Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Strategaeth Ddewisol

Strategaeth a Ffefrir - diweddariad 2022

Bu'r dogfennau cyn Adneuo yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a gynhaliwyd rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019 am 4.30pm.

Nododd yr hysbysiad cyhoeddus a oedd yn cyd-fynd a'r ymgynghoriad fod y Cynllun Datblygu Lleol yn amlinellu fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyfeiro twf newydd yn Sir Benfro (ac eithrio lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro). 

Ychwanegodd fod y dogfennau canlynol wedi'u cyhoeddi:

  • Strategaeth a Ffefri - yn amlinellu gweledigaeth ddrafft, amcanion a'r strategaeth twf gyffredinol, yn ogystal a pholisiau ar gyfer CDLI 2. 
  • Adroddiad Adolygu - yn amlinellu pa rannau o CDLI 1 y mae angen eu newid, a pham. 
  • Adroddiad Arfaniad Cynaliadwyedd Cychwynnol - yn amlinellu sut mae cynigion y Strategaeth a Ffefri wedi'u hasesu o ran eu heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol posibl. 
  • Adroddiad Sgrinio'r Arfarniad Rheoliadau  Cynefinoedd - yn darparu asesiad o b'un a yw'r Strategaeth a Ffefri yn debygol o gael effeithiau ar safleoedd Natura 2000 neu beidio. 
  • Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol - yn dangos yr holl Safleoedd Ymgeisiol sy'n cynnig tir ar gyfer datblygu a gwarchod, a'r graddau y mae unrhyw rai o'r cynigion a gyflwynwyd yn debygol o gydsynio a'r Strategaeth a Ffefrir. Darparwyd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y Safleoedd Ymgeisiol a oedd wedi'u cyflwyno cyn dechrau'r ymgynghoriad ar 17 Rhagfyr 2018.

Yn y cam hwnnw o broses y Cynllun, darparwyd cyfle pellach hefyd i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i'w cynnwys yn y CDLI. Cyflwynwyd 55 o safleoedd ychwanegol, a darparwyd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y rhain; roedd y cyfnod hwn yn rhedeg o 17 Ebrill 2019 hyd at 6 Mehefin 2019 am 4.30pm.

Yn dilyn a cam hwnnw o'r broses, daeth yn hysbys na chafodd nifer fach o unigolion ar gronfa ddata CDLI 1 Cyngor Sir Penfro eu hysbysu am y cyfle i ddatgan eu diddordeb ar gyfer cronfa ddata Cynllun CDLI 2. 

I unioni'r amryfusedd hwn, ysgrifennodd Cyngor Sir Penfro at y peronau yr effeithiwyd arnynt, yn eu gwahodd a) i gofrestri i dderbyn hysbysiadau am y CDLI Amnewid (CDLI 2) a b) i gynnig y cyfle i bob un ohonynt gyflwyno tir fel Safle Ymgeisiol. Mae hyn wedi arwain at dri Safle Ymgeisiol pellach yn cael eu hychwanegu fel Adendwm i'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn ystod 2021. Y bwriad nawr yw rhoi cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5.00pm. Mae hyn yn gyson a'r ymagwedd a fabwysiadwyd o ran y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn gynharach ym mhroses y cynllun. Bydd y safleoedd hyn yn cael hasesu wedyn gan ddefnyddio'r un fethodoleg a'r holl safleoedd eraill cyn paratoi ail Gynllun wedi'i Adneuo. 

Ceir manylion yr ymgynghoriad ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol 

Os dymunwch wneud sylwadau ar y tri Safle Ymgeisiol ychwanegol hyn, gwnewch yn siwr eich bod yn anfon y rhain at yr Awdurdod erbyn 5.00pm 16 Mawrth 2022, naill ai drwy'r e-bost i ldp@pembrokeshire.gov.uk  neu drwy'r post i'r Tim Cynlluniau Datblyfu, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Freeman's Way, Hwlffordd, SA61 1TP.

Fel elfen ychwanegol o'r unioni, mae Cyngor Sir Penfro yn ysgrifennu at bob un o'r personau yr effeithiwyd arnynt gan fater y gronfa ddata nawr i gynnig cyfle cyfyngedig iddynt wneud sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig. Nid yw hyn yn golygu bod yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei ailagor i'r cyhoedd enangach, ac mae ar gael i'r personau yr effeithiwyd arnynt yn unig, a chysylltwyd a phob un ohonynt yn unigol.  Mae'r rheiny yr effeithiwyd arnynt wedi cael gwybod ble i weld y dogfennau, sut i gael copiau papur (os oes eu hangen) a sut i gyflwyno sylwadau. 

Mae'r rheiny yr effeithiwyd arnynt wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig rhwng 19 Ionawr 2022 ac 16 Mawrth 2022 am 5.00pm. 

Nodwch fod y cyfle i gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir a'i dogfennau cysylltiedig wedi'i gyfyngu i'r rheiny yr effeithiwyd arnynt gan y mater ymwneud a'r gronfa ddata a ddisgrifiwyd uchod, ac nid yw'n gyfle i'r cyhoedd ehangach wneud sylwadau ar y dogfennau hyn.  

Mae weledigaeth y Cynllun, y materion a’r amcanion, y lefel o dwf fyddai orau a’r strategaeth ofodol ac mae’n gosod y fframwaith strategol ar gyfer polisïau mwy manwl. Cynigir pedwar ar bymtheg o Bolisïau Strategol a phum Polisi Cyffredinol. 

Cynhelwyd ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir, gan gynnwys y Diagram Allweddol rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 4 Chwefror 2019. 

Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac mae’n dilyn ymgynghoriad blaenorol ar Ddewisiadau Strategol a’r ‘Alwad am Safleoedd’ i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mae Fersiwn hawdd ei darllen o’r Strategaeth a Ffefrir ar gael. 

Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r dogfennau canlynol -

  • Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Awdurdod eisoes wedi gwahodd unrhyw un â diddordeb mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cyhoeddir y safleoedd hyn yng Nghofrestr y Safleoedd Ymgeisiol. Mae asesiad cychwynnol wedi ei gynnal o’r safleoedd a gynigiwyd ar gyfer tai, gan gynnwys fel rhan o safle cymysg ei ddefnydd. 
  • Cynhaliwyd yr Adroddiad GC Cychwynnol - Strategaeth Ddewisol er mwyn deall effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y dewisiadau a ffefrir, polisïau strategol a chyffredinol a gynigir yn y Strategaeth a Ffefrir. Dylid darllen hwn ochr yn ochr â’r Adroddiad Rhychwantu Arfarniad Cynaladwyedd a’r Atodiadau cysylltiedig.
  • Mae Sgrinio Dewis Strategaeth y GRhC wedi cael ei pharatoi i asesu effaith polisïau’r Strategaeth a Ffefrir ar Safleoedd Natura 2000. Mae’n sgrinio strategol lefel uchel ar y Strategaeth ar y cam hwn yn y CDLl.

Ymgynghoriad cychwynnol

Lluniwyd yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cychwynnol i nodi sut yr ymgymerodd yr Awdurdod â’i Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, sy’n gyfnod ffurfiol yn y broses o Adolygu Cynllun Datblygu Lleol.   

Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol

Atodiad A Ymatebion CDLL 2 Strategaeth a Ffefrir

Atodiad B Hierarchaeth Ddiwygiedig

Atodiad C Adroddiad Adolygu CDLL 2

Atodiad D CDLL 2

Atodiad E CDLL Strategaeth a Ffefrir Newidiadau Trac Mawrth 2019

Atodiad F - Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol – sylwadau a gafwyd ar y Strategaeth a Ffefrir yn ystod yr ymgynghoriad pellach, wedi'i dargedu, ar y ddogfen honno a dogfennau cysylltiedig eraill, 2022

Atodiad G i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol – Adendwm i’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, Gorffennaf 2023

Atodiad H sy’n cyd-fynd âr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol - Ymgyngoriadau cyhoeddus ar Safleoedd Ymgeisiol CDLl 2

Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan A

Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 2 Ymatebion Rhan B

Atodiad H syn cyd fynd ar adroddiad ymgynghori cychwynnol 3 Ymatebion

Adroddiadau ar ddigwyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus

Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Materion Drafft

Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Gweledigaeth Drafft

Adborth o Seminarau Aelodau a Rhanddeiliaid Ebrill 2018 – Amcanion Drafft

Adborth gan weithdy Rhanddeiliaid, Cynghorau Aelodau a Thref a Chymuned Medi 2018: Opsiynau Strategol

Adborth gan y cyhoedd Medi 2018: Opsiynau Tai Strategol

Adborth gan y cyhoedd Medi 2018: Materion Drafft, Gweledigaeth ac Amcanion

Adborth gan weithdy Cynghorau Aeolodau a Thref a Chymuned Ionawr 2019: Cyn-adneuo Cynllyn Datblygu Lleol

Adborth gan weithdy Rhanddeiliaid Ionawr 2019: Cyn-adneuo Cynllyn Datblygu Lleol

 

 

 

 

 

ID: 2506, adolygwyd 11/11/2024