Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol y CDLl
- Cynllun Datblygu Lleol 2 Canllawiau Cynllunio Atodol YMGYNGHORI yn rhedeg am 8 wythnos
- Gwybodaeth ar gael ar-lein, yn Neuadd y Sir, Hwlffordd ac mewn llyfrgelloedd
Canllawiau cynllunio atodol ar gynnal asesiad capasiti tirwedd ar gyfer carafannau, gwersylla a chabanau gwyliau
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi fframwaith ar gyfer pennu ceisiadau cynllunio a chyfeirio twf newydd yn Sir Benfro (ac eithrio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).
Paratowyd yr asesiad capasiti tirwedd ar gyfer carafannau, gwersylla a chabanau gwyliau ar gyfer ardal gynllunio Cyngor Sir Penfro gan White Consultants ym mis Tachwedd 2019.
Y bwriad nawr yw y dylid ei ddwyn ymlaen fel canllawiau cynllunio atodol i gefnogi Polisi GN 56 – Datblygiadau Carafannau, Gwersylla a Chabanau Gwyliau, o Gynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl 2) Cyngor Sir Penfro.
Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad wyth wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol hwn rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ganol nos ar 16 Rhagfyr 2024. Anfonwch eich sylwadau dros e-bost i ldp@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r post i: Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos 16 Rhagfyr 2024.
Mae copïau papur o’r prif ddogfennau i’w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Canolfan Gwasanaethau Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir a llyfrgelloedd Sir Benfro lle mae mynediad cyhoeddus ar gael.
Nodyn esboniadol, Gorfennaf 2024
Gofynnwch am
Ymgynghoriad CCA
01437-775425
ebost: ldp@pembrokeshire.gov.uk