnwys o fewn yr ardal gadwraeth.

324 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad, ond o fewn ffin Ardal Gadwraeth Doc Penfro. Safle sy’n amhriodol ac yn gosod cynsail i'w ystyried ar gyfer unrhyw ddatblygiad ar wahân i'r un i ddatblygiad i wella bioamrywiaeth yr ardal. Mae Barrack Hill yn amwynder o werth mawr i drigolion Doc Penfro. Mae'r eiddo wedi cael ei esgeuluso a'i gam-drin gan ei denantiaid presennol ac mae hwn yn gais prawf sinigaidd i brofi'r dyfroedd ar gyfer tresmasu ymhellach ar fan agored sy'n rhan sylweddol o hanes y dref - a dyna pam ei fod wedi’i gynnwys o fewn yr ardal gadwraeth. Mae’n drueni bod y meddianwyr presennol wedi gadael i ordyfiant ddigwydd yn yr ardal.

325 – gwrthwynebu – Y tu allan i ffin yr anheddiad ac o fewn yr ardal gadwraeth. Byddai'r safle hwn, pe bai’n cael ei ddatblygu, yn arwain at erydiad pellach drastig lleoliad y Gofeb Rhestredig Gradd II* a'r Heneb Gofrestredig o Bwysigrwydd Cenedlaethol, y Barics Amddiffynnol. Ddim yn dderbyniol o gwbl.

326 – gwrthwynebu - Mae'r safle hwn y tu allan i ffin yr anheddiad ac o fewn Ardal Gadwraeth Doc Penfro. Mae'r un gwrthwynebiadau yn berthnasol ag ar gyfer y safleoedd eraill a gyflwynwyd gerbron fel safleoedd ymgeisiol sydd o fewn ffiniau Barrack Hill. Gwrthwynebiad ychwanegol ar gyfer y safle hwn yw ei fod yn cael gwared ar fynediad i gefn gwlad agored ar gyfer disgyblion Ysgol Plant Iau Pennar. Mae'r prysgwydd a'r glaswelltir yn amgylchedd dysgu da ar gyfer disgyblion. Gallaf weld yr angen am faes parcio bach, wedi'i ddylunio'n ofalus, ond credaf y dylid ceisio atebion eraill NAD ydynt yn cynnwys defnyddio'r darn dynodedig hwn o dir.

327 – gwrthwynebu - Y tu allan i ffin yr anheddiad. Mae dadleuon tebyg yn berthnasol i'r safle hwn ag i safleoedd 322 i 326, ar wahân i'r ffaith ei fod yn gorwedd y tu allan i Ardal Gadwraeth Doc Penfro. Halogi hydrocarbon a chemegol gros

337 – cefnogi - Dim sylw ar hyn o bryd. Cefnogi, yn amodol ar wybodaeth bellach.

342 – cefnogi - Dim sylw ar hyn o bryd. Cefnogi, yn amodol ar wybodaeth bellach.

362 – cefnogi – Cefnogi yn amodol ar ragor o wybodaeth.

377 – cefnogi – Cefnogi yn amodol ar y defnydd a ragwelir.

444 – cefnogi – Cefnogi’n llwyr.

445 – cefnogi – Cefnogi yn amodol ar fanylion defnyddiau arfaethedig.

446 – cefnogi – Cefnogi, gyda rhai amheuon ynghylch lled gwirioneddol yr ardal sydd yn rhy gul efallai.

447 – cefnogi – Cefnogi’n llwyr.

448 – cefnogi – Cefnogi cyn belled â bod clwb ieuenctid yn cael ei gadw.

449 – cefnogi – Cefnogi’n llwyr.

510 – cefnogi – Cefnogi’n llwyr.

511 – cefnogi – Cefnogi.

 

014, 035, 043, 079, 087, 095, 096, 109, 115, 116, 117, 119, 131, 148, 167, 174, 175, 281, 302, 308, 352, 353, 356, 373, 401, 402, 403, 404, 409, 410, 411, 430 a 431: Penfro

ID Rhanddeliaid: 3910

Cymysgedd o ymatebion yn cefnogi ac yn gwrthwynebu, y manylir arnynt isod

014 – cefnogi – cefnogi gan ei fod yn ddatblygiad mewnlenwi naturiol ar gyfer y patrwm anheddu presennol. O fewn Ffin yr Anheddiad.

035 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Arwyddion gwan o archaeoleg gladdedig yn y cae hwn. Gweler Google Earth.

043 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Mae hyn yn erydu'r amwynder gweledol o Gastell Penfro a mannau eraill yn y dref, gan symud adeiladau yn agosach at gopa'r bryn i'r de. Mae llain fach o dir, sy'n rhedeg tua'r gogledd tuag at Orange Gardens, o fewn Ffin yr Anheddiad, ond byddai ganddi werth amwynder i drigolion tai presennol.

079 – cefnogi – y tu allan i Ffin yr Anheddiad, ond nid yw'n cael rhyw lawer o effaith weledol o Lamphey Road.

087 – cefnogi – cefnogi o anfodd. Mae'r tir yma allan o'r golwg i ryw raddau. Gall traffig o'r safle i Well Hill ychwanegu perygl ychwanegol i gerbydau sy'n mynd i lawr Well Hill.

095 – gwrthwynebu – mae'r safle y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Mae i'r de o Lower Lamphey Road felly mae'n gosod cynsail bellach ar gyfer datblygu i'r de o'r ffordd a grybwyllir uchod.

096 – gwrthwynebu – yn ôl pob golwg, fel y gellir ei ddarllen o'r map ar raddfa fach sy'n dangos y safle, y tu allan i Ffin yr Anheddiad, ond o fewn Ardal Gadwraeth Penfro. Ddim yn dderbyniol gan y byddai hyn yn tresmasu’n ddiangen ar yr Ardal Gadwraeth.

109 – gwrthwynebu – y tu allan ac ar wahân i Ffin yr Anheddiad. Byddai unrhyw ddatblygiad yma yn tynnu oddi ar natur Jack Scone's Lane sy’n bellennig a gwledig yn ôl y golwg.

115 – gwrthwynebu – o fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn Ardal Gadwraeth Penfro. Yn gwbl annerbyniol gan y byddai hyn yn erydu’n ddifrifol – na, yn dinistrio – lleoliad Y Priordy ac adeiladau canoloesol cyfagos, gan gynnwys Eglwys Priordy Cil-maen a'i harchaeoleg sylfaenol. Mae'r safle hwn hefyd o fewn golwg Castell Penfro. Na.

116 – gwrthwynebu – o fewn y Ffin yr Anheddiad ac yn rhannol o fewn Ardal Gadwraeth Penfro. Mae'n anodd deall pam fod y safle hwn a safle 115 uchod wedi'u cynnwys o fewn Ffin yr Anheddiad o ystyried bod hwn yn safle hanesyddol â llawer o botensial archeolegol. Mae'r llain gyfan a llain 115 uchod o fewn golwg (yn weladwy o) Castell Penfro ac felly dylid cadw cymeriad presennol y dirwedd agored. Mae Eglwys y Priordy a’r adeiladau cysylltiedig, yn ogystal â'r colomendy canoloesol (sydd wedi'i leoli ar y pwynt uchaf) yn lleoliad pwysig iawn ar gyfer y Castell, dyna pam fod yr ardal hon wedi’i chynnwys yn Ardal Gadwraeth Penfro. Ni allaf fynegi’n ddigon cryf cymaint yr wyf yn gwrthwynebu datblygu’r safle hwn. Na.

117 – cymysgedd o gefnogi a gwrthwynebu – o fewn ffin yr aneddiad, y tu allan i'r Ardal Gadwraeth. O fewn y golygfeydd o Gastell Penfro. Cefnogi o anfodd yn amodol ar yr amod bod unrhyw geisiadau cynllunio sydd ar ddod yn ystyriol o natur sensitif y safle hwn.

119 – cefnogi – o fewn Ffin yr Anheddiad, y tu allan i'r Ardal Gadwraeth. Mae'r ardal hon yn cynnwys seidings a doc llwytho Gorsaf Penfro. Roedd gan yr ardal hon rôl bwysig o ran cludo tanciau a cherbydau eraill i Faes Tanio Castellmartin yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar ôl hynny. Mae fy nghefnogaeth yn amodol ar gynnal arolwg archeolegol ac ymchwiliad mewn perthynas â’r safle.

131 – cefnogi – y tu allan i Ffin yr Anheddiad, ond datblygiad mewnlenwi synhwyrol, er ei fod yn dinistrio gwerth ecolegol darn hirgul gwyrdd o dir ymysg adeiladau presennol.

148 – gwrthwynebu – gwrthwynebu nes gallaf ddeall pam fod y safle gwledig yma wedi ei ddewis ar gyfer y rôl fel safle i deithwyr. Onid yw hwn yn ddefnydd preswyl, felly pam llwyd?

167 – gwrthwynebu – y tu allan i ffin yr anheddiad yn bennaf. Gallaf weld y gallai'r ardal o fewn Ffin yr Anheddiad fod yn briodol ar gyfer tai, ond byddai estyn tai ar draws gweddill y safle arfaethedig, yn enwedig uwchben crib Golden Hill, yn cael gormod o effaith weledol o ran yr olygfa o'r castell ac i'r de o'r dref, ar St. Daniel’s Hill, er enghraifft. Mae'r safle hefyd yn tynnu oddi ar natur wledig a hynafol Jack Scone's Lane.

174 a 175 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Nid yw’r mapiau’n ddigon clir i bennu maint y naill safle a’r llall, ond gyda'i gilydd byddai'r ddau safle yn tynnu oddi ar natur wledig Jack Scone's Lane ac yn rhoi pwysau traffig pellach ar y ffordd, gyda'i chornel beryglus, o dan y bont reilffordd gerllaw.

281 – gwrthwynebu – O fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn Ardal Gadwraeth Penfro. Byddai newid y safle hwn i unrhyw ddefnydd a fyddai'n golygu dymchwel yr adeilad ysgol Fictoraidd yn waradwyddus ac yn gwneud anghyfiawnder â threftadaeth y dref. Byddai hyn yn cymharu, fel gweithred o fandaliaeth ddireswm, â dymchwel Hen Ysgol Pennar, yn Noc Penfro. Byddai croeso i unrhyw ddatblygiad a ddefnyddiai'r adeilad presennol, ond mae ei ddymchwel yn annerbyniol. Byddai defnydd fel rhyw fath o atyniad i dwristiaid – oriel, Canolfan Groeso, caffi, ac ati yn dda gan y byddai hyn yn gwasgaru nifer yr ymwelwyr yn fwy cyfartal ledled Penfro.

302 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Aneddiad. Rhesymau tebyg i safle 043.

308 – cefnogi – o fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Mae hwn yn safle arbennig sy'n hynod sensitif yn archeolegol, o dan y ddaear ac o fewn ffabrig adeiladau sy’n sefyll. Dylai fod yn destun cryn dipyn o waith ymchwilio cyn bod unrhyw benderfyniad terfynol ynglŷn â’r defnydd (yn cael ei wneud).

352 – cefnogi – o fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Mae hwn yn adliniad dadleuol iawn mewn cysylltiad â safle 353. Bydd angen ymchwiliad archeolegol i’r llwybr, ond bydd yn gwneud Bridgend Terrace ac Awkward Hill yn fwy hygyrch i gerddwyr, gyda'r posibilrwydd o wneud Bridgend Terrace ac ati yn ardal i gerddwyr yn unig.

353 – gwrthwynebu – o fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Ddim yn dderbyniol o gwbl. Byddai llwybr y ffordd yn torri ar draws y golygfeydd gwyrdd olaf sy'n weddill o furiau'r Castell i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o'r castell. Mae gan y tir, yn enwedig ar ochr ddeheuol Afon Penfro, werth archeolegol uchel ac mae'n darparu lleoliad gweledol da o'r gorllewin (a Bush House) ar gyfer castell (a’r dref) sy'n agos at sut y byddai wedi edrych cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, byddai’r olygfa o’r castell o fannau ffafriol eraill, yn llawer pellach i ffwrdd, yn cael ei diraddio'n ddrastig gan y cynnig hwn. Mae'r prosiect hwn yn torri llawer o ddaliadau'r CDLl. Byddai hefyd yn achosi dirywiad drastig yng ngwerth grŵp y Castell, y Priordy a'i adeiladau (yn enwedig y colomendy) o fewn ei leoliad maes glas.

356 – cefnogi – o fewn Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Yn amodol ar fanylion y gwaith a fydd yn cael ei wneud.

373 – cefnogi – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Yn amodol ar arfarniad archeolegol cywir o'r safle, yn enwedig y ffin sy'n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin drwy'r safle, sy'n edrych fel pe bai ar hyd yr un llinell â ffordd gynharach (cyn i’r rheilffordd gyrraedd?) o Benfro i Landyfái.

401 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Ddim o gwbl. Dadleuon tebyg i’r rhai ar gyfer safle 353, ond yn fwy felly. Mae'r tir hwn yn rhan o leoliad hanesyddol ac archeolegol Penfro, Cil-maen ac Ystâd Bush fel y'i gwelir o Bush House. Byddai unrhyw beth mwy na datblygiad dehongli ag effaith isel iawn ar y safle hwn yn annerbyniol.

402 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad a'r tu allan i'r Ardal Gadwraeth. Yr un dadleuon â safle 116. Byddai'n tresmasu'n niweidiol ar leoliad y grŵp canoloesol o adeiladau ym Mhriordy Cil-maen a'r Castell, yn ogystal â lleoliad Bush House a'r olygfa o'r eiddo hanesyddol hwn (mae hwn yn safle hanesyddol â llawer o botensial archeolegol). Mae'r llain gyfan a safleoedd 115 ac 116 uchod o fewn golwg (i'w gweld o) Castell Penfro ac felly dylid cadw ei chymeriad tirwedd agored presennol. Mae Eglwys y Priordy a’r adeiladau cysylltiedig, yn ogystal â'r colomendy canoloesol (sydd wedi'i leoli ar y pwynt uchaf) yn lleoliad pwysig iawn ar gyfer y Castell, dyna pam fod yr ardal hon wedi’i chynnwys yn Ardal Gadwraeth Penfro. Ni allaf fynegi’n ddigon cryf cymaint yr wyf yn gwrthwynebu datblygu’r safle hwn. Na.

403 – cymysgedd o gefnogi a gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad ac o fewn yr Ardal Gadwraeth. Os yw'r defnydd arfaethedig yn golygu adfer y tir yn ofalus fel porfa gyda mynediad cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau bach eu heffaith sy'n cynnal natur wledig y safle yna rwy’n cefnogi'r newid defnydd hwn, yn amodol ar gael gwybodaeth fanylach. Os yw'r term 'hamdden' yn golygu unrhyw fath o adeilad, ar wahân i seddi a fyddai’n cael effaith fach, safle barbeciw ac ati, yna rwy'n gwrthwynebu'r cynnig yn llwyr. Mae'r safle hwn wedi cael ei gam-drin dros y degawdau diwethaf trwy storio peiriannau sgrap ac fel tir dympio amhriodol ar gyfer gwaddod o Bwll y Castell.

404 – cefnogi – y tu allan i Ffin yr Anheddiad, o fewn yr Ardal Gadwraeth. Rwy'n cefnogi'r awgrym hwn yn amodol ar weld manylion y gwaith arfaethedig. Byddai'n rhaid i unrhyw waith gynnal natur wledig y safle ar y cyfan.

409 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Byddai'r tai yn cael eu cysgodlunio ar gopa Grove Hill ac felly'n diraddio lleoliad y Castell o fewn dyffryn Afon Penfro.

410 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad. Byddai'r tai yn cael eu cysgodlunio ar gopa Grove Hill, yn fwy felly na safle 409 ac felly'n diraddio lleoliad y Castell o fewn dyffryn Afon Penfro.

411 – gwrthwynebu – fel ar gyfer safleoedd 043 a 302, uchod.

430 – gwrthwynebu – y tu allan i Ffin yr Anheddiad, o fewn yr Ardal Gadwraeth. Yn bendant ddim. Byddai'r safle hwn, pe bai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tai, yn tynnu'n sylweddol oddi ar leoliad y grŵp o adeiladau canoloesol sydd wedi'u canoli ar Hen Neuadd Cil-maen a'r Castell.

431 – cefnogi – o fewn Ffin yr Anheddiad. Yn amodol ar fwy o fanylion.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3941

Gwrthwynebu

Hoffwn wrthwynebu datblygiad arfaethedig y safle uchod. Credaf fod maint mawr unrhyw ddatblygiad posibl ar y tir hwn yn anghyson â lleoliad gwledig mewn pentref fel Penalun.

Byddai hefyd yn gosod y seilwaith lleol dan straen enfawr, heb sôn am y feddygfa leol sydd prin yn ymdopi hyd yn oed nawr.

Pan adeiladwyd y ffordd osgoi dywedwyd na fyddai unrhyw fynedfeydd allan pellach yn cael eu caniatáu, ac mae hyn wedi cael ei anrhydeddu hyd yma a dylai aros felly.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 4282

Sylw

Helo,

Gan bod rhaid i mi aros yn ddiduedd, rwy'n ymwybodol o'r hyn y gallaf ei gynnig (manylion personol wedi’u golygu). Fodd bynnag, credaf ei bod o fudd nodi bod gan y datblygwr sydd wedi cyflwyno'r safle ymgeisiol isod ddatblygiad sydd eisoes yn anghyflawn yn yr un pentref, sef Penalun. Mae gan ystâd The Paddock sawl adeilad heb eu cwblhau ac mae angen gella’r ffordd yn The Paddock i safon a fyddai’n ei gwneud yn fabwysiadwy. Rwy'n teimlo ei bod er budd trigolion The Paddock bod y gwaith hwn yn cael ei gwblhau cyn i'r un datblygwr ystyried unrhyw ddatblygiad arall.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3941

Gwrthwynebu

Ar ran Grŵp Hanes Penalun, hoffwn wrthwynebu datblygiad arfaethedig y safle uchod.

Gan bod fy ymateb yn cael ei ddychwelyd ar y 6ed o Fehefin, sef Dydd-D – gallai hwn yn awr olygu Dydd Dim Caniatâd.

Hoffwn wrthwynebu oherwydd;

Mae'r cae yn rhan o'r ardal a elwir naill ai'n Gaeau’r Gwirfoddolwyr, yr Iwmyn, neu’r Pabi lle cafodd miloedd o filwyr eu biledu a'u hyfforddi (ynghyd â'r gwersyll a system ffosydd ar y clogwyni).

Defnyddiwyd y caeau o ddiwedd y 1890au tan tua 1937 gyda hyd at 6000 o filwyr yma yn unrhyw gyfnod penodol.

Roedd y milwyr a ddychwelodd o'r ffrynt ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn cario miloedd o hadau pabi gyda nhw ar eu lifrai ac fe syrthiodd y rhain i'r llawr, gan egino a chreu ardal helaeth o babïau coch am flynyddoedd lawr, yr oedd llawer yn eu hystyried yn gofeb i'r rhai a fu farw.

Ar y safle hwn hefyd yr oedd maes awyr CUB Dinbych-y-pysgod wedi'i leoli, a ddefnyddiwyd yn bennaf gan yr Americanwyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Credaf fod gan y safle ddiddordeb hanesyddol lleol a chenedlaethol mawr i lawer o bobl (yn enwedig pobl leol) ac y dylid ei gadw heb ei ddatblygu.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3933

Gwrthwynebu

Byddai unrhyw waith i ddatblygu’r tir yn ymosodiad difrifol ar ein gofod, ein golygfeydd a'n hurddas, hefyd yn pryderu am fywyd gwyllt yn enwedig draenogod ac ystlumod.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3930

Gwrthwynebu

Dim ond newydd weld y cynllun datblygu lleol ar gyfer Penalun ydw i. Y papur newydd lleol ddaeth ag ef i'm sylw ac mae'r e-bost hwn yn sicrhau fy mod o fewn yr amser ymateb rydych chi wedi'i osod.

Rwy'n arswydo y gallai rhannau o ogledd a dwyrain Penalun gael eu hystyried yn addas ar gyfer datblygiadau tai. Byddai digwyddiad o'r fath yn dinistrio union natur y pentref rwy'n byw ynddo, byddai'n dinistrio'r ymdeimlad cymunedol, byddai'n creu problemau mynediad go iawn i draffig a cherddwyr ac ar gyfer nifer sylweddol byddai'n dinistrio'r golygfeydd a’u denodd yma yn y lle cyntaf. Does dim modd y gallai’r seilwaith presennol ymdopi â'r mewnlifiad o bobl, hyd yn oed nawr byddai'r diffyg palmentydd ar y ffordd ddynesu i Benalun yn dod yn llawer mwy peryglus. Mae Penalun yn cael trafferth gydag anawsterau trafnidiaeth yn awr a byddai datblygu i'r gogledd a'r dwyrain yn eu gwneud yn llawer gwaeth.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 34662

Gwrthwynebu

Ni fyddai datblygiad posibl y safle hwn a maint y datblygiad tebygol yn gyson â lleoliad gwledig y pentref.

Mae seilwaith dan bwysau ar hyn o bryd - dŵr a charthffosiaeth ddim yn ddigonol.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3924

Gwrthwynebu

Gwrthwynebiadau Difrifol:

Rhan Un: Carthffosydd a draenio:

Capasiti Carthffosiaeth – mae hon eisoes yn broblem sy'n bodoli'n barod.

Rwy'n tynnu eich sylw at yr erthygl ddiweddar (yn agor mewn tab newydd) ynglŷn â'r Paddock Inn, i'r gogledd o'r safle ymgeisiol.

Mae gwneud gwaith carthffosiaeth yn ddiweddar er mwyn cysylltu dŵr budr o ddatblygiad newydd Penally Grange â'r brif garthffos eisoes wedi rhoi straen sylweddol ar brif garthffos sy'n achosi problemau’n rheolaidd i drigolion (enw’r eiddo wedi’i olygu), ac eiddo cyfagos. Mae'r brif garthffos yn rhedeg drwy eu gerddi gan greu arogleuon budr a materion eraill. Mae'r unedau eiddo hyn yn union i'r Gogledd a'r Gorllewin o'r datblygiad arfaethedig.

O ystyried ei bod yn ymddangos bod y garthffos eisoes yn gweithredu y tu hwnt i’w chapasiti, mae gan breswylwyr bryderon difrifol ynghylch yr effeithiau ar eu bywydau a'u hiechyd.

Rhan 2: Gohebiaeth a cheisiadau cynllunio blaenorol:

Llythyr oddi wrth (enw wedi ei olygu), (manylion personol wedi’u golygu) at Adran Gynllunio CDDSB ar 24/2/1976, (Daeth i law ar 25/2/1976) sydd yn Archifdy'r Cyngor, ac sy'n nodi:

Mae'r system carthbwll yn gwbl anfoddhaol a byddai'n achosi niwsans yn y dyfodol.

Byddai pa bynnag system garthffosiaeth fyddai'n cael ei mabwysiadu yn achosi problemau i drigolion presennol.

Rydym yn eich cyfeirio at:

Lythyr oddi wrth (enw wedi ei olygu), (manylion personol wedi’u golygu) at Adran Cynllunio CDDSB ar 24/2/1976, (Daeth i law ar 25/2/1976) sydd yn Archifdy'r Cyngor, ac sy'n nodi:

Gwrthwynebiadau cryf a godwyd yn erbyn unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn, gan gynnwys:

Niweidiol i'r nenlinell

Anawsterau gyda mynediad at y safle a'i leoliad agos at yr ysgolion, a chysylltiadau trafnidiaeth

Tagfeydd traffig a'r effaith ar bentrefwyr - mae'n dweud na all y pentref ymdopi ag unrhyw draffig pellach

Byddai mwy o draffig a diffyg palmentydd yn beryglus i drigolion yn y pentref, yn enwedig plant

Mae llythyr arall a anfonwyd gan (enw wedi ei olygu), (manylion personol wedi’u golygu) at CDDSB ar 17/3/1976 yn datgan pryderon ynghylch y canlynol:

Difetha cefn gwlad

  1. Gwastraffu tir amaethyddol da
  2. Amodau Traffig
  3. Anfantais i'r ardal
  4. Methu diogelu'r dirwedd wledig
  5. Yn anaddas o ran maint a chymeriad
  6. Llif traffig
  7. Ymyrraeth weledol
  8. Blerdwf llinol
  9. Y dirwedd wledig

Gwrthodwyd caniatâd cynllunio ym mis Mawrth 1976 ar y seiliau canlynol:

  1. Oherwydd yr amlygrwydd a'r lleoliad yn y dirwedd, penderfynwyd y dylai'r tir aros yn ddigyffwrdd
  2. Mae'r safle o fewn 300 llath i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a byddai'n tynnu'n ddifrifol oddi ar gymeriad tirwedd yr ardal ar y cyfan
  3. Mae tiroedd digonol eisoes wedi cael eu rhoi ar gyfer datblygiad preswyl, a phe bai angen rhagor o diroedd ychwanegol yn y dyfodol yna mae tiroedd mwy addas yn gorwedd o fewn y pentref heb orfod troi at y safle amlwg hwn.
  4. Mae ffordd y pentref yn gul ac yn droellog gyda thro egr a dim llwybrau troed dros ei hyd cyfan. Byddai mwy o draffig yn arwain at berygl annymunol i blant a cherddwyr eraill.

Mae'r pedwar pwynt hyn yn ddilys heddiw.

Hefyd, ym mis Awst 1977 roedd llythyr oddi wrth y Swyddfa Gymreig wedi’i stampio gan (enw wedi ei olygu) ar ran yr (enw wedi ei olygu) ar wrthod y cais yn nodi:

  1. Mae yna wrthwynebiadau amgylcheddol difrifol
  2. Bod y carthffosydd yn cyflwyno amodau draenio anfoddhaol, bod y carthffosydd wedi'u gorlwytho (a hyn dros 40 mlynedd cyn y gallai Datblygiad Gwyliau arfaethedig Penalun Grange fod wedi cael ei ychwanegu at yr un system)
  3. Er y cynigiwyd hynny, nid yw'r system garthffosiaeth wedi cael ei huwchraddio ers hynny
  4. Mae gan y tir werth amaethyddol

Mae gohebiaeth barhaus yn archifau Cyngor Sir Penfro (rhwng 1976 a 1989) yn dangos bod caniatâd cynllunio wedi cael ei wrthod yn barhaus ar y seiliau a nodwyd uchod.

Yn 1989. Mae llythyr oddi wrth (enw wedi ei olygu), (manylion personol wedi’u golygu) at CDDSB, ar 21 Ebrill yn nodi’r gwrthwynebiadau i'r caniatâd cynllunio ac yn amlygu bod y penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio wedi cael ei gefnogi gan ddau o arolygwyr y Swyddfa Gymreig trwy ymchwiliad ysgrifenedig a chyhoeddus. Yn ein barn ni, does dim byd wedi newid.

Rhan Tri: Ystyriaethau perthnasol y dylid rhoi sylw iddynt:

Edrych drosodd/colli preifatrwydd a cholli golau: ar gyfer y preswylwyr sy'n ffinio â'r datblygiad arfaethedig, sydd y tu ôl i lawer o unedau eiddo

Efallai y bydd parcio eisoes yn broblem wrth i'r maes parcio am ddim yn yr orsaf reilffordd ddod yn faes parcio y codir tâl am barcio ynddo yng ngwanwyn 2020, gan roi pwysau ar y pentref wrth i bobl barcio ar ochr y ffordd, cyn bod y datblygiad hwn yn cael ei ystyried hyd yn oed

Diogelwch priffyrdd: fel a nodir uchod, diffyg palmentydd a pheryglon i gerddwyr

Traffig: mwy ohono a mwy o sŵn

Effaith ar adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth: gweler isod

Polisi'r Llywodraeth: Mae'r Swyddfa Gymreig eisoes wedi gwrthod y cais hwn ar sawl sail yn flaenorol

Cynigion yn y Cynllun Datblygu: hoffem i'r agwedd hon gael ei harchwilio'n agosach

Penderfyniadau cynllunio blaenorol (gan gynnwys penderfyniadau apêl): mae sawl un, yn dyddio'n ôl i'r 1970au o leiaf, POB UN WEDI'I WRTHOD

Cadwraeth natur: gan gynnwys tarfu ar lwybrau hedfan ystlumod (rhywogaethau a warchodir), draenogod (sydd dan fygythiad difrifol ac yn dirywio’n aruthrol), dileu pryfed a chwilod, presenoldeb tylluanod

Rhan Pedwar: Ardal Gadwraeth Ddynodedig

Daw'r detholiad canlynol o wefan Cyngor Sir Penfro:

Ardaloedd Cadwraeth

Beth yw ardal gadwraeth?

Yn ôl y diffiniad, Ardal Gadwraeth yw “ardal o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ac mae angen gwarchod neu hybu ei chymeriad neu ei golwg” (Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).

Felly Ardal Gadwraeth yw ardal y mae’r Cyngor wedi’i dynodi yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Yn sgil dynodi Ardal Gadwraeth bydd y Cyngor yn gallu monitro ac arwain newid a sicrhau bod cymeriad yr ardal yn cael ei warchod.

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn amrywio’n aruthrol o ran eu naws a’u cymeriad ac maent yn cynnwys y rhannau mwyaf pwysig a diddorol o drefi a phentrefi, o ran eu hanes a’u pensaernïaeth. Dynodi Ardal Gadwraeth yw un o’r ffyrdd pwysicaf o gydnabod, gwarchod a hybu hunaniaeth mannau sydd â chymeriad arbennig iddynt.

Ar hyn o bryd mae 24 o ardaloedd gadwraeth wedi cael eu dynodi gan Gyngor Sir Penfro, sy’n ymestyn dros 0.53% o’r Sir:

Caeriw, Caeriw Cheriton, Cosheston, Eglwyswrw, Abergwaun, Cwm Abergwaun, Wdig, Hwlffordd, Honeyborough, Llandyfái, Llangwm, Llawhaden, Mathri, Aberdaugleddau, Arberth, Y Mot, Neyland, Penfro, Doc Penfro, Penalun, Tŷ Scotsborough, Llandudoch, St. Florence, Cas-wis.

Hoffem gael mynediad at yr Arfarniad o Ardal Gadwraeth ar gyfer Penalun. Mae gwrthodiadau blaenorol wedi dangos cymeriad arbennig a hynodrwydd lleol Penalun. Rydym yn galw ar y Cyngor i anrhydeddu ei ymrwymiad:

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn chwarae rhan fawr yn y broses arfarnu. Mae cyfraniad lleol yn cael ei werthfawrogi i sicrhau:

Bod y ddogfen yn adlewyrchiad da o wybodaeth a phrofiad lleol

Ei bod mor gywir a chynhwysfawr â phosibl

Ei bod yn cynyddu ac yn rhannu dealltwriaeth am gymeriad arbennig ardal

Ei bod yn sicrhau bod pawb yn cael dweud eu dweud yn y broses o reoli'r ardal

(Darparwyd dogfennau pellach sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio a benderfynwyd gan Gyngor Dosbarth De Sir Benfro a chan y Swyddfa Gymreig)

 

054: Mathri

ID Rhanddeiliad: 2507

Cefnogi

Mae'n gwbl gyson â'r cynnig bod yr ardal hon a'r safle hwn yn cael eu diogelu ac yn parhau heb eu datblygu, a'i fod yn cael ei gadw yn ei gyflwr presennol a chyfredol – fel dolydd blodau gwyllt.

Barn a pholisi Cyngor Sir Penfro ers tro - (a Chyngor Dosbarth Preseli Penfro cyn hynny) - yw bod Mathri’n bentref pen bryn unigryw - ac y dylid cynnal ei gymeriad gwhanredol. Teimlwyd na ddylai fod datblygiad/blerdwf pellach i lawr y bryn a fyddai'n dinistrio cymeriad unigryw'r anheddiad. Mae ID Rhanddeiliad: 2507 yn cefnogi'r safbwynt hwn yn gryf.

Y gobaith - a'r disgwyl - yw mai’r polisi hwn fydd drechaf.

 

369: Portfield Gate

ID Rhanddeiliad: 2732

Gwrthwynebu

Diolch i chi am eich help i egluro’r cynnig presennol yn y CDLl ac egluro'r gweithdrefnau ar gyfer cwblhau'r camau sydd ar y gweill.

Roedd y terfyn amser ar gyfer ymatebion i'r Cynllun diweddaraf rai misoedd yn ôl ac ar y pryd doedd gen i ddim pryderon oherwydd nad oedd cwtogi ar y Lletem Las ar ymyl y pentrefan y byddai rhywun wedi ei ddisgwyl ar y darluniau oedd yn cael eu harddangos yn Nhŷ Cambria, ar yr adeg honno. Nid oedd cyfeiriad ychwaith at gais o'r fath a'i statws cynllunio. Pam na wnaed hyn yn glir ar adeg yr ymgynghoriad cyhoeddus? Fodd bynnag, tynnwyd ein sylw at y ffaith bod cais wedi cael ei wneud i adeiladu y tu mewn i'r Lletem a bod hwnnw wedi cael ei dderbyn i'w ystyried gan eich swyddfa a’i fod bellach wedi'i gofnodi gennych chi ar y CDLl â sgôr Oren (Ambr) a’r rhif 369.

Er bod y terfyn amser wedi mynd heibio a gaf fi ofyn, oherwydd y rhesymau uchod, bod ein gwrthwynebiad i'r tresmasiad hwn ar y Lletem Las yn cael ei dderbyn a'i godio’n 'goch' yn debyg i'r tresmasiad arall hwnnw ar y Lletem Las, sef rhif 504.

 

379: Llanddewi Felffre

ID Rhanddeiliad: 3992

Gwrthwynebu

Mae’r safle’n cynnwys coed aeddfed, gwrychoedd a chyrsiau dŵr naturiol, a byddai eu newid yn niweidiol i ddŵr ffo a bywyd gwyllt lleol.

Byddai datblygu’r safle hwn yn effeithio’n niweidiol ar y cymdogion agosaf a’r gymuned leol ehangach trwy newid y golygfeydd gwledig presennol ar ymyl y pentref.

Fel cymydog sy’n edrych dros y safle hwn, pe bai'n cael ei ddatblygu, rwy'n rhagweld y byddwn innau’n symud i ffwrdd ac yn amcanu at adeiladu ar fy nhir. Symudais i eiddo gwledig, a dyna y mae arnaf ei eisiau.

 

062, 063, 064, 065, 383 a 384: Hwlffordd

ID Rhanddeiliad: 3929

Gwrthwynebu

Ar ôl cael gwybod gan gymydog am y safleoedd Ymgeisiol arfaethedig heb unrhyw rybudd ymlaen llaw a dim arwyddion na thaflenni gan y cyngor i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o'r cynllun hwn sy'n hynod o amhroffesiynol yn fy marn i, rwy'n gwrthwynebu o ddifrif. Mae fy mhrif bryder ynghylch safle 383 ac rwyf hefyd yn gwrthwynebu 384, 064, 063, 065, 062

Byddaf yn canolbwyntio ar 383, yr wyf yn gwrthwynebu ei ddatblygu am lawer o resymau.

Yn gyntaf hoffwn ddweud fy mod o dan yr argraff mai Llain Las yw’r ardal hon neu mai dyna ydoedd, oni bai ei bod bellach wedi cael ei newid yn gyfleus?

Llain Las – ardal o dir amaethyddol o amgylch ardal drefol a ddiogelir rhag tai ar raddfa fawr.

Os nad yw hyn yn wir bellach, yna mae gen i wrthwynebiadau difrifol o hyd.

Mae pibell prif linell nwy’n rhedeg drwy'r ardal honno.

Mae mast Tetra wedi'i godi yn yr ardal honno (risgiau iechyd i bobl).

Mae'r system garthffosiaeth yn yr ardal hon eisoes dan ei sang ac mae'n ymddangos bod gan bob un ohonom broblemau gyda phibellau lle gelwir y bwrdd dŵr allan yn rheolaidd i’w dadflocio.

Mae'r ardal hon yn hafan i fywyd gwyllt ac yn dir bridio i lawer o rywogaethau gan olygu y byddai adeiladu yma’n dinistrio eu cartref.

Byddai llawer o goed yn cael eu dinistrio yn wyneb yr alwad am wneud y blaned yn fwy gwyrdd gan y Llywodraeth ac mae'n ymddangos braidd yn rhagrithiol dinistrio coed a bywyd gwyllt, a dweud y gwir byddai adeiladu yma’n dangos y gwrthwyneb i gyflawniad byd-eang.

Mwy o draffig ar ffordd sy’n brysur yn barod, ac yn broblemus iawn os bydd damwain ar yr A40 pan fydd traffig yn cael ei ail-gyfeirio.

Mae yna lawer o ffynhonnau naturiol sy'n rhedeg trwy safle 383 ac mae Ffynnon Hynafol hefyd (ar dir preifat) a allai achosi aflonyddwch.

Mae yna bwyntiau trydan pwysig hefyd yn rhedeg drwy'r cae.

Rwy'n amgáu llun o fynedfa'r cae sydd wedi'i farcio â’r rhif 383 ac fe sylwch nad oes unrhyw arwyddion o gynnig wedi'u nodi i'r cyhoedd eu gweld.

A yw hyn yn gyfreithlon mewn gwirionedd?

 

062, 063, 064, 065, 141, 383 a 384: Hwlffordd

ID Rhanddeiliad: 3931

Gwrthwynebu

Mae sawl rheswm dros fy ngwrthwynebiad i'r Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol hyn – gweler ynghlwm.

Mae fy ngŵr a minnau wedi bod yn breswylwyr (manylion cyfeiriad wedi'u tynnu allan) ers 1 Hydref 1993 – bron i 26 mlynedd. Fe wnaethom brynu'r eiddo fel ein 'cartref am byth' am y rhesymau canlynol:

Adeiladwyd y tŷ yn wreiddiol fel byngalo ond yn flaenorol roedd yr atig wedi'i drosi gan roi lle ychwanegol i ni pan oeddem yn ifanc. Roedd presenoldeb yr ystafell wely i lawr y grisiau yn rhoi'r potensial i ni fyw ar ôl ymddeol heb y cynnwrf o orfod symud yn ein henaint.

Roedd maint yr ardd yn addas ar gyfer teulu a oedd yn tyfu, gan roi lle difyr a lle heddychlon i ni ymlacio a mwynhau ein hamser segur gwerthfawr.

Mae'r golygfeydd a geir o'r tŷ a'r ardd ar draws y caeau at orlifdiroedd Afon Cleddau orllewinol a’r tu hwnt yn syfrdanol ac yn gwneud ein lleoliad yn ddelfrydol a ninnau’n wynebu i'r de o'r dref.

Rydyn ni ar gyrion y dref ac eto yn y wlad gan roi'r profiad i ni o fyw yng nghefn gwlad ond gyda mynediad at siopau a chyfleusterau'r dref sirol.

Mae lleoliad y tŷ yn rhoi'r tawelwch a'r llonyddwch yr oedd arnom eu heisiau ar gyfer ein cartref.

Rydym yn gwrthwynebu enwebu’r safleoedd uchod i'w cynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol ar gyfer y CDLl 2 diwygiedig am y rhesymau canlynol:

Mae safle enfawr eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer defnydd preswyl oddi ar Thomas Parry Way, Hwlffordd (ar bwys safle'r cais i adeiladu Sainsbury's sydd bellach wedi'i dynnu'n ôl) Gweler erthygl ar-lein Cymru (yn agor mwn tab newydd) a fyddai’n darparu lle i dros 800 o gartrefi. Pam ar y ddaear fod angen neilltuo mwy o dir yn y dref ar gyfer defnydd preswyl? Mae'n rhaid gofyn o ble mae'r bobl yma i gyd yn mynd i ddod o ystyried bod pobl ifanc yn gadael Sir Benfro i chwilio am waith. Mae gwaith sy’n talu’n dda’n ddigon prin yn Sir Benfro ers cau Murco, Gulf a PetroPlus, felly pwy, yn union, fyddai'n symud i dai a adeiladwyd yn y lleoliadau uchod? Mae’r cwestiwn ynglŷn â chadw’r 14eg Gatrawd Signalau o fewn Sir Benfro yn dal heb ei ddatrys - pe bai'r gatrawd yn symud i rywle arall, fel sydd wedi ei grybwyll, bydd y tai yn Cashfields yn cael eu trosglwyddo i ddefnydd lleol hefyd.

Mae'r ardal yn darparu lleoliad tawel a gwledig i drigolion New Road, Dunsany Park, Addison Road, Clover Park, Style Park, Uzmaston Road a Creamston Road sy’n gyson â'r ffaith nad oedd yr ardal hon wedi'i hymgorffori yn y dref sawl blwyddyn yn ôl pan adolygwyd ffin y dref. Bydd y preswylwyr hyn wedi dewis eu cartrefi yn seiliedig ar agosrwydd eu tai at yr union nodweddion gwledig hynny a fydd yn diflannu os caiff y Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol hyn eu dynodi fel rhai sy'n addas ar gyfer adeiladu.

Bydd cynnwys safleoedd 383/384/141/062/063/064/065 yn arwain at gynnydd aruthrol mewn traffig cerbydau; bydd hyn yn cael effaith hynod o niweidiol ar draffig yn ymuno â chylchfan Salutation Square ar bob adeg o'r dydd. Yn ystod oriau brig, rhwng 8:00 a 9:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd cylchfan Salutation Square yn syml yn methu ag ymdopi â'r llif traffig cynyddol.

Mae cyfanswm aceredd y safleoedd hyn yn helaeth. Mae safleoedd 383 a 384 yn unig bron 3 gwaith maint Dunsany Park ac Addison Road gyda'i gilydd. Rhyngddynt mae'r ffyrdd hynny yn cynnwys tua 50 o dai a adeiladwyd ar ddiwedd y 1960au / ar ddechrau'r 1970au pan oedd lleiniau adeiladu a gerddi’n llawer mwy na rhai heddiw. Byddwn yn mentro dyfalu y byddai'r ddwy lain hyn yn darparu tir ar gyfer 200-300 o dai gyda'r safleoedd sy'n weddill (rhifau 141 / 062 / 063 / 064 / 065) yn darparu tir ar gyfer 100 o dai eraill gan roi cyfanswm o 300-400 o unedau eiddo. Byddai'r pwysau ar Uzmaston Road a chylchfan Salutation Square o ran traffig yn unig yn drychinebus.

Mae prif bibell nwy LNG pwysedd uchel yn rhedeg trwy'r caeau'n beryglus o agos at y rhan fwyaf o'r safleoedd hyn ac o dan safleoedd 383 a 384. Mae adeiladu o unrhyw fath o fewn y cyffiniau’n beryglus iawn ac, os ydw i’n cofion iawn, yn annoeth.

Bydd safle 383 yn benodol, sy'n ffinio â'n gardd ni, yn effeithio'n niweidiol ar ein hawl i 'fwynhad heddychlon' o'n 'heiddo' (sef ein cartref a'n gardd). O dan Erthygl 1 Protocol 1 y CEHD, ‘Mae gan bob person naturiol neu gyfreithiol hawl i fwynhad heddychlon o'i eiddo’. Byddai cynnwys y safle hwn fel Safle Ymgeisiol Ychwanegol yn atal ein mwynhad heddychlon o ganlyniad i'r aflonyddwch / sŵn cynyddol o ganlyniad i’r tai newydd a'r preswylwyr cysylltiedig. Rydym yn derbyn nad yw'r hawliau hyn yn hawliau llwyr ac y gellir gosod cyfyngiadau arnynt; fodd bynnag, rhaid i gyfyngiadau o'r fath fod yn 'gyfreithlon, bod â nod dilys a bod yn gytbwys'. O ystyried y sylwadau ym mhwynt 1 uchod, prin y gellid galw cynnwys y safle penodol hwn yn gytbwys pan fo safle nas defnyddiwyd yn barod i ddarparu ar gyfer 800+ o gartrefi yr ochr arall i'r dref.

Bydd cynnwys safleoedd 383 / 384 / 141 / 062 / 063 / 064 / 065 yn dibrisio'r cartrefi sy'n agos atynt yn aruthrol – mae ein tŷ ni yn arbennig yn unigryw o ran ei wynebwedd a'i olygfeydd a dyma'r union reswm y gwnaethom brynu'r tŷ – gweler y delweddau isod. Bydd pob arbenigwr eiddo yn y wlad yn cynghori bod cyfran fawr o werth eiddo yn seiliedig ar ddymunoldeb ei leoliad - faint o iawndal fydd Cyngor Sir Penfro yn ei roi i ni am ddibrisio ein cartref?

Byddai'r golygfeydd hyn i gyd yn diflannu pe bai safleoedd rhif 383 a 384 yn dod yn Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol (7 ffotograff wedi’u darparu).

Mae'r tir yn rhan isaf ardal 383 yn aml yn gorlifo mewn glaw trwm - bydd ymweliad safle â gwaelod y cae yn dangos tystiolaeth o hyn. Rydyn ni i gyd yn boenus o ymwybodol o reoleidd-dra cynyddol digwyddiadau tywydd eithafol - yn enwedig mewn digwyddiadau na ellir ond eu disgrifio fel rhai tebyg i fonsŵn pan fydd afonydd a chyrsiau dŵr yn ei chael hi'n anodd ymdopi â dŵr ffo yn ystod glaw. Mae rhan isaf y cae hwn yn rhan o orlifdir Afon Cleddau orllewinol ac mae cynnwys y cae mewn tir preswyl posibl yn aruthrol o anghyfrifol.

Mae'r tir ym mhen uchaf safle 383 yn anhygoel o serth ac felly'n gwbl anaddas ar gyfer tir preswyl. Byddai unrhyw ymgais i lefelu / cerlannu'r tir i wella ei addasrwydd ar gyfer adeiladu yn cael effaith niweidiol ar sefydlogrwydd ein gardd / ffin ni.

Mae'r ardal ym mhen uchaf y cae ar safle 383 yn cynnwys deyerydd moch daear oherwydd ei fod yn darparu amodau perffaith i foch daear fyw ynddynt. Mae'r safle ar lethr gyda choed yn y rhan uchaf ac mae’n edrych dros gaeau digyffwrdd sy'n ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer deyerydd moch daear.

Mae moch daear yn 'cael eu gwarchod gan Ddeddf Diogelu moch daear 1992' ac felly dylid nodi'r canlynol:

'Mae troseddau sy'n berthnasol i waith datblygu yn cynnwys:- anafu neu ladd mochyn daear yn fwriadol; tarfu ar fochyn daear tra’i fod yn y ddaear; difrodi neu ddinistrio unrhyw ran o ddaear moch daear yn fwriadol neu'n ddiofal, neu rwystro mynediad at ddaear. Mae hyn yn golygu, os gallai eich datblygiad effeithio ar foch daear yn y ffyrdd hyn, a’ch bod chithau’n peidio â chymryd unrhyw gamau i atal hynny, eich bod mewn perygl o gyflawni trosedd'.

Mae bywyd gwyllt a natur o dan fygythiad yn gyson o ganlyniad i drefoli; mae'r Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol uchod yn hafanau bywyd gwyllt amrywiol ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer pob math o adar, pryfed, mamaliaid, ac ati, sy'n dibynnu ar ecosystem yr ardal am eu bodolaeth. Dylid diogelu cynefinoedd o'r fath ar gyrion ardaloedd trefol ac ni ddylid eu dymchwel trwy'r frasgamau bythol gynyddol brics a choncrit. Mae presenoldeb SoDdGA Lôn y Gwaith Nwy yn dystiolaeth y dylid cadw'r ardal hon fel y mae heb ei threfoli.

Mae pob un o'r safleoedd uchod wedi'u poblogi ag ystod eang o goed llydanddail a gwrychoedd sydd nid yn unig yn darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, ond sydd hefyd yn cynorthwyo i reoli CO2; mae'r byd ar drothwy trychineb hinsawdd – mae unrhyw weithredoedd i ddinistrio coed llydanddail (ysgyfaint y blaned) yn anghyfrifol ar y gorau ac yn drosedd ar y gwaethaf; mae dinistr o'r fath yn warthus o anfoesol pan nad yw'r safleoedd hyn yn hanfodol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ofalu am y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac mae hynny'n dechrau gyda chynnal yr ecoleg a'r amgylchedd o'n cwmpas.

Mae gwybodaeth o ‘Adroddiad Diffinio Clystyrau Aneddiadau 2019’ CSP yn nodi'r canlynol: 'Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd gwledig yw sicrhau ... cefn gwlad sy’n ddeniadol, yn ecolegol gyfoethog ac yn hygyrch lle mae'r amgylchedd a bioamrywiaeth yn cael eu gwarchod a'u gwella'. Mae'r safleoedd a restrir uchod yn darparu mynediad rhwydd iawn at ardaloedd o'r fath i drigolion Hwlffordd, na fyddent o bosibl yn gallu cael mynediad at ardaloedd mwy anghysbell o gefn gwlad, ac felly ni ddylid eu cynnwys fel Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol.

Nodaf, o ymchwil i'r safleoedd a nodwyd fod cynigwyr y safleoedd hyn yn perthyn i 4 grŵp gwahanol:

(Mae'r ddau baragraff nesaf yn cynnwys cyfeiriadau at unigolion penodol ac wedi cael eu tynnu allan.)

Mae ailddosbarthu tir amaethyddol gan ymgeiswyr yn dir adeiladu / preswyl yn arwain at gynnydd aruthrol yng ngwerth tir o'r fath; mae'n wrthun a dweud y gwir bod elw o'r fath yn cael ei wneud o drallod y rhai yr effeithir arnynt waethaf gan gamau o'r fath.

Taer erfyniwn ar Gyngor Sir Penfro i wrthod y cynigion ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol rhif 383 / 384 / 141 / 062 / 063 / 064 / 065.

 

030 a 376: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3989

Gwrthwynebu

Dim ond heddiw y deuthum ar draws y cynigion cynllunio (sy’n egluro’r ffurf frysiog), ond rwy’n gwrthwynebu yn seiliedig ar y sail y bydd hunaniaeth Penalun yn cael ei dinistrio; heb sôn am yr effaith ar fywyd gwyllt, ysbryd cymunedol, swm y traffig cynyddol a diffyg seilwaith i ddarparu ar gyfer hyn. Mae'n adlewyrchu twf anghymesur ar gyfer y pentref ac mae'r cynlluniau datblygu yn mynd yn groes i'r rhesymau pam y dewisais Benalun i ymddeol iddo yn y lle cyntaf. Peidiwch â dinistrio'r pentref Cymreig bendigedig hwn.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3942

Gwrthwynebu

Gwasanaethau eisoes dan bwysau difrifol, meddygon, mân anafiadau, nyrsys ardal, deintyddion, diogelwch traffig ar ffordd osgoi sydd eisoes yn brysur.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3943

Gwrthwynebu

Hoffwn wrthwynebu'r newid defnydd o dir amaethyddol i unrhyw fath o ddatblygiad strwythurol. Ar ôl byw yn (enw’r eiddo wedi’i olygu) am 30 mlynedd, rwy'n ymwybodol bod sawl ymgais wedi cael eu gwneud i newid y defnydd i ddatblygiad preswyl, ond eu bod wedi cael eu gwrthod, ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw amodau ar gyfer y gwrthodiad hwnnw wedi newid yn ddiweddar.

Mae presenoldeb nifer fawr o ystlumod sy’n gwneud eu cartrefi yn ei berimedr hefyd yn peri cryn bryder.

Byddai'n drueni mawr gweld ein pentref hyfryd yn cael ei orboblogi, a cheir amheuaeth pa un a yw'r seilwaith yn gallu cefnogi datblygiad ychwanegol.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3944

Gwrthwynebu

Fy mhrif resymau dros fod yn erbyn y cynnig yw:

Mae’n sicr y bydd tai newydd yn edrych dros rai unedau eiddo ac y byddant yn colli eu preifatrwydd

Mynediad ar gyfer traffig i ac o’r safle

Cyn belled ag y gallaf gofio, gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ar 3 achlysur dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Y rhesymau yw nad oedd mynediad at y ffordd osgoi yn cael ei ganiatáu, bu damwain angheuol ar bwys lôn yr ysgol. Roedd ar yr adeiladwyr hyd yn oed eisiau dymchwel byngalo ar ffordd y pentref i gael mynediad, ni chaniatawyd hyn.

Carthffosiaeth a draenio o'r safle! Mae problem eisoes gyda'r datblygiad yn 'Penally Grange' oherwydd hyn.

Mae diffyg cyfleusterau yn yr ardal parthed Meddygon, gofal iechyd, trafnidiaeth a chyflogaeth.

Nid yw'r ardal yn gallu darparu ar gyfer mwy o bobl. Mae angen mwy o dir ar gyfer ffermio, nid llai.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 4283

Gwrthwynebu

Mae swm y traffig sy'n gyrru’n rhy gyflym trwy gyffordd Penalun i Ridgeway eisoes yn creu perygl. Effaith ar bwysedd dŵr, mae draeniau yn aml yn drewi. Mae ystlumod yn hedfan dros yr ardal. Ar y ffordd osgoi mae pobl yn goddiweddyd ac eisoes yn cymryd risgiau.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3945

Gwrthwynebu

Mae maint y safle yn dynodi y gallai o leiaf 80 o dai fod ar y safle hwn. Gallai hyn, ynghyd â'r safle sydd eisoes wedi'i drefnu ar gyfer datblygiad oddi ar The Paddocks (dim ond ychydig gannoedd o droedfeddi i ffwrdd), arwain at dros gant o dai newydd ac felly 250 o drigolion ychwanegol yn y pentref (tua 25% yn ychwanegol). Byddai hyn yn creu anghydbwysedd llwyr yn y pentref ac yn gorlwytho'r seilwaith.

Deallaf fod y system draenio carthion preswyl ar gyfer yr ardal o amgylch y safle hwn eisoes yn agos at sefyllfa gritigol o ran ei chapasiti.

Yr unig fynediad ar gyfer traffig sydd ar gael i'r safle hwn yw’r un ar y ffordd osgoi. Gwrthodwyd caniatâd dro ar ôl tro ar gyfer hwn a safleoedd arfaethedig eraill yn yr ardal.

Yr unig ddarpariaeth feddygol ar gyfer ardal Dinbych-y-pysgod a'r cylch yn ei chyfanrwydd yw Meddygfa Dinbych-y-pysgod yn The Nortons. Mae hon eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi, gan fod yn brin o feddygon, mae’n dibynnu ar locymau ac wedi cael ei rhoi mewn "mesurau arbennig" gan yr Awdurdod Iechyd. Rwy'n teimlo y gallai'r llwyth ychwanegol a fyddai’n cael ei osod gan ddatblygiad ar y raddfa hon achosi i'r ddarpariaeth iechyd ar gyfer yr ardal ddymchwel yn llwyr.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3947

Gwrthwynebu

Mae ceisiadau am newid defnydd y safle hwn o amaethyddiaeth i dai eisoes wedi cael eu gwrthod o leiaf ddwywaith yn y gorffennol gan arolygwyr Swyddfa Cymru ar apêl.

Mae'n ymddangos bod y safle y tu allan i ffin anheddiad y pentref yn ôl map y CDLl ym mis Chwefror 2013.

Mae'r safle yn agos at ffin y Parc Cenedlaethol, felly byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith andwyol ar dirwedd / effaith weledol yr ardal.

Mae'r unig fynediad i'r safle ar ffordd osgoi'r pentref, sef prif ffordd brysur yr A4139 sydd â therfyn cyflymder o 50mya, gan greu problemau a pheryglon posibl o ran diogelwch ar y ffordd.

Mae'r safle wedi'i ddynodi'n barth clustogi rhwng anheddiad y pentref a ffordd osgoi'r A4139.

Mae problemau eisoes yn gysylltiedig â'r system garthffosiaeth sy'n rhedeg ar hyd cefn ein tai, sy’n achosi i ddrewdod ddod yn ôl i fyny'r draeniau i mewn i'r tŷ. Mae Dŵr Cymru yn ymwybodol o hyn, ac wedi ymdrin â'r broblem pan ydynt wedi cael gwybod, wrth i’r broblem godi.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3948

Gwrthwynebu

(Ni ddarparwyd unrhyw destun ychwanegol)

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3985

Gwrthwynebu

Fel un o drigolion Penalun ers tua 46 mlynedd, hoffwn fynegi gwrthwynebiad cryf i safle ymgeisiol arfaethedig rhif 030 Penalun.

Cyflwynwyd y safle hwn yn flaenorol ar gyfer caniatâd cynllunio ac fe wrthwynebwyd hynny, fe apeliwyd ac fe gollodd y perchennog yr achos dros ddatblygu.

Mae'r cae hwn yn ffinio â ffordd osgoi brysur sy'n ffordd gerbydau 50 milltir yr awr grom a byddai unrhyw fynedfa i'r cae hwn yn beryglus iawn.

Mae'r cae’n dir amaethyddol o’r radd flaenaf sy’n weddol uchel ar y dirwedd ac i’w weld yn hawdd o'r ardal o amgylch. Bydd yn newid golygfa Penalun yn y Dirwedd yn llwyr. Pentref bychan ydyn ni a bydd yn newid deinameg y Pentref yn llwyr. Rydym yn bentref hanesyddol ac mae'r cae hwn yn safle arbennig o sensitif.

Mae'r Pentref eisoes yn profi problemau gyda pharcio, gyrru’n rhy gyflym ac ati. Mae unedau eiddo eisoes yn cael eu prynu fel cartrefi gwyliau.

Rydym eisoes wedi cael digon o ddatblygiad ar gyfer pentref hanesyddol bach ym mhen arall y pentref (Penally Heights) sy'n mynd rhagddo’n barhaus, ac mae cae a gymeradwywyd ym mhen Dinbych-y-pysgod i’r Pentref yn cael ei ddatblygu gyda lletyau gwyliau. Digon yw digon ac mae'n hen bryd gwrando ar y Cyngor Cymuned a Phentrefwyr Penalun.

Mae fy ngŵr a minnau yn erfyn arnoch i ailystyried y safle hwn fel safle ymgeisiol ar gyfer datblygu.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3949

Gwrthwynebu

Beth sydd wedi newid ers y gwrthodiadau blaenorol?

Byddai'n effeithio ar werth ein heiddo ni ac unedau eiddo eraill.

Pam na chysylltwyd â'r preswylwyr y byddai hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt?

Rydym wedi dod i wybod am y cynnig hwn trwy gymdogion.

Esboniwch beth sydd wedi newid ers y gwrthodiad diwethaf os gwelwch yn dda, yn enwedig o ran cymeradwyo’r ffordd osgoi. (Ydy diogelwch yn llai pwysig)?

Oes gan (enw wedi ei olygu) fwy o ddylanwad yn awr? Llwyddodd i gael caniatâd ar gyfer (enw’r eiddo wedi’i olygu), gan drechu pob gwrthwynebiad.

Rhowch wybodaeth gyson i ni os gwelwch yn dda.

Mae'n debyg y bydd cyfarfod rhywbryd.

(Darparwyd copi o'r llythyrau yn rhoi'r rheswm dros y gwrthodiad diwethaf ar ffurf papur, gan gynnwys y penderfyniad ynglŷn â D3/1026/75 gyda sylwadau wedi'u nodi).

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3950

Gwrthwynebu

Mynediad at ffordd osgoi Penalun, problemau draenio ar gyfer system garthffosiaeth. Gorlwytho, drewdod cyson. Gwiriwch gyda Dŵr Cymru gyda chwynion wedi’u holrhain. Rhwystro golygfeydd tuag at Ddinbych-y-pysgod a'r cwrs golff.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3951

Gwrthwynebu

Gwrthwynebiadau i safle ymgeisiol 030 Penalun:

Fel y mae'r Cynllun Datblygu'n ei nodi'n glir, mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd yn mynd trwy Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol. Y nod yw sicrhau bod elfennau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd datblygu cynaliadwy yn cael eu hintegreiddio'n llawn fel rhan o'r cynllun o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r Safle Ymgeisiol yn amlwg yn groes i unrhyw fath o ddatblygu cynaliadwy gan bod y safle ar hyn o bryd y tu allan i ffin yr anheddiad yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig ar gyfer Penalun. Byddai unrhyw ddatblygiad yn amlwg yn cael effaith ffisegol, gymdeithasol ac amgylcheddol ddifrifol ar y pentref

Yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, dyrannwyd dau safle mewnlenwi ychwanegol sy'n cwblhau datblygiad y pentref yn ffisegol ac yn amgylcheddol yn y dyfodol.

Byddai unrhyw ddatblygiad ar y Safle Ymgeisiol yn estyniad ymwthiol tua'r dwyrain o'r pentref, gan fod yn weladwy iawn o'r A 4139, un o'r prif ffyrdd trwy Dde Sir Benfro. Byddai'r dirwedd yn cael ei difetha ar gyfer cerddwyr, golffwyr, ac ymwelwyr ag arfordir hardd Sir Benfro.

Yn y cynllun lleol a fabwysiadwyd, mae Polisi Cyffredinol GN.37 Diogelu a Gwella Bioamrywiaeth yn nodi'n glir y dylai pob datblygiad ddangos dull cadarnhaol o gynnal a, lle bynnag y bo’n bosibl, gwella bioamrywiaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddir yn caniatáu datblygiad a fyddai'n tarfu ar rywogaethau a warchodir neu eu cynefinoedd, neu gyfanrwydd cynefinoedd eraill, safleoedd eraill neu nodweddion eraill o bwysigrwydd i fywyd gwyllt a rhywogaethau unigol, neu a fyddai’n eu niweidio fel arall.

Mae amrywiaeth a niferoedd enfawr o adar yn defnyddio ac yn ymborthi yn y cae a’r gwrychoedd cyfagos. Mae ystlumod yn ymddangos yn y nos mewn niferoedd. Mae'r cae hefyd yn hafan i ddraenogod, ac mae gan un o'r trigolion lleol noddfa i'r draenogod.

Yng Nghynllun Datblygu Lleol 2 y Cyngor, Cynllunio Dyfodol Sir Benfro, Polisi Strategol SP 11 Diogelu a Gwella'r Amgylchedd, mae'r polisi yn nodi'n glir y bydd amgylchedd Sir Benfro (gan gynnwys rhywogaethau, cynefinoedd, tirweddau a'r systemau sy'n eu tanategu) yn cael ei ddiogelu rhag cael ei niweidio'n sylweddol.

Bydd unrhyw ddatblygiad ar Safle Ymgeisiol 030 yn amlwg yn effeithio ar fioamrywiaeth a chynefinoedd yr ardal gyfagos ac yn eu niweidio’n sylweddol.

Hefyd, mae'r safle Ymgeisiol yn union ar bwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bydd unrhyw ddatblygiad yn cael effaith andwyol ar nodau gwarchod a gwella nodweddion naturiol tirwedd y Parc Cenedlaethol.

Byddai angen arolwg ecolegol llawn ar safle maes glas fel hwn.

O ran pwysigrwydd amgylcheddol y safle, mae'r Safle Ymgeisiol wedi'i ddosbarthu fel 3A yn y Map Dosbarthiad Tir Amaethyddol (Cymru). Mae paragraff 4.10 Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu polisi cenedlaethol tuag at warchod tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas Cymru (BMV). Diffinnir y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (BMV) ym Mholisi Cynllunio Cymru fel Graddau 1, 2 a 3a.

Mae unrhyw ddatblygiad ar safle sydd wedi'i ddosbarthu fel y tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas yn amlwg yn erbyn unrhyw bolisi datblygu cynaliadwy.

Yn ffisegol ac yn amgylcheddol, mae'r safle'n darparu lletem las ffisegol ac amgylcheddol rhwng yr A 4139 a'r pentref ac yn darparu 'ysgyfaint gwyrdd' naturiol rhwng y pentref a'r ffordd. Byddai datblygu'r Safle Ymgeisiol felly'n niweidio ansawdd amgylcheddol lleol y pentref yn ddifrifol.

Felly, mae'r cynnig yn groes i Bolisi Strategol SP 1 Datblygu Cynaliadwy yng Nghynllun Datblygu Lleol 2 y Cyngor, Cynllunio Dyfodol Sir Benfro, sy’n golygu bod rhaid i bob cynnig datblygu ddangos sut y bydd effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol yn cael eu cyflawni ac y bydd effeithiau andwyol yn cael eu lleihau i’r eithaf. Bydd unrhyw ddatblygiad ar Safle Ymgeisiol 030 yn amlwg yn cael effeithiau ffisegol, cymdeithasol ac amgylcheddol difrifol ar bentref Penalun.

Nid yw'r cartrefi presennol yn Fourwinds Lane wedi'u cysylltu â’r brif system carthffosiaeth, ac mae gan bob un ohonynt danciau septig. [Rwy'n meddwl mai (enw wedi ei olygu) oedd y datblygwr gwreiddiol hefyd.] Mae'r prif bibellau carthffosiaeth presennol yn yr ardal yn llawn hyd eithaf eu capasiti, felly does gen i ddim syniad beth fyddai'n digwydd pe bai mwy o dai yn cael eu hadeiladu.

Byddai'n rhaid i fynediad at y safle fod ar hyd yr A4139 sy'n cario traffig cyflym sylweddol a lle amherir ar welededd y briffordd yn enwedig o Ddinbych-y-pysgod gan ael y bryn a thro bach. Felly bydd mynediad yn arwain at dagfeydd traffig, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf gyda'r posibilrwydd o ddamweiniau traffig difrifol. Bu o leiaf un farwolaeth ar y ffordd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae ceisiadau cynllunio ar gyfer y safle hwn wedi cael eu gwrthod o'r blaen, ac rwy'n credu mai problemau gyda mynediad a charthffosiaeth oedd y rhesymau dros hynny.

Nid oes angen mwy o dai yn y pentref. Mae cyfran dda o gartrefi yn llety gwyliau, mae cyflenwad da o dai cyngor, ac anaml y mae unedau eiddo sydd ar werth yn cael eu gwerthu’n gyflym. Ychydig o gyflogaeth sydd ym Mhenalun, felly mae'n annhebygol y bydd angen mwy o gartrefi yn y dyfodol hyd y gellir rhagweld.

Mae llawer o safleoedd gwell yn Sir Benfro i fodloni'r gofyniad 5 mlynedd o ran tir ar gyfer tai. Mae gennyf wrthwynebiad cryf i’r cynnig bod yr ardal ar bwys Four Winds Lane a'r brif ffordd trwy Banalun yn cael ei hystyried fel safle ymgeisiol posibl a byddwn yn fodlon mynd i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus, ynghyd â’m cyfreithiwr.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3952

Gwrthwynebu

Rwy'n gwrthwynebu'r safle hwn ar chwe chyfrif:-

Ers adeiladu ffordd osgoi Penalun, yr A4139, deallais mai polisi'r cyngor oedd peidio ag adeiladu ffyrdd mynediad newydd ar y Ffordd honno. Ychydig iawn o dai newydd sydd yn agos at ffordd osgoi Penalun, a phe bai’r safle hwn yn cael ei ddefnyddio at ddiben adeiladu tai, yna byddai angen ffordd fynediad i ymuno â'r A4139. Mae'n ymddangos bod hyn yn mynd yn groes i'r polisi pan fo ffyrdd bach presennol wedi cael eu gwneud yn heolydd pengaead i atal ceir rhag ymuno â'r ffordd osgoi hon. Ni fyddai adeiladu'r tai yn cyd-fynd â'r ardal leol, a byddai'n gosod cynsail y gallai'r safle lleol a ddefnyddir ar gyfer carafanau a gwersyllwyr ar hyn o bryd fanteisio arno.

Mae'r cae ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu llysiau a phorthiant gwartheg. Yn yr hinsawdd bresennol pan ddylid osgoi olion traed carbon a chludiant gormodol, nid yw'n gwneud synnwyr cael gwared ar lysiau a dyfir yn lleol sy'n cyflenwi siopau lleol o'r farchnad. Mae bwyd yn nwydd pwysig ac unwaith y bydd tir amaethyddol yn cael ei golli, mae hwnnw'n cael ei golli. Byddai cael gwared ar y defnydd cyfredol hwn yn gwneud y llysiau'n ddrytach i'r defnyddiwr lleol.

Dylai polisi gwyrdd ddefnyddio datblygiad tir llwyd lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'r cae’n hafan i fywyd gwyllt gyda moch daear, llwynogod, cwningod a draenogod yn ei ddefnyddio fel ffordd drwodd.

Mae'r barcutiaid a'r bwncathod yn ei ddefnyddio fel tir hela ar gyfer bwyd ac mae'r adar llai yn defnyddio'r perthi a'r coed o’i amgylch fel hafan ddiogel i'w cywion nhw. Mae'r perthi’n briffordd naturiol ac ni ddylid eu gwaredu. Pe bai tai yn cael eu hadeiladu yma yna byddai'n rhaid dymchwel rhai o'r perthi er mwyn gwneud lle ar gyfer mynedfa i gerbydau a thrwy hynny niweidio bywyd gwyllt. Byddai adeiladu ar y safle maes glas hwn yn effeithio ar amsugno dŵr a byddai unrhyw seilwaith newydd yn effeithio ar ddraenio yn yr ardal fregus hon.

Nid oes mynediad addas ar gyfer nifer fawr o gerbydau i'r cae hwn a byddai'r bryn yn gwneud mynd i mewn ac allan o’r ardal hon yn broblem oherwydd gwelededd ceir a thraffig sy'n dod tuag atoch. Byddai adeiladu hefyd yn effeithio ar y nenlinell naturiol gan roi natur wledig y pentref mewn perygl.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi leol, mae yna lawer o fusnesau sy'n cael eu hincwm o natur wledig ein pentref. Bydd datblygiad gormodol yn newid natur a chymeriad Penalun, gan ei wneud yn llai deniadol i dwristiaid sy'n cael budd o heddwch a llonyddwch yr ardal.

Byddai adeiladu anheddau newydd y tu ôl i'r dwyrain o Ffordd Bentref Penalun yn effeithio ar breifatrwydd a diogelwch y cartrefi presennol a chan hynny byddwn yn gwrthwynebu'n ffurfiol bod tai newydd yn cael eu datblygu yn yr ardal arfaethedig.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3953

Gwrthwynebu

Poeni am wasanaethau fel meddygon gan nad wyf yn gallu cael apwyntiad nawr! Traffig ychwanegol trwy ffyrdd cul y pentref.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3954

Gwrthwynebu

Rwyf wedi bod yn byw ym Mhenalun ers 79 mlynedd ac wedi nodi rhai penderfyniadau gwael iawn gan wahanol adrannau cynllunio.

Fel a soniwyd o'r blaen, mae Penalun wedi cael ei orddatblygu gan rai penderfyniadau cynllunio gwael o'r blaen.

Mae gan y pentref Wersyll Milwrol a maes tanio byw yn ei ganol eisoes.

Mae dau glwb nos wedi cael eu pasio a'u hagor bob ochr i'r pentref.

Mae dau safle mawr ar gyfer datblygiadau adeiladau wedi cael eu pasio ac adeiladu wedi digwydd arnynt, yn ddiweddar mae datblygiad arall wedi cael ei basio ar gyfer 47 o gabanau tebyg i garafanau sy'n dal i gael eu datblygu.

Mae gan Benalun hefyd 6 safle carafanau mawr o fewn ei ffiniau, erbyn hyn mae datblygiad mawr arall ar y gorwel.

Mae Penalun wedi'i leoli ar safle uchel sy'n wynebu'r de ac mae pob datblygiad ar safleoedd uchel ac “mor amlwg â llaid ar farch gwyn".

Mae’r Safle Ymgeisiol Rhif 030 ychwanegol hwn hefyd yn eistedd ar safle uchel ac ni ddylai byth gael ei ystyried gan dîm cynllunio Datblygu Cyngor De Sir Benfro.

Yn gyntaf, ychydig flynyddoedd yn ôl, dywedwyd "Na fyddai unrhyw ddatblygiad pellach yn cael ei ystyried oherwydd bod y system garthffosiaeth eisoes wedi'i gorlwytho" ond ni allaf gofio system newydd yn cael ei gosod.

Mae'r safle hwn yn dir Amaethyddol ac yn dal i gael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwahanol eitemau bwyd, llysiau a phorthiant anifeiliaid, mae'r tir amaethyddol hwn yn brin a bydd hyd yn oed yn fwy felly os bydd y wlad yn gadael Ewrop.

Bywyd gwyllt: Mae draenogod yn byw ar y safle hwn. Mae gen i hyd yn oed nyth iddyn nhw mewn gardd ar bwys y safle hwn ac mae'r blwch hwn yn cael ei ddefnyddio'n gyson. Mae ystlumod yn hedfan yn barhaus dros y safle hwn bob nos a minnau’n eu gweld fy hun.

Mae adar yn ymborthi’n gyson ar y safle hwn: bwncathod, cudyllod gleision ac weithiau barcud cynffonwyn yn bwydo oddi ar lygod y dŵr, y tyrchod daear a'r llygod maes.

Gwerth hanesyddol ers y Rhyfel Byd Cyntaf - mae'r safle hwn wedi cael ei alw'n gaeau pabi oherwydd bod yr hadau pabi yn disgyn o rwymynnau coes y ceffylau milwrol a oedd yn ymarfer ar ôl dychwelyd o feysydd y gad yn Ffrainc.

O ystyried y gwrthwynebiad hwn, rwy'n meddwl na ddylid byth ddatblygu Safle Ymgeisiol ychwanegol rhif 030.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3988

Gwrthwynebu

Mae'r cyngor wedi gwrthod ceisiadau blaenorol am ddatblygiad tai ar y maes hwn, ac mae cynnwys y safle hwn yn mynd yn groes i’r holl benderfyniadau blaenorol.
Penderfyniad y Swyddfa Gymreig oedd NA ddylai fod datblygiad yn y dyfodol rhwng pentref Penalun a'r ffordd osgoi. Mae'r cae hwn wedi'i leoli rhwng y pentref a'r ffordd osgoi.
Nid yw'r cae hwn o fewn ffin y pentref, fel y'i diffinnir ar y map cynllunio.
Mae'r cae hwn yn enfawr a byddai datblygiad o'r fath yn newid natur y pentref bach yn sylweddol. Mae mewn sefyllfa uchel amlwg iawn, ac nid yw datblygiad yma yn briodol ar gyfer pentref mewn 'ardal gadwraeth'.
030 Penalun ID Rhanddeiliad: 3955 Gwrthwynebu

Rwy'n gwrthwynebu'n gryf bod defnydd y cae y tu ôl i Four Winds Lane/Penally Road yn cael ei newid o amaethyddiaeth i dai. Byddai tai yn rhwystro'r olygfa yn llwyr tuag at y môr ac Ynys Bŷr, a byddai mynediad i'r cae o ffordd osgoi brysur Penalun a'i thraffig sy'n symud yn gyflym yn beryglus. Mae hyn wedi bod yn ffactor sydd wedi atal datblygiad tai yn y gorffennol, ac mae'n dal i fod yn berthnasol.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3956

Gwrthwynebu

Mae gormod o bobl fel y mae, ddim yn gallu cael mynediad at wasanaethau sylfaenol - meddygon, mân anafiadau.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3957

Gwrthwynebu

Mae'r safle wedi cael ei wrthod ar geisiadau blaenorol gan yr ystyriwyd ei fod yn barth clustogi gwyrdd rhwng y pentref a ffordd osgoi

Mae'r system garthffosiaeth bresennol eisoes wedi'i gorlwytho ac yn achosi problemau i breswylwyr. (Mae Dŵr Cymru yn ymwybodol).

At y ffordd osgoi, y bu nifer o ddamweiniau arni, y byddai mynediad.

Nid oes gennym unrhyw seilwaith yn Ninbych-y-pysgod i ddarparu ar gyfer mwy o breswylwyr h.y. Meddygfa, ysgolion.

Cadwraeth. Mae hwn yn safle Maes Glas ac mae llwynogod, draenogod ac ystlumod yn ymweld â ni'n rheolaidd. Ni fyddai tarfu ar y safle hwn ond yn lleihau eu cynefin ymhellach.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3958

Gwrthwynebu

Hoffem gofrestru ein gwrthwynebiad cryfaf posibl i'r cynnig hwn.

Rydym yn byw gerllaw ac yn edrych dros y cae dan sylw ac fe ddewison ni’r lleoliad hwn fel ein cartref ymddeol terfynol. Mae terfyn cyflymder ar brif ffordd Penalun oherwydd yr ardal boblog iawn gyda llawer o drigolion oedrannus a phlant sy'n cerdded yn ddiogel ar hyd ffordd y pentref ar hyn o bryd. Byddai'r cynnig hwn yn troi ein hamgylchedd diogel yn ardal beryglus â llawer o draffig.
Mae'r ffordd osgoi gyflym ar gyfer cerbydau eisoes yn cael ei defnyddio'n helaeth a bu marwolaethau arni yn y gorffennol felly mae caniatáu mynediad at y ffordd hon yn gwahodd damweiniau difrifol.

Ar hyn o bryd, mae'r man agored gwyrdd hyfryd hwn yn gwella ac yn amddiffyn ein pentref ac yn rhoi golygfeydd godidog tuag at y môr. Byddai hyn i gyd yn cael ei golli ar draul preswylwyr, ymwelwyr a'r amgylchedd croesawus prin.

Gofynnwn i chi wrthod unrhyw gynigion sy'n cynnwys ardal 030.

 

030: Penalun

ID Rhanddeiliad: 3959

Gwrthwynebu

  • Credaf fod dau gais blaenorol wedi bod i ddatblygu'r cae hwn y gwrthodwyd y ddau ohonynt. Rwy'n cymeradwyo ac yn ailadrodd y rhesymau dros wrthod y ceisiadau hyn.
  1. Mae'r holl fynediadau presennol i ac o'r maes hwn at ddefnydd amaethyddol yn unig. At unrhyw ddiben arall, byddai'n rhaid i fynediad naill ai:-
  2. Bod at ffordd osgoi Penalun a fyddai'n beryglus (lladdwyd un person wrth ddefnyddio Lôn yr Ysgol ym Mhenalun i gael mynediad at y ffordd osgoi hon) neuAr draws ardal chwarae i blant ac allan i ffordd y pentref trwy'r bwlch rhwng Caldey View a School Lane. Byddai hyn yn golygu dinistrio ardal chwarae'r plant ac allan i ffordd y pentref drwy'r bwlch rhwng Caldey View a School Lane. Byddai hyn yn golygu dinistrio ardal chwarae'r plant a mynediad i ffordd y pentref ar dro llym.
  • Byddai unrhyw ddatblygiad tai mawr ar y safle hwn yn cynyddu'n sylweddol y traffig cerbydau a cherddwyr trwy bentref Penalun sydd eisoes â therfyn cyflymder o 20mya i geisio rheoli traffig. At hynny, nid oes palmant o gwbl ar tua 95% o'r ffordd drwy'r pentref.
  • Byddai unrhyw ddatblygiad o'r fath yn arwain at gynnydd mawr yn y baich ar system garthffosiaeth y pentref a gynyddwyd eisoes yn ddiweddar gan ddatblygiad y cabanau ar bwys The Night Owl.
  • Byddai unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn yn dinistrio cynefin amrywiaeth o adar ac anifeiliaid (y mae rhai ohonynt mewn perygl e.e. draenogod)
  • Byddai datblygiad o'r maint hwn yn difetha cymeriad gwledig pentref hyfryd Penalun a byddai'n ailadrodd yr anghyfleustra a achoswyd yn ddiweddar gan ddatblygiad y cabanau ar bwys The Night Owl.
ID: 11216, adolygwyd 13/12/2023