Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol y CDLl
- Cynllun Datblygu Lleol 2 Canllawiau Cynllunio Atodol YMGYNGHORI yn rhedeg am 8 wythnos
- Gwybodaeth ar gael ar-lein, yn Neuadd y Sir, Hwlffordd ac mewn llyfrgelloedd
Canllawiau cynllunio atodol ar gynnal asesiad capasiti tirwedd ar gyfer carafannau, gwersylla a chabanau gwyliau
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi fframwaith ar gyfer pennu ceisiadau cynllunio a chyfeirio twf newydd yn Sir Benfro (ac eithrio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).
Paratowyd yr asesiad capasiti tirwedd ar gyfer carafannau, gwersylla a chabanau gwyliau ar gyfer ardal gynllunio Cyngor Sir Penfro gan White Consultants ym mis Tachwedd 2019.
Y bwriad nawr yw y dylid ei ddwyn ymlaen fel canllawiau cynllunio atodol i gefnogi Polisi GN 56 – Datblygiadau Carafannau, Gwersylla a Chabanau Gwyliau, o Gynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl 2) Cyngor Sir Penfro.
Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad wyth wythnos ar y Canllawiau Cynllunio Atodol hwn rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ganol nos ar 16 Rhagfyr 2024. Anfonwch eich sylwadau dros e-bost i ldp@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r post i: Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos 16 Rhagfyr 2024.
Mae copïau papur o’r prif ddogfennau i’w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Canolfan Gwasanaethau Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir a llyfrgelloedd Sir Benfro lle mae mynediad cyhoeddus ar gael.
Nodyn esboniadol, Gorfennaf 2024
Gofynnwch am
Ymgynghoriad CCA
01437-775425
ebost: ldp@pembrokeshire.gov.uk
Newidiadau Canolbwynteidig
Dim data cyfredol
Opsiynau Strategol
Materion CDLl Drafft, Gweledigaeth, Amcanion a Dewisiadau Strategol (Gorffennaf – Medi 2018)
Mae'r cam rhagarweiniol hwn o'r broses CDLl yn gosod amcanion trosfwaol y CDLl ac yn cyflwyno amryw o opsiynau i fodloni gofynion o ran cynnydd mewn tai yn y dyfodol dros gyfnod y Cynllun (hyd at 2033).
Rhwng 16 Gorffennaf a 10 Medi 2018, cynhaliodd Cyngor Sir Penfro ymgynghoriad anffurfiol ar ddwy ddogfen – y papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion Drafft a’r Papur Dewisiadau Tai Strategol (Twf a Dosbarthiad Gofodol).
Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro weithdai ym mis Gorffennaf 2018 hefyd er mwyn trafod Dewisiadau gyda Rhanddeiliaid, Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned.
- Y Materion – beth yw’r prif faterion sy’n wynebu ardal y Cynllun (hyd at 2033)?
- Y Weledigaeth – pwrpas craidd y Cynllun
- Amcanion – Ymhelaethu ar y Weledigaeth a chanolbwyntio ar y canlyniadau y dylai’r Cynllun eu cyflwyno
- Dewisiadau Strategol – Amryw sefyllfaoedd ar gyfer lefelau twf tai i’r dyfodol a lleoliadau/polisïau eang i’w hystyried ar gyfer darparu’r twf hwn.
Bydd yr adborth a dderbynnir i’r ymgynghoriad anffurfiol hwn yn llywio datblygiad Strategaeth Ddewisol y Cyngor.
Dogfennau a gyhoeddwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hwn:
Drafft Materion, Gweledigaeth ac Amcanion 2018
Papur Opsiynau Tai Strategol 2018
Opsiwn Strategol 1 - Ffocws Trefol
Opsiwn Strategol 2 - Ffocws Ar Sail Gwasanaeth
Opsiwn Strategol 3 - Ffocws Cymundeol
Dogfennau technegol ategol:
Papur Rhagolygon Demograffig - Gorffennaf 2018 - Gorffennaf 2018
Adroddiad Anheddiad Gweledig 2018
Papur Clystyrau Setliad - Gorffennaf 2018
Gwerthusiad Cynaliadwyedd o`r Weledigaeth a`r Amcanion drafft
Gwerthusiad Cynaliadwyedd o Opsiynau Strategol Gorffennaf 2018
Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Cynhaliwyd Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y Strategaeth a Ffefrir.
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn nodi dyletswyddau penodol yr Awdurdod i asesu ac ymgynghori ar effaith ei bolisïau arfaethedig ar bobl sy'n cael eu gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a’i allu i gyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu duedd rywiol yn dod o fewn y Ddeddf.
Mae'r gofyniad i asesu effaith yn golygu bod rhaid i'r Awdurdod ystyried tystiolaeth berthnasol er mwyn deall effaith debygol neu wirioneddol polisïau ac arferion ar grwpiau gwarchodedig.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw’r polisi neu'r arferiad yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon, nodi unrhyw effeithiau niweidiol ar grwpiau a warchodir, ystyried sut y gallai’r polisi neu’r arferiad hyrwyddo cyfle cyfartal yn well ac ystyried a fydd y polisi’n effeithio ar y cysylltiadau rhwng grwpiau gwahanol.
Cynllun Asesiad Asesiad Effaith Cydraddoldebau
Strategaeth a Ffefrir Strategaeth a Ffefri Asesiad Effaith Cydraddoldebau
Trosolwg ac Amserlen
Cynllunio Lleol yn adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn rheolaidd. Dechreuodd Cyngor Sir Penfro adolygu ei CDLl ar 5ed Mai 2017.
Arwynebedd Cynllun Amgen Cyngor Sir Penfro yw Sir Benfro, ac eithrio mannau yn y Parc Cenedlaethol.
Diben adolygu yw sicrhau bod y CDLl yn aros yn gyfredol. Mae adolygu’n rhoi cyfle i wneud newidiadau i’r Cynllun, os oes gofyn.
Cyfnod allweddol |
Amseriadau pendant ac arwyddol* |
Adroddiad yr Adolygiad | Dechreuwyd paratoi ym mis Mai 2017, gyda’r ddogfen i’w chyhoeddi ar gyfer ymgynghori anffurfiol ym mis Tachwedd 2017, ochr yn ochr â’r Cytundeb Cyflawni. |
Cytundeb Cyflawni | Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni cychwynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae tri rhifyn arall, yn 2020, 2023 a 2024 wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ers hynny. Mae CSP felly yn gweithio i rifyn 2024 ar hyn o bryd. |
Strategaeth Ddewisol | Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng Rhagfyr 2018 a Chwefror 2019. Cafwyd ymgynghoriad pellach, wedi’i dargedu, Ionawr a Mawrth 2022, mewn ymateb i fater cronfa ddata. |
Adneuo Cyntaf | Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng 15 Ionawr a 18 Mawrth 2020. |
Ailadneuo | Ailymwelir â’r cam Adneuo gydag ymgynghoriad Adneuo newydd yn dechrau mis Hydref 2024 |
Cyflwyniad i Lywodraeth Cymru | Erbyn mis Mehefin 2025 |
Archwiliad* | Hydred / gaeaf 2025 |
Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd | Mawrth 2026 |
Mabwysiadu* | Mai 2026 |
Sut ydw i’n cymryd rhan
Os hoffech chi gael eich hysbysu o gynnydd wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol 2, anfonwch e-bost at ldp@pembrokeshire.gov.uk, gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ac a fyddai’n well gennych gael cyswllt trwy e-bost neu bost. Ar gyfer y rheini heb gyfrif e-bost, ffoniwch 01437-764551 a gofynnwch am gael eich trosglwyddo i’r tîm Cynllun Datblygu Lleol.
CDLI 2 Aail Dystiolaeth
Maes Awyr Brawdy
Maes Awyr Brawdy - Gwerthuso tirwedd a gweledol o ddatblygiad ynni gwynt potensial - Mehefin 2021:
Safleoedd Ymgeisiol
Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol
Carafanau a Gwersylla
Astudiaeth Capasiti Tirwedd Carafanau - Tachwedd 2019 - Rhan 1A
Astudiaeth Capasiti Tirwedd Carafanau - Rhan 1B
Papur cefndir carafanau - Ionawr 2020
Rhagolygon Demograffig/Cyflenwad Tai
Papur Rhagolygon Demograffig - Gorffennaf 2018
Papur Rhagolygon Demograffig Ychwanegol Rhagfyr 2018
Diweddariad Rhagolygon Demograffig 2020
Papur Cefnidir Gofyniad Tai 2023
Cyflenwad Tir ar gyfer Tai Gorffennaf 2024
Economi
Economi Sir Benfro - Mehefin 2015
Tueddiadau Cyflogaeth Lleol Rhagfyr 2018
Astudiaeth Economeg Dwy Sir - Adroddiad Terfynol
Atodiad A - Adolygu Llenyddiaeth
Atodiad B - Adolygiad Sylfaenol
Atodiad C - Adolygiad o Safleoedd Strategol
Adroddiad Cryno ar Ymyriadau a Safleoedd Strategol
Amgylchedd
Seilwaith Gwyrdd 2018
Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) - Chwefror 2023
Papur Cefndir Asesu Mannau Agored
Asesiad o Gymeriad Tirwedd - Drafft Mai 2023
Papur cefndir dosbarthu tir amaethyddol Rhan1
Papur cefndir dosbarthu tir amaethyddol Rhan2
Cyffredinol/Gwaith cyd-weithredol
Datganiad o egwyddorion cyffredin CSP ac APCAP (2018)
Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol
Data ac adroddiadau Sipsiwn Teithwyr
Sipsiwn Teithiwr Llety Aesiad 2015 - Hydref 2017
Asesiad Llety Sipsiwn A Theithwyr 2019 - Cymeradwyo 24 May 2024
Papur Cefndir Sipsi a Theithwyr - Rhafgyr 2019
Angen asesiadau tai
Asesiad o’r Angen am Dai a Llety Arbenigol ar gyfer Pobl Hŷn yng Ngorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) - Tachwedd 2018
Pembrokeshire Local Housing Market Assessment 2021
Hyfywedd Tai
Adroddiad Hyfywedd Ariannol 2024
Mwynau
Papur Cefndir Mwynau - Mai 2019
Atodiad i LDP 2 Papur Cefndir Mwynau Gorffennaf 2024
Ynni adnewyddadwy
Adroddiad Terfynol - Ebrill 2017
Ynni Adnewyddadwy - Bwffer ar gyfer y Parc Cenedlaethol a`r Araeau Solar Tachwedd 2019
Mân-werthu
Papur Cefndir Canolfannau Manwerthu a Masnachol - Diweddarwyd Gorffennaf 2019
Astudiaeth Fasnach Regional SW Cymru - Chewfror 2017 - Adroddiad Terfynol - Chwefror 2017
Astudiaeth Fanwerthu Rhanbarthol Chwefror 2017 Erratum
Atodiadau Astudiaeth Manwerthu Rhanbarthol De Orllewin Cymru - 1 - 11 a 15 - 16 - Chwefror 2017
Atodiadau Astudiaeth Manwerthu Rhanbarthol De Orllewin Cymru - 12 - 14 - Chwefror 2017
Astudiaeth Fasnachol Rhanbarthol De Cymru - Chewfror 2017
Astudiaeth Adwerthu Rhanbarthol De-orllewin Cymru Crynodeb - Chewfror 2017
Fframwaith Adfywio Strategol Penfro - Chwefror 2018
Fframwaith Adfywio Strategol Doc Penfro - Chwefror 2018
Aberdaugleddau Fframwaith Adfywio Strategol DRAFFT - Gorffennaf 2018
Hwlffordd, Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol, Rhan A - Awst 2016
Hwlffordd, Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol, Rhan B - Awst 2016
Strategaeth ofodol
Papur Cefndir y Strategaeth Ofodol 2019 Papur Cefndir y Strategaeth Tai
Adroddiad Cyfleusterau Gwledig 2020 gyda Chywiriadau Gorffennaf 2024
Adroddiad Aneddiadau Trefol Medi 2019 gyda chywiriad Gorffennaf 2024
Methodoleg Ffiniau Aneddiadau Tachwedd 2019
Aneddiadau Trawsffiniol - Cysondeb agwedd ag Awdurdodau Cyfagos 2021
Papur Aneddiadau Clwstwr - Diweddariad Rhagfyr 2020
Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol
Asesiad Strategol o ganlyniadau llifogydd
Twristiaeth
Papur Cefndir Twristiaeth - Medi 2019 Papur Cefndir Twristiaeth
Gwastraff
Adroddiad Adolygu
Mae’r Adroddiad Adolygu yn egluro pa rannau o’r CDLl allai newid a pham. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol o’r 9fed o Dachwedd hyd y 5ed o Ionawr 2018. Cafodd adroddiad am ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar y 19aino Fawrth 2018.
Diweddarwyd Adroddiad yr Adolygiad a chyhoeddwyd fersiwn derfynol ochr yn ochr â’r Strategaeth a Ffefrir fel rhan o’r Ymgynghoriad Cyn-adneuo (ar gau 4 Chwefror 2019).
Cytundeb Cyflawni gan gynnwys Cynllun Cyfranogiad y Gymuned
Mae’r ddogfen hon – y Cytundeb Cyflawni – yn ddogfen allweddol wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’n cyflwyno amserlen cynhyrchu’r Cynllun, sut fydd yr Awdurdod yn ymgynghori ar y Cynllun (Cynllun Cyfranogiad y Gymuned) a’r adnoddau y bydd yr Awdurdod yn eu hymrwymo ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun.
2024 Cytundeb Cyflawni
Cafodd yr iteriad newydd hwn o'r Cytundeb Cyflawni ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 20 Mai 2024 ac wedi hynny yn y Cyngor Llawn ar 18 Gorffennaf 2023. Wedi hynny, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach ar yr 24 Gorffennaf 2024.
Roedd angen y pedwerydd argraffiad hwn o’r Cytundeb Cyflawni mewn ymateb i oedi annisgwyl yn deillio o amrywiaeth o faterion mewn perthynas â thai, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ansawdd dŵr afonydd a’r angen i fynd i’r afael ag anghenion llety sipsiwn, teithwyr a phobl sioeau teithiol. Mae colli staff o dîm y Cynllun Datblygu Lleol yn ystod misoedd cynnar 2024 hefyd wedi cyfrannu at yr oedi wrth symud y cynllun yn ei flaen.
4ydd Rhifyn o`r Cytundeb Cyflawni Gorffennaf 2024
Am wybodaeth - Rhifynnau cynharach o'r Cytundeb Cyflawni
Roedd y Cytundeb Darparu yn amodol ar gyfnod ymgynghori chyoeddus ffurfiol rhwng 9 Tachwedd 2017 a 5 Ionawr 2018. Ystyriwyd adroddiad o ymgynghoriadau gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 19 Mawrth 2018. Penderfynodd Cyngor Sir Penfro yn y Cyngor Llawn ar 10 Mai 2018 i gyflwyno'r ddogfen yn ffurfiol i Lwyodraeth Cymru.
Ystyriwyd fersiwn diwygiedig, yn nodi amserlen ar gyfer gweddill y broses ac yn adlewyrchu oedi o ganlyniad i'r pandemig Covid-19 gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 5 Hydref 2020. Yn y Cyngor Llawn ar 8 Hydref 2020, penderfynodd Cyngor Sir Penfro gyflwyno'r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig i Lywodraeth Cymru. Cytunwyd y fersiwn diwgiedig gan Lywodraeth Cymru 30 Hydref 2020.
Cytundeb Cyflawni Fersiwn Diwygiedig Hydref 2020
Asesiad Effaith COVID-19 Hydref 2020
Cytundeb Cyflawni gan gynnwys y Cynllun Cyfranogiad y Gymuned
Paratowyd Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach yn 2023, yn bennaf mewn ymateb i oedi pellach o ganlyniad i gyhoeddi canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd (ACA) yng Nghymru, sy’n effeithio ar y Cleddau a’r Teifi dalgylchoedd afonydd.
Cafodd yr iteriad newydd hwn o’r Cytundeb Cyflawni ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Penfro ar 24 Ebrill 2023 ac wedi hynny yn y Cyngor Llawn ar 11 Mai 2023. Wedi hynny, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y Cytundeb Cyflawni diwygiedig pellach ar 20 Mehefin 2023.
Mae Cytundeb Cyflawni Mehefin 2023 yn disodli fersiwn Hydref 2020.
Gwerthusiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Stragegol
Mae Gwerthusiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cael eu cynnal ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd. Bydd hyn yn sicrhau bod elfennau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd - datblygu cynaliadwy - yn cael eu cynnwys yn bendant yn y cynllun o’r cychwyn cyntaf.
Yn unol â’r ddeddfwriaeth, fe roddwyd gwybod i’r ymgynghoreion (Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW) bod yr AAS yn cael ei gynnal a bod y penderfyniad yn cael ei gofnodi.
Cofnod penderfyniad Sgrinio AAS
Gwerthusiad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol
Adroddiad cwmpasu TerfynolYmgynghorwyd ar Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd gyda thri ymgynghoriad statudol (Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw) am gyfnod o bum wythnos tan 3 Medi 2018. Ymgynghorwyd hefyd ag ymgynghorai anstatudol penodol eraill. Trefnwyd bod Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael ar y wefan er gwybodaeth. Diwygiwyd yr adroddiad er mwyn cynnwys ymatebion yr ymgynghoriad.
Sylwer, dogfen dechnegol yw’r Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd, ac fe’i darperir yn Saesneg yn unig.
Adroddiad cwmpasu Terfynol
Adroddiad Cwmpasu Arfarnu Cynaliadwyedd
Adroddiad ymgynghori
Adroddiad Ymgynghori Asesiad Amgylcheddol Strategol
Strategaeth a Ffefrir
Mae’r Strategaeth a Ffefrir wedi’i harfarnu. Darperir Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd isod
Adroddiad GC Cychwynnol - Strategaeth Ddewisol
Gwerthusiad Cynaliadwyedd o`r Weledigaeth a`r Amcanion drafft
Gwerthusiad Cynaliadwyedd o Opsiynau Strategol Gorffennaf 2018
Adroddiad ymgynghori
Ymatebion Ymgynghori a Safbwynt y Cyngor - Mawrth 2019
Cynllun Adnau 2
Mae’r Cynllun Adnau wedi’i harfarnu. Darperir yr adroddiad isod.
Arfarniad Cynaliadwyedd ac Adroddiad Asesu Amgylcheddol Strategol (Gan gynnwys Atodiad 0a i 0c)
Atodiadau (Atodiad 1 i 8)
Dyddiadau ymgynghori ar gyfer dogfennau arfarnu cynaliadwyedd blaendal 2
Rhaid derbyn eich sylwadau erbyn hanner nos 16 Rhagfyr 2024. Dychwelwch ffurflenni at: ldp@pembrokeshire.gov.uk neu'r Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman's Way, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Croesewir sylwadau ar-lein hefyd.
Arfarniad Rheoli Cynefinoedd
Mae Strategaeth Ddewisol y CDLl 2 wedi cael ei sgrinio er mwyn penderfynu a fydd hi’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd sydd wedi cael eu dynodi oherwydd y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd ynddynt (Safleoedd Natura 2000). Mae’r broses hon yn rhan o’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Rhoddir ystyriaeth i 21 o safleoedd Natura 2000 yn Sir Benfro neu sydd ar bwys ffin ardal y cynllun. Un enghraifft o safle Natura 2000 yn Sir Benfro yw AGA Afon Cleddau.
Mae sgrinio’r ARhC yn ceisio rhagfynegi’r effeithiau posibl a gaiff strategaeth ddewisol y CDLl ar safleoedd Natura 2000. Ni wyddys i sicrwydd ar hyn o bryd a allai’r CDLl gael effaith sylweddol debygol ar safleoedd Natura 2000.
Y camau a gwblhawyd ym mhroses y GRhC
Mae GRhC wedi cael ei gynnal ar Fersiwn a Adneuwyd y CDLl 2, ac mae’r adroddiad wedi dod i’r casgliad na fydd y Cynllun yn cael effaith sylweddol debygol ar y safleoedd Ewropeaidd.
Sgriniwyd y Strategaeth a Ffefrir gan CDLl i benderfynu a allai fod unrhyw effeithiau sylweddol tebygol ar safleoedd Ewropeaidd sydd wedi'u dynodi ar gyfer eu bywyd gwyllt a'u cynefinoedd (safleoedd Natura 2000). Mae'r broses hon yn rhan o'r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).
Mae'r sgrinio HRA yn rhagweld effeithiau posibl y Strategaeth a Ffefrir CDLl 2 ar safleoedd Ewropeaidd. Roedd rhywfaint o ansicrwydd a allai'r CDLl gael effaith sylweddol debygol ar safleoedd Ewropeaidd ar hyn o bryd. Edrychodd y Cyfrif Refeniw ar y cynllun yn fanwl ac asesu'r effeithiau posibl, ar ei ben ei hun ac ar y cyd â chynlluniau eraill, a nododd newidiadau angenrheidiol i'r Cynllun i sicrhau nad oedd safleoedd Ewropeaidd yn cael eu heffeithio. Nodwyd mesurau lliniaru hefyd.Gwnaeth yr ymgyngoreion statudol sylwadau ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o'r Strategaeth a Ffefrir.
Sgrinio Dewis Strategaeth y GRhC
Sylwch fod yr Adroddiad Sgrinio yn ddogfennau technegol ac nad oeddent yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac fe'i darperir yn Saesneg yn unig.
Safleoedd Ymgeisiol
Cofrestr safleoedd ymgeisiol ac asesiad safle – Cynllun Adneuo 2 2024
Cefndir
Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro alwad am safleoedd ymgeisiol rhwng 22 Mawrth a 14 Awst 2018 a rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019. Cafwyd galwad arall am safleoedd ymgeisiol rhwng 20 Gorffennaf 2021 a 30 Gorffennaf 2021, yn sgil gwall gweinyddol nas rhagwelwyd ar y pryd yn 2017. Oherwydd hyn, nid oedd nifer fach o unigolion ar gronfa ddata Cynllun Datblygu Lleol 1 Cyngor Sir Penfro wedi cael eu hysbysu am y cyfle i fynegi eu diddordeb ar gyfer cronfa ddata Cynllun Datblygu Lleol 2.
Mae safleoedd ymgeisiol yn safleoedd a awgrymir gan y cyhoedd i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd 515 o safleoedd ymgeisiol eu cyflwyno i’r awdurdod i'w hystyried. Cafodd 457 eu cyflwyno yn ystod y galwad cyntaf, 55 yn ystod yr ail alwad, a thri yn ystod y trydydd galwad. Mae pob un safle wedi’i nodi ar y map rhyngweithiol isod.
Asesiad cychwynnol
Bu pob safle ymgeisiol yn destun asesiad cydnawsedd cychwynnol i nodi safleoedd sy’n cydymffurfio â’r strategaeth a ffefrir, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Cafodd system codau lliw ei chreu i ddangos i ba raddau yr ystyriwyd bod safle arfaethedig yn cydymffurfio â'r strategaeth a ffefrir. Mae manylion y system codau lliw sy’n dangos cydnawsedd safle â'r strategaeth a ffefrir ar gael yn yr atodiad.
Cynllun Adneuo 2: Asesiad safle
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru ar gyfer yr ail gynllun adneuo i ddangos pa safleoedd sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Adneuo 2. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngiadau megis priffyrdd, ecoleg, tirwedd, a’r gallu i gyflawni. Mae rhestr lawn o'r cyfyngiadau, a'r modd y cawsant eu hasesu, wedi'u nodi ym methodoleg y safleoedd ymgeisiol.
Mater hollbwysig yw pennu’r cyfanswm o dai sydd eu hangen mewn lleoliad ac a oes safleoedd eisoes â chaniatâd cynllunio yn yr ardal honno a allai helpu i ddiwallu’r angen hwnnw. Dylid nodi y gall safle ymgeisiol gael ei gynnwys yn rhannol yng Nghynllun Adneuo 2 mewn rhai achosion er bod rhan arall ddim yn rhan ohono. Yn yr achosion hyn, mae’r safle wedi’i isrannu i ddangos yr elfennau sy’n perthyn i gategorïau gwahanol o ran eu haddasrwydd ar gyfer datblygu neu warchod (ochr yn ochr â chodau lliw i gynorthwyo dealltwriaeth y darllenydd). Mae'r gofrestr bellach hefyd yn ymgorffori'r adroddiad asesu safle, a oedd yn ddogfen annibynnol yn flaenorol.
Er bod y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn darparu’r deilliant ar y cam hwn o’r broses o adnewyddu’r cynllun, gall y deilliannau newid yn ystod camau dilynol y broses adolygu.Barn y cyngor yw’r deilliannau ac, os oes gan randdeiliaid farn ar y safleoedd ymgeisiol hyn, rhaid ei chyflwyno fel sylw yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024.Gweler tudalen we Cynllun Adneuo 2 am ragor o wybodaeth ar sut i wneud sylw.
Mae’r categorïau lliw ar gyfer asesu’r safleoedd ymgeisiol fel a ganlyn:
Categorïau preswyl
Y Categori Coch = safleoedd preswyl nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer datblygiad preswyl. Nid yw'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu ac maent y tu allan i ffin anheddiad. Mae hyn yn cynnwys safleoedd cyfyngedig sydd o fewn 250m i ffin anheddiad pentref gwasanaeth, canolfan wasanaeth neu brif dref. Mewn rhai achosion, cyflwynodd hyrwyddwyr safle ymgeisiol nifer o gynigion ar gyfer yr un darn o dir, gan awgrymu gwahanol fathau o ddefnydd. Felly, mae'r mathau o ddefnydd llwyddiannus yn cael eu cynnwys yn y categori hwn. Mae hefyd yn cynnwys safleoedd a ystyriwyd yn anaddas yn y gorffennol fel rhan o’r asesiad cychwynnol ar gyfer pennu cydnawsedd safle â’r strategaeth a ffefrir.
Y Categori Oren = safleoedd preswyl nad oeddent wedi eu cyfyngu, ond nad oedd eu hangen, oherwydd byddai modd adeiladu nifer addas o dai gan ddefnyddio safle amgen sy’n cyd-fynd yn well â chynllun adeiledig yr anheddiad.
Y Categori Gwyrdd = safleoedd preswyl sydd wedi cael caniatâd cynllunio a oedd wedi'u cynnwys yn y cynllun ailadneuo, naill ai fel dyraniad tai o fewn ffin anheddiad, tir nad oedd wedi ei ddyrannu, ond sydd y tu mewn i ffin anheddiad, neu dir ar gyfer datblygu tai sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.
Categorïau dibreswyl (gan gynnwys cynigion defnydd cymysg gydag elfen o ddefnydd preswyl)
Y Categori Glas = safleoedd dibreswyl a fu'n llwyddiannus ac a gynhwyswyd yn y cynllun ailadneuo fel naill ai dyraniad, wedi'i gynnwys o fewn ffin yr anheddiad ond heb ei ddyrannu, wedi'i ddiogelu fel gwelliant i’r drafnidiaeth, neu wedi'i ddynodi fel man agored.
Y Categori Pinc = safleoedd dibreswyl nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i'w datblygu oherwydd cyfyngiad. Nid yw'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu ac maent y tu allan i ffin anheddiad.
Y Categori Melyn = defnydd arfaethedig nad yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn dyrannu tir ar ei gyfer yn benodol. Mae hyn yn cynnwys llety gwyliau yn bennaf ynghyd â chynigion hamdden a thwristiaeth. Yn ogystal â hyn, mae safleoedd a dynnwyd yn ôl rhag cael eu hystyried yn y categori hwn. Mae polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol i asesu'r cynigion hyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Mae'r categori hefyd yn cynnwys safleoedd yr awgrymir eu bod yn parhau i fod yn gefn gwlad.
Mae manylion y rhesymau amrywiol pam y mae safleoedd wedi'u categoreiddio i’w codau lliw gwahanol, a’r niferoedd sydd ym mhob categori, wedi'u nodi yn yr is-gategorïau isod.
Lliw a rhif y meini prawf |
Crynodeb o'r meini prawf |
Disgrifiad manwl |
Gwyrdd 3 |
Tir nad yw wedi’i ddynodi fel datblygiad preswyl, ond sydd o fewn ffin anheddiad
|
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w cynnwys o fewn ffin anheddiad, ond oherwydd mater penodol, nid ystyriwyd ei bod yn briodol eu nodi fel dyraniad preswyl. Gellir defnyddio polisïau ar sail meini prawf i asesu'r safleoedd hyn o ran pa mor addas ydynt ar gyfer datblygiad, a allai fod yn ddefnydd dibreswyl. |
Gwyrdd 4 |
Dyraniad preswyl |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas fel dyraniad preswyl a all gyfrannu at y gofyniad tai sydd wedi'i nodi. |
Gwyrdd 5 |
Ymrwymiad tai |
Mae hwn yn safle sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl. |
Oren 4 |
Nid oes angen cynnig preswyl ar hyn o bryd |
Safle nad yw wedi’i gyfyngu, ond nad oes ei angen, oherwydd byddai modd adeiladu nifer addas o dai gan ddefnyddio safle amgen sy’n cyd-fynd yn well â chynllun adeiledig yr anheddiad. |
Coch 1 |
Cynnig preswyl y mae 80% ohono o fewn parth llifogydd C2 neu 80% o fewn clustogfa 200 metr SoDdGA/ACA |
Mae’r cynnig ar gyfer defnydd preswyl lle mae arwynebedd y safle 80% o fewn parth llifogydd C2 neu 80% o fewn clustogfa 200 metr i ardal SoDdGA/ACA – nid yw hwn yn lleoliad derbyniol ar gyfer y defnydd hwn. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 2 |
Preswyl ger ffin pentref lleol |
Mae'r cynnig ger ffin pentref lleol. Ni cheisir datblygiadau sylweddol mewn aneddiadau yn y categori hwn yn yr hierarchaeth o aneddiadau. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 3 |
Unrhyw gynnig preswyl nad yw o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr |
Nid yw hyn o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth, tref wledig neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr, ac felly nid yw cynigion ar gyfer datblygiadau preswyl mwy yn cael eu cefnogi gan y strategaeth a ffefrir yn y lleoliad hwn. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 4 |
Cynnig preswyl o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr, yr ystyriwyd ei fod yn gyfyngedig |
Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, datgelodd yr asesiad manwl gyfyngiad a oedd yn barnu bod y safle'n anaddas ar gyfer datblygiad preswyl. Mae'r safleoedd hyn yn parhau i fod y tu allan i ffin anheddiad. |
Coch 5 |
Cynnig preswyl o dan 0.15 hectar nad yw’n gyfagos i ffin anheddiad |
Mae polisi sydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth a ffefrir bellach wedi'i ddileu, felly nid oedd angen asesu'r safleoedd hyn mwyach. |
Coch 6 |
Safle preswyl a ddyrannwyd ar gyfer defnydd amgen |
Mewn rhai achosion, cyflwynodd hyrwyddwyr safle ymgeisiol nifer o gynigion ar gyfer yr un darn o dir, gan awgrymu gwahanol fathau o ddefnydd. Felly, mae'r defnydd preswyl aflwyddiannus yn cael ei gynnwys yn y categori hwn. |
Glas 1 |
Dyraniad dibreswyl |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w dyrannu ar gyfer math penodol o ddatblygiad. Mae hyn yn cynnwys cyfleuster cymunedol, cyflogaeth, Sipsiwn a Theithwyr, aráe solar, cyflogaeth strategol, llety arbenigol a llety â chymorth. |
Glas 2 |
Dynodiad cludiant wedi'i ddiogelu, cyflogaeth strategol wedi'i diogelu neu fan agored |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w diogelu ar gyfer cynllun trafnidiaeth arfaethedig, eu diogelu oherwydd defnydd cyflogaeth presennol, neu eu dynodi i warchod man agored presennol. |
Glas 3 |
Safle nad yw wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygiad dibreswyl (gan gynnwys defnydd cymysg gydag elfen o breswyl) ond sydd o fewn ffin anheddiad
|
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w cynnwys o fewn ffin anheddiad, ond oherwydd mater penodol, nid ystyriwyd ei bod yn briodol eu nodi fel dyraniad. Gellir defnyddio polisïau ar sail meini prawf i asesu'r safleoedd hyn o ran pa mor addas ydynt ar gyfer datblygiad, a allai fod yn ddefnydd dibreswyl neu ddefnydd preswyl o bosibl. |
Glas 4 |
Cynnig ar gyfer diogelu trafnidiaeth sydd bellach wedi'i gwblhau |
Cynnig ar gyfer diogelu trafnidiaeth sydd bellach wedi'i gwblhau. |
Pinc 1 |
Cynnig dibreswyl, neu ddefnydd cymysg, yn cynnwys elfen o breswyl, yr ystyriwyd ei fod yn gyfyngedig |
Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, datgelodd yr asesiad manwl gyfyngiad a oedd yn golygu bod y safle'n anaddas ar gyfer datblygiad dibreswyl. Mae'r safleoedd hyn yn parhau i fod y tu allan i ffin anheddiad. |
Pinc 2 |
Cynnig dibreswyl, neu ddefnydd cymysg, sydd wedi'i ddyrannu/diogelu ar gyfer defnydd amgen |
Safle sydd wedi'i ddyrannu/diogelu ar gyfer defnydd nas cynigiwyd yn y cyflwyniad safle ymgeisiol. |
Melyn 1 |
Defnydd arfaethedig nad yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn dyrannu tir ar ei gyfer yn benodol |
Mae hyn yn cynnwys llety gwyliau yn bennaf ynghyd â chynigion hamdden a thwristiaeth. Mae polisïau ar sail meini prawf wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol i asesu cynigion datblygu ar ôl mabwysiadu'r cynllun. |
Melyn 2 |
Safleoedd yr awgrymir eu cadw fel cefn gwlad, sy'n parhau i fod yn gefn gwlad. Mae hefyd yn cynnwys tynnu cyflwyniadau yn ôl |
Mae'r safleoedd hyn yng nghefn gwlad y tu allan i ffiniau aneddiadau. Mae safleoedd a dynnwyd yn ôl rhag cael eu hystyried yn y categori hwn. |
Mae ffiniau aneddiadau ail gynllun adneuo Cynllun Datblygu Lleol 2 wedi'u cynnwys ar y mapiau er gwybodaeth yn unig. Mae ffiniau coch yn dynodi pentrefi gwasanaeth, canolfannau gwasanaeth a threfi. Mae ffiniau glas yn dynodi pentrefi lleol a phentrefi lleol clwstwr. Gweler tudalen we Cynllun Adneuo 2 am ragor o wybodaeth.
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag asesiad safle ar gael isod fel map rhyngweithiol ac fel map PDF y gellir ei lawrlwytho.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle – Map Rhyngweithiol
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau A-C
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau E-H
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau J-L
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau M-N
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau P
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau R-W
Strategaeth Ddewisol
Strategaeth a Ffefrir - diweddariad 2022
Bu'r dogfennau cyn Adneuo yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a gynhaliwyd rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019 am 4.30pm.
Nododd yr hysbysiad cyhoeddus a oedd yn cyd-fynd a'r ymgynghoriad fod y Cynllun Datblygu Lleol yn amlinellu fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyfeiro twf newydd yn Sir Benfro (ac eithrio lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro).
Ychwanegodd fod y dogfennau canlynol wedi'u cyhoeddi:
- Strategaeth a Ffefri - yn amlinellu gweledigaeth ddrafft, amcanion a'r strategaeth twf gyffredinol, yn ogystal a pholisiau ar gyfer CDLI 2.
- Adroddiad Adolygu - yn amlinellu pa rannau o CDLI 1 y mae angen eu newid, a pham.
- Adroddiad Arfaniad Cynaliadwyedd Cychwynnol - yn amlinellu sut mae cynigion y Strategaeth a Ffefri wedi'u hasesu o ran eu heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol posibl.
- Adroddiad Sgrinio'r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd - yn darparu asesiad o b'un a yw'r Strategaeth a Ffefri yn debygol o gael effeithiau ar safleoedd Natura 2000 neu beidio.
- Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol - yn dangos yr holl Safleoedd Ymgeisiol sy'n cynnig tir ar gyfer datblygu a gwarchod, a'r graddau y mae unrhyw rai o'r cynigion a gyflwynwyd yn debygol o gydsynio a'r Strategaeth a Ffefrir. Darparwyd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y Safleoedd Ymgeisiol a oedd wedi'u cyflwyno cyn dechrau'r ymgynghoriad ar 17 Rhagfyr 2018.
Yn y cam hwnnw o broses y Cynllun, darparwyd cyfle pellach hefyd i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i'w cynnwys yn y CDLI. Cyflwynwyd 55 o safleoedd ychwanegol, a darparwyd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y rhain; roedd y cyfnod hwn yn rhedeg o 17 Ebrill 2019 hyd at 6 Mehefin 2019 am 4.30pm.
Yn dilyn a cam hwnnw o'r broses, daeth yn hysbys na chafodd nifer fach o unigolion ar gronfa ddata CDLI 1 Cyngor Sir Penfro eu hysbysu am y cyfle i ddatgan eu diddordeb ar gyfer cronfa ddata Cynllun CDLI 2.
I unioni'r amryfusedd hwn, ysgrifennodd Cyngor Sir Penfro at y peronau yr effeithiwyd arnynt, yn eu gwahodd a) i gofrestri i dderbyn hysbysiadau am y CDLI Amnewid (CDLI 2) a b) i gynnig y cyfle i bob un ohonynt gyflwyno tir fel Safle Ymgeisiol. Mae hyn wedi arwain at dri Safle Ymgeisiol pellach yn cael eu hychwanegu fel Adendwm i'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn ystod 2021. Y bwriad nawr yw rhoi cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5.00pm. Mae hyn yn gyson a'r ymagwedd a fabwysiadwyd o ran y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn gynharach ym mhroses y cynllun. Bydd y safleoedd hyn yn cael hasesu wedyn gan ddefnyddio'r un fethodoleg a'r holl safleoedd eraill cyn paratoi ail Gynllun wedi'i Adneuo.
Ceir manylion yr ymgynghoriad ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol
Os dymunwch wneud sylwadau ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol hyn, gwnewch yn siwr eich bod yn anfon y rhain at yr Awdurdod erbyn 5.00pm 16 Mawrth 2022, naill ai drwy'r e-bost i ldp@pembrokeshire.gov.uk neu drwy'r post i'r Tim Cynlluniau Datblyfu, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Freeman's Way, Hwlffordd, SA61 1TP.
Fel elfen ychwanegol o'r unioni, mae Cyngor Sir Penfro yn ysgrifennu at bob un o'r personau yr effeithiwyd arnynt gan fater y gronfa ddata nawr i gynnig cyfle cyfyngedig iddynt wneud sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig. Nid yw hyn yn golygu bod yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei ailagor i'r cyhoedd enangach, ac mae ar gael i'r personau yr effeithiwyd arnynt yn unig, a chysylltwyd a phob un ohonynt yn unigol. Mae'r rheiny yr effeithiwyd arnynt wedi cael gwybod ble i weld y dogfennau, sut i gael copiau papur (os oes eu hangen) a sut i gyflwyno sylwadau.
Mae'r rheiny yr effeithiwyd arnynt wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5.00pm.
Nodwch fod y cyfle i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig wedi'i gyfyngu i'r rheiny yr effeithiwyd arnynt gan y mater ymwneud a'r gronfa ddata a ddisgrifiwyd uchod, ac nid yw'n gyfle i'r cyhoedd ehangach wneud sylwadau ar y dogfennau hyn.
Mae weledigaeth y Cynllun, y materion a’r amcanion, y lefel o dwf fyddai orau a’r strategaeth ofodol ac mae’n gosod y fframwaith strategol ar gyfer polisïau mwy manwl. Cynigir pedwar ar bymtheg o Bolisïau Strategol a phum Polisi Cyffredinol.
Cynhelwyd ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir, gan gynnwys y Diagram Allweddol rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019.
Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac mae’n dilyn ymgynghoriad blaenorol ar Ddewisiadau Strategol a’r ‘Alwad am Safleoedd’ i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mae Fersiwn hawdd ei darllen o’r Strategaeth a Ffefrir ar gael.
Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r dogfennau canlynol -
- Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Awdurdod eisoes wedi gwahodd unrhyw un â diddordeb mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cyhoeddir y safleoedd hyn yng Nghofrestr y Safleoedd Ymgeisiol. Mae asesiad cychwynnol wedi ei gynnal o’r safleoedd a gynigiwyd ar gyfer tai, gan gynnwys fel rhan o safle cymysg ei ddefnydd.
- Cynhaliwyd yr Adroddiad GC Cychwynnol - Strategaeth Ddewisol er mwyn deall effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y dewisiadau a ffefrir, polisïau strategol a chyffredinol a gynigir yn y Strategaeth a Ffefrir. Dylid darllen hwn ochr yn ochr â’r Adroddiad Rhychwantu Arfarniad Cynaladwyedd a’r Atodiadau cysylltiedig.
- Mae Sgrinio Dewis Strategaeth y GRhC wedi cael ei pharatoi i asesu effaith polisïau’r Strategaeth a Ffefrir ar Safleoedd Natura 2000. Mae’n sgrinio strategol lefel uchel ar y Strategaeth ar y cam hwn yn y CDLl.
Ymgynghoriad cychwynnol
Lluniwyd yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol i nodi sut yr ymgymerodd yr Awdurdod â’i Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, sy’n gyfnod ffurfiol yn y broses o Adolygu Cynllun Datblygu Lleol.
Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol
Atodiad A Ymatebion CDLL 2 Strategaeth a Ffefrir
Atodiad B Hierarchaeth Ddiwygiedig
Atodiad C Adroddiad Adolygu CDLL 2
Atodiad E CDLL Strategaeth a Ffefrir Newidiadau Trac Mawrth 2019
Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan A
Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan B
Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 3 Ymatebion
Adroddiadau ar ddigwyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus
Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Materion Drafft
Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Gweledigaeth Drafft
Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Amcanion Drafft
Adborth gan y cyhoedd Medi 2018: Opsiynau Tai Strategol
Adborth gan y cyhoedd Medi 2018: Materion Drafft, Gweledigaeth ac Amcanion
Adborth gan weithdy Rhanddeiliaid Ionawr 2019: Cyn-adneuo Cynllyn Datblygu Lleol
Adneuo
Rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024 hanner nos rydym yn cynnal ymgynghoriad ar y Cynllun Adnau
Mae angen barn y cyhoedd ar y cynllun sy'n goruchwylio datblygiad yn Sir Benfro cyn ei gwblhau
Mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a fydd yn darparu canllawiau trosfwaol ar gyfer datblygiadau tan 2033. Bydd yn cynnwys ardal Sir Benfro ac eithrio'r Parc Cenedlaethol.
Mae’r ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo 2 (y Cynllun) yn nodi angen am 5,840 o gartrefi newydd rhwng 2017 a 2033 (365 y flwyddyn), gan gynnwys 2,000 o gartrefi fforddiadwy.
Cynghorir trigolion i edrych ar destun y cynllun a’r mapiau i weld cynigion yn eu hardal. Mae'r cynllun yn cynnig ffiniau diwygiedig ar gyfer trefi a phentrefi (a elwir yn ffiniau aneddiadau) ac mae ystod o safleoedd yn cael eu dyrannu (eu nodi) ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, gan gynnwys 54 o safleoedd ar gyfer tai.
Neu anfonwch e-bost at eich ffurflenni cynrychioli i'w ldp@pembrokeshire.gov.uk neu bostio at y Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman's Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos ar 16 Rhagfyr 2024.
Nid yw’n bosibl bwrw ymlaen ag unrhyw sylwadau a wnaed ar y Cynllun Datblygu Lleol Adnau 2 cyntaf.
Map Cynigion Dolen i pdf
Cyfyngiadau Mapiau rhyngweithiol (diweddaru'n rheolaidd) Ddim yn rhan o'r Cynllun Adnau
Gwerthusiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Stragegol
Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol - sgroliwch i lawr ar gyfer yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol
Edrychwch yn ôl ar y dudalen hon am unrhyw ddiweddariadau
Cyflwyno
Fel rhan o’r Adroddiad Ymgynghori, mae rhestr fanwl o’r holl sylwadau ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo i’w gweld isod.
Archwilio
Nid yw’r CDLl wedi cyrraedd y cyfnod datblygu hwn eto
Mabwysiadu
Nid yw’r CDLl wedi cyrraedd y cyfnod datblygu hwn eto
Arolygu ac Adolygu
Nid yw’r CDLl wedi cyrraedd y cyfnod datblygu hwn eto