Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Cytundeb Cyflawni gan gynnwys Cynllun Cyfranogiad y Gymuned
Mae’r ddogfen hon – y Cytundeb Cyflawni – yn ddogfen allweddol wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’n cyflwyno amserlen cynhyrchu’r Cynllun, sut fydd yr Awdurdod yn ymgynghori ar y Cynllun (Cynllun Cyfranogiad y Gymuned) a’r adnoddau y bydd yr Awdurdod yn eu hymrwymo ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun.
2024 Cytundeb Cyflawni
Cafodd yr iteriad newydd hwn o'r Cytundeb Cyflawni ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 20 Mai 2024 ac wedi hynny yn y Cyngor Llawn ar 18 Gorffennaf 2023. Wedi hynny, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach ar yr 24 Gorffennaf 2024.
Roedd angen y pedwerydd argraffiad hwn o’r Cytundeb Cyflawni mewn ymateb i oedi annisgwyl yn deillio o amrywiaeth o faterion mewn perthynas â thai, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ansawdd dŵr afonydd a’r angen i fynd i’r afael ag anghenion llety sipsiwn, teithwyr a phobl sioeau teithiol. Mae colli staff o dîm y Cynllun Datblygu Lleol yn ystod misoedd cynnar 2024 hefyd wedi cyfrannu at yr oedi wrth symud y cynllun yn ei flaen.
4ydd Rhifyn o`r Cytundeb Cyflawni Gorffennaf 2024
Am wybodaeth - Rhifynnau cynharach o'r Cytundeb Cyflawni
Roedd y Cytundeb Darparu yn amodol ar gyfnod ymgynghori chyoeddus ffurfiol rhwng 9 Tachwedd 2017 a 5 Ionawr 2018. Ystyriwyd adroddiad o ymgynghoriadau gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 19 Mawrth 2018. Penderfynodd Cyngor Sir Penfro yn y Cyngor Llawn ar 10 Mai 2018 i gyflwyno'r ddogfen yn ffurfiol i Lwyodraeth Cymru.
Ystyriwyd fersiwn diwygiedig, yn nodi amserlen ar gyfer gweddill y broses ac yn adlewyrchu oedi o ganlyniad i'r pandemig Covid-19 gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 5 Hydref 2020. Yn y Cyngor Llawn ar 8 Hydref 2020, penderfynodd Cyngor Sir Penfro gyflwyno'r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig i Lywodraeth Cymru. Cytunwyd y fersiwn diwgiedig gan Lywodraeth Cymru 30 Hydref 2020.
Cytundeb Cyflawni Fersiwn Diwygiedig Hydref 2020
Asesiad Effaith COVID-19 Hydref 2020
Cytundeb Cyflawni gan gynnwys y Cynllun Cyfranogiad y Gymuned
Paratowyd Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach yn 2023, yn bennaf mewn ymateb i oedi pellach o ganlyniad i gyhoeddi canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd (ACA) yng Nghymru, sy’n effeithio ar y Cleddau a’r Teifi dalgylchoedd afonydd.
Cafodd yr iteriad newydd hwn o’r Cytundeb Cyflawni ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 24 Ebrill 2023 ac wedi hynny yn y Cyngor Llawn ar 11 Mai 2023. Wedi hynny, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach ar 20 Mehefin 2023.
Mae Cytundeb Cyflawni Mehefin 2023 yn disodli fersiwn Hydref 2020.