Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Atodiad h syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan B

030: Penalun                     

ID Rhanddeiliad: 3960         

Gwrthwynebu

Bydd datblygiadau tai yn y dyfodol yn gorlwytho seilwaith y pentref yn fawr ac yn achosi problemau traffig yn ogystal ag effeithio ar fywyd gwyllt ac amaethyddiaeth.

030: Penalun                     

ID Rhanddeiliad: 3961                     

Gwrthwynebu

Bu sawl cais yn y gorffennol i adeiladu tai ar y cae. Gwrthodwyd pob un. Mae'r seiliau dros wrthod hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw - h.y. mynediad at y ffordd, capasiti carthffosiaeth ychwanegol a chynnal parth clustogi gwyrdd rhwng y pentref a’r ffordd osgoi o safbwynt ecoleg, mae'r maes yn cael ei fynychu gan gylfinirod, giachod, cornicyllod, gwenoliaid, gwenoliaid y bondo ynghyd â'n hadar preswyl. Yn ystod y nos mae llwynogod, draenog ac ystlumod yn bresennol.

030: Penalun                     

ID Rhanddeiliad: 3962         

Gwrthwynebu

Mae Dinbych-y-pysgod eisoes yn methu ymdopi â'r boblogaeth bresennol o ran gwasanaethau - Meddygon, nyrsys, deintydd, ysbyty. Ni all hyn ond bod yn ddrwg i'r gymuned.

030: Penalun                     

ID Rhandddiliad: 3963         

Gwrthwynebu

(Ni ddarparwyd unrhyw destun ychwanegol)

030, 076, 083, 181, 255, 256, 257, 376, 388 a 389: Penalun         

ID Rhanddeiliad: 3991 

Gwrthwynebu

Rwy'n ysgrifennu i godi gwrthwynebiadau ynghylch y datblygiadau arfaethedig ar gyfer Penalun, safle ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn Sir Benfro.
Rwyf wrthi'n symud i Benalun o Bidford on Avon yn Swydd Warwick. Fel Penalun, mae hwn yn bentref hyfryd. Fodd bynnag, mae cynllun datblygu'r Cyngor lleol wedi achosi i Bidford dyfu’n fwyfwy cyflym dros y degawd diwethaf ac i bob pwrpas mae bellach wedi dod yn dref fach heb gyfleusterau tref. Mae cymeriad y pentref wedi ei ddifetha ac mae’r ysbryd cymunedol bron wedi mynd i gyd. Mae swm y traffig a'r problemau cysylltiedig wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd bod yn rhaid i bobl yrru i bobman i gael mynediad at gyflogaeth, ysgolion, gofal iechyd ac ati.
Mae'r rhain yn brofiadau personol ac rwy'n pryderu'n fawr bod Penalun a rhannau hardd eraill o Sir Benfro mewn perygl o dynged debyg. Mae'r cynigion datblygu ar gyfer Penalun yn anghymesur o'i gymharu ag ardaloedd eraill, tebyg. Mae'n frawychus iawn bod y safleoedd o amgylch y pentref i gyd ac felly bydd y datblygiadau arfaethedig yn effeithio'n negyddol ar bawb. I'r gymuned bresennol, yn syml, nid yw hyn yn deg.
Nid yw'n glir ar gyfer pwy fyddai'r datblygiadau tai arfaethedig. Rwy'n gwerthfawrogi y dylai pobl leol gael y cyfle i fyw yn eu cymuned; fodd bynnag mae maint y datblygiadau arfaethedig yn awgrymu fel arall. Nid oes cyflogaeth yn yr ardal leol; mae ysgolion a chyfleusterau eraill yn bell i ffwrdd sy'n golygu’n anorfod bod pobl yn defnyddio ceir. Mae hyn yn gwrthdaro yn uniongyrchol ag agenda Iechyd y Cyhoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae Penalun yn brydferth ac yn hanesyddol, wedi'i amgylchynu gan fannau gwyrdd agored sy'n denu twristiaid trwy gydol y flwyddyn. Bydd y datblygiadau tai arfaethedig yn difetha'r harddwch hwnnw ac yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth. Mae'r ardal yn gartref i nifer o rywogaethau blodau gwyllt, adar a phryfed sy'n dibynnu ar fannau agored i ffynnu. Felly, dylem fod yn dathlu ac yn cadw Penalun fel pentref sy'n cefnogi'r cyfoeth hwn mewn cymaint o ffyrdd cadarnhaol, nid ceisio ei droi'n rhywbeth nad ydyw ac na ddylai fod.

Rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau â'u hymrwymiad i wrthod cynigion ar gyfer datblygiadau arfaethedig yn seiliedig ar yr ystod lawn o dystiolaeth gymunedol ac amgylcheddol.

062, 063, 064, 065, 141, 383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3996  

Gwrthwynebu

Ynghlwm mae copïau o wrthwynebiadau i safleoedd ymgeisiol 062, 063, 064, 065, 141, 383, 384 a 484.

(Sylwer: mae gwrthwynebiadau i safleoedd ymgeisiol 062, 063, 064 a 065 yn union yr un fath. Gan mai’r un yw perchennog a datblygwr arfaethedig y safleoedd hyn, mae'r gwrthwynebiadau ar gyfer y safleoedd hyn wedi'u mewnosod ar un ffurflen yn unig. Efallai y bydd angen cyflwyno ffurflenni ar wahân ar gyfer y safleoedd ymgeisiol hyn).  Mae dau fap wedi'u darparu (nad ydynt wedi’u hatgynhyrchu yn y ddogfen hon). 

Sylwadau ar 062 063 064 a 065:

Mae'r safleoedd Ymgeisiol uchod ar hyn o bryd yn dir Maes Glas y tu allan i ffin ddatblygu'r dref. Mae'n dir amaethyddol Gradd 3a neu 3b yn ôl y Map Rhagfynegol Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Ystyr Gradd 3a yw tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a ddiffinnir fel "tir o ansawdd ardderchog neu dda sydd â’r gallu gorau i ddarparu'r cnydau bwyd a di-fwyd ". Dylid osgoi newid defnydd y tir hwn yn enwedig gan fod digon o dir arall nas defnyddiwyd o fewn ffin y dref ar gyfer anghenion tai disgwyliedig yr Adolygiad hwn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2033.

Mae safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau'r dref a fydd yn cynnwys nifer sylweddol o anheddau newydd; dylid datblygu'r rhain cyn unrhyw safleoedd Maes Glas. Safleoedd fel Bridge Meadow Lane (sydd ar werth ar hyn o bryd ac yn cynnwys 5.12 erw) ac Albert Town (sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 o gartrefi). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Albert Town gyntaf yn 2014 ond mae'r safle yn dal i fod yn ddiffaith heb unrhyw arwydd o waith yn dechrau.

Mae ardaloedd eraill o fewn ffin y dref y dylid eu datblygu ac y dylid adeiladu arnynt cyn ystyried unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i'r ffin ar gyfer caniatâd cynllunio.

Dyma rai safleoedd arwyddocaol o fewn ffin y dref sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygu: -

  1. Slade Lane (safle 51 erw gyda chaniatâd ar gyfer 728 eiddo preswyl). Mae swm sylweddol o arian trethdalwyr a datblygwyr eisoes wedi cael ei wario ar ddarparu'r datblygiad hwn gyda dau gysylltiad sylweddol â'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cymeradwyo'r datblygiad ac nid yw'r tŷ cyntaf wedi cael ei adeiladu eto.                                                                   
  2. Tir yn Scarrowscant Lane (11.6 erw gyda chaniatâd yn cael ei geisio i adeiladu 150 a mwy o unedau eiddo preswyl).                                               

Safle arwyddocaol arall o fewn ffin y dref a gyflwynwyd i'w gymeradwyo a'i ddatblygu yw Tir Ynn, oddi ar Freemans Way (7.72 erw o ddefnydd cymysg – tai, bwyd a diod, manwerthu). Dylid datblygu hwn hefyd cyn unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i ffin y dref.                            

Mae datblygwyr  y safleoedd uchod o fewn ffin bresennol tref Hwlffordd yn y broses o gael neu eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 1,000 o unedau eiddo preswyl, nid yw'r gwaith wedi dechrau ar unrhyw un o'r safleoedd hyn ac nid oes un eiddo wedi'i adeiladu eto. Felly, ystyrir nad oes modd cyfiawnhau'r angen i ddyrannu mwy o dir i'w ddatblygu y tu allan i ffin bresennol y dref. Yn y cyfamser, os yw datblygwyr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn eistedd ar eu cynnig ac yn peidio â dechrau gwaith o fewn amser rhesymol dylid tynnu'r caniatâd cynllunio yn ôl.  

Os rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y safleoedd ymgeisiol y tu allan i ffin bresennol y dref, bydd yn gosod cynsail ac yn agor y drws i ddatblygiad a/neu fynediad i leiniau maes glas eraill yn y cyffiniau sydd y tu allan i ffin y dref.

Bydd datblygu'r safleoedd ymgeisiol yn gorlwytho llifoedd traffig cyfredol yn sylweddol ar New Road ac Uzmaston Road. New Road yw'r unig ffordd ddwy lôn a fyddai'n gwasanaethu modurwyr presennol yn ogystal â'r modurwyr ychwanegol sy'n teithio i ac o’r safleoedd hyn. Mae gan New Road a ac Uzmaston Road dri man cyfyng sydd yn aml yn lleihau'r briffordd i un lôn oherwydd cerbydau sydd wedi'u parcio. Yn y cyfamser, mae cyffordd New Road gyda chylchfan Salutation Square yn bell o fod yn foddhaol ac yn aml mae'n achosi tagfeydd traffig i fyny New Road yn ystod oriau brig. Byddai traffig ychwanegol o dai newydd oddi ar Uzmaston Road, Clover Park a Creamston Road yn gwaethygu problem bresennol ymhellach ar New Road ac Uzmaston Road.

Byddai'n rhaid i fynediad i'r safleoedd ymgeisiol hefyd fod ar lwybr troellog anaddas trwy ystâd Clover Park neu oddi ar Creamston Lane nad yw ond yn ddigon llydan ar gyfer un cerbyd a thrwy safle ymgeisiol 141. Mae yna fannau cyfyng hefyd ar y llwybr trwy ystâd Clover Park lle mae parcio yn broblem.  

Mae'r carthffosydd budr yn New Road ger ar bwys ac yn Clover Park wedi profi problemau dros y blynyddoedd ac yn annhebygol o fod â'r capasiti i dderbyn llifoedd newydd o dai ychwanegol.

Os cymeradwyir yr holl safleoedd ymgeisiol y bydd yn rhaid iddynt gael eu gwasanaethu gan New Road, mae'r llif traffig ar New Road ac wrth ei chyffordd gyda chylchfan Salutation Square yn debygol o ddyblu.

Sylwadau ar 141:

Mae'r safle Ymgeisiol uchod ar hyn o bryd yn dir Maes Glas y tu allan i ffin ddatblygu'r dref. Mae'n dir amaethyddol Gradd 3a neu 3b yn ôl y Map Rhagfynegol Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Ystyr Gradd 3a yw tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a ddiffinnir fel "tir o ansawdd ardderchog neu dda sydd â’r gallu gorau i ddarparu'r cnydau bwyd a di-fwyd ". Dylid osgoi newid defnydd y tir hwn yn enwedig gan fod digon o dir arall nas defnyddiwyd o fewn ffin y dref ar gyfer anghenion tai disgwyliedig yr Adolygiad hwn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2033.

Mae safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau'r dref a fydd yn cynnwys nifer sylweddol o anheddau newydd; dylid datblygu'r rhain cyn unrhyw safleoedd Maes Glas. Safleoedd fel Bridge Meadow Lane (sydd ar werth ar hyn o bryd ac yn cynnwys 5.12 erw) ac Albert Town (sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 o gartrefi). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Albert Town gyntaf yn 2014 ond mae'r safle yn dal i fod yn ddiffaith heb unrhyw arwydd o waith yn dechrau.

Mae ardaloedd eraill o fewn ffin y dref y dylid eu datblygu ac y dylid adeiladu arnynt cyn ystyried unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i'r ffin ar gyfer caniatâd cynllunio.

Dyma rai safleoedd arwyddocaol o fewn ffin y dref sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygu: -

  1. Slade Lane (safle 51 erw gyda chaniatâd ar gyfer 728 eiddo preswyl). Mae swm sylweddol o arian trethdalwyr a datblygwyr eisoes wedi cael ei wario ar ddarparu'r datblygiad hwn gyda dau gysylltiad sylweddol â'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cymeradwyo'r datblygiad ac nid yw'r tŷ cyntaf wedi cael ei adeiladu eto.                                                                  
  2. Tir yn Scarrowscant Lane (11.6 erw gyda chaniatâd yn cael ei geisio i adeiladu 150 a mwy o unedau eiddo preswyl).                                               

Safle arwyddocaol arall o fewn ffin y dref a gyflwynwyd i'w gymeradwyo a'i ddatblygu yw Tir Ynn, oddi ar Freemans Way (7.72 erw o ddefnydd cymysg – tai, bwyd a diod, manwerthu). Dylid datblygu hwn hefyd cyn unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i ffin y dref.                            

Mae datblygwyr  y safleoedd uchod o fewn ffin bresennol tref Hwlffordd yn y broses o gael neu eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 1,000 o unedau eiddo preswyl, nid yw'r gwaith wedi dechrau ar unrhyw un o'r safleoedd hyn ac nid oes un eiddo wedi'i adeiladu eto. Felly, ystyrir nad oes modd cyfiawnhau'r angen i ddyrannu mwy o dir i'w ddatblygu y tu allan i ffin bresennol y dref. Yn y cyfamser, os yw datblygwyr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn eistedd ar eu cynnig ac yn peidio â dechrau gwaith o fewn amser rhesymol dylid tynnu'r caniatâd cynllunio yn ôl.  

Os rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ymgeisiol y tu allan i ffin bresennol y dref, bydd yn gosod cynsail ac yn agor y drws i ddatblygiad a/neu fynediad i leiniau maes glas eraill yn y cyffiniau sydd y tu allan i ffin y dref.

Bydd datblygu'r safle ymgeisiol yn ychwanegu at lifoedd traffig cyfredol yn sylweddol ar New Road ac Uzmaston Road. New Road yw'r unig ffordd ddwy lôn a fyddai'n gwasanaethu modurwyr presennol yn ogystal â'r modurwyr ychwanegol sy'n teithio i ac o’r safle ymgeisiol. Mae gan New Road a ac Uzmaston Road dri man cyfyng sydd yn aml yn lleihau'r briffordd i un lôn oherwydd cerbydau sydd wedi'u parcio. Yn y cyfamser, mae cyffordd New Road gyda chylchfan Salutation Square yn bell o fod yn foddhaol ac yn aml mae'n achosi tagfeydd traffig i fyny New Road yn ystod oriau brig. Byddai traffig ychwanegol o dai newydd oddi ar Creamston Lane (neu Clover Park) yn gwaethygu problem bresennol ymhellach ar New Road ac Uzmaston Road.

Byddai'n rhaid i fynediad i'r safle ymgeisiol fod ar Creamston Lane nad yw ond yn ddigon llydan ar gyfer un cerbyd neu drwy lwybr troellog anaddas trwy ystâd Clover Park a safleoedd ymgeisiol eraill. (Mae yna fannau cyfyng hefyd ar y llwybr trwy ystâd Clover Park lle mae parcio yn broblem.)  

Mae'r carthffosydd budr yn New Road ger ar bwys ac yn Clover Park wedi profi problemau dros y blynyddoedd ac yn annhebygol o fod â'r capasiti i dderbyn llifoedd newydd o dai ychwanegol.

Sylwadau ar 383:

Mae'r safle Ymgeisiol uchod ar hyn o bryd yn dir Maes Glas y tu allan i ffin ddatblygu'r dref. Mae'n dir amaethyddol Gradd 3a neu 3b yn ôl y Map Rhagfynegol Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Ystyr Gradd 3a yw tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a ddiffinnir fel "tir o ansawdd ardderchog neu dda sydd â’r gallu gorau i ddarparu'r cnydau bwyd a di-fwyd ". Dylid osgoi newid defnydd y tir hwn yn enwedig gan fod digon o dir arall nas defnyddiwyd o fewn ffin y dref ar gyfer anghenion tai disgwyliedig yr Adolygiad hwn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2033.

Mae safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau'r dref a fydd yn cynnwys nifer sylweddol o anheddau newydd; dylid datblygu'r rhain cyn unrhyw safleoedd Maes Glas. Safleoedd fel Bridge Meadow Lane (sydd ar werth ar hyn o bryd ac yn cynnwys 5.12 erw) ac Albert Town (sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 o gartrefi). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Albert Town gyntaf yn 2014 ond mae'r safle yn dal i fod yn ddiffaith heb unrhyw arwydd o waith yn dechrau.

Mae ardaloedd eraill o fewn ffin y dref y dylid eu datblygu ac y dylid adeiladu arnynt cyn ystyried unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i'r ffin ar gyfer caniatâd cynllunio.

Dyma rai safleoedd arwyddocaol o fewn ffin y dref sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygu: -

  1. Slade Lane (safle 51 erw gyda chaniatâd ar gyfer 728 eiddo preswyl). Mae swm sylweddol o arian trethdalwyr a datblygwyr eisoes wedi cael ei wario ar ddarparu'r datblygiad hwn gyda dau gysylltiad sylweddol â'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cymeradwyo'r datblygiad ac nid yw'r tŷ cyntaf wedi cael ei adeiladu eto.                                                                   
  2. Tir yn Scarrowscant Lane (11.6 erw gyda chaniatâd yn cael ei geisio i adeiladu 150 a mwy o unedau eiddo preswyl).                                           

Safle arwyddocaol arall o fewn ffin y dref a gyflwynwyd i'w gymeradwyo a'i ddatblygu yw Tir Ynn, oddi ar Freemans Way (7.72 erw o ddefnydd cymysg – tai, bwyd a diod, manwerthu). Dylid datblygu hwn hefyd cyn unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i ffin y dref.                   

Mae datblygwyr  y safleoedd uchod o fewn ffin bresennol tref Hwlffordd yn y broses o gael neu eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 1,000 o unedau eiddo preswyl, nid yw'r gwaith wedi dechrau ar unrhyw un o'r safleoedd hyn ac nid oes un eiddo wedi'i adeiladu eto. Felly, ystyrir nad oes modd cyfiawnhau'r angen i ddyrannu mwy o dir i'w ddatblygu y tu allan i ffin bresennol y dref. Yn y cyfamser, os yw datblygwyr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn eistedd ar eu cynnig ac yn peidio â dechrau gwaith o fewn amser rhesymol dylid tynnu'r caniatâd cynllunio yn ôl.  

Os rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ymgeisiol y tu allan i ffin bresennol y dref, bydd yn gosod cynsail ac yn agor y drws i ddatblygiad a/neu fynediad i leiniau maes glas eraill yn y cyffiniau sydd y tu allan i ffin y dref.

Bydd datblygu'r safle ymgeisiol yn ychwanegu at lifoedd traffig cyfredol yn sylweddol ar New Road ac Uzmaston Road. New Road yw'r unig ffordd ddwy lôn a fyddai'n gwasanaethu modurwyr presennol yn ogystal â'r modurwyr ychwanegol sy'n teithio i ac o’r safle ymgeisiol. Mae gan New Road a ac Uzmaston Road dri man cyfyng sydd yn aml yn lleihau'r briffordd i un lôn oherwydd cerbydau sydd wedi'u parcio. Yn y cyfamser, mae cyffordd New Road gyda chylchfan Salutation Square yn bell o fod yn foddhaol ac yn aml mae'n achosi tagfeydd traffig i fyny New Road yn ystod oriau brig. Byddai traffig ychwanegol o dai newydd oddi ar Uzmaston Road yn gwaethygu problem bresennol ymhellach ar New Road ac Uzmaston Road.

Mae'r carthffosydd budr yn New Road ger ar bwys ac yn Clover Park wedi profi problemau dros y blynyddoedd ac yn annhebygol o fod â'r capasiti i dderbyn llifoedd newydd o dai ychwanegol.

Bydd yn rhaid i’r safle ymgeisiol gael ei wasanaethu gan New Road, os caiff ei gymeradwyo mae llif y traffig ar New Road ac wrth ei chyffordd gyda chylchfan Salutation Square yn debygol o ddyblu.

Sylwadau ar 384:

Mae'r safle Ymgeisiol uchod ar hyn o bryd yn dir Maes Glas y tu allan i ffin ddatblygu'r dref. Mae'n dir amaethyddol Gradd 3a neu 3b yn ôl y Map Rhagfynegol Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Ystyr Gradd 3a yw tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a ddiffinnir fel "tir o ansawdd ardderchog neu dda sydd â’r gallu gorau i ddarparu'r cnydau bwyd a di-fwyd ". Dylid osgoi newid defnydd y tir hwn yn enwedig gan fod digon o dir arall nas defnyddiwyd o fewn ffin y dref ar gyfer anghenion tai disgwyliedig yr Adolygiad hwn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2033.

Mae safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau'r dref a fydd yn cynnwys nifer sylweddol o anheddau newydd; dylid datblygu'r rhain cyn unrhyw safleoedd Maes Glas. Safleoedd fel Bridge Meadow Lane (sydd ar werth ar hyn o bryd ac yn cynnwys 5.12 erw) ac Albert Town (sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 o gartrefi). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Albert Town gyntaf yn 2014 ond mae'r safle yn dal i fod yn ddiffaith heb unrhyw arwydd o waith yn dechrau.

Mae ardaloedd eraill o fewn ffin y dref y dylid eu datblygu ac y dylid adeiladu arnynt cyn ystyried unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i'r ffin ar gyfer caniatâd cynllunio.

Dyma rai safleoedd arwyddocaol o fewn ffin y dref sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygu: -

  1. Slade Lane (safle 51 erw gyda chaniatâd ar gyfer 728 eiddo preswyl). Mae swm sylweddol o arian trethdalwyr a datblygwyr eisoes wedi cael ei wario ar ddarparu'r datblygiad hwn gyda dau gysylltiad sylweddol â'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cymeradwyo'r datblygiad ac nid yw'r tŷ cyntaf wedi cael ei adeiladu eto.                                                                  
  2. Tir yn Scarrowscant Lane (11.6 erw gyda chaniatâd yn cael ei geisio i adeiladu 150 a mwy o unedau eiddo preswyl).                                               

Safle arwyddocaol arall o fewn ffin y dref a gyflwynwyd i'w gymeradwyo a'i ddatblygu yw Tir Ynn, oddi ar Freemans Way (7.72 erw o ddefnydd cymysg – tai, bwyd a diod, manwerthu). Dylid datblygu hwn hefyd cyn unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i ffin y dref.                           

Mae datblygwyr  y safleoedd uchod o fewn ffin bresennol tref Hwlffordd yn y broses o gael neu eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 1,000 o unedau eiddo preswyl, nid yw'r gwaith wedi dechrau ar unrhyw un o'r safleoedd hyn ac nid oes un eiddo wedi'i adeiladu eto. Felly, ystyrir nad oes modd cyfiawnhau'r angen i ddyrannu mwy o dir i'w ddatblygu y tu allan i ffin bresennol y dref. Yn y cyfamser, os yw datblygwyr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn eistedd ar eu cynnig ac yn peidio â dechrau gwaith o fewn amser rhesymol dylid tynnu'r caniatâd cynllunio yn ôl.  

Os rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ymgeisiol y tu allan i ffin bresennol y dref, bydd yn gosod cynsail ac yn agor y drws i ddatblygiad a/neu fynediad i leiniau maes glas eraill yn y cyffiniau sydd y tu allan i ffin y dref.

Bydd datblygu'r safle ymgeisiol yn ychwanegu at lifoedd traffig cyfredol yn sylweddol ar New Road ac Uzmaston Road. New Road yw'r unig ffordd ddwy lôn a fyddai'n gwasanaethu modurwyr presennol yn ogystal â'r modurwyr ychwanegol sy'n teithio i ac o’r safle ymgeisiol. Mae gan New Road a ac Uzmaston Road dri man cyfyng sydd yn aml yn lleihau'r briffordd i un lôn oherwydd cerbydau sydd wedi'u parcio. Yn y cyfamser, mae cyffordd New Road gyda chylchfan Salutation Square yn bell o fod yn foddhaol ac yn aml mae'n achosi tagfeydd traffig i fyny New Road yn ystod oriau brig. Byddai traffig ychwanegol o dai newydd oddi ar Uzmaston Road/Creamston Lane yn gwaethygu problem bresennol ymhellach ar New Road ac Uzmaston Road.

Mae'r carthffosydd budr yn New Road ger ar bwys ac yn Clover Park wedi profi problemau dros y blynyddoedd ac yn annhebygol o fod â'r capasiti i dderbyn llifoedd newydd o dai ychwanegol.

Sylwadau ar 484:

Mae'r safle Ymgeisiol uchod ar hyn o bryd yn dir Maes Glas y tu allan i ffin ddatblygu'r dref. Mae'n dir amaethyddol Gradd 3a neu 3b yn ôl y Map Rhagfynegol Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Ystyr Gradd 3a yw tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a ddiffinnir fel "tir o ansawdd ardderchog neu dda sydd â’r gallu gorau i ddarparu'r cnydau bwyd a di-fwyd ". Dylid osgoi newid defnydd y tir hwn yn enwedig gan bod digon o dir arall ar hyn o bryd nas defnyddiwyd o fewn ffin y dref a allai’n rhwydd dderbyn datblygiadau defnydd cymysg (cyflogaeth a thai) o’r maint hwn.

Mae safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau'r dref a fydd eisoes yn cynnwys nifer sylweddol o anheddau newydd; dylid datblygu'r rhain cyn unrhyw safleoedd Maes Glas. Safleoedd fel Bridge Meadow Lane (sydd ar werth ar hyn o bryd ac yn cynnwys 5.12 erw) ac Albert Town (sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 o gartrefi). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Albert Town gyntaf yn 2014 ond mae'r safle yn dal i fod yn ddiffaith heb unrhyw arwydd o waith yn dechrau.

Mae ardaloedd eraill o fewn ffin y dref y dylid eu datblygu ac y dylid adeiladu arnynt cyn ystyried unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i'r ffin ar gyfer caniatâd cynllunio.

Dyma rai safleoedd arwyddocaol o fewn ffin y dref sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygu: -

  1. Slade Lane (safle 51 erw gyda chaniatâd ar gyfer 728 eiddo preswyl). Mae swm sylweddol o arian trethdalwyr a datblygwyr eisoes wedi cael ei wario ar ddarparu'r datblygiad hwn gyda dau gysylltiad sylweddol â'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Fodd bynnag, mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers cymeradwyo'r datblygiad ac nid yw'r tŷ cyntaf wedi cael ei adeiladu eto.                                                                  
  2. Tir yn Scarrowscant Lane (11.6 erw gyda chaniatâd yn cael ei geisio i adeiladu 150 a mwy o unedau eiddo preswyl).                                               

Safle arwyddocaol arall o fewn ffin y dref a gyflwynwyd i'w gymeradwyo a'i ddatblygu yw Tir Ynn, oddi ar Freemans Way (7.72 erw ar gyfer defnydd cymysg – tai, bwyd a diod, manwerthu). Dylid datblygu hwn hefyd cyn unrhyw safleoedd maes glas newydd y tu allan i ffin y dref.                           

Mae datblygwyr  y safleoedd uchod o fewn ffin bresennol tref Hwlffordd yn y broses o gael neu eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 1,000 o unedau eiddo preswyl, nid yw'r gwaith wedi dechrau ar unrhyw un o'r safleoedd hyn ac nid oes un eiddo wedi'i adeiladu eto. Felly, ystyrir nad oes modd cyfiawnhau'r angen i ddyrannu mwy o dir i'w ddatblygu y tu allan i ffin bresennol y dref. Yn y cyfamser, os yw datblygwyr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn eistedd ar eu cynnig ac yn peidio â dechrau gwaith o fewn amser rhesymol dylid tynnu eu caniatâd cynllunio yn ôl.  

Cyflwynwyd safle ymgeisiol 484 yn flaenorol i'w ddatblygu gan y perchennog mewn Cynllun Datblygu Lleol cynharach. Cafodd ei wrthod gan bod y cynnig bryd hynny’n golygu tynnu 20,000 tunnell o gerrig llaid/siâl o'r cae. Ar hyn o bryd mae'r perchennog yn gweithredu o garej yng nghefn Ystâd Ddiwydiannol y Llwynhelyg, mae'r busnes yn cynnwys Canolfan Cydrannau a Chynna a Chadw ac ystafell arddangos ar gyfer cerbydau newydd ac ail law.

Mae'r cynnig presennol ar gyfer y safle gan y perchennog yn un ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg sy'n cynnwys cyflogaeth a defnydd preswyl. Bydd y traffig ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig hwn yn ymuno â'r A40 mewn tagfa ac ar dro ar y darn peryglus hwn o ffordd. Mae'n amlwg bod Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) o'r farn bod y rhan hon o'r gefnffordd yn beryglus, caiff y lôn i fyny ac i lawr eu gwahanu gan linellau toredig dwbl gyda chroeslinellau canolog llydan rhyngddynt. Ystyrir hefyd bod angen monitro'r darn peryglus hwn o ffordd gan bod dau gamera uwchben hefyd yn cadw golwg ar y dagfa hon. Mae traffig ychwanegol i ac o’r datblygiad arfaethedig yn debygol o rwystro llif traffig drwy'r darn yma o ffordd a chynyddu'r perygl presennol.

Dylid osgoi datblygiadau masnachol a phreswyl ychwanegol y naill ochr a’r llall i'r A40 rhwng Cylchfan Scotchwell a Chlwb Golff Hwlffordd. Mae'r rhan hon o'r A40 yn fan cyfyng ar y gefnffordd bwysig hon sydd nid yn unig yn gwasanaethu Hwlffordd a rhan fawr o Sir Benfro ond sydd hefyd yn rhan o rwydwaith ffyrdd Traws-Ewropeaidd E30. Ni ddylid peryglu llif rhydd y traffig ar hyd y rhan hon o'r ffordd ymhellach, fe'i defnyddir yn aml gan draffig fferi ac yn enwedig y gwasanaethau brys nawr bod ambiwlansys yn gorfod teithio'n rheolaidd ar hyd y llwybr hwn i Gaerfyrddin. Os caiff y rhan hon o'r ffordd ei rhwystro am gyfnod hir, yr unig lwybr arall realistig o amgylch y rhan hon yw tua'r De dros Bont Cleddau a thrwy Benfro.

Mae'r safle ymgeisiol hwn y tu allan i ffin y dref, os rhoddir caniatâd cynllunio bydd yn gosod cynsail ac yn agor y drws i ddatblygiad hirgul a/neu fynediad at leiniau Maes Glas eraill yn y cyffiniau.

062, 063, 064, 065, 141, 383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3966              

Gwrthwynebu

O ran yr ymgynghoriad ar safleoedd ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Cyngor a'r asiantaethau partner fynd i'r afael â'r pryderon / gwrthwynebiadau canlynol:

Mae problemau sylweddol eisoes gyda thraffig yn ymuno â chylchfan Salutation Square o Cambrian Place trwy New Road, gyda chiwiau mawr yn ôl ar New Road hyd yn oed gyda thai presennol ar ardal New Road / Uzmaston Road. Byddai unrhyw ddatblygiad yn ystod y gwaith adeiladu yn cynyddu hyn yn sylweddol, ac wedi hynny gyda'r boblogaeth gynyddol byddai'n gwneud y gyffordd wrth gylchfan Salutation Square hyd yn oed yn beryclach nag ydyw eisoes ar gyfer trigolion.

Bu problemau sylweddol erioed o ran draenio o ystadau Clover a Style Park. Dim ond pan y’i gorfodir gan ddeddfwriaeth y mae Dŵr Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am y draeniau. Rwy'n deall mai dyma'r rheswm pam y cafodd y safleoedd eu gwrthod i'w datblygu yn 2000. Nid oes unrhyw beth wedi newid o ran y materion draenio gyda blocio rheolaidd a achosir gan dopograffeg y datblygiad presennol.

Mae'r hinsawdd economaidd bresennol ac amcangyfrifon poblogaeth y Cyngor Sir ei hun yn dangos gostyngiad yn y boblogaeth yn Sir Benfro dros y degawd nesaf. Gyda'r fyddin yn gadael Barics Cawdor, israddio neu gau Llwynhelyg yn ôl pob tebyg, y tebygolrwydd y bydd y Porthladdoedd i Iwerddon yn gweld lleihad mewn gweithgarwch a symudiad i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil mae’n debygol y bydd y diwydiannau petrocemegol ar yr Hafan yn cae; mae’n debygol y gwelwn ostyngiad pellach yn y boblogaeth dros y 10-20 mlynedd nesaf. Mae sawl safle o amgylch Hwlffordd eisoes wedi cael eu clustnodi ar gyfer datblygu gyda mynediad safle eisoes yn ei le ond dim adeiladu wedi digwydd ar y safle (safle Slade Lane).
Mae hyn yn awgrymu diffyg galw am safleoedd newydd yn Hwlffordd. Nid oes gan yr ardaloedd hyn ryw lawer o drigolion presennol os o gwbl.

Mae'n debygol y byddai'r effaith yn ystod y gwaith adeiladu yn sylweddol ar y trigolion lleol o ran sŵn a llygredd aer, byddai’r mynediad gwael at y safle oherwydd natur dagfaol y ffyrdd i fyny i Uzmaston oherwydd parcio a diffyg lled yn gwneud y daith i ac o'r gylchfan hyd yn oed yn fwy peryglus nag y mae eisoes. Mae mynediad i Clover Park hyd yn oed yn waeth gyda llawer o geir wedi'u parcio ar y ffordd yn rhwystro gwelededd.

062, 063, 064, 065, 141, 383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3983             

Gwrthwynebu

Rwy'n breswylydd yn yr ardal yn Hwlffordd yr effeithir arni gan gynigion ar gyfer datblygiad preswyl yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer safleoedd ymgeisiol 062, 063, 064, 065, 141, 383 a 384 a dymunaf fynegi fy marn. Mae'r safleoedd hyn i gyd yn dibynnu ar fynediad i gerbydau o New Road a chylchfan Salutation Square a dymunaf gofrestru fy ngwrthwynebiad i'r cynigion.   Fy mhrif bryder yw bod y gylchfan yn golygu bod mynediad o New Road yn anodd a bod gan y ffordd o'r gylchfan (Cambrian Place) y capasiti ar gyfer traffig lôn sengl yn unig.  Mae safle 383, sy'n effeithio'n arbennig arnaf fi, yn cynnwys coetir sy'n agos at Afon Cleddau orllewinol ac yn darparu cynefin i fywyd gwyllt.  Rwy'n mynd i fwy o fanylion am y materion hyn yn y paragraffau canlynol.

Ceir mynediad i gerbydau at yr holl safleoedd hyn drwy Cambrian Place a New Road oddi ar y gylchfan yn Salutation Square.  Yn fy marn i, yn gyffredinol, mae cylchfannau yn fwy na'r un yn Salutation Square ac nid oes ganddynt fwy na phedair ffordd i mewn/allan.  Mae gan y gylchfan hon bum ffordd allan a byddai wedi bod yn fwy oni bai am gyfyngiadau'r safle.  Mae pum ffordd allan: yr A4076 i Aberdaugleddau; i ganol y dref; yr A40 i Ffordd Abergwaun, siopau manwerthu y tu allan i’r dref a’r Llwynhelyg; yr A40 i Gaerfyrddin; ac Uzmaston trwy Cambrian Place a New Road.

Ar y rhan fwyaf o adegau yn ystod y dydd, nid yw'n hawdd i gerbydau gael mynediad at y gylchfan o New Road gan eu bod yn gorfod cystadlu â dwy lôn o draffig sy'n dod o Ffordd Abergwaun (Cartlett Road) a thraffig yr A40 o gyfeiriad Caerfyrddin.  Yn fy marn i, mae'n sefyllfa draffig a allai fod yn beryglus ac yn syndod nad yw damweiniau ffordd yn digwydd yn amlach - bu damwain ar y gylchfan y llynedd gan arwain at un farwolaeth.  Nid wyf yn gwybod pa fecanwaith, os o gwbl, sydd gan y Cyngor Sir ar waith ar gyfer ystyried amlder damweiniau neu farwolaethau yn eu cynigion cynllunio.  Mae'n debyg mai mater i’r Adran Briffyrdd yw hyn a’u bod nhw, gobeithio, yn cyfrannu at y broses gynllunio. 

Yn ogystal â'r broblem gyda’r gylchfan mae tagfeydd traffig yn aml yn Cambrian Place sy'n cysylltu'r gylchfan â New Road.  Oherwydd lleoedd parcio ar hyd Cambrian Place, y dyrannwyd rhai ohonynt i drigolion Cambrian Road, mae traffig ar hyd Cambrian Place yn draffig un rhes a dim ond oherwydd ewyllys da trigolion sy'n stopio ym mhen draw New Road ac yn ildio i gerbydau sy'n dod o’r gylchfan a chanol y dref y mae tagfeydd yn cael eu hatal.  Ni allaf weld y trefniant anffurfiol hwn yn parhau i fod yn gadarnhaol gyda chynnydd sylweddol mewn datblygiad preswyl oddi ar New Road.

O safbwynt mwy personol mae'r golygfeydd o fy nhŷ yn ddeniadol gan ei fod yn edrych dros goedwig fach gymharol ddigyffwrdd sy'n agos at brif afon Sir Benfro ac sy'n hafan i fywyd gwyllt.  Pan symudais i'r eiddo hwn dros ddwy flynedd yn ôl, yn fy ngardd gefn, sylwais ar bâr o Freision y Gors, adar nad oeddwn erioed wedi'u gweld o'r blaen ac nad ydynt y mwyaf cyffredin o adar Prydain. Bydd cynefin ar gyfer llawer o greaduriaid gwyllt yn cael ei ddinistrio gan y datblygiad arfaethedig. Mae'r neges y dylem ofalu’n fwy am ein hamgylchedd a'n hinsawdd yn cael ei darlledu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae hyn yn golygu y dylem ddefnyddio pob cyfle i weithredu fel unigolion ac fel rhan o sefydliadau.  Dylai Cyngor Sir Penfro chwarae ei ran a thynnu’r safleoedd hyn allan o'r Cynllun Datblygu Lleol.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3978                     

Gwrthwynebu

Byddai tai newydd yn ychwanegu at broblemau draenio a phwysedd dŵr y tai presennol.

Mae’r allanfa o New Road wrth wynebu traffig sy’n blocio’r ynys a thraffig llonydd ar hyd Freemans Way i gyd yn bryder cyson i drigolion lleol.

Mae'r garej sydd wedi'i hailadeiladu yn mynd i gyfyngu ymhellach ar welededd.

Mewn 40 mis pan agorir yr ysgol uwchradd, bydd yr holl draffig sydd wedi defnyddio safle Portfield, bysiau ysgol, tacsis, ceir rhieni a cherddwyr yn mynd o Freemans Way a Barn Street i ychwanegu'n sylweddol at y broblem ar adegau tyngedfennol yn ystod y diwrnod gwaith.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3979                     

Gwrthwynebu

Hoffwn gofrestru fy ngwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig sy'n ffinio â'n Hystâd y tu ôl i Clover Park.

Yn sicr, dylid ystyried safleoedd eraill lle mae ffyrdd mynediad eisoes wedi'u darparu, fel safle 'Sainsbury'.

Mae'r datblygiad arfaethedig ar safle maes glas a byddai'n cael effeithiau amgylcheddol

Byddai effaith sylweddol hefyd ar y system ffyrdd gyda thraffig ychwanegol.

Byddai effaith ychwanegol hefyd ar y system ddraenio, sydd eisoes yn profi problemau o bryd i’w gilydd.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3980           

Gwrthwynebu

O ystyried y ffaith y rhoddwyd y gorau’n ddiweddar i safle datblygu arfaethedig ar gyfer 700 o dai pan oedd ffyrdd mynediad a chyfleusterau eisoes yn eu lle, rwy'n teimlo nad oes angen tai ychwanegol, yn enwedig yn yr ardal hon.

Mae hon yn ardal maes glas a dylai aros felly. Mae'n union dros ffens ein gardd a bydd yn cael effaith andwyol ddifrifol ar werth ein heiddo yn ogystal â chael gwared ar y golygfeydd dymunol sydd gennym ar hyn o bryd dros gefn gwlad agored.

Mae traffig sy'n teithio i fyny ac i lawr New Road eisoes yn profi oedi yn ystod cyfnodau prysur, yn enwedig wrth y gylchfan yng nghyffordd Caerfyrddin/Aberdaugleddau pan fo'n anodd iawn ymuno â llif y traffig i'r dref. Bydd datblygiad o'r fath yn sicr yn cynyddu'r tagfeydd yn yr ardal hon lle bynnag y bydd unrhyw ffyrdd mynediad yn cael eu hadeiladu. Hefyd, nid oes gan breswylwyr ar lawer o unedau eiddo yn New Road leodd parcio oddi ar y stryd sydd ar gael iddynt a bydd ceir wedi’u parcio hefyd yn achosi mwy o dagfeydd. Ni fydd estyn y llinellau melyn ymhellach i fyny'r stryd ond yn annog gyrwyr i yrru'n gyflymach gan achosi perygl difrifol i blant a cherddwyr eraill.

Gwrthodwyd cais blaenorol i ddatblygu'r safle hwn yn 2000 ac rwy'n deall mai un o'r rhesymau oedd yr anhawster i uwchraddio'r system ddraenio/carthffosiaeth i ddarparu ar gyfer mwy o dai. Ar hyn o bryd, mewn tywydd gwlyb mae'r system ddraenio yn New Road yn gorlifo'n aml trwy'r twll archwilio ar wyneb y ffordd ac yn amlwg ni all y system ymdopi â mwy o bwysau.

Mae'r posibilrwydd o darfu ar drigolion Clover Park yn ystod y gwaith adeiladu ar y safle arfaethedig hwn yn frawychus gyda thraffig trwm, llwch a llygredd sŵn ar wahân i'r perygl a fyddai’n cael ei achosi i blant ar y safle ac yn New Road ac Uzmaston Road.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3981                     

Gwrthwynebu

Bu 2 achlysur pan gafodd y system ddraenio ei blocio yn ystod y 2 fis diwethaf – Ebrill, Mai 2019.

Mae cynlluniau eisoes ar gyfer 700 o dai ger datblygiad safle Sainsbury (y rhoddwyd y gorau iddynt bellach) gyda ffyrdd mynediad a chyfleusterau eisoes wedi'u sefydlu. Nid oes galw am y tai newydd hyn yn yr ardal hon a byddai’n well i’r Cyngor ddatblygu ar safleoedd tir llwyd o amgylch y dref.

Byddai'r datblygiad arfaethedig yn defnyddio safleoedd maes glas gydag effeithiau amgylcheddol. Ni ddylai'r cyngor fod yn defnyddio tir ffermio gwerthfawr pan nad oes cyfiawnhad dros yr angen am dai yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Os bydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, bydd effeithiau dramatig ar broblemau llif traffig ar yr ystâd bresennol, New Road / Uzmaston Road. Mae traffig presennol yn cronni ac yn arwain at dagfeydd yn ystod oriau brig. Byddai llif traffig ychwanegol yn ychwanegu'n ddifrifol at y broblem hon.

Cafodd cais blaenorol i ddatblygu'r safle ei wrthod yn 2000 oherwydd nad oedd yn ymarferol datblygu’r systemau draenio - sydd ar hyn o bryd yn achosi problemau o bryd i’w gilydd gyda blociadau. Ni fyddai'r safle'n gallu cymryd unrhyw bwysau pellach ar y system.

Os yw'r datblygiad yn cael sêl bendith fe fydd tarfu ar deuluoedd presennol - mae'r ffyrdd yn gul gyda cheir wedi'u parcio ar y ffordd nawr. Bydd unrhyw lorïau sy'n dod â deunyddiau ar gyfer tai newydd yn achosi llygredd llwch, llygredd sŵn a pherygl i blant ifanc sy'n chwarae/reidio eu beiciau. Gallai hyn barhau am sawl mis.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3982           

Gwrthwynebu

Safle maes glas ydyw. Pam defnyddio safleoedd fel hyn pan fydd safleoedd tir llwyd eraill ar gael eisoes h.y. datblygiad safle Sainsbury gyda ffyrdd mynediad a chyfleusterau eisoes yn eu lle? Rwy'n credu eu bod hefyd yn adeiladu tai Persimmon - ? 180 o dai yn ardal Hwlffordd.

Effaith ar dai cyfagos gyda ffyrdd sydd eisoes yn gul a mwy o broblemau llif traffig ar adegau prysur ym mhen draw’r ffordd newydd wrth ymuno â’r gylchfan.

Yn yr hinsawdd economaidd bresennol does dim cyfiawnhad dros adeiladu mwy o dai ar safleoedd maes glas.

Mae problemau carthffosiaeth o bryd i’w gilydd yn barod gyda blociadau ac rwy'n credu yn ôl yn 2000 bod y cynlluniau wedi cael eu gwrthod oherwydd y mater hwn. Beth sydd wedi newid yn ystod y cyfnod hwn?

Mae pobl sydd wedi ymddeol/wedi ymddeol yn rhannol yn byw yn yr ardal hon sy'n aml yn cerdded o gwmpas yr ystâd a phlant ifanc yn chwarae ar eu beiciau. Mae cynnydd mewn traffig yn fwy tebygol o achosi damweiniau.

Mae cryn dipyn o fywyd gwyllt yn y caeau cyfagos a bydd hyn yn effeithio ar eu cynefin naturiol.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3964           

Gwrthwynebu

Mae cynlluniau eisoes ar gyfer 700 o dai ger datblygiad safle Sainsbury.
Datblygiad (y rhoddwyd y gorau iddo bellach) gyda ffyrdd mynediad a chyfleusterau eisoes wedi'u sefydlu. Nid oes galw am y tai newydd hyn yn yr ardal hon a byddai’n well i’r Cyngor ddatblygu ar safleoedd tir llwyd o amgylch y dref.

Byddai'r datblygiad arfaethedig yn defnyddio safleoedd maes glas gydag effeithiau amgylcheddol. Ni ddylai'r cyngor fod yn defnyddio tir ffermio gwerthfawr pan nad oes cyfiawnhad dros yr angen am dai yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Os bydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, bydd effeithiau dramatig ar broblemau llif traffig ar yr ystâd bresennol, New Road / Uzmaston Road. Mae traffig presennol yn cronni ac yn arwain at dagfeydd yn ystod oriau brig. Byddai llif traffig ychwanegol yn ychwanegu'n ddifrifol at y broblem hon.

Cafodd cais blaenorol i ddatblygu'r safle ei wrthod yn 2000 oherwydd nad oedd yn ymarferol datblygu’r systemau draenio - sydd ar hyn o bryd yn achosi problemau o bryd i’w gilydd gyda blociadau. Ni fyddai'r safle'n gallu cymryd unrhyw bwysau pellach ar y system.

Os yw'r datblygiad yn cael sêl bendith fe fydd tarfu ar deuluoedd presennol - mae'r ffyrdd yn gul gyda cheir wedi'u parcio ar y ffordd nawr. Bydd unrhyw lorïau sy'n dod â deunyddiau ar gyfer tai newydd yn achosi llygredd llwch, llygredd sŵn a pherygl i blant ifanc sy'n chwarae/reidio eu beiciau. Gallai hyn barhau am sawl mis.

062, 063, 064 a 065: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3965                     

Gwrthwynebu

Mae safleoedd ymgeisiol 062, 063, 064 a 065 i gyd ar dir Maes Glas Gradd 3a a 3b sy'n nodi bod y tir o ansawdd mor ardderchog fel bod ganddo’r gallu gorau i ddarparu bwyd a chnydau di-fwyd.

Ni fyddwn yn cefnogi unrhyw ddatblygiad tai ychwanegol ar dir Maes Glas, sydd y tu allan i Ffiniau Tref Hwlffordd nes bod yr holl opsiynau eraill wedi cael eu disbyddu.

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i gael i adeiladu 728 eiddo preswyl yn Slade Lane ac er bod y gwaith seilwaith wedi'i wneud, nid aethpwyd mor bell ag adeiladu unrhyw dai eto. Byddai'r safle hwn yn darparu tai ychwanegol digonol i Hwlffordd yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae yna hefyd nifer o safleoedd tir llwyd o fewn ffin y dref a allai hefyd ddarparu nifer sylweddol o eiddo unedau preswyl, gan gynnwys safle Albert Town, sydd eisoes â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 87 eiddo.

Mae gennyf bryderon mawr eraill sy’n ymwneud â Safleoedd Ymgeisiol 062, 063, 064 a 065.

Gwrthodwyd caniatâd i'r tir hwn yn 2000 oherwydd yr effaith y byddai unrhyw ddatblygiad tai newydd wedi'i chael ar system garthffosiaeth yr unedau eiddo preswyl presennol a oedd eisoes yn profi problemau parhaus gyda blociadau.

Roedd pryderon gwirioneddol, sy’n dal i fodoli, ynghylch yr effaith y byddai'r traffig ychwanegol wrth ddatblygu’r safle yn ei chael ar Clover Park, New Road a Chylchfan Salutation Sq.

Heb os, byddai unrhyw ddatblygiad tai newydd o'r fath yn gwaethygu'r problemau llif traffig presennol trwy greu traffig ychwanegol drwy'r ardal breswyl ac yn enwedig pan fyddai cerbydau'n ceisio ymuno â chylchfan Salutation Square.

141: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3967                     

Gwrthwynebu

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:

Effaith weledol datblygiad o'r fath

Y pwysau cynyddol ar y system ffyrdd sydd eisoes yn cael ei gorweithio

Yr effaith andwyol y byddai hyn yn ei chael ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3967           

Gwrthwynebu

Sylwadau ar 383:

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:

Byddai datblygiad ar y caeau hyn yn cael effaith andwyol ar ymddangosiad gweledol yr ardal. Byddai tai yn gorchuddio ardal gyfan ochr y bryn i lawr cyn belled â'r Frolic a byddent i'w gweld nid yn unig i gerddwyr ar y llwybr troed ond hefyd i ddefnyddwyr y ffordd osgoi a'r rhai mewn rhannau eraill o'r dref.

Mae'n dod yn fwyfwy cyffredin i aelwydydd fod â mwy nag un car. Ni ellir ond amcangyfrif y traffig ychwanegol a fyddai’n deillio o ddatblygiad tai mawr yma ond byddai'n sicr yn gwneud y tagfeydd traffig ar y New Road ac Uzmaston Road yn llawer gwaeth nag ydynt yn barod. Mae'r ffyrdd hyn a chylchfan Salutation Square eisoes dan bwysau fel y bydd unrhyw un sy'n eu defnyddio yn gwybod.

Byddai angen gwaith mawr i ddarparu gwasanaethau dŵr, nwy, ffôn, trydan a charthffosiaeth gan achosi llawer o darfu ac anghyfleustra i'r trigolion presennol a defnyddwyr y ffyrdd.

Mae piblinell nwy bwysig yn rhedeg drwy'r caeau o'r Frolic i Uzmaston Road. Felly, nid yw’r lleoliad hwn yn rhywle sy'n addas ar gyfer datblygu tai.

Byddai datblygiad o'r fath yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt yr ardal. Ar hyn o bryd mae glan yr afon yn darparu digon o gyfleoedd ar gyfer adar sy'n nythu (gan gynnwys adar dŵr), yn ogystal â chaeau, gwrychoedd a choetir a ddefnyddir gan foch daear, llwynogod, ystlumod, cwningod, tylluanod ac ati. Byddai datblygu'r caeau hyn yn dinistrio'r amgylchedd ac yn gyrru'r bywyd gwyllt helaeth presennol oddi yma.

Ardal werdd heddychlon yw'r Frolic sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i defnyddio'n fawr gan bobl Hwlffordd. Mae'n agos at ganol y dref ac yn darparu mynediad cyflym at gefn gwlad. Byddai datblygu'r caeau sy'n edrych dros yr ardal heddychlon hon sy’n debyg i barc yn dinistrio ei hatyniad.

Sylwadau ar 384:

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:
Mae'n ehangu’r dref yn ddiangen i'r wlad gyfagos.

Byddai'n dinistrio tir amaethyddol defnyddiol

Byddai'n cynyddu'r pwysau ar y system ffyrdd sydd eisoes yn cael ei gorweithio. Mae Creamston Road yn gul a byddai angen newidiadau mawr iddi

Byddai'n effeithio'n wael ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt yr ardal

141: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3968                     

Byddai'n effeithio'n wael ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt yr ardal.

275, 299, 341, 391, 392, 393, 412, 413, 414 a 440: Llandysilio     

ID Rhanddeiliad: 2018 

Cymysgedd o gefnogi a gwrthwynebu

Sylwadau:

1 Angen edrych ar seilwaith presennol Llandysilio h.y.

            Carthffosiaeth - Dŵr Cymru eisoes wedi cyrraedd capasiti llawn.

Dŵr wyneb.

Ffyrdd - gwelededd, mwy o draffig ar briffordd eithriadol o brysur gyda llawer o groesffyrdd neu gyffyrdd.

2 Oes angen yr holl dai yma yn y pentref?

3 Diwylliant - effaith bosibl ar y Gymraeg a diwylliant Cymraeg o fewn y pentref.

4 Cynaliadwyedd - trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig, diffyg capasiti cyfleusterau iechyd o fewn yr ardal, gwaith – mwy o draffig gan y bydd yn rhaid i fwy o bobl deithio ar gyfer cyflogaeth.

5 Poblogaeth - ar y safle ymgeisiol awgrymodd un y byddai'r safle yn dyblu maint poblogaeth y pentref.

275, 299, 341, 391, 392, 393, 412, 413 a 414: Llandysilio                 

ID Rhanddeiliad: 3984             

Gwrthwynebu

Mae angen i'r Awdurdod Cynllunio fod yn ymwybodol o'r effaith gyfunol y gallai Safleoedd Ymgeisiol Llandysilio ei chael ar y gymuned.

Mae preswylwyr wedi codi'r pryderon canlynol:

Anghenion Tai - a oes tystiolaeth i ategu'r angen am ddatblygiad o'r fath yn y gymuned?

Seilwaith – mae Dŵr Cymru/Welsh Water yn methu â diwallu anghenion presennol y Pentref heb sôn am y rhai a gynigir. Ble mae'r capasiti o fewn y system i ymdopi â phwysau ychwanegol dŵr wyneb, dŵr budr a charthion? Nid yw'r carthffosydd a'r seilwaith cyfredol yn ymdopi â’r anghenion cyfredol.

Cynaliadwyedd – ychydig iawn o ddarpariaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus sydd ar gael a heb fawr ddim cyfleoedd cyflogaeth o fewn y Pentref, byddai'n rhaid i drigolion deithio i'r gwaith gan ddefnyddio dulliau preifat.

Iechyd - Oes digon o gapasiti yn y Ganolfan Iechyd yn Arberth i ymdopi â'r cynnydd mewn Cleifion?

Addysg – Pa effaith fyddai'r datblygiadau arfaethedig yn ei chael ar yr Ysgol?

Y Gymraeg a Diwylliant Cymraeg - Yn 2001 roedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Pentref yn 62.1%. Yn 2001 roedd yn 55.7% - gostyngiad o 6.4%. Mae trigolion yn teimlo y dylai'r Awdurdod Cynllunio Lleol ddynodi Llandysilio yn 'Ardal Ddiffiniedig' ac y dylai wneud hyn yn glir ar Fap y CDLl. Fel a nodwyd yn yr adroddiad.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 2.1 Mae'r Ddeddf yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a chreu Cymru yr ydym am fyw ynddi. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ac yn nodi ystod o gyrff cyhoeddus gan gynnwys Awdurdodau Lleol y mae'n rhaid iddynt weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

2.2 Un o'r nodau llesiant yw cyflawni 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu' - Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg, ac sy'n annog pobl.

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3972           

Gwrthwynebu

Dinistrio caeau gwyrdd ac ardal bywyd gwyllt, traffig ychwanegol ar ffyrdd sydd eisoes dan bwysau, pryder ynghylch diogelwch oherwydd piblinell nwy.

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3977           

Gwrthwynebu

Ardal bywyd gwyllt yw hon, yn enwedig ystlumod, sy'n rhywogaeth warchodedig.

Byddai datblygu yn difetha ein 'mwynhad tawel' y mae gennym hawl iddo.

Dibrisio eiddo.

Cynnydd mewn traffig ar y ffordd wledig.

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3986           

Gwrthwynebu

(Ni ddarparwyd unrhyw destun ychwanegol)

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3969           

Gwrthwynebu

Gwrthodwyd cynllun ar gyfer adeiladu y tu ôl i Addison Road a Dunsany Park tua 40 mlynedd yn ôl.

Rydym wedi gweld dirywiad amlwg yn yr adar yn ein gardd ers adeiladu ffordd osgoi Freemans Way.
Mae'n gas gen i feddwl beth fyddai'n digwydd pe bai'r syniad gwallgof hwn yn cael sêl bendith ar y safle arfaethedig.

383 a 384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3990                     

Gwrthwynebu

Rwy'n amgáu gwrthwynebiad i’r Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd Ymgeisiol Ychwanegol ar gyfer y CDLl (newydd)

Lle o harddwch naturiol a chynefin i ffynhonnau naturiol a bywyd gwyllt, y dylid ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o deuluoedd a bywyd gwyllt.

Gwrthwynebiad – bywyd gwyllt, piblinell nwy, coetir, ffynhonnau – mae'r rhain i gyd yr wyf yn eu rhestru’n gwneud y safleoedd hyn yn anaddas ar gyfer tai.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3970                     

Gwrthwynebu

Bydd cynefin naturiol yn cael ei golli ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys cwrs dŵr naturiol, a bydd pwysau cynyddol ar amrywiaeth o rywogaethau sy'n ymgartrefu yn yr ardal gymysg hon. Bydd pwysau ychwanegol ar seilwaith trafnidiaeth sydd eisoes yn annigonol.

Mwy o ddŵr ffo o ôl troed daear anhydraidd mwy a fyddai'n effeithio ar ansawdd y dŵr yn Afon Cleddau orllewinol.

Hefyd, bydd effaith negyddol ar Iechyd a Lles preswylwyr presennol ar hyd New Road i gyd o ganlyniad i waith adeiladu a cholli ein hamgylchedd 'gwyrdd' ar adeg pan ddylem fod yn gwarchod ein safleoedd maes glas.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3971                     

Gwrthwynebu

Hoffwn gofrestru gwrthwynebiad i Ddatblygiad Arfaethedig Safle Ymgeisiol 383 a chymeradwyo'r pwyntiau a nodwyd gan fy nghymydog (enw wedi'i dynnu allan) fel sydd ynghlwm.

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:

Byddai datblygiad ar y caeau hyn yn cael effaith andwyol ar ymddangosiad gweledol yr ardal. Byddai tai yn gorchuddio ardal gyfan ochr y bryn i lawr cyn belled â'r Frolic a byddent i'w gweld nid yn unig i gerddwyr ar y llwybr troed ond hefyd i ddefnyddwyr y ffordd osgoi a'r rhai mewn rhannau eraill o'r dref.

Mae'n dod yn fwyfwy cyffredin i aelwydydd fod â mwy nag un car. Ni ellir ond amcangyfrif y traffig ychwanegol a fyddai’n deillio o ddatblygiad tai mawr yma ond byddai'n sicr yn gwneud y tagfeydd traffig ar y New Road ac Uzmaston Road yn llawer gwaeth nag ydynt yn barod. Mae'r ffyrdd hyn a chylchfan Salutation Square eisoes dan bwysau fel y bydd unrhyw un sy'n eu defnyddio yn gwybod.

Byddai angen gwaith mawr i ddarparu gwasanaethau dŵr, nwy, ffôn, trydan a charthffosiaeth gan achosi llawer o darfu ac anghyfleustra i'r trigolion presennol a defnyddwyr y ffyrdd.

Mae piblinell nwy bwysig yn rhedeg drwy'r caeau o'r Frolic i Uzmaston Road. Felly, nid yw’r lleoliad hwn yn rhywle sy'n addas ar gyfer datblygu tai.

Byddai datblygiad o'r fath yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt yr ardal. Ar hyn o bryd mae glan yr afon yn darparu digon o gyfleoedd ar gyfer adar sy'n nythu (gan gynnwys adar dŵr), yn ogystal â chaeau, gwrychoedd a choetir a ddefnyddir gan foch daear, llwynogod, ystlumod, cwningod, tylluanod ac ati. Byddai datblygu'r caeau hyn yn dinistrio'r amgylchedd ac yn gyrru'r bywyd gwyllt helaeth presennol oddi yma.

Ardal werdd heddychlon yw'r Frolic sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i defnyddio'n fawr gan bobl Hwlffordd. Mae'n agos at ganol y dref ac yn darparu mynediad cyflym at gefn gwlad. Byddai datblygu'r caeau sy'n edrych dros yr ardal heddychlon hon sy’n debyg i barc yn dinistrio ei hatyniad.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3995                     

Gwrthwynebu

Rwy'n cysylltu â chi i fynegi fy siom ynghylch y cynnig i ystyried bod y lleoliad hwn yn addas i'w ddatblygu. Ar ôl byw yn Hwlffordd ar hyd fy oes, rwyf wedi gweld canol y dref yn cael ei drawsnewid a’i ehangu mewn modd cadarnhaol gan mwyaf. Fel plentyn yn tyfu i fyny yn y dref roedd agosrwydd coetir a mannau gwyllt eraill yn rhan hanfodol o dyfu i fyny. Nid yw'r ardaloedd hyn wedi goroesi cystal wrth i’r dref gael ei hehangu ac mae'r dref yn dioddef o ganlyniad.

A minnau wedi cael fy magu yn ardal Scarrowscant ac wedi chwarae yn y goedwig yno gwelais hi’n cael ei dinistrio pan oeddwn yn blentyn i wneud lle i ddatblygu. Symudon ni i City Road gan edrych dros ddôl hardd mewn dyffryn serth a oedd yn llawn bywyd gwyllt (safle tebyg iawn i 383), cafodd yr ardal hon ei throsi'n drychineb llwyr o'r enw Kensington Gardens ynghyd â ffiniau wedi’u tanseilio’n ddifrifol oherwydd y cloddio eithafol a thryciau diddiwedd yn llawn rwbel wedi'i symud yr oedd ei angen i wasgu unedau eiddo i mewn i safle anaddas ar lethr serth (tebyg i 383),  mae'r ffiasgo yn dal yn llanast anorffenedig. Rwy'n cael fy arwain i gredu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle hwn wedi cael ei wrthod gan Gyngor Sir Penfro ond bod Cynulliad Cymru wedi gwrthwneud hynny a rhoi’r caniatâd o bellter.

Ceir safle datblygu mawr arall yn Slade Lane a gafodd gymeradwyaeth a dechreuwyd ar waith cloddio mawr a wnaed gan arwain at ddinistrio coridor bywyd gwyllt dim ond i’r datblygiad gael ei roi o’r neilltu. Felly rhaid gofyn y cwestiwn pam fod angen i ni ddatblygu rhagor o safleoedd pan nad ydym yn defnyddio'r rhai sydd gennym yn barod.

Ers hynny rydym wedi symud i Dunsany Park, symudon ni yma i fagu ein plant bach mewn amgylchedd gwledig ac i fwynhau un o rannau harddaf y dref. Mae gan ein teulu gariad at fywyd gwyllt a gwerthfawrogiad mawr o'r harddwch sy'n amgylchynu ein cartref ac yn sicr nid ydym erioed wedi ystyried y posibilrwydd y bydd yr ardal yn dod yn safle datblygu mawr oherwydd ei ddiffyg addasrwydd llwyr at y diben hwn, nid yn unig o'r effaith esthetig ac amgylcheddol amlwg ond lefel y cloddio y mae ei angen i dirlunio'r safle a hunllef gyfatebol traffig trwm sy'n dilyn ar safle heb unrhyw gysylltiadau ffordd hyfyw oherwydd y cysylltiad sydd eisoes dan bwysau â chylchfan Salutation Square, byddai hyn hefyd yn ei wneud yn anhyfyw o safbwynt traffig ar ôl y datblygiad. Hefyd, mae piblinell nwy bwysig yn rhedeg o dan y safle gan ychwanegu at ei gymhlethdod. Dywedir wrthym mai'r ystyriaeth bwysicaf ar gyfer yr holl dai yw y dylent gydymffurfio ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn sicr nid yw'r safle hwn yn bodloni'r nodau hynny.

Mae'r ardal hon yn un o'r coridorau bywyd gwyllt olaf heb eu difetha a heb eu cyffwrdd sy'n weddill o amgylch y dref, rhaid gadael yr ardaloedd hyn heb eu datblygu i gadw apêl y dref wrth iddi ehangu. Gwnaed ymdrech sylweddol i hyrwyddo'r pen hwn o'r dref fel dihangfa i dawelwch gwledig go iawn ar gyfer pobl Hwlffordd gyda llwybrau ar hyd yr afon yn eich arwain o ganol y dref i ardal yr hen lwybr trim ac mae'r llwybr yn parhau i Uzmaston.

Mae defnyddwyr y llwybr hwn yn cael gwledd ar ffurf amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt oherwydd agosrwydd y coetir ar safle 383 at yr afon, y foryd a'r gors sy'n gysylltiedig â rhannau uchaf y Cleddau, byddai datblygu’r safle hwn yn niweidiol iawn i'r dref gan gynnwys y bobl a'r bywyd gwyllt y maent yn ei fwynhau. Mae arnynt angen cael ac yn sicr mae ganddynt hawl i gael llonyddwch heb unrhyw darfu yn eu hamgylchoedd.

Mae'n braf iawn bod gan yr (manylion personol wedi’u golygu) (enw’r eiddo wedi’i olygu) gymaint o ddiddordeb mewn darparu tai i bobl Sir Benfro ond efallai y dylent fodloni'r pryder trwy ddatblygu rhai o'r caeau gwastad hyfryd gerllaw'r (enw’r eiddo wedi’i olygu) a dinistrio eu golygfeydd eu hunain yn lle ein golygfeydd ni.

Derbyniwch fy ymddiheuriadau am e-bost sydd wedi'i ddrafftio'n wael ond dim ond 24 awr o rybudd sydd gennym ni a'r preswylwyr eraill i baratoi. Ar gyfer rhywbeth mor bwysig â hyn siawns bod angen o leiaf lythyr neu ymgynghoriad o ddrws i ddrws er mwyn i’r trigolion oedrannus niferus yn ardal New Road baratoi ymateb. Wedi’r cyfan, rydym yn ffinio’n uniongyrchol â'r cynnig.

Ar ran y teulu (enw wedi ei olygu) sy’n bryderus iawn.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3973                     

Gwrthwynebu

Credaf y bydd colli'r safle maes glas naturiol hwn yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt, yn cynyddu tagfeydd a llygredd ac yn cael effaith gwbl negyddol ar yr amgylchedd.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3974         

Gwrthwynebu

Hollol anaddas oherwydd mynediad / ardal o harddwch naturiol.  Rwy'n gwrthwynebu datblygu safle ymgeisiol 383 yn y modd cryfaf a hynny ar y seiliau canlynol:- 

  1. Mae mynediad ar yr adegau prysuraf i ac o Uzmaston Road i'r dref eisoes dan straen.  Fel preswylydd, mae'n rhaid i mi adael yn gynnar yn y bore er mwyn osgoi tagfa ar gylchfan Salutation Square a chynllunio ymadawiadau ar ddiwedd y dydd, eto er mwyn gallu mynd allan o New Road.  Ar adegau arferol o'r dydd, oherwydd parcio gan breswylwyr, mae rhan isaf New Road yn heol unffordd fwy neu lai, gan ddibynnu ar yrwyr i aros yn amyneddgar ar y pen uchaf ar ôl ceir preswylwyr sydd wedi’u parcio, er mwyn galluogi’r traffig i lifo’n rhydd.
  2. Byddai swm enfawr y traffig gwaith ac yna ceir preswylwyr yn rhoi pwysau anhygoel ar lif rhydd traffig trwy'r dref, nid dim ond ar yr adegau prysuraf.  Mae ystadegau'n dangos bod gan aelwydydd cyffredin fwy nag un car a byddai hyn yn cynyddu tagfeydd yn y dref ymhellach.
  3. Yn hollbwysig, mae'r ardal yn rhan hanfodol ac annatod o'r ardal eithriadol o hardd o amgylch Afon Cleddau a'r Frolic.  Mae'r ardal yn cael ei defnyddio gan bobl leol a thwristiaid am ei thawelwch a'i llonyddwch.  Byddai tai yn tarfu ar y tawelwch ac yn difetha'r dirwedd.  Yn bwysig, mae'n gynefin naturiol i sawl math o blanhigion ac anifeiliaid.  Gyda chyflwr truenus ac adfeiliedig cryn dipyn o ganol y dref mae'n darparu "chwa o awyr iach" sy'n codi ysbryd rhywun.
  4. Mae piblinell nwy bwysig sy’n rhedeg o'r frolic ar draws Uzmaston Road - siawns nad yw hyn ynddo'i hun yn ei wneud yn addas ar gyfer datblygu tai.

383: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3975         

Gwrthwynebu

Traffig Ychwanegol – mae hyn yn peri pryder mawr.  Mae'r ffordd newydd, Uzmaston Road a chylchfan Salutation Square i gyd yn annigonol i ymdopi â thraffig o ddatblygiad tai mawr.

Mae'r cynnydd yn y boblogaeth yn peri gofid - ym meddygfa fy meddyg lleol mae angen 7 wythnos o rybudd ar gyfer apwyntiad i weld meddyg. Felly mae'r feddygfa dan ormod o bwysau yn barod.

Mae'r system garthffosiaeth bresennol sy’n bodoli ers dros ddeugain mlynedd wedi cael problemau gydag unedau eiddo sy'n wynebu'r datblygiad arfaethedig newydd - dim ond mis diwethaf roedd cafwyd achlysuron eto pan oedd wedi’i blocio a bu'n rhaid i asiantaethau gwahanol wneud sawl ymdrech.

Rhoddodd (enw wedi ei olygu) dir o’r enw Frolic er mwynhad pobl Hwlffordd – nid iddo gael ei ddifetha gan ystâd dai breswyl fawr gyfagos a'r holl draffig ychwanegol ar ffyrdd sydd dan bwysau a fydd yn difetha llonyddwch a thawelwch y 'Frolic'.

384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3967         

Gwrthwynebu

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:
Mae'n ehangu’r dref yn ddiangen i'r wlad gyfagos.

Byddai'n dinistrio tir amaethyddol defnyddiol

Byddai'n cynyddu'r pwysau ar y system ffyrdd sydd eisoes yn cael ei gorweithio. Mae Creamston Road yn gul a byddai angen newidiadau mawr iddi

Byddai'n effeithio'n wael ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt yr ardal.

384: Hwlffordd                 

ID Rhanddeiliad: 3968                     

Gwrthwynebu

Rwy'n gwrthwynebu ystyried bod y safle hwn yn addas ar gyfer tai ar y seiliau canlynol:
Mae'n ehangu’r dref yn ddiangen i'r wlad gyfagos.

Byddai'n dinistrio tir amaethyddol defnyddiol

Byddai'n cynyddu'r pwysau ar y system ffyrdd sydd eisoes yn cael ei gorweithio. Mae Creamston Road yn gul a byddai angen newidiadau mawr iddi

Byddai'n effeithio'n wael ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt yr ardal.

388 a 389: Penalun         

ID Rhanddeiliad: 3976                     

Gwrthwynebu

388 – Bydd mynediad ar gyfer y safle hwn ar hyd lôn gul, breifat, heb ei gwneud, a phe bai’n cael ei defnyddio gan gerbydau ac offer trwm mae potensial i hynny achosi perygl i unedau eiddo wrth ymyl y lôn ac i draffig preswylwyr a cherddwyr.

389 - Bydd mynediad ar gyfer y safle hwn ar hyd lôn gul, breifat, heb ei gwneud, a phe bai’n cael ei defnyddio gan gerbydau ac offer trwm mae potensial i hynny achosi perygl i unedau eiddo sy’n sefyll wrth ymyl y lôn ac i draffig preswylwyr a cherddwyr.

ID: 11226, adolygwyd 13/12/2023