Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Atodiad h syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 3 Ymatebion

Ymgynghoriad 3:

Roedd y drydedd gyfran o Safleoedd Ymgeisiol yn cynnwys tri safle a gyflwynwyd mewn ymateb i wahoddiad a roddwyd i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan fater cronfa ddata’r CDLl 2.  Safleoedd rhif 523 i 525 yw’r Safleoedd Ymgeisiol Pellach hyn.

Rhestrir yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n ymwneud â'r Safleoedd Ymgeisiol Pellach (rhifau 523 i 525 gan gynnwys y rheiny) yn gyntaf, ac yna'r rhai a gyflwynwyd mewn perthynas â'r cyfrannau cynharach o safleoedd. 

 

523, 524 a 525: Cas-mael, Jeffreyston a Troopers Inn yn y drefn honno   

ID Rhaddeiliad: 2841

Sylwebaeth gyffredinol a safle-benodol

Corff cyhoeddus anadrannol a noddir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yw'r Awdurdod Glo.  Fel ymgynghorai statudol, mae dyletswydd ar yr Awdurdod Glo i ymateb i geisiadau cynllunio a chynlluniau datblygu er mwyn diogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

O fewn ardal Sir Benfro mae ein cofnodion ni’n dangos bod nodweddion cloddio glo cofnodedig yn bresennol ar yr wyneb ac ar ddyfnder bas gan gynnwys; mynedfeydd i byllau glo, lefelydd glo bas a pheryglon ar yr wyneb yr adroddwyd amdanynt.  Mae'r nodweddion cofnodedig hyn yn peri risg bosibl i sefydlogrwydd yr wyneb a diogelwch y cyhoedd. 

Mae cofnodion yr Awdurdod Glo hefyd yn dangos bod adnoddau glo wyneb yn bresennol ar y safle, er na ddylid cymryd bod hyn yn awgrymu y byddai cloddio mwynau yn hyfyw yn economaidd, yn dechnegol ymarferol nac yn dderbyniol yn amgylcheddol.   Fel y gwyddoch, bydd yr awdurdodau hynny sy'n gyfrifol am gynllunio a diogelu mwynau wedi nodi lle maent yn ystyried bod mwynau o bwysigrwydd cenedlaethol yn bresennol yn eich ardal chi ac ystyriaethau polisi cysylltiedig.  Fel rhan o'r broses gynllunio dylid ystyried cyngor o'r fath mewn perthynas â'r adnodd glo wyneb a nodir.

Rydych wedi gofyn am sylwadau ar dri safle penodol, sef 523, 524 a 525.  Fel y gwyddoch, mae'r Awdurdod Glo yn darparu data GIS y gellir ei lawrlwytho ar gyfer yr ACLl mewn perthynas â chynlluniau Risg Datblygu.  Byddem yn disgwyl i chi asesu safleoedd posibl sy'n cael eu hystyried ar gyfer datblygu yn y dyfodol yn erbyn y data hwn er mwyn cadarnhau a oes unrhyw gyfyngiadau o ran etifeddiaeth mwyngloddio glo yn bresennol.  Fodd bynnag, oherwydd y nifer fach o safleoedd y mae'r ymholiad cyfredol hwn yn ymwneud â hwy, rwyf wedi cynnwys sylwadau ar y tri safle a nodwyd yn eich e-bost isod.

 

Cyf safle -  525                  

Enw - Troopers Inn                           

Ardal Risg Uchel ar gyfer Datblygu - Nac ydy               

Ardal Risg Isel ar gyfer Datblyg  - Ydy

 

Cyf safle -  523                  

Enw - Cas-mael                           

Ardal Risg Uchel ar gyfer Datblygu - Nac ydy               

Ardal Risg Isel ar gyfer Datblyg  - Nac ydy

 

Cyf safle -  524                 

Enw - Jeffreyston                          

Ardal Risg Uchel ar gyfer Datblygu - ydy*               

Ardal Risg Isel ar gyfer Datblyg  - Nac ydy

*Ar gyfer Jeffreyston, mynediad pwll glo a lefelydd glo heb eu cofnodi ar ddyfnder bas.

Lle mae mynedfeydd i byllau glo’n bresennol ar safle, gallai hyn effeithio ar swm y datblygiadau y gellir eu derbyn.  Byddem yn disgwyl i’r fynedfa i’r pwll glo gael ei chanfod a bod digon o wahaniad rhwng y nodwedd hon, ei pharth dylanwad ac unrhyw adeiladau a gynigir. 

Mae'r Awdurdod Glo o'r farn y dylid osgoi adeiladu uwchben neu yn agos at, fynedfeydd i byllau glo lle bynnag y bo modd, hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu capio, yn unol â'n polisi mabwysiedig (Yn agor mewn tab newydd):

 

Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ddefnyddiol ond cysylltwch â mi ar fyrder os hoffech drafod hyn ymhellach.

 

523, 524 a 525: Cas-mael, Jeffreyston a Troopers Inn yn y drefn honno       

ID Rhanddeiliad: 1543 a 2603

Sylwebaeth gyffredinol a safle-benodol

 

Cyfeirnod Safle 523, Tir fferm yn Llys y Dryw, Cas-mael:

Cyflenwad dŵr: Dim problemau cyflenwi.  Mae prif bibell ddŵr yn croesi'r safle a byddai angen mesurau diogelu ar ffurf lled hawddfraint neu ddargyfeirio’r bibell, a allai effeithio ar y dwysedd tai y gellir ei gyflawni ar y safle.

Carthffosiaeth: Dim problemau capasiti

Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (WwTW): Capasiti cyfyngedig yn y Gwaith Trin Dŵr Gwastraff 

Cyfeirnod Safle 524, Tir sy'n wynebu'r B4586, Jeffreyston:

Cyflenwad dŵr: Dim problemau cyflenwi.  Mae prif bibell ddŵr yn croesi'r safle a byddai angen mesurau diogelu ar ffurf lled hawddfraint neu ddargyfeirio'r bibell, a allai effeithio ar y dwysedd tai y gellir ei gyflawni ar y safle.

Carthffosiaeth: Dim carthffosiaeth gyhoeddus

Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (WwTW): Dim carthffosiaeth gyhoeddus

Cyf safle 525, Safle SM 098960, Troopers Inn:

Cyflenwad dŵr: Materion pwysedd yn yr anheddiad

Carthffosiaeth: Dim carthffosiaeth gyhoeddus

Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (WwTW): Dim carthffosiaeth gyhoeddus

 

523, 524 a 525: Cas-mael, Jeffreyston a Troopers Inn yn y drefn honno             

ID Rhanddeiliad: 4284

Sylwebaeth safle-benodol

Gweler isod sylwadau mewn perthynas â halogi tir ar y 3 safle ymgeisiol:

 

523 – Cae. Dim cofnodion o ddefnydd tir a allai fod yn halogedig ar y safle nac ar ei bwys. Nid oes unrhyw sylwadau pellach ar hwn.

524 – Mae hen Lofa Jeffreyston yn ffinio â'r safle i'r gorllewin. Mae gan y lofa hon gyfres o domenni, siafftiau ac ati. Pwll glo wedi'i farcio'n union i'r gorllewin. Byddai angen ymchwilio ymhellach i ganfod a fyddai unrhyw effaith ar y tir arfaethedig cyn datblygu. Argymhellir ymgynghori â'r Awdurdod Glo. Byddai angen o leiaf astudiaeth ddesg i asesu'r risg a achosir. Yna efallai y bydd angen ymchwiliadau'r safle.

525 - Tir fferm yn bennaf, dim cofnodion o ddefnydd tir a allai fod yn halogedig ar y safle nac ar ei bwys.  Mae rhai adeiladau fferm yn y De Ddwyrain - byddai'n dibynnu ar yr hyn a fyddai’n cael ei gynnig yn yr ardal hon ond efallai y bydd angen ymchwilio rywfaint i’r tir gan y gallai fod halogion posibl yn bresennol o ganlyniad i ollyngiadau neu arllwysiadau cemegol damweiniol.

Rhowch wybod os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw un o'r uchod.

 

523, 524 a 525: Cas-mael, Jeffreyston a Troopers Inn yn y drefn honno             

ID Rhanddeiliad: 34481

Sylwebaeth gyffredinol a safle-benodol

Ymgynghoriad ynghylch Adendwm wrth y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Adolygiad Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro CDLl 2

Diolch am ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales (CNC) ar yr uchod, a ddaeth i law ar 19 Ionawr 2022.

Rydym yn croesawu'r cyfle i roi sylwadau ar yr ychwanegiadau at eich Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

I grynhoi: Mae gennym bryderon ynghylch y dyraniadau lle nad oes seilwaith carthffosiaeth gyhoeddus yn bodoli ac mae angen asesiad pellach ar gyfer y safleoedd mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir.

Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i'n cynnwys ym mhroses baratoi'r cynllun llawn.  Sylwch fod ein sylwadau’n rhai nad ydynt yn rhagfarnu unrhyw sylwadau y gallem fod am eu gwneud pan ymgynghorir â ni ar unrhyw ymgyngoriadau dilynol fel rhan o broses y CDLl neu unrhyw sylwadau yr hoffem eu gwneud ar geisiadau cynllunio ffurfiol a gyflwynir i ddatblygu unrhyw dir a enwir yn y gofrestr.  Ar adeg unrhyw ymgynghoriad arall, efallai y bydd gwybodaeth newydd ar gael y bydd angen i ni ei hystyried wrth roi ein cyngor ffurfiol.

Safleoedd ymgeisiol ychwanegol

Ecoleg – sy'n berthnasol i'r tri safle:

Sylwer nad yw'r safleoedd hyn wedi cael eu harchwilio, ni ellir ond seilio arsylwadau ar hyn o bryd ar gofnodion sy’n bodoli eisoes, ystyriaeth i gynefin ar safleoedd a chysylltiadau posibl â'r dirwedd ehangach. 

Felly, rydym yn cynghori y dylid asesu'r safleoedd yn gynhwysfawr o safbwynt eu potensial i gefnogi rhywogaethau a warchodir, gydag arolygon fel y bo'n briodol i ddarparu asesiad llawn o effeithiau tebygol y cynnig ar rywogaethau o'r fath.  Dylai arolygon gael eu cynnal gan ecolegydd cymwys, profiadol a, lle y bo angen, trwyddedig, ac yn unol â chanllawiau cyhoeddedig lle mae’r rhain yn bodoli, ac arfer gorau.

Sylwch y bydd angen i ymgeiswyr geisio osgoi effeithiau lle mae'r rhywogaethau hyn yn bresennol.  Pan nodir effeithiau, bydd angen cynnwys cynigion cadwraeth gyda'r cais a gyflwynir ganddynt.  Gan ddibynnu ar yr effeithiau, gallai hyn olygu ei bod yn ofynnol darparu coridorau ecolegol cadarn neu ddarparu cynefinoedd.  Bydd angen ystyried y ddarpariaeth hon ochr yn ochr ag amcanion y datblygiad a bydd angen gwneud lle ar gyfer hynny.

Rydym hefyd yn cynghori bod y canlynol yn berthnasol i bob safle:

Bydd angen i unrhyw goed neu strwythurau â photensial ar gyfer clwydo gan ystlumod sy’n mynd i gael eu colli neu y bydd datblygu’n effeithio arnynt gael eu hasesu, a lle y bo hynny'n briodol, bydd angen iddynt fod yn destun arolygon ymchwilio a gweithgarwch pellach sy'n cydymffurfio â chanllawiau arfer gorau.

Fel isafswm, rhaid cadw llystyfiant terfyn fel gwrychoedd a choedlinau a sicrhau nad yw’r datblygiad yn eu goleuo.

Pan fo'r safle'n ffinio â chwrs dŵr, coetir, coridor gwyrdd a allai fod yn bwysig a / neu lle mae nodwedd cynefin sylweddol ar gyfer rhywogaethau a warchodir wedi'i nodi, rhaid i’r datblygiad gael ei osod yn ôl oddi wrth y nodwedd (cael ei glustogi) i sicrhau bod y nodwedd a'i chysylltiadau yn cael eu cadw a'u diogelu rhag diraddio a gollyngiadau golau.

Draenio dŵr budr:

Mae safleoedd 524 a 525 y tu allan i ddalgylch system garthffosiaeth gyhoeddus.  Rydym yn eich cyfeirio at Gylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018 ar ddefnyddio carthffosiaeth breifat mewn datblygiad newydd, yn benodol paragraffau 2.3-2.5 sy'n pwysleisio bod yn rhaid mai'r rhagdybiaeth gyntaf yw darparu system i ddraenio dŵr budr trwy ei ollwng i garthffos gyhoeddus.  Dim ond lle gellir dangos, ar ôl ystyried y gost a/neu ymarferoldeb, wrth fodd yr awdurdod cynllunio lleol nad yw'n ddichonadwy cysylltu â charthffos gyhoeddus, y dylai datrysiadau ar gyfer gwaredu carthion budr gael eu hystyried. 

Os nad yw cysylltiad â'r brif garthffos yn ddichonadwy, bydd angen dangos na fyddai'r cynnig yn peri risg annerbyniol i'r amgylchedd dŵr. 

Mae Cylchlythyr LlC 008/2018 yn cynghori y dylid rhoi ystyriaeth lawn a manwl i'r meini prawf amgylcheddol a restrir o dan baragraff 2.6 o'r Cylchlythyr, i gyfiawnhau'r defnydd o garthffosiaeth breifat.

Hefyd, os nad yw cysylltiad â'r brif garthffos yn ddichonadwy, bydd angen iddynt wneud cais am drwydded amgylcheddol neu gofrestru eithriad gyda CNC ac efallai na roddir awdurdodiad.

Ar gyfer dyraniadau gwledig sydd y tu allan i ddalgylch y system garthffosiaeth gyhoeddus, byddem yn cynghori bod eich Awdurdod yn ystyried y dyraniad yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio un system breifat gan y gall amlhau gweithfeydd preifat achosi problemau amgylcheddol.  Mae hwn yn faes y mae angen rhoi cyfrif amdano yn y datganiad ysgrifenedig o ystyried deinameg y sir.

Safle 523 Tir Fferm yn Llys y Dryw, Cas-mael:

Ecoleg: Mae angen asesu'r safle hwn, oherwydd presenoldeb cofnodion yn yr ardal, o safbwynt ei botensial i gefnogi dyfrgwn, ystlumod a llygod y dŵr.  Dylid ymgynghori ag ecolegydd yr ACLl i gael gwybod a ddylid cynnal arolygon / pa lefel o arolygon y dylid eu cynnal.

Safleoedd gwarchodedig: Rydym yn nodi bod safle'r cais o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Cleddau.  Fel y gwyddoch, ar 21 Ionawr 2021, gwnaethom gyhoeddi pecyn tystiolaeth yn amlinellu lefelau ffosfforws ar gyfer pob ACA afon ledled Cymru.  Fel rhan o'r pecyn hwn, gwnaethom gyhoeddi Datganiad o’r Sefyllfa Gynllunio, lle gwnaethom gynghori y gallai unrhyw ddatblygiad arfaethedig a allai gynyddu swm y ffosffad (neu ffosfforws) o fewn dalgylch ACA afon arwain at effeithiau niweidiol i'r ACA.  Felly, dylid sgrinio cynigion o'r fath trwy Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA), i benderfynu a ydynt yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr ACA.  Rydym hefyd wedi cyhoeddi Cyngor Cynllunio (Mai 2021) sy'n rhoi cyngor penodol mewn perthynas â threfniadau draenio dŵr budr ar gyfer datblygiadau newydd. 

Rydym yn eich cynghori i ofyn am ragor o wybodaeth fel a nodir yn yr adran o’r cyngor hwnnw sy’n dwyn y teitl 'Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n cynnwys cysylltu â gwaith trin dŵr gwastraff cyhoeddus'. 

Cyn belled â bod y cyngor hwn yn cael ei ddilyn a’ch bod yn gallu dod i'r casgliad nad yw'r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ACA, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.  Fodd bynnag, pe baech yn dod i'r casgliad bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ACA, ymgynghorwch â ni ynghylch eich Asesiad Priodol o dan Reoliad 63 yn Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd).

Safle 524 Tir o Flaen B4586 Jeffreyston SN0869306409:

Ecoleg: Mae angen asesu'r safle hwn, oherwydd presenoldeb cofnodion yn yr ardal leol a'r potensial i gynefin addas ddigwydd ar y safle, o safbwynt ei botensial i gefnogi pathewod cyffredin, ystlumod a llygod y dŵr.  Dylid ymgynghori ag ecolegydd yr ACLl i gael gwybod a ddylid cynnal arolygon / pa lefel o arolygon y dylid eu cynnal.  Mae angen ystyried a oes ar y cwrs dŵr wrth ymyl y safle angen clustog sydd heb ddatblygiad nac aflonyddwch. 

Draenio dŵr budr: Byddai gofyn cynnal asesiad o ddraenio dŵr budr yn unol â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018. 

Atal llygredd: Oherwydd agosrwydd y cwrs dŵr, dylai unrhyw gais gael ei ategu gan Gynllun Rheoli'r Amgylchedd Adeiladu sy'n manylu ar y mesurau atal llygredd sydd i'w rhoi ar waith i ddiogelu'r amgylchedd yn ystod gwaith adeiladu. 

Safle 525 Troopers Inn, Sardis, Aberdaugleddau:

Ecoleg: Mae angen asesu'r safle hwn, oherwydd presenoldeb cofnodion yn yr ardal leol a'r potensial i gynefin addas ddigwydd ar y safle, o safbwynt ei botensial i gefnogi ystlumod.  Dylid ymgynghori ag ecolegydd yr ACLl i gael gwybod a ddylid cynnal arolygon / pa lefel o arolygon y dylid eu cynnal. 

Draenio dŵr budr: Byddai gofyn cynnal asesiad o ddraenio dŵr budr yn unol â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018.

Yn olaf, rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda chi ar eich CDLl diwygiedig a hyderwn fod y sylwadau hyn o gymorth ac yn glir.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â ni ar fyrder. 

Materion eraill: Nid yw ein sylwadau uchod ond yn ymwneud yn benodol â materion a gynhwysir ar ein rhestr wirio, Gwasanaeth Ymgynghorol Cynllunio Datblygu: Pynciau Ymgynghori (Medi 2028), sydd wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan.  Nid ydym wedi ystyried effeithiau posibl ar faterion eraill ac nid ydym yn diystyru'r potensial i'r datblygiad arfaethedig effeithio ar fuddiannau eraill, gan gynnwys buddiannau amgylcheddol o bwysigrwydd lleol.

 

523: Cas-mael                   

ID Rhanddeiliad: 1499                     

Gwrthwynebu

Mae'r Cyngor Cymuned yn pryderu pe bai datblygiad ar y raddfa hon yn cael ei gynnwys yn y cynllun datblygu nesaf, y byddai'n cael effaith niweidiol ar natur y pentref gwledig hwn sydd â chyfleusterau cyfyngedig i gefnogi tai ychwanegol. Mae'r ffyrdd mynediad i'r lleoliad hwn yn cynnwys ffyrdd 'B' ac nid ydynt yn addas ar gyfer faint o draffig y byddai safle tai o'r maint hwn yn ei greu. Mae cymuned Cas-mael yn gymuned Gymraeg yn bennaf sy’n rhywbeth y mae angen ei warchod neu fel arall gallai'r Gymraeg ddiflannu a bydd cymeriad y pentref hwn yn cael ei golli. Mae dau safle yn y cynllun presennol nad ydynt wedi'u datblygu sy'n dynodi bod y galw am dai newydd yn yr ardal hon yn gyfyngedig. Mae'r Cyngor Cymuned yn gwerthfawrogi pwysigrwydd tai fforddiadwy i gadw teuluoedd pobl leol yn yr ardal; fodd bynnag, pe bai’r safle hwn yn cael ei gynnwys, byddai angen ei leihau'n sylweddol o ran maint a rhoi ystyriaeth i atal y tai rhag cael eu prynu gan bobl ddŵad.#

 

523: Cas-mael                   

ID Rhanddeiliad: 4285                     

Gwrthwynebu

Safle’r CDLl, tir fferm yn Llys y Dryw

At y sawl a fynno wybod:

Rwyf newydd ddarllen am hyn yn y cylchlythyr "Focus”.

Byddai datblygu tai ar y cae hwn yn cael effaith anfesuradwy ar ein hansawdd bywyd. Y prif atyniad wrth brynu a symud i'n cyfeiriad presennol, flwyddyn yn unig yn ôl, oedd ehangder cefn gwlad agored yn y cyfeiriad hwn.

Byddai unrhyw ddatblygiad ar y cae hwn yn cael effaith ddifrifol ar amwynder preswyl ein heiddo ni ac eiddo ein cymdogion. Byddai'n anochel amlwg ac felly'n lleihau amodau byw ein cartref yn llwyr, o'r union reswm y gwnaethom ddewis byw yma.

Enw ein tŷ ni yw "Golwg y Waun". Pe baem wedi cael yr awgrym lleiaf bod datblygiad ar y tir hwn yn bosibilrwydd, nid oes unrhyw ffordd y byddem wedi symud yma.

Felly, mae'n rhaid i mi wrthwynebu, yn y modd cryfaf posibl.

 

524 (gan gyfeirio hefyd at 375): Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4286              

Gwrthwynebu

Hoffwn gofrestru fy ngwrthwynebiad llwyr i'r safle a grybwyllir uchod.

Yn ystod y pedair blynedd ers i mi symud yn ôl i Jeffreyston, Sir Benfro, rwyf wedi bod wrthi’n frwd yn gwylio a chofnodi'r cynnydd mewn Bwncathod, Barcutiaid Cochion, Cudyllod Gleision a Thylluanod sy’n hela yn yr ardal hon! Heb sôn am yr holl adar mudol yn ogystal â'n rhywogaethau adar brodorol AC ystlumod! Mae'r berth sy'n ffinio â'r safle arfaethedig yn hanfodol i’n hadar sy'n nythu fridio ynddi. Ar ben hynny, rwy'n credu, oherwydd natur gorsiog y tir, y byddai posibilrwydd o darfu ar Fadfallod a warchodir ac sydd o dan fygythiad (rwy'n dweud hyn oherwydd bod gen i lawer yn y pwll yn fy ngardd) a rhywogaethau bywyd gwyllt eraill fel llygod dŵr sy'n byw yn yr ardal hon ac y gallai’r rhain gael eu colli, pan wyf wedi cael ar ddeall mai 'Cynllun 25 Mlynedd' y llywodraeth yw diogelu cynefinoedd o'r fath a chreu mwy mewn gwirionedd. Felly byddai unrhyw ganiatâd datblygu a roddir, yn weithred ddifrifol o ragrith ac esgeulustod, a fyddai'n aflonyddu ar ein bywyd gwyllt 'gwarchodedig' ac yn arwain at ei golli. Nid yw datblygiad arfaethedig ar y tir hwn yn cyd-fynd â chyd-destun arddulliol na graddfa'r ardal leol, a byddai mwy o effaith ar ddiogelwch priffyrdd, (y bu amheuaeth yn ei gylch yn y rhan hon o'r pentref ers blynyddoedd lawer) gan bod y B4586 yn cael ei defnyddio fel 'llwybr osgoi traffig' i Hwlffordd. Yn ogystal, mae'n debyg bod mwy nag ychydig o siafftiau mwyngloddio i'w hystyried gan bod hen siafft gloch ar y gyffordd i Jeffreyston, Caeriw a Hwlffordd.

Yn wir, mae'r cynefin bywyd gwyllt bach ond hynod bwysig hwn, y dyffryn a'r bryniau y tu hwnt, i lawer ohonom, yn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac yn cael ei fwynhau gan drigolion Pentref Jeffreyston, ymwelwyr a phlant yr ysgol leol a dylai aros felly ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o fodau dynol a mamaliaid. Mae llawer o sôn yn fyd-eang am achub ein Planed rhag yr effaith ddinistriol yr ydym ni fel bodau dynol wedi ei achosi ac yn DAL i’w achosi. Fy ngobaith i a llawer o bobl eraill yn y pentref hwn, yw bod y swyddogion cynllunio y rhoddir pŵer iddynt osgoi dinistr ac effeithiau pellach, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i’r gornel fach hon o'r blaned yn Sir Benfro ac yn rhoi stop amhenodol ar y datblygiad arfaethedig hwn. Byddai'n drychineb ystadegol arall eto na ellid BYTH mo’i wrthdroi!

Byddwn yn mawr werthfawrogi cydnabyddiaeth i'r llythyr hwn a'm gwrthwynebiadau a hoffwn ofyn am gael gwybod am unrhyw gyfarfodydd y gallaf fod yn bresennol ynddynt gyda phreswylwyr eraill. Byddaf wrth gwrs yn rhannu fy meddyliau ar y Cyfryngau Cymdeithasol ac yn anfon copi o'r llythyr hwn at Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cofnodion.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4286                     

Gwrthwynebu

Darllenais bostiad gan (enw wedi ei olygu) heddiw: 'Trysorwch y byd naturiol oherwydd rydych chi’n rhan ohono'.

Rwyf fi, fel miliynau o bobl eraill, yn credu bod gennym rwymedigaeth foesol tuag at y blaned hon a chenedlaethau'r dyfodol, i feithrin ein system ecolegol, nid ei dinistrio.  Unwaith y bydd wedi mynd, bydd wedi mynd am byth!  Rydym yn fwy poenus o ymwybodol o'r ffaith hon heddiw nag erioed.  Yn syml, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r ddaear, ni waeth pa mor fach yw ardal – a hyd yn oed yn Jeffreyston!

Sir benfro... Jeffreyston yn yr achos hwn yw ein rhan ni o'r blaned ac mae angen diogelu’r lle hwn rhag adeiladu anfoesegol a fydd yn bygwth ac yn dinistrio'r tir sy'n cael ei gynnig i'w ddatblygu.  Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi cael ei roi ar gyfer 18 o dai o fewn ffiniau'r pentref.  Does bosibl bod angen mwy arnom?!

Mae'r berth hynafol o flaen y tir yn gartref i nifer fregus o adar sy’n nythu brodorol.  Mae gennym nifer ddi-ri o Ystlumod Hirglust a Chorystlumod.  Fe wnes i achub Ystlum Hirglust o bwll fy ngardd haf diwethaf.  Yma yn Jeffreyston, rydym yn enwog am ein poblogaeth ddraenogod.  Er nad yw'n fawr, maent yn cynyddu o ran niferoedd ac mae'r ffaith yn cael ei chadarnhau gan Pembrokeshire Hogspital yn Hwlffordd sydd wedi nyrsio dwsinau o famaliaid sâl yn ôl i iechyd a'u rhyddhau (nhw) yn ôl i'r pentref. 

Mae amheuaeth ynghylch diogelwch cloddio’r tir, gan bod (enw a chyfeiriad yr eiddo wedi’u tynnu allan) wedi'i adeiladu ar siafft glofa.  Wrth godi estyniad ar yr eiddo hwnnw roedd angen gwaith helaeth i baratoi’r tir er mwyn sicrhau na fyddai'r eiddo’n dymchwel, ond roedd hyn o fewn eu gardd eu hunain ac ni wnaeth ymyrryd ag ecoleg y pentref.  Mae yna hen siafft gloch ar gyffordd T Creseli a'r B.4586 ac mae'r mwyngloddiau’n fforchio mewn sawl cyfeiriad, gan gynnwys y safle arfaethedig.  Hefyd, mae'r brif bibell ddŵr o Ddinbych-y-pysgod wedi’i gosod y tu mewn i'r gwrych yn gyfochrog â'r B.4586.

Mae'r tir ei hun yn wlypdir perffaith ar gyfer nadroedd glaswellt, nadroedd defaid, madfallod, llygod y dŵr a brogaod.  Mae'n ffynhonnell fwyd gyson i lawer o adar ysglyfaethus.  Ers symud yn ôl i Sir Benfro ac yn amlwg i Jeffreyston, mae wedi dod yn hobi i mi i wylio Bwncathod, Cudyllod Gleision, Tylluanod Gwynion, Crehyrod a’r Barcutiaid Cochion sy’n tyfu’n araf mewn nifer ac sy'n defnyddio'r ardal hon i hela.  Hefyd, mae yna nifer enfawr o Gwylanod y Penwaig, Brain, Cigfrain a Phiod sy'n porthi ar y ddaear ei hun a hyd yn oed ddoe, gwelais bâr o Grehyrod Llwydion yn hela am infertebratau yn y cae.  Rwy'n credu bod pob un o'r anifeiliaid hyn yn rhywogaethau a warchodir ac y byddent mewn perygl enfawr pe bai'r safle'n cael ei ddatblygu. 

Mae rhan isaf y tir yn wlyb iawn gyda nant naturiol.  Gan nad oes prif system ddraenio yn Jeffreyston, byddai perygl sylweddol bod elifiant yn dod drwodd o'r anheddau newydd.  Byddai hyn yn achosi difrod trychinebus i'r dŵr, y pysgod a'r ymlusgiaid. 

Mae'r seilwaith yn broblem arall.  Mae gennym eisoes broblem enfawr gyda cherddwyr a chontractwyr fferm sy'n credu bod ganddynt hawl i wibio i fyny ac i lawr y B.4586 yn eu tractorau a threlars yn cario 40 tunnell o silwair.  Mae hyn yn digwydd 5 neu 6 gwaith y flwyddyn, gan ddibynnu ar y cynhaeaf.  Mae hyn yn ychwanegol at ddefnyddio’r ffordd fel llwybr tarw i Hwlffordd, gan geir, lorïau cymalog enfawr a choetsis.  Mae trigolion y rhan hon o bentref Jeffreyston yn dioddef yn fawr, gan nad oes llwybr troed i gerddwyr, y mae llawer ohonynt yn blant.  Yn wir, (enw wedi ei olygu) (manylion personnol wedi’u golygu), yn mynd dan lach yr holl draffig uchod pan fydd hi'n hebrwng y plant sydd yn ei gofal i ac o'r ysgol bentref gan nad oes llwybr troed strwythuredig i gerdded arno’n ddiogel!  Mae fy nhŷ wedi'i adeiladu ar dro gwael iawn yn y ffordd y mae'n rhaid iddi ei ymgodymu ag ef. Gan feddwl am fywydau plant ac oedolion, cynigiais fod 1.5 metr o’m gardd yn cael ei chloddio a'i gwneud yn llwybr troed gyda rheiliau digonol er mwyn helpu gyda'r mater diogelwch hwn.  Ni fydd (enw wedi ei olygu) (manylion personnol wedi’u golygu) yn mentro ar y ffordd hon yn ei chadair olwyn, am ei bod yn ofni bod mewn gwrthdrawiad â cherbydau.  Dim ond ar y ffordd ei hun y gallaf wthio ei chadair olwyn, ac ar y ffordd y mae'r holl drigolion sy'n mynd â’u plant a'u cŵn am dro’n cerdded hefyd.  Gwrthodwyd fy nghynnig ac ers hynny rwyf wedi plannu planhigion ar y clawdd serth o'm gardd at y ffordd, i annog gwenyn a phryfed peillio eraill i ddod yno.  Nid yw'n syndod ei fod wedi dioddef difrod o ganlyniad i draffig yn teithio'n rhy gyflym ac yn gorfod mynd i fyny’r clawdd er mwyn osgoi damwain.  Mwy o dai = mwy o anhrefn traffig, yn anffodus gyda chanlyniadau angheuol posibl.  Gallai fy mhlanhigion wedi'u gwasgu yn ddigon rhwydd fod yn bobl.  Byddai cynnydd ym mhoblogaeth y pentref yn ein rhoi ni i gyd mewn perygl pellach!

Rwy'n deall hefyd bod ysgol y pentref yn llawn!  Yn syml, ni allant hwyluso mwy o ddisgyblion.  Rwy'n gobeithio y bydd y person(au) sydd â'r gallu i wneud hynny yn atal y cynnig hwn ar unwaith.  Nid yw datblygiad arfaethedig ar y tir hwn yn cyd-fynd â chyd-destun arddulliol na graddfa'r pentref.  Bydd adeiladu ar y tir hwn yn ysigo natur hyfryd y pentref hwn ac union ystyr y gair 'pentref'.  Does arnom ni ddim eisiau'r hyn sydd wedi digwydd i bentrefi bach fel Hook a Llangwm, sydd bellach mor ‘wasgaredig’ fel nad oes dyfnder cymuned gwirioneddol ar ôl.  Fy ngobaith yw y bydd yr adran gynllunio yn diogelu’r ardal hon o harddwch naturiol eithriadol ac ecoleg yr hafan bywyd gwyllt hon. 

I grynhoi fy rhesymau dros wrthwynebu'r datblygiad arfaethedig hwn, rwy'n siŵr ei bod yn amlwg i chi i gyd bod risg ddifrifol i ecoleg fregus y darn hwn o dir, i'r gymuned a seilwaith y pentref - fel na all ymdopi.

 

524 (gan gyfeirio hefyd at 375): Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4277 ar ran ID Rhanddeiliad: 34376                      

Cefnogi (524) a Gwrthwynebu (375)

Ar ran ID: 34376 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Gwrthwynebydd'), yn flaenorol mae ID: 4277 wedi paratoi a chyflwyno:-

Cais Safle Ymgeisiol mewn perthynas â'r ardal uchod o dir

Gwrthwynebiad i beidio â chynnwys yr un darn o dir hwnnw o fewn terfynau'r CDLl ar gyfer Jeffreyston

Gwrthwynebiad i gynnwys y safle a ddyrannwyd HSG/047/00018 – 'I’r Gogledd o Sunnyside' o fewn y CDLl Adneuo.

 

Cyflwynwyd yr holl sylwadau hwyr hyn mewn perthynas â’r Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol / CDLl Newydd Sir Benfro 2017-2033 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'CDLl2').

Caniatawyd iddynt fel rhan o 'gyfle pellach wedi’i dargedu’ ar gyfer ceisiadau Safle Ymgeisiol a gynigiwyd yn hwyr gan yr ACLl i oresgyn y ffaith bod y Gwrthwynebydd ac eraill wedi'u heithrio o'r broses Safleoedd Ymgeisiol a'r cyfnod gwrthwynebu ffurfiol ar gyfer Drafft Adneuo CDLl2.

Cydnabyddir bod gan y Gwrthwynebydd, yn 2017, ddisgwyliad dilys y byddai’n cael gwybod am ymgyngoriadau ar y CDLl yn y dyfodol ac y byddai felly wedi gallu cymryd rhan ym mhroses y CDLl ar y camau ffurfiannol pwysig.

Fodd bynnag, oherwydd 'gwall gweinyddol annisgwyl yn 2017' (llythyr yr ACLl at y Gwrthwynebydd, dyddiedig 20 Gorffennaf 2021), gwrthodwyd cyfle i'r Gwrthwynebydd gymryd rhan.

Derbynnir bod cyfranogiad ac ymgynghoriad cyhoeddus yn ganolog i’r broses gynllunio statudol.  Yn wir, mae gofyniad cyfreithiol ar gyfer ymgynghori i’w gael mewn nifer o ddarpariaethau statudol, ar draws y gyfundrefn gynllunio gyfan, gan gynnwys cynhyrchu cynlluniau datblygu.

Mae'r Gwrthwynebydd yn teimlo'n gryf y bu annhegwch gweithdrefnol sy'n achosi niwed sylweddol i’w sefyllfa wrth geisio hyrwyddo potensial datblygu ei dir yn Jeffreyston.

Mae'r cysyniad o gyfiawnder naturiol yn cynnwys rhai egwyddorion cyfreithiol sydd, gyda'i gilydd, yn gyfystyr â 'thegwch gweithdrefnol' wrth wneud penderfyniadau gweinyddol.  Mae'n cyd-fynd yn agos â'r syniad o gyfranogiad y cyhoedd, elfen allweddol o system Cynllunio Gwlad a Thref y DU.

Dylai'r ACLl fod wedi cynnal trafodion y CDLl fel bod pob cyfranogwr yn y cam cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol wedi cael cyfle rhesymol i nodi tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ar y materion perthnasol sy'n effeithio ar eu safleoedd hwy neu safleoedd trydydd parti eraill yn y priod anheddiad.  Roedd angen i bob Safle Ymgeisiol posibl fod wedi cael ei nodi ar y dechrau neu fod wedi dod i'r amlwg cyn penderfyniad ffurfiol a chyhoeddi CDLl Drafft.

Mae'r broses o baratoi CDLl yn eithaf cywir yn darparu ffynhonnell bosibl o ddisgwyliadau cyfreithlon ynghylch hawliau gweithdrefnol.  Yn wir, yn nigwyddiad arloesol Uwchgynhadledd y Ddaear gan y Cenhedloedd Unedig yn Rio yn 1992, datganwyd fel a ganlyn: -

'... mae’n well ymdrin â materion amgylcheddol gyda chyfranogiad yr holl ddinasyddion dan sylw, ar y lefel berthnasol...’ ac '... y dylai pob unigolyn gael ... y cyfle i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu...' (Egwyddor 10)

Yn R v Brent London Borough Council, Ex p Gunning (1985) 84 LGR 168, cadarnhawyd fel a ganlyn:-

'... Mae'n sail gyffredin, pa un a yw ymgynghori â phartïon â buddiant a'r cyhoedd yn ofyniad cyfreithiol ai peidio, os eir at i wneud hynny, rhaid ei wneud yn briodol. I fod yn briodol, rhaid ymgynghori ar adeg pan fo cynigion yn dal i fod ar gam ffurfiannol ..." (Fy mhwyslais i)

Yn Majed v Camden (2010) EWCA Civ 1029, er enghraifft, dywedwyd fel a ganlyn:-

'... Daw disgwyliad dilys i rym pan fydd addewid neu arfer i wneud mwy na'r hyn sy'n ofynnol gan statud.  Mae'n ymddangos i mi bod y Datganiad yn enghraifft batrymol o addewid ac arfer o'r fath ... Byddai'n anodd dychmygu datganiad mwy diamwys ynghylch pwy fyddai, a phwy na fyddai, yn cael eu hysbysu ... achos amlwg o dorri disgwyliad dilys yr apelydd y byddai'n cael ei hysbysu ...'.

Os oes annhegwch gweithdrefnol sy'n achosi niwed sylweddol i barti wrth benderfynu ar gynnig cynllunio, gallai hynny fod yn sail dda i ddileu'r penderfyniad.  Mae’r rheolau gweithdrefnol ar gyfer paratoi CDLl wedi esblygu i roi cymorth i gyflawni'r amcan o degwch gweithdrefnol, gan osgoi peryglon a hyrwyddo effeithlonrwydd.  Serch hynny, nid yw canllawiau'r CDLl ynddynt eu hunain yn god cyflawn ar gyfer sicrhau tegwch gweithdrefnol ac mae cyfrifoldeb sylweddol yn gorwedd gyda'r ACLl, y mae dyletswydd arno i weithredu'n deg.

Yn wir, mae Llysoedd Uwch y DU wedi dileu penderfyniadau yn rheolaidd ar sail annhegwch gweithdrefnol.

Yn yr achos penodol hwn, bu achos amlwg o torri cyfiawnder naturiol, gan nad yw'r Gwrthwynebydd wedi cael digon o gyfle i hybu a hyrwyddo rhinweddau ei safle yng nghyd-destun y ‘chwarae teg’ a fodolai ar adeg cyflwyno'r Safleoedd Ymgeisiol.

Yn hytrach, mae'r Gwrthwynebydd wedi gorfod mynd i mewn i'r broses ar gam cymharol hwyr, a thrwy hynny gwrthodwyd cyfle llawn iddo i gyfranogi mewn modd cynhwysfawr.

Gwireb efallai yw datgan na ellir ond penderfynu ynghylch cryfder achos y Gwrthwynebydd ar ôl deall yr achos hwnnw, a thrwy ei brofi gan gyfeirio at gynigion yn yr achos gwrthwynebol.  Mewn geiriau eraill, dylai safle'r Gwrthwynebydd fod wedi cael ei asesu ar gamau ffurfiannol y CDLl, y gellir ei gymharu â cham 'cynfas wag'.  Yn hytrach, mae'r Gwrthwynebydd yn awr bron yn wynebu fait accompli yn yr ystyr bod yr holl benderfyniadau perthnasol eisoes wedi cael eu gwneud o ran nodi union aliniad y terfyn datblygu a'r dyraniadau safleoedd tai ar gyfer Jeffreyston. 

Mae'r cwestiwn o degwch yn cael ei godi gan LDRA Limited v SSCLG (2016) EWHC 950 (Admin), lle gwrthododd y penderfynydd (Arolygydd yn yr achos hwn) safleoedd amgen ar y sail nad oedd safleoedd wedi'u nodi'n briodol ac felly bod achos o dorri cyfiawnder naturiol wedi digwydd. 

Yn yr un modd, heb fod yn ymwybodol o safle'r Gwrthwynebydd yng ngham ‘cynfas gwag’ ffurfiannol y CDLl, nid oedd yn bosibl i'r ACLl arfer barn briodol a chadarn.  At hynny, ystyriwyd safle 'I’r Gogledd o Sunnyside' dim ond yng nghyd-destun y ffaith mai hwnnw oedd yr unig safle a gynigiwyd bryd hynny.  Byddai asesiad llawer mwy priodol wedi cynnwys dadansoddiad cymharol safonol o safle'r Gwrthwynebydd mewn perthynas â’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside'.  Mae'n debygol y byddai cymhariaeth o'r fath wedi cadarnhau bod rhinweddau safle'r Gwrthwynebydd yn fwy na rhinweddau’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside' gyda'r canlyniad y byddai safle'r Gwrthwynebydd wedi cael ei ddyrannu o fewn ffin terfynau’r anheddiad.  Mae'r Atodiad wrth yr ymateb hwn yn darparu cymhariaeth o'r fath ac yn dangos priodoleddau mwy cadarnhaol safle'r Gwrthwynebydd dros y tir 'I’r Gogledd o Sunnyside'.

Mae'n amlwg bod gan y Gwrthwynebydd yr opsiwn ar gyfer adolygiad barnwrol1 o unrhyw benderfyniad gan yr ACLl ar nifer o seiliau penodol, gan gynnwys bod yr ACLl wedi camarwain ei hun o ran y gyfraith, wedi arfer ei bŵer ar gam, ac ati.  Hefyd dadleuir yn rheolaidd mewn achosion o'r fath, nad yw'r ACLl wedi ymlynu’n briodol wrth egwyddorion cyfiawnder naturiol wrth wneud y penderfyniad, gan ganiatáu i'r penderfyniad hwnnw gael ei herio 2.  Yn yr un modd, pe bai disgwyliad dilys y byddai'r ACLl, yn ôl ei ddatganiadau neu ei ymddygiad ei hun, yn gweithredu mewn ffordd benodol ond ei fod wedi methu â gwneud hynny, gall fod her ddilys. 

(1 Mae Rhan 54 o'r Rheolau Gweithdrefn Sifil yn caniatáu i'r llys adolygu cyfreithlondeb deddfiad, penderfyniad, gweithred neu fethiant i weithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gyhoeddus).
(2 Amhriodoldeb Gweithdrefnol – (y cyfeirir ato hefyd fel torri cyfiawnder naturiol), lle, wrth wneud penderfyniad, anwybyddwyd rheolau sylfaenol cyfiawnder naturiol, neu lle bu methiant i weithredu â thegwch gweithdrefnol tuag at berson neu i ymlynu wrth reolau gweithdrefnol a osodwyd yn benodol gan offeryn deddfwriaethol).

I bob pwrpas, mae'r Gwrthwynebydd bellach yn wynebu elfen o 'ragderfyniad' - lle mae'r penderfynydd (ACLl) yn pennu rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau ei dir gyda 'meddwl caeëdig', ar ôl penderfynu eisoes ar y fframwaith cynllunio ar gyfer Jeffreyston.

Mae cyfranogiad effeithiol a theg y cyhoedd mewn prosesau penderfynu’n gysylltiedig â darparu 'cyfiawnder naturiol' neu degwch gweithdrefnol ac er bod eithrio'r Gwrthwynebydd o gamau cynnar proses y CDLl efallai’n anffodus, nid yw'r cynnig i’w wahodd i gyflwyno Safle Ymgeisiol a chyflwyno gwrthwynebiad yn hwyr yn sicrhau cyfranogiad cwbl gyfartal.

Mae'r CDLl yn cyflwyno'r fframwaith datblygu arfaethedig ar gyfer Jeffreyston.  Ceir rhagdybiaeth anochel y bu gan yr ACLl wybodaeth a dealltwriaeth lawn am dir y Gwrthwynebydd, pan ei bod yn amlwg nad yw hyn yn wir.  Mae hefyd yn awgrymu'n gamarweiniol nad oedd unrhyw ddewisiadau amgen posibl i ddyrannu’r safle 'I’r Gogledd o Sunnyside'.  Mewn gwirionedd felly, nid oedd gwerthusiad cymharol o rinweddau'r ddau safle.  Byddai hyd yn oed ymarferiad syml, yn null y tabl sydd ynghlwm (gweler yr Atodiad wrth yr ymateb hwn), wedi rhoi rhywfaint o gysur i'r Gwrthwynebydd bod ei safle wedi cael ei ystyried yn llawn mewn perthynas â’r safle 'I'r Gogledd o Sunnyside'. 

 

Mae'n amlwg y bydd cyfwng clir rhwng y Gwrthwynebydd a'r ACLl, a'r modd mwyaf pur a chyfiawn o fynd i'r afael â'r anghysondeb fyddai ailddechrau'r broses o baratoi’r CDLl, heb unrhyw farn a ffurfiwyd ymlaen llaw ynghylch addasrwydd safleoedd.  Fodd bynnag, byddai ymarfer o'r fath yn gostus a byddai'n ychwanegu cryn oedi at broses y CDLl ac mae'n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gefnogol i hynny.  Serch hynny, fel dewis arall, efallai y bydd yr ACLl yn dymuno ystyried ailedrych yn bwrpasol ar y fframwaith datblygu ar gyfer Jeffreyston yn unig, ar sail 'cynfas wag', a heb unrhyw farn ragdybiedig wrth symud ymlaen.  Croesewir eich sylwadau ar yr awgrym hwn.

O ran y Strategaeth a Ffefrir, nid oes gan y Gwrthwynebydd ryw lawer o sylw i'w wneud mewn perthynas â dyraniad gofodol datblygu.  Mae cyfeirio twf tuag at yr aneddiadau mwy, gyda 'dull datblygu rhaeadrol' tuag at yr aneddiadau llai, yn egwyddor hirsefydledig ar gyfer paratoi cynlluniau ar sail datblygu cynaliadwy.  Mae'r ddogfen Strategaeth a Ffefrir, yn ôl ei natur, yn ymdrin â'r egwyddorion datblygu mwy haniaethol, yn hytrach nag ystyriaethau safle-benodol, sy'n fwy perthnasol i safle'r Gwrthwynebydd.

Fodd bynnag, mae un gwendid mawr yn y Strategaeth a Ffefrir, sef ei bod wedi cael ei goddiweddyd gan ddigwyddiadau cenedlaethol sy'n debygol o fod wedi effeithio ar senarios twf yn y dyfodol.  Yn benodol, mae pandemig Covid wedi arwain at gynnydd pendant yn y lefelau mudo i Gymru.  Byddwch yn ymwybodol mai'r union lefel o fudo yw'r elfen anoddaf o newid poblogaeth i’w phennu’n gywir, gan gofio bod cyfraddau marwolaethau a genedigaethau yn cael eu cofnodi'n ffurfiol.  Mae gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn adroddiadau amrywiol ar y farchnad dai yn cadarnhau bod y galw am eiddo yng Nghymru wedi cynyddu’n fawr ers 2019.  Mae'r cyfyngiadau a osodwyd ar yr economi gan Covid hefyd wedi gwanhau gallu'r diwydiant adeiladu i ateb y galw hwn.  Hefyd, gall y pryderon diweddar am ollwng gormod o ffosffadau arwain at fwy o bwyslais ar gyfeirio twf i'r aneddiadau hynny y tu allan i'r coridorau afonydd a nodwyd, gan beryglu'r Strategaeth a Ffefrir.  Felly, mae'n eithaf realistig nodi na fydd y ffigyrau tai a argymhellir yn y CDLl, gan gynnwys y rhai ar gyfer Jeffreyston, yn bodloni lefelau disgwyliedig y galw ar gyfer cyfnod y cynllun.  Awgrymir yn ffurfiol felly y dylid ailystyried y Strategaeth a Ffefrir er mwyn pennu ffigyrau twf tai mwy cyfoes.

I grynhoi, felly, mae'n amlwg yr achoswyd niwed i’r Gwrthwynebydd o ran ceisio hyrwyddo potensial datblygu ei dir trwy beidio â bod yn rhan o gamau ffurfiannol cynnar y broses hon.  Mae colli'r cam 'cynfas wag' yn golygu bod y Gwrthwynebydd dan anfantais o ganlyniad i beidio â gallu cyflwyno ei achos.  Yn hytrach, bydd ei safle’n cael ei ystyried yn awr pan fydd yr ACLl eisoes wedi dod i gasgliad mewn perthynas â therfynau datblygu Jeffreyston.  Teimlir mai'r unig ffordd o fynd i'r afael â'r anghysondeb hwn yw cynnal ailwerthusiad llwyr o derfynau Jeffreyston, gyda phob safle posibl yn cael ei ystyried o'r newydd ac ar delerau cyfartal.

Er nad yw'r arfer hwn wedi'i gyfarwyddo'n ffurfiol gan y ddau 'gyflwynydd Safle Ymgeisiol ychwanegol' arall yng Nghas-mael (Cyfeirnod safle 523 – Tir fferm yn Llys y Dryw) a Trooper's Inn (Cyfeirnod safle 525 – SM 098960), er budd cyfiawnder naturiol, ystyrir bod yr un cyfle ar gyfer gwerthusiad newydd yn cael ei roi yn yr achosion hyn hefyd.

 

Rwy'n hyderus y bydd cynnwys y llythyr hwn yn cael ystyriaeth ddyladwy ac edrychaf ymlaen at eich ymateb. 

Atodiad A

Gwrthwynebiad i gynnwys safle a ddyrannwyd HSG/047/00018 – 'I’r Gogledd o Sunnyside', Jeffreyston (cyfeirnod safle 375), fel y’i cynigiwyd yn yr Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol / y CDLl Newydd (CDLl2) 2017-2033

Mae'r gwrthwynebiad hwn ar ffurf cymhariaeth rhwng nodweddion pwysig y Safle Ymgeisiol 'I’r Gogledd o Sunnyside' (cyfeirnod safle 375) a gyflwynwyd a nodweddion pwysig y Safle Ymgeisiol 'Ychwanegol' 'Ar bwys y B4586' (cyfeirnod safle 524) a gyflwynwyd

Y gallu i’w gyflawni:

I’r Gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):

Mae'r tir wedi bod yn cael ei gyflwyno i'w ddatblygu gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfluniadau am ryw 15 mlynedd; yn ystod y cyfnod hwnnw, ni fu unrhyw ddatblygu.

Fel tystiolaeth o fethiant y safle i sicrhau datblygiad, gweler y dystiolaeth hanesyddol ganlynol:

Dogfennau caniatâd cynllunio dyddiedig 2007;

Manylion gwerthu dyddiedig 2015, lle mae'r safle'n cael ei hyrwyddo fel un 'wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl drafft’; a hefyd

Y manylion gwerthu cyfredol yn ôl pob golwg, dyddiedig 2020, lle mae'r safle'n cael ei hyrwyddo fel 'Dyraniad Arfaethedig yn y CDLl2 sy’n 0.7ha ar gyfer isafswm o 14 uned'.

Trwy unrhyw fesur y gellir ei gyfiawnhau mae'r safle wedi methu â chyflawni unrhyw amcan o ran 'y gallu i’w gyflawni'.  Mae dynodiad parhaus y safle hwn fel safle ar gyfer tai yn Jeffreyston – yn wir, yr unig safle a ddynodwyd fel un ar gyfer tai yn Jeffreyston - bellach yn rhwystr i ddatblygiad naturiol y pentref gwasanaeth.

Ar bwys y B4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524):

Nid yw'r tir erioed wedi bod ar gael i'w ddatblygu o'r blaen.  Mae'r cynnig a gyflwynwyd ar gyfer Safle Ymgeisiol, sy’n drylwyr ac wedi’i gostio, yn dangos yn glir bod y perchnogion yn ymrwymedig i helpu Sir Benfro - ac yn enwedig Jeffreyston – i ddatblygu – a hynny’n gyflym.

Tai fforddiadwy:

I'r gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):       1*

(* Fel a nodwyd yn y manylion gwerthu sydd ar gael ar hyn o bryd)

Ar bwys y B.4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524): 4

Effaith ar gyllideb 'priffyrdd' y Cyngor:

I'r gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):

Mae'n cynyddu symudiad traffig o fewn y pentref yn sylweddol, gan greu rhwymedigaeth cynnal a chadw fythol a pharhaol.

Ar bwys y B.4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524):

Wrth ymyl prif ffordd drwodd; dim cynnydd mewn gwaith cynnal a chadw. 

Mynediad at y ffordd gyhoeddus:

I'r gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):

Lled y Ffordd Gerbydau – cyfyngedig. Aliniad llorweddol – gwael, lleiniau gwelededd heb gytundeb tirfeddiannwr trydydd parti – annerbyniol,

llwybrau troed / beicio wedi’u gwella – dim

Ar bwys y B.4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524):

Lled y Ffordd Gerbydau - – digyfyngiad, aliniad llorweddol – da, lleiniau gwelededd heb gytundeb tirfeddiannwr trydydd parti – da, llwybrau troed / beicio gwell – helaeth

Goblygiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy:

I'r gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):

Coed a phrysglwyni  aeddfed – colled sylweddol, sbesimenau coed sy'n bwysig yn weledol – colled sylweddol, colled / difrod i gynefin pwysig – oes, colled / difrod i rywogaethau a warchodir – oes, colli amwynder gweledol – sylweddol

Ar bwys y B.4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524):

Coed a phrysglwyni  aeddfed – dim, sbesimenau coed sy'n bwysig yn weledol – dim, colled / difrod i gynefin pwysig – nac oes, colled / difrod i rywogaethau a warchodir – nac oes, colli amwynder gweledol – y mymryn lleiaf.

Budd datblygu yn y dyfodol:

I'r gogledd o Sunnyside (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 375):

Dim. Mae datblygu’n ymestyn yn wasgarog i ffwrdd o'r pentref, heb ffiniau amddiffynadwy yn erbyn gwasgariad pellach yn y dyfodol yn ddyfnach i mewn i gefn gwlad.

Ar bwys y B.4586 (Cyfeirnod Safle Ymgeisiol 524):

Mae datblygu’n ‘talgrynnu’r’ pentref, sydd â thai presennol ar ddwy ochr – ar ei hyd a chyferbyn.

Mae'r berthynas rhwng cymuned Jeffreyston a'i hysgol yn anarferol, yn yr ystyr bod y pentref a'r ysgol yn ddigon pell ar wahân i Gyngor Sir Penfro, yn 2003, brynu tir i greu llwybr troed / beicio gan alluogi'r ddau endid i gael eu cysylltu'n ddiogel â'i gilydd. Mae'r cynnig hwn ar gyfer Safle Ymgeisiol yn ddatblygiad naturiol o'r fenter weledigaethol honno gan y Cyngor Sir.  Wrth i'r pentref barhau i dyfu, fel y mae'n rhaid iddo’i wneud ac y bydd yn ei wneud wrth gwrs, mae'n rhesymegol bod y pentref yn ehangu yn yr ardal a fydd yn integreiddio'r pentref a'r ysgol yn gynyddol. Byddai'r cynnig hwn ar gyfer Safle Ymgeisiol yn gyson â datblygiad y sir yn y dyfodol – mewn cynlluniau datblygu lleol olynol – tuag at integreiddio o'r fath. 

524 (gan gyfeirio hefyd at 375): Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 34376            

Cefnogi (524) a Gwrthwynebu (375)

Cynllun Datblygu Lleol: Jeffreyston, Enw'r safle: Tir sy’n wynebu’r B.4586, Cyfeirnod y safle: 524

Fi yw cynigydd y safle a enwir uchod.  Rwy'n deall bod (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau ar y safle hwn.  Fel cynigydd y safle, rwy'n rhestru isod y sylwadau yr wyf yn deall bod (enw wedi ei olygu) yn eu gwneud, ynghyd â'm sylwadau innau ar y sylwadau hynny.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau nad yw capasiti'r rhwydwaith priffyrdd yn ddigonol.

Fy sylw i yw nad yw'r (enw wedi ei olygu) yn nodi ym mha ffordd y mae'n ystyried nad yw capasiti'r briffordd yn ddigonol.  Rwy'n ymateb bod hon yn farn sydd heb ei diffinio, heb ddadl, ac yn oddrychol.

Deallaf y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau nad yw'r cysylltiadau troed â'r safle ac oddi yno yn ddigonol.

Fy sylw i yw bod y cynnig yn ymgorffori llwybr troed / beicio, sy'n rhedeg ar hyd holl ymyl y safle sy’n wynebu’r ffordd, gan gysylltu â'r rhwydwaith llwybrau troed / beicio presennol sy'n arwain at y pentref ac i'r ysgol (ac felly'n estyn y rhwydwaith hwnnw).  Mae'r cyswllt arfaethedig yn mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw syniad o 'ddigonolrwydd' a bydd yn gwella diogelwch ar droed ac ar feic yn yr ardal mewn modd mesuradwy.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau y bydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar y pentref.

Fy sylw i yw nad yw'r (enw wedi ei olygu) yn nodi beth fydd yr 'effaith niweidiol' ganfyddedig.  Dywedaf fod hon yn farn sydd heb ei diffinio, heb ddadl, ac yn oddrychol.  O ystyried y posibiliadau anobeithiol yn ôl pob golwg ar gyfer datblygu’r unig ddewis arall a gyflwynwyd – y safle arfaethedig yn 'Sunnyside' (cyfeirnod safle 375) – byddai'n ymddangos mai dymuniad y (enw wedi ei olygu) yw bod dim datblygiad; sydd, wrth gwrs, yn groes i 'Strategaeth a Ffefrir' CDLl Cyngor Sir Penfro.

Deallaf y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau y byddai'r cynnig yn newid natur y pentref.

Fy sylw i yw nad yw'r (enw wedi ei olygu) yn nodi beth fydd y 'newid natur' canfyddedig.  Dywedaf, unwaith eto, fod hon yn farn sydd heb ei diffinio, heb ddadl, ac yn oddrychol.  Trwy ei sylw – ac o ystyried y posibiliadau anobeithiol yn ôl pob golwg ar gyfer datblygu’r unig ddewis arall a gyflwynwyd – y safle arfaethedig yn 'Sunnyside' (cyfeirnod safle 375) – byddai'n ymddangos mai dymuniad y (enw wedi ei olygu) yw bod dim datblygiad; sydd, wrth gwrs, yn groes i 'Strategaeth a Ffefrir' CDLl Cyngor Sir Penfro.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau ar bryderon sy’n ymwneud â gweithgarwch mwyngloddio blaenorol. 

Fy sylw i yw bod holl ardal Jeffreyston, a’r tu hwnt, yn ardal lle bu gweithgarwch cloddio blaenorol.  Ymdrinnir â'r mater penodol hwn yn fy nghynnig ar gyfer y Safle Ymgeisiol ar dudalennau 28 a 29.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau ar ei bryder ynghylch gorddatblygu; bod safle tai eisoes wedi'i gynnwys yn y CDLl.

Fy sylw i yw bod yr amgylchiadau sy'n ymwneud â’m cynnig ar gyfer Safle Ymgeisiol – a gyflwynwyd o ganlyniad i gyfle a grëwyd yn ddiweddar i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol 'Ychwanegol'– yn peri pryder.  Rwyf wedi cael sicrwydd gan (enw a theitl y swydd wedi’u tynnu allan, gan nad yw'r swyddog a enwyd bellach yn gweithio i Gyngor Sir Penfro), na fydd y ffaith bod y safle y mae'r (enw wedi ei olygu) yn cyfeirio ato eisoes wedi'i gynnwys yn y Cynllun Adneuo yn cael unrhyw effaith ar ystyriaeth deg i’r Safle Ymgeisiol a gyflwynwyd gennyf fi.  Yn amlwg, ac wrth reswm, mae'r (enw wedi ei olygu) yn credu y dylai ac y bydd yn effeithio ar ystyriaeth deg i’r Safle Ymgeisiol a gyflwynwyd gennyf fi – gan ragfarnu’r cynnig a gyflwynwyd gennyf.

Nid wyf wedi cael unrhyw arwydd y bydd statws y safle tai sydd eisoes wedi'i gynnwys yn y CDLl, ni waeth pa un a gyflwynir unrhyw Safleoedd Ymgeisiol ychwanegol, yn cael ei adolygu.  Mae hyn ynddo'i hun yn annheg mewn perthynas â'r Safle Ymgeisiol ychwanegol a gyflwynwyd gennyf fi.

Dylai’r ffaith bod y safle tai sydd eisoes wedi'i gynnwys yn y CDLl ar gael i'w ddatblygu am flynyddoedd lawer cyn bodolaeth CDLl 1 a'i fod wedi parhau i fod ar gael i'w ddatblygu o dan CDLl 1 (cyfnod o ryw 15 mlynedd ar y cyfan hyd yn hyn), ond ei fod eto'n dal heb ei ddatblygu, leddfu pryder y (enw wedi ei olygu) ynghylch unrhyw orddatblygiad.

Rwy'n cyfeirio yma at sylwadau ar wahân a gyflwynwyd ar yr adeg hon gan fy asiantau, ID: 4277.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau bod ganddo bryderon ecolegol.

Fy sylw i yw nad yw'r (enw wedi ei olygu) yn nodi beth yw ei bryderon ecolegol.  Mae’r cynnig a gyflwynwyd gennyf ar gyfer y Safle Ymgeisiol yn nodi’r modd cynhwysfawr yr ymdrinnir â phryderon ecolegol – yn wir ac eto gan leddfu pryder ymddangosiadol y (enw wedi ei olygu), mae fy nghyflwyniad mewn gwirionedd yn cynnig nifer o welliannau ecolegol.

Rwy'n deall y bydd y (enw wedi ei olygu) yn gwneud sylwadau bod y safle wedi'i gyflwyno a'i wrthod o'r blaen.

Rwy'n tybio bod y sylw hwn yn cyfeirio at gynnig a gyflwynwyd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol presennol (CDLl 1).  Dywedaf fy mod wedi edrych ar hanes cyflwyno'r safle mewn perthynas â CDLl 1 ac wedi darganfod sut, mewn perthynas â’r cynllun hwnnw, y cynigiwyd y safle gan (enw wedi ei olygu) - yr un (enw wedi ei olygu) ag sydd bellach yn gwneud sylwadau i wrthwynebu’r safle.  Yn ddryslyd, byddai'n ymddangos ymhellach, ar ôl cynnig y safle, bod y (enw wedi ei olygu) wedi ei dynnu'n ôl yn ddiweddarach.  Pe bai'n berthnasol mewn unrhyw ffordd, yna dywedaf fod 'tynnu'n ôl' a 'gwrthod' yn ddau beth gwahanol.

Cyn cyflwyno'r Safle Ymgeisiol sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd (h.y. mewn perthynas â CDLl 2) nid yw perchnogion y safle erioed wedi cymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn y broses o gyflwyno’r safle fel Safle Ymgeisiol.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4287                     

Gwrthwynebu

Cynlluniau datblygu lleol eich cyfeirnod 524 tir ar bwys y B4586

Rwy'n ysgrifennu mewn cysylltiad â'r arfarniad datblygu tir y cyfeirir ato uchod.

Rwy'n gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad arfaethedig ar y darn o dir y cyfeirir ato am y rhesymau canlynol.

Mynediad.  Nid yw'r safle yn cynnig ei hun i ddatblygiad tai oherwydd y mynediad cyfyngedig o'r B4586. Mae problemau eisoes ar y rhan hon o’r B 4586 oherwydd traffig fferm ysbeidiol ond trwm a symudiadau cerbydau lleol sydd wedi’u canolbwyntio ar amseroedd penodol yn ystod y dydd ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith a chludo plant i ac o'r ysgol gynradd leol.

Hefyd, yn ystod misoedd yr haf gall traffig gwyliau fod yn helaeth ac achosi tagfeydd yn y lleoliad hwn a'r gefnwlad o'i gwmpas.

Priffyrdd.  Mae cyfyngiadau difrifol ar y B4586 i'r gogledd-ddwyrain (Broadmoor) ac i'r de-orllewin (Hwlffordd) oherwydd troadau S lluosog, mannau dall, ac am bod y ffordd yn culhau. Heb os, byddai gweithgarwch traffig ychwanegol yn cynyddu'r risg o ddamweiniau i gerddwyr a cherbydau. Rwy'n credu y byddai angen ailfodelu'r rhwydwaith ffyrdd lleol trwy osod goleuadau ychwanegol helaeth, lledu’r ffyrdd, a gosod draeniau stormydd i alluogi cerbydau i symud yn ddiogel pe bai ehangiad tai yn y lleoliad hwn.

Topograffeg a lefel trwythiad. Mae llinell y tir i'r de-orllewin o'r darn hwn o dir yn codi’n serth o'r cwrs dŵr ym mhen isaf y cae i fyny at y B4586 ar bwys pentref Jeffreyston.

Yn ystod y flwyddyn caei llifogydd cyson yn yr ardal is hon gan mai dim ond ychydig uwchben y lefel trwythiad y mae'r nant a gall ddod yn orlifdir. 

Mae'n anodd iawn tramwyo dros y tir hwn ar adegau penodol o'r flwyddyn ac mae'n anaddas ar gyfer datblygu tai heb fewnbwn helaeth o ran y seilwaith.

Carthffosiaeth a draenio cyffredinol.  Bydd angen cyfleusterau trin carthion a system draenio storm ddigonol ar unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn.  O ystyried y paragraffau blaenorol ar dudalen 1 mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn heb gost eithriadol i'r trethdalwr a'r amgylchedd.

Yr Amgylchedd. Dylid asesu unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn yn gyntaf ar gyfer agwedd fioamrywiaeth y fflora a'r ffawna lleol. Gallai unrhyw newid i'r lefel trwythiad neu beryglon adeiladu a phreswylio posibl gan gynnwys trin carthion neu anfon sylffadau a ddefnyddir yn y cartref i'r cwrs dŵr effeithio'n andwyol ar fflora, adar, mamaliaid, pryfed, reptiliaid a bioleg infertebrat yn lleol neu i lawr yr afon.

Pensaernïaeth.  Mae pentref Jeffreyston yn cynnwys byngalos a chytrefi 1 llawr yn bennaf, mae lleiafrif o unedau eiddo â 2 lawr yn y pentref, Mae'r bensaernïaeth yn un ac iddi ddyluniad cymysg a adeiladwyd dros 4 cenhedlaeth ac mae'n rhoi golwg ddeniadol iawn i bentref sy’n nodweddiadol o orllewin Cymru. 

Mae cynlluniau eisoes yng nghefn a chanol y pentref i godi 5 i 6 o anheddau na fyddant, oherwydd eu lleoliad, yn effeithio ar hanfod na golwg y pentref nac yn eu newid heblaw am gynyddu nifer y cerbyd sydd gan breswylwyr o 8-10 cerbyd yn ôl yr amcangyfrif.

Bydd adeiladu pensaernïaeth o’r math a geir mewn ystadau yn annerbyniol i'r trigolion sy'n byw yn y pentref hwn a gall arwain at niwsans rhwystrol os cymeradwyir cynlluniau i symud ymlaen gyda’r datblygiad hwn.

Mae'n anochel y bydd datblygiad tai arfaethedig yn newid cymeriad y pentref ar draul trigolion lleol. Nid oes angen mwy o drigolion ar y pentref na'r problemau cymdeithasol a allai gyrraedd gyda mewnlifiad o bobl sy’n perthyn i grwpiau oedran cymysg i mewn i'r ardal leol.

Amwynderau lleol. Mae'r cyfleusterau agosaf 3 milltir i ffwrdd yng Nghilgeti, nid oes unrhyw siopau lleol, sy'n golygu hyd yn oed mwy o symudiadau traffig ar gyfer anghenion beunyddiol trigolion. Nid oes gan yr ysgol gynradd leol y capasiti i gefnogi plant ychwanegol yn awr nac yn y dyfodol.  Mae mynediad ffordd at yr ysgol yn gyfyngedig - gweler sylwadau a wnaed yn gynharach yn fy nhestun.

Gwasanaethau. Trydan.  Dywedwyd wrthyf y gallai’r cyflenwad trydan i'r pentref ar y lefel uchaf bosibl.  Gallai capasiti ychwanegol olygu bod angen tarfu ar y seilwaith trydanol presennol, os na weithredir ar hyn, gallai achosi toriadau trydan ar adegau pan fo galw gormodol am drydan i gartrefi’r pentref.

Dŵr.  Cyfyngir eisoes ar faint o ddŵr sy’n dod i’r pentref gyda chyfeintiau a phwysedd is mewn tapiau. Byddai datblygu pellach yn rhoi mwy o alw ar y system cyflenwi dŵr ar draul argaeledd i bentrefwyr.

Telathrebu. Mae capasiti B.T. eisoes yn cael ei ddefnyddio’n llawn ar gyfer ffôn a rhyngrwyd yn y pentref.

Mae'r sylwadau yn y datganiad hwn o wrthwynebiad a wneir yma’n ddilys ac yn cynrychioli pryderon fy mhryderon difrifol i fy hun a rhai fy nghyd-bentrefwyr ynghylch y datblygiad tai arfaethedig yn y pentref.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4288                     

Gwrthwynebu

(Enw wedi ei olygu) yw fy enw i ac rwy'n byw gyda fy mhartner (enw wedi ei olygu) yn (enw eiddo wedi ei olygu) ar bwys y cynllun a awgrymir ar gyfer 8-12 annedd. Rwy'n llwyr werthfawrogi'r angen am gartrefi newydd ond gwyddom fod yn rhaid ystyried yn ofalus ble y bydd yr anheddau newydd hyn yn cael eu lleoli.

Symudon ni yma ddwy flynedd yn ôl am nifer o resymau gyda’r olygfa ar frig ein rhestr o ddymuniadau a bydd y datblygiad hwn heb os yn dinistrio ein golygfa ni.

Er fy mod yn cefnogi'r gwrthwynebiadau eraill sy'n canolbwyntio'n bennaf ar harddwch a'r anifeiliaid, y pryfed a’r adar sy’n poblogi'r gwrychoedd hanesyddol. Rwy'n llwyr gefnogi unrhyw ymgais i warchod y gwrychoedd a'r creaduriaid hynny sy'n dibynnu arno.   Fodd bynnag, roedd arnaf eisiau tynnu sylw at effaith datblygiad o'r fath ac effaith adeiladu ar safle tir llwyd a sut y bydd hynny'n effeithio ar fywyd y pentref a’i drigolion. Rhaid i hyn ein harwain i feddwl am yr ansawdd aer gwaeth o bosibl oherwydd mwy o draffig a'n mynediad at fannau gwyrdd.  Rwy'n teimlo'n gryf iawn o blaid diogelu ein pentref ac amlygu pwysigrwydd y cae i'n pentref. Yn fy marn i, dylai hyn fod yn ystyriaeth bwysig ym mhob pentref yn Sir Benfro lle cyflwynwyd datblygiadau ar hen ardaloedd amaethyddol.

Rwy'n teimlo y dylem, ar lefel genedlaethol, barhau i weithio yn erbyn datblygu tir llwyd a cheisio cefnogi prosiectau / datblygiadau mewnlenwi llai, cydnaws sy'n lleihau'r effeithiau ar y pentrefwyr sefydledig.  Dangoswyd nad yw’r mathau mwy hyn o ddatblygiadau’n cynnwys y mesurau diogelu ecolegol sy'n angenrheidiol i warchod rhywogaethau a grybwyllwyd yn flaenorol ac maent wedi profi’n niweidiol i iechyd a lles preswylwyr.

Ystyriaeth hanfodol arall yw nad oes gan y rhan fwyaf o Jeffreyston lwybr troed a chan bod y datblygiad yn agos at yr ysgol gynradd leol sydd eisoes yn agos at gyffordd brysur ymddengys ei bod yn fwyfwy annichonadwy adeiladu ar y safle hwn. O gofio'r twf yn nifer yr ymwelwyr a ddisgwylir ar gyfer datblygiad mor fawr a'r ardal o amgylch mynedfa'r ysgol sydd eisoes yn beryglus o brysur. Cydnabuwyd hefyd fod yr ysgol yn llawn.  Rwy'n credu y byddai hyn yn achosi perygl i gerddwyr a gyrwyr fel ei gilydd, ar adegau prysur iawn o'r dydd.

Mae (enwau wedi eu olygu) dymuno gwrthwynebu’n uniongyrchol unrhyw ddatblygiad ar y safle hwn a restrir uchod.

Mae'n rhaid i ni wneud popeth i warchod ein pentrefi a'r rhai sy'n byw ynddynt. Heb i ni warchod ein hardaloedd cefn gwlad byddwn yn colli cymaint. Efallai fod hwn yn edrych fel unrhyw hen gae i chi ond dyma ein wynebwedd ni, ein golygfa a’n rheswm dros godi yn y bore. Peidiwch â gadael i ni i gyd golli golygfa mor bwysig a ddylai fod yno i genedlaethau eraill ei gweld a chael budd o'r awyr glanach ynghyd â'r bywyd gwyllt.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4289                     

Gwrthwynebu

Cyf. 524 – gwrthwynebu – rydym yn llwyr wrthwynebu'r uchod fel Safle Ymgeisiol am sawl rheswm.  Yn gyntaf, mae safle yn Jeffreyston yn barod sydd â chaniatâd cynllunio, felly nid oes angen un arall arnom.  Dim ond bach yw’r pentref a byddai'r safle arfaethedig yn ei estyn mewn ffordd nad oes angen ei wneud.  Mae'r cynlluniau arfaethedig wedi'u hanelu at deuluoedd ond eto mae'r Cyngor yn datgan y byddwn yn gymdeithas sy'n heneiddio erbyn 2033 felly tai ar gyfer yr henoed fydd eu hangen.  Mae ein tŷ ni ar bwys y safle arfaethedig ac ar ben siafft lo felly mae'n debygol bod llawer mwy o fewn y safle.  Mae'r safle hefyd yn gorsiog iawn ac mae'n cefnogi casgliad amrywiol o sawl math o fywyd gwyllt na fydd byth yn dychwelyd os terfir arno.  Nid yw'r cynlluniau arfaethedig yn cyd-fynd â golwg y pentref a bydd swm y traffig ychwanegol y bydd yn ei achosi yn niweidiol i'r pentref cyfan.  Os gwelwch yn dda, peidiwch â gadael i'r safle hwn gael ei gynnwys.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 2242                     

Gwrthwynebu

Cyf. 524 – gwrthwynebu.  Sylwadau – Mae trigolion Jeffreyston wedi llofnodi'r ddeiseb hon yn gwrthwynebu cyflwyno’r safle â’r cyfeirnod 524, tir sy'n wynebu’r B.4586/ Tir o Flaen B.4586 fel Safle Ymgeisiol ar gyfer CDLl 2. Mae'r tir y tu allan i ffin y pentref ac yn dir amaethyddol - mae'n gyson yn wlyb trwy gydol y flwyddyn.

Byddai datblygu'r safle hwn yn cael effaith niweidiol ar natur y pentref yn ogystal â phryderon am y bywyd gwyllt.

Mae'n ffinio â ffordd gul sy'n cael ei defnyddio gan beiriannau fferm mawr a cherbydau trwm o gwmni cludo llwythi cyfagos ac sydd â throadau dall bob pen iddi, ac nid oes palmant na llwybrau troed.

Mae diffyg seilwaith yn y pentref, dim gwasanaethau, trafnidiaeth gyhoeddus na phrif garthffosydd.

Ac mae safle yn y pentref sydd eisoes wedi'i gynnwys yn y CDLl 2 ar gyfer datblygu tai - byddai ychwanegu un arall yn gorddatblygu pentref bach.

(Anfonwyd deiseb wedi'i llofnodi gan 76 o bobl gyda’r sylwadau)

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 1759         

Gwrthwynebu

Mae (enw wedi ei olygu) yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â'r tir sy'n wynebu'r B4586, a gyflwynwyd fel safle ymgeisiol arfaethedig.

Effaith Niweidiol - NID yw natur a lleoliad y safle arfaethedig yn gydnaws â chymeriad yr ardal y mae wedi'i lleoli ynddi a byddai'n cael effaith andwyol ar dirwedd a natur y pentref. Rydym yn teimlo y byddai datblygiad cydnaws o fewn yr ardal yn cyd-fynd yn well â hi.

Yr Amgylchedd – Byddai datblygu'r safle yn peryglu bioamrywiaeth ac ecosystem yr ardal.  Bu gweithgareddau mwyngloddio blaenorol pan ddefnyddiwyd y safle’n flaenorol fel pwll glo.

Trafnidiaeth a Hygyrchedd - Byddai unrhyw ddatblygiad yn arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch priffyrdd ac yn mynd y tu hwnt i gapasiti'r rhwydwaith priffyrdd. Mae preswylwyr eisoes yn pryderu ynghylch materion diogelwch yn ystod cynaeafau ffermydd a chyfnodau gwyliau. Nid yw cysylltiadau troed â'r safle yn ddigonol a bron nad oes system trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl.

Seilwaith Gwasanaethau – Nid oes digon o gapasiti o ran Carthffosiaeth / Draenio/ Telathrebu ac mae prif bibell ddŵr bresennol yn rhedeg drwy'r safle arfaethedig.

Gorddatblygu -  Mae’r Tir y Tu Ôl i Beggar's Roost a Sunnyside eisoes wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer datblygiad preswyl.

Gwrthwynebiadau Cyhoeddus - Cyflwynwyd y safle’n flaenorol ond cafodd ei dynnu'n ôl yn ddiweddarach oherwydd gwrthwynebiadau cyhoeddus.

Mae (enw wedi ei olygu), felly, yn gwrthwynebu cynnwys y safle arfaethedig o fewn ffin anheddiad CDLl2 ar gyfer Jeffreyston gan nad oes capasiti i ddarparu ar gyfer datblygiad.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4291                     

Gwrthwynebu

Nid oes cyfleusterau fel meddygfeydd na siopau ym mhentref Jeffreyston ac yng ngoleuni cyfarwyddeb ddiweddar y Llywodraeth ynghylch newid defnydd lleiniau gleision ar gyfer adeiladu eiddo, ni ddylid caniatáu hyn. 

Byddai'n cynyddu traffig ffyrdd yn sylweddol a hynny ar ffordd sydd heb balmant ac sydd eisoes yn brysur iawn ar adegau gyda cherbydau amaethyddol yn ogystal â cherbydau preifat eraill yn mynd â phlant i ac o'r ysgol ac fel llwybr byr i Hwlffordd ac Arberth.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4292                     

Gwrthwynebu

Cyf. 524 – gwrthwynebu.  Nid oes gan bentref bach Jeffreyston y capasiti i ddarparu’r isadeiledd y mae ei angen ar gyfer unrhyw ddatblygiadau tai newydd – h.y. maint y ffordd / lôn, mwy o lif traffig yn y pentref.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4293                     

Gwrthwynebu

Gwrthwynebiadau i gais i gynnwys tir yn y Cynllun Datblygu Lleol: Rhif Cyfeirnod 524 – tir sy'n wynebu’r B.4586

Nid oes carthffosydd cyhoeddus yn y rhan hon o’r pentref lle nodir tir datblygu arfaethedig i gael ei ychwanegu at y cynllun datblygu lleol.  Mae'r holl eiddo sy'n ffinio â'r tir arfaethedig hwn sydd wedi'i gynnwys yn y cais â’r cyfeirnod 524 (Jeffreyston) ar danciau septig a phyllau carthion preifat. 

Ar hyn o bryd mae gan y pentref dir sydd wedi'i adnabod ar gyfer datblygu tai, cais HSG/047/CDLl/01.

Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth gan ffermwr lleol ar gyfer silwair i gefnogi ei fferm laeth.  Ymddengys fod newid defnydd tir o amaethyddiaeth i’w ychwanegu at y cynllun datblygu lleol yn groes i anghenion lleol presennol y ffermwr.  Tir fferm ar gyfer defnydd fel fferm.

Nid oes seilwaith lleol yn y pentref h.y. siopau / trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd.  Dim ond tafarn nad yw ond yn agor 3-4 diwrnod yr wythnos.  Nid oes unrhyw balmentydd cyhoeddus na llwybrau cerdded yn (y) pentref ar bwys (y) tir yn y cais datblygu arfaethedig.

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4294                     

Gwrthwynebu

Cyfeirnod 524 – tir sy’n wynebu’r B.4586:

Creu traffig – mwy o draffig ar ffordd sydd eisoes yn brysur.

Diogelwch priffyrdd – diogelwch traffig gyda'r safle'n agos at lwybr yr ysgol a'r ysgol ei hun.

Sŵn ac aflonyddwch yn deillio o ddefnydd - mae'r safle arfaethedig yn agos at ardal breswyl bresennol mewn pentref tawel.

Amwynder gweledol – bydd y safle arfaethedig yn difetha tirwedd a golygfeydd sefydledig ar gyfer unedau eiddo presennol.   

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4295                     

Gwrthwynebu

Cyf. 524 – gwrthwynebu.  Dim digon o isadeiledd.  Mae tir eisoes ar gael i'w ddatblygu. 

 

524: Jeffreyston               

ID Rhanddeiliad: 4296                     

Gwrthwynebu

Cyf. 524 – tir sy’n wynebu’r B.4586 – gwrthwynebu. 

Sylwadau:

Mae'r safle arfaethedig yn ffinio â ffordd gul gyda throadau dall y ddau ben iddi, nid oes palmant na llwybr troed ac mae'n beryglus. Fe’i defnyddir gan beiriannau fferm mawr trwm, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus i'r pentref a byddai'n golygu hyd yn oed mwy o draffig ar hyd y ffordd hon.

Mae pryder am waith cloddio yn yr ardal hon a bod dŵr yn rhedeg yn gyson ar y tir hwn.

Nid oes unrhyw wasanaethau yn y pentref, dim hyd yn oed prif garthffosydd.

Byddai datblygu'r safle hwn yn newid natur y pentref.

Mae safle yng nghanol y pentref sydd wedi'i gynnwys yn y CDLl 2 ar gyfer tai ac rwy’n credu y byddai ychwanegu mwy yn gyfystyr â gorddatblygu.

 

Er bod y trydydd ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ymwneud yn benodol â'r Safleoedd Ymgeisiol Pellach (rhifau 523 i 525 gan gynnwys y rheiny), cafodd y Cyngor ychydig o sylwadau hefyd a oedd yn ymwneud â'r cyfrannau cynharach o Safleoedd Ymgeisiol, a restrir isod er mwyn cyflwyno darlun cyflawn o ymateb y cyhoedd. 

 

156: Tredeml                                

ID Rhanddeiliad: 34636                   

Cefnogi

Nodaf fod y CDLl2 yn mynd yn ôl i'r cam adneuo ac er nad oes gennych amserlen gytunedig ar gyfer ymgynghori ar hyn eto. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i hysbysu y gallai safle ymgeisiol 156 gael ei gyflwyno fel safle ar gyfer tai o fewn cyfnod y cynllun a'i fod y tu allan i’r dalgylch ffosffadau.  Diystyriwyd y safle yn flaenorol a rhoddwyd sgôr Ambr 3 iddo, ond o ystyried y sefyllfa bresennol gyda ffosffadau, mae'n gyfle i gynnal ac ehangu pentref gwledig ffyniannus â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi sut y gall safle 156 gael ei ailystyried ar gyfer yr adolygiad o’r CDLl.

 

Safle newydd Begeli (Tir i'r gorllewin o Barley Park)                   

ID Rhanddeiliad: 4132  

Cynnig dyraniad newydd yn dilyn cyhoeddi Tystysgrif Datblygu neu Ddefnydd Cyfreithlon (21/0241/CL), a gadarnhaodd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod gweithrediadau peirianegol wedi cael eu cyflawni at ddiben cyflawni'r datblygiad a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio 12/0803/PA (amlinellol) a 16/1295/PA (materion a gadwyd yn ôl) a bod y rhain yn gyfystyr â chychwyn y datblygiad hwnnw’n gyfreithlon.

Gweler yr atodiadau i safle ein cleient gael ei hyrwyddo ar gyfer cam nesaf eich CDLl 2, y bu oedi gydag ef am y rhesymau a eglurwyd gennych.  (Darparwyd y map a'r hysbysiad penderfynu ar 21/0241/CL ond nid ydynt wedi’u hatgynhyrchu yn y ddogfen hon.

(Sylwer: nid yw hwn yn sylw ar Safle Ymgeisiol yn CDLl 2, ond mae'n fater y bydd angen i Gyngor Sir Penfro ei ystyried wrth fwrw ymlaen â CDLl 2).

 

Dim safle penodol               

ID Rhanddeiliad: 4005                     

Sylwebaeth gyffredinol

Ymgynghoriad Diweddaru ar Safleoedd Ymgeisiol y Cynllun Lleol Ionawr – Mawrth 2022 – Sylwadau ar ran y Grid Cenedlaethol.

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi penodi Avison Young i adolygu ac ymateb i ymgyngoriadau ar Ddogfennau Cynlluniau Datblygu awdurdodau cynllunio lleol ar ei ran.  Fe’n cyfarwyddwyd gan ein cleient i gyflwyno'r sylwadau canlynol mewn perthynas â'r ymgynghoriad cyfredol ar y ddogfen uchod.

Ynglŷn â'r Grid Cenedlaethol

National Grid Electricity Transmission plc (NGET) sy’n berchen ar y system trosglwyddo trydan ac yn ei chynnal a’i chadw yng Nghymru a Lloegr.  Yna caiff yr ynni ei ddosbarthu i weithredwyr y rhwydwaith dosbarthu trydan, fel y gall gyrraedd cartrefi a busnesau.

National Grid Gas plc (NGG) sy’n berchen ar y system trosglwyddo nwy pwysedd uchel ac yn ei gweithredu ledled y DU.  Yn y DU, mae nwy yn gadael y system drosglwyddo ac yn mynd i mewn i bedwar rhwydwaith dosbarthu nwy y DU lle mae'r pwysedd yn cael ei leihau ar gyfer defnydd gan y cyhoedd.

Mae National Grid Ventures (NGV) yn gwmni ar wahân i fusnesau craidd a reoleiddir y Grid Cenedlaethol.  Mae NGV yn datblygu, gweithredu a buddsoddi mewn prosiectau, technolegau a phartneriaethau ynni i helpu i gyflymu datblygiad dyfodol ynni glân i ddefnyddwyr ledled y DU, Ewrop a'r Unol Daleithiau. 

Safleoedd datblygu arfaethedig a groesir gan neu sy'n agos at asedau'r Grid Cenedlaethol:

Cynhaliwyd asesiad mewn perthynas ag asedau trosglwyddo trydan a nwy y Grid Cenedlaethol sy'n cynnwys asedau trydan foltedd uchel a phiblinellau nwy pwysedd uchel.

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi nodi nad oes ganddo gofnod sy’n dynodi bod dyraniadau safleoedd arfaethedig yn gwrthdaro ag asedau o'r fath o fewn ardal y Cynllun.

Cyngor pellach

Mae'r Grid Cenedlaethol yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i'r Cyngor ynglŷn â'u rhwydweithiau.  Gweler yr wybodaeth sydd wedi’i hatodi sy’n amlinellu canllawiau pellach ar ddatblygu yn agos at asedau'r Grid Cenedlaethol.

Os gallwn fod o unrhyw gymorth i chi o ran darparu sylwadau anffurfiol yn gyfrinachol yn ystod eich gwaith datblygu polisi, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Er mwyn helpu i sicrhau bod safleoedd ac offer presennol yn parhau i weithredu’n ddiogel ac i hwyluso buddsoddiad yn y seilwaith yn y dyfodol, mae’r Grid Cenedlaethol yn dymuno bod yn rhan o'r broses o baratoi, newid ac adolygu cynlluniau a strategaethau a allai effeithio ar eu hasedau.  Cofiwch ymgynghori â'r Grid Cenedlaethol ar unrhyw Ddogfen Cynllun Datblygu (DCD) neu gynigion safle-benodol a allai effeithio ar asedau'r Grid Cenedlaethol. 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech ychwanegu ein manylion isod at eich cronfa ddata ymgynghori, os nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys (manylion cyswllt wedi’u darparu ond heb eu hatgynhyrchu yn y ddogfen hon).

 

 

ID: 11217, adolygwyd 13/12/2023