Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Newidiadau Canolbwynteidig
Ar ôl ymgynghori ar fersiwn Cynllun Adneuo 2 o Gynllun Datblygu Lleol 2, mae Cyngor Sir Penfro yn gwneud nifer gyfyngedig o ‘‘newidiadau â ffocws’’ i’’r cynllun i’’w wneud yn gadarn cyn iddo gael ei archwilio. Cynhelir ymgynghoriad ar y newidiadau hyn cyn i'’r archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol 2 ddechrau. Bydd unrhyw ymatebion yn cael eu hanfon ymlaen yn uniongyrchol at yr arolygydd cynllunio.
Cynhelir ymgynghoriad ar y newidiadau â ffocws hyn rhwng dydd Llun 4 Awst a hanner nos dydd Llun 15 Medi, a bydd cyfle i aelodau'’r cyhoedd gefnogi neu wrthwynebu'’r newidiadau penodol hyn i Gynllun Adneuo 2.
Gweler y dogfennau canlynol sy'’n manylu ar y newidiadau â ffocws cyn cwblhau'’r ffurflen ymgynghori.
Cyfeirnod |
Disgrifiad |
| Tudalen flaen a chyflwyniad i`’r newidiadau â ffocws | Tudalen flaen a chyflwyniad i’r newidiadau â ffocws |
| Rhan 1 - Newidiadau â ffocws | Amlinelliad o’r nifer gyfyngedig o newidiadau â ffocws sydd eu hangen i’r Cynllun Datblygu Lleol mewn ymateb i rai sylwadau a dderbyniwyd. |
| Rhan 2 - Mân olygiadau | Yn cynnwys mân newidiadau sydd eu hangen i’r Cynllun Datblygu Lleol |
| Rhan 3 - Llyfryn Mapiau | Llyfryn Mapiau’ sy’n nodi unrhyw newidiadau mapio cysylltiedig. |
| Rhan 4 - Golygiadau eraill | Yn nodi golygiadau arfaethedig eraill i ddogfennaeth ategol y Cynllun. |
| Rhan 5 - Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd | Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi’i ddiweddaru gyda golygiadau’n cael eu dangos fel newidiadau wedi’u marcio mewn ymateb i sylwadau a gafwyd. |
Mae copïau papur hefyd ar gael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ac mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod oriau agor arferol.
Ffurflen ymgynghori ar y newidiadau â ffocws
E-bostiwch eich ffurflenni ymgynghori i ldp@pembrokeshire.gov.uk neu postiwch nhw i’r Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos ar dydd Llun 15 Medi.