Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
Safleoedd Ymgeisiol
Cofrestr safleoedd ymgeisiol ac asesiad safle – Cynllun Adneuo 2 2024
Cefndir
Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro alwad am safleoedd ymgeisiol rhwng 22 Mawrth a 14 Awst 2018 a rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019. Cafwyd galwad arall am safleoedd ymgeisiol rhwng 20 Gorffennaf 2021 a 30 Gorffennaf 2021, yn sgil gwall gweinyddol nas rhagwelwyd ar y pryd yn 2017. Oherwydd hyn, nid oedd nifer fach o unigolion ar gronfa ddata Cynllun Datblygu Lleol 1 Cyngor Sir Penfro wedi cael eu hysbysu am y cyfle i fynegi eu diddordeb ar gyfer cronfa ddata Cynllun Datblygu Lleol 2.
Mae safleoedd ymgeisiol yn safleoedd a awgrymir gan y cyhoedd i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd 515 o safleoedd ymgeisiol eu cyflwyno i’r awdurdod i'w hystyried. Cafodd 457 eu cyflwyno yn ystod y galwad cyntaf, 55 yn ystod yr ail alwad, a thri yn ystod y trydydd galwad. Mae pob un safle wedi’i nodi ar y map rhyngweithiol isod.
Asesiad cychwynnol
Bu pob safle ymgeisiol yn destun asesiad cydnawsedd cychwynnol i nodi safleoedd sy’n cydymffurfio â’r strategaeth a ffefrir, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Cafodd system codau lliw ei chreu i ddangos i ba raddau yr ystyriwyd bod safle arfaethedig yn cydymffurfio â'r strategaeth a ffefrir. Mae manylion y system codau lliw sy’n dangos cydnawsedd safle â'r strategaeth a ffefrir ar gael yn yr atodiad.
Cynllun Adneuo 2: Asesiad safle
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru ar gyfer yr ail gynllun adneuo i ddangos pa safleoedd sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Adneuo 2. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngiadau megis priffyrdd, ecoleg, tirwedd, a’r gallu i gyflawni. Mae rhestr lawn o'r cyfyngiadau, a'r modd y cawsant eu hasesu, wedi'u nodi ym methodoleg y safleoedd ymgeisiol.
Mater hollbwysig yw pennu’r cyfanswm o dai sydd eu hangen mewn lleoliad ac a oes safleoedd eisoes â chaniatâd cynllunio yn yr ardal honno a allai helpu i ddiwallu’r angen hwnnw. Dylid nodi y gall safle ymgeisiol gael ei gynnwys yn rhannol yng Nghynllun Adneuo 2 mewn rhai achosion er bod rhan arall ddim yn rhan ohono. Yn yr achosion hyn, mae’r safle wedi’i isrannu i ddangos yr elfennau sy’n perthyn i gategorïau gwahanol o ran eu haddasrwydd ar gyfer datblygu neu warchod (ochr yn ochr â chodau lliw i gynorthwyo dealltwriaeth y darllenydd). Mae'r gofrestr bellach hefyd yn ymgorffori'r adroddiad asesu safle, a oedd yn ddogfen annibynnol yn flaenorol.
Er bod y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn darparu’r deilliant ar y cam hwn o’r broses o adnewyddu’r cynllun, gall y deilliannau newid yn ystod camau dilynol y broses adolygu.Barn y cyngor yw’r deilliannau ac, os oes gan randdeiliaid farn ar y safleoedd ymgeisiol hyn, rhaid ei chyflwyno fel sylw yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr 2024.Gweler tudalen we Cynllun Adneuo 2 am ragor o wybodaeth ar sut i wneud sylw.
Mae’r categorïau lliw ar gyfer asesu’r safleoedd ymgeisiol fel a ganlyn:
Categorïau preswyl
Y Categori Coch = safleoedd preswyl nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer datblygiad preswyl. Nid yw'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu ac maent y tu allan i ffin anheddiad. Mae hyn yn cynnwys safleoedd cyfyngedig sydd o fewn 250m i ffin anheddiad pentref gwasanaeth, canolfan wasanaeth neu brif dref. Mewn rhai achosion, cyflwynodd hyrwyddwyr safle ymgeisiol nifer o gynigion ar gyfer yr un darn o dir, gan awgrymu gwahanol fathau o ddefnydd. Felly, mae'r mathau o ddefnydd llwyddiannus yn cael eu cynnwys yn y categori hwn. Mae hefyd yn cynnwys safleoedd a ystyriwyd yn anaddas yn y gorffennol fel rhan o’r asesiad cychwynnol ar gyfer pennu cydnawsedd safle â’r strategaeth a ffefrir.
Y Categori Oren = safleoedd preswyl nad oeddent wedi eu cyfyngu, ond nad oedd eu hangen, oherwydd byddai modd adeiladu nifer addas o dai gan ddefnyddio safle amgen sy’n cyd-fynd yn well â chynllun adeiledig yr anheddiad.
Y Categori Gwyrdd = safleoedd preswyl sydd wedi cael caniatâd cynllunio a oedd wedi'u cynnwys yn y cynllun ailadneuo, naill ai fel dyraniad tai o fewn ffin anheddiad, tir nad oedd wedi ei ddyrannu, ond sydd y tu mewn i ffin anheddiad, neu dir ar gyfer datblygu tai sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.
Categorïau dibreswyl (gan gynnwys cynigion defnydd cymysg gydag elfen o ddefnydd preswyl)
Y Categori Glas = safleoedd dibreswyl a fu'n llwyddiannus ac a gynhwyswyd yn y cynllun ailadneuo fel naill ai dyraniad, wedi'i gynnwys o fewn ffin yr anheddiad ond heb ei ddyrannu, wedi'i ddiogelu fel gwelliant i’r drafnidiaeth, neu wedi'i ddynodi fel man agored.
Y Categori Pinc = safleoedd dibreswyl nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i'w datblygu oherwydd cyfyngiad. Nid yw'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu ac maent y tu allan i ffin anheddiad.
Y Categori Melyn = defnydd arfaethedig nad yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn dyrannu tir ar ei gyfer yn benodol. Mae hyn yn cynnwys llety gwyliau yn bennaf ynghyd â chynigion hamdden a thwristiaeth. Yn ogystal â hyn, mae safleoedd a dynnwyd yn ôl rhag cael eu hystyried yn y categori hwn. Mae polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol i asesu'r cynigion hyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Mae'r categori hefyd yn cynnwys safleoedd yr awgrymir eu bod yn parhau i fod yn gefn gwlad.
Mae manylion y rhesymau amrywiol pam y mae safleoedd wedi'u categoreiddio i’w codau lliw gwahanol, a’r niferoedd sydd ym mhob categori, wedi'u nodi yn yr is-gategorïau isod.
Lliw a rhif y meini prawf |
Crynodeb o'r meini prawf |
Disgrifiad manwl |
Gwyrdd 3 |
Tir nad yw wedi’i ddynodi fel datblygiad preswyl, ond sydd o fewn ffin anheddiad
|
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w cynnwys o fewn ffin anheddiad, ond oherwydd mater penodol, nid ystyriwyd ei bod yn briodol eu nodi fel dyraniad preswyl. Gellir defnyddio polisïau ar sail meini prawf i asesu'r safleoedd hyn o ran pa mor addas ydynt ar gyfer datblygiad, a allai fod yn ddefnydd dibreswyl. |
Gwyrdd 4 |
Dyraniad preswyl |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas fel dyraniad preswyl a all gyfrannu at y gofyniad tai sydd wedi'i nodi. |
Gwyrdd 5 |
Ymrwymiad tai |
Mae hwn yn safle sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl. |
Oren 4 |
Nid oes angen cynnig preswyl ar hyn o bryd |
Safle nad yw wedi’i gyfyngu, ond nad oes ei angen, oherwydd byddai modd adeiladu nifer addas o dai gan ddefnyddio safle amgen sy’n cyd-fynd yn well â chynllun adeiledig yr anheddiad. |
Coch 1 |
Cynnig preswyl y mae 80% ohono o fewn parth llifogydd C2 neu 80% o fewn clustogfa 200 metr SoDdGA/ACA |
Mae’r cynnig ar gyfer defnydd preswyl lle mae arwynebedd y safle 80% o fewn parth llifogydd C2 neu 80% o fewn clustogfa 200 metr i ardal SoDdGA/ACA – nid yw hwn yn lleoliad derbyniol ar gyfer y defnydd hwn. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 2 |
Preswyl ger ffin pentref lleol |
Mae'r cynnig ger ffin pentref lleol. Ni cheisir datblygiadau sylweddol mewn aneddiadau yn y categori hwn yn yr hierarchaeth o aneddiadau. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 3 |
Unrhyw gynnig preswyl nad yw o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr |
Nid yw hyn o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth, tref wledig neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr, ac felly nid yw cynigion ar gyfer datblygiadau preswyl mwy yn cael eu cefnogi gan y strategaeth a ffefrir yn y lleoliad hwn. Mae'r categori hwn wedi'i gadw o asesiad cychwynnol y strategaeth a ffefrir. |
Coch 4 |
Cynnig preswyl o fewn 250m i bentref gwasanaeth, canolfan gwasanaeth neu brif dref neu ger pentref lleol clwstwr, yr ystyriwyd ei fod yn gyfyngedig |
Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, datgelodd yr asesiad manwl gyfyngiad a oedd yn barnu bod y safle'n anaddas ar gyfer datblygiad preswyl. Mae'r safleoedd hyn yn parhau i fod y tu allan i ffin anheddiad. |
Coch 5 |
Cynnig preswyl o dan 0.15 hectar nad yw’n gyfagos i ffin anheddiad |
Mae polisi sydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth a ffefrir bellach wedi'i ddileu, felly nid oedd angen asesu'r safleoedd hyn mwyach. |
Coch 6 |
Safle preswyl a ddyrannwyd ar gyfer defnydd amgen |
Mewn rhai achosion, cyflwynodd hyrwyddwyr safle ymgeisiol nifer o gynigion ar gyfer yr un darn o dir, gan awgrymu gwahanol fathau o ddefnydd. Felly, mae'r defnydd preswyl aflwyddiannus yn cael ei gynnwys yn y categori hwn. |
Glas 1 |
Dyraniad dibreswyl |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w dyrannu ar gyfer math penodol o ddatblygiad. Mae hyn yn cynnwys cyfleuster cymunedol, cyflogaeth, Sipsiwn a Theithwyr, aráe solar, cyflogaeth strategol, llety arbenigol a llety â chymorth. |
Glas 2 |
Dynodiad cludiant wedi'i ddiogelu, cyflogaeth strategol wedi'i diogelu neu fan agored |
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w diogelu ar gyfer cynllun trafnidiaeth arfaethedig, eu diogelu oherwydd defnydd cyflogaeth presennol, neu eu dynodi i warchod man agored presennol. |
Glas 3 |
Safle nad yw wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygiad dibreswyl (gan gynnwys defnydd cymysg gydag elfen o breswyl) ond sydd o fewn ffin anheddiad
|
Ystyriwyd bod y safleoedd hyn yn addas i'w cynnwys o fewn ffin anheddiad, ond oherwydd mater penodol, nid ystyriwyd ei bod yn briodol eu nodi fel dyraniad. Gellir defnyddio polisïau ar sail meini prawf i asesu'r safleoedd hyn o ran pa mor addas ydynt ar gyfer datblygiad, a allai fod yn ddefnydd dibreswyl neu ddefnydd preswyl o bosibl. |
Glas 4 |
Cynnig ar gyfer diogelu trafnidiaeth sydd bellach wedi'i gwblhau |
Cynnig ar gyfer diogelu trafnidiaeth sydd bellach wedi'i gwblhau. |
Pinc 1 |
Cynnig dibreswyl, neu ddefnydd cymysg, yn cynnwys elfen o breswyl, yr ystyriwyd ei fod yn gyfyngedig |
Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, datgelodd yr asesiad manwl gyfyngiad a oedd yn golygu bod y safle'n anaddas ar gyfer datblygiad dibreswyl. Mae'r safleoedd hyn yn parhau i fod y tu allan i ffin anheddiad. |
Pinc 2 |
Cynnig dibreswyl, neu ddefnydd cymysg, sydd wedi'i ddyrannu/diogelu ar gyfer defnydd amgen |
Safle sydd wedi'i ddyrannu/diogelu ar gyfer defnydd nas cynigiwyd yn y cyflwyniad safle ymgeisiol. |
Melyn 1 |
Defnydd arfaethedig nad yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn dyrannu tir ar ei gyfer yn benodol |
Mae hyn yn cynnwys llety gwyliau yn bennaf ynghyd â chynigion hamdden a thwristiaeth. Mae polisïau ar sail meini prawf wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol i asesu cynigion datblygu ar ôl mabwysiadu'r cynllun. |
Melyn 2 |
Safleoedd yr awgrymir eu cadw fel cefn gwlad, sy'n parhau i fod yn gefn gwlad. Mae hefyd yn cynnwys tynnu cyflwyniadau yn ôl |
Mae'r safleoedd hyn yng nghefn gwlad y tu allan i ffiniau aneddiadau. Mae safleoedd a dynnwyd yn ôl rhag cael eu hystyried yn y categori hwn. |
Mae ffiniau aneddiadau ail gynllun adneuo Cynllun Datblygu Lleol 2 wedi'u cynnwys ar y mapiau er gwybodaeth yn unig. Mae ffiniau coch yn dynodi pentrefi gwasanaeth, canolfannau gwasanaeth a threfi. Mae ffiniau glas yn dynodi pentrefi lleol a phentrefi lleol clwstwr. Gweler tudalen we Cynllun Adneuo 2 am ragor o wybodaeth.
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag asesiad safle ar gael isod fel map rhyngweithiol ac fel map PDF y gellir ei lawrlwytho.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle – Map Rhyngweithiol
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau A-C
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau E-H
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau J-L
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau M-N
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau P
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol gydag Asesiad Safle - Aneddiadau R-W