Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2019

Adroddiad Gweithredu

Amcan 1 Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP): Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn ymgorffori bioamrywiaeth drwy gydol y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel.[1]

Cymerwyd camau i:

 

Amcan NRAP 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig a gwella’r rheolaeth ohonynt

Cymerwyd camau i:

  • Ddiogelu’r rhywogaethau a chynefinoedd arbennig a restrir ar restrau bioamrywiaeth adran 7, er enghraifft drwy:
    • Ddarparu cynefinoedd addas ar gyfer rhywogaethau a warchodir a’u rheoli yn briodol– rheoli ar gyfer Chwysigen Helyg, Menig Cyll, Crynodiadau Ffwng mewn Glaswelltiroedd
    • Gwella’r reolaeth o gynefinoedd, er budd pryfed peillio er enghraifft drwy gyfrwng cynlluniau plannu Cynnal a Chadw Ardal
    • Defnyddio'r system gynllunio i gynnal a gwella rhywogaethau a chynefinoedd – e.e. Gwaith Lliniaru ar gyfer Ystlumod yn y fan a'r lle, a darparu llochesi annibynnol i ystlumod
    • Datblygu mapiau ar gyfer rheoli Clefyd Coed Ynn lle mae risg uchel i Ystlumod Pedol groesi ffyrdd, yn ogystal â Chymunedau Lobarion (cennau) (atodiad 1 S7).
    • Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we sy'n deillio o Ddata Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (WWBIC).
  •  Cyfrannu at reoli safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig:
    • Aelod o 3 Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol (ac yn gadeirydd ar un grŵp); yn ymwneud yn llawn â'r broses hon, gan sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn y broses o wneud penderfyniadau a chan gyfrannu at eu rheolaeth lle bo hynny'n bosibl
    • Rheoli tir o amgylch y safleoedd hyn i’w clustogi a'u cydgysylltu fel rhan o rwydweithiau ecolegol cadarn e.e. SoDdGA Somerton, Tir yr Hen Felin, Hwlffordd.

Mesurau a/neu ddangosyddion sy’n cael eu monitro neu eu casglu:

Data o Gynllunio o Adroddiadau Monitro Blynyddol[2] ar gyfer y cynllun datblygu lleol

  • Mae newidiadau sylweddol i Dimau/Personél lleol CNC wedi effeithio ar wybodaeth ac arbenigedd bioamrywiaeth lleol
 

Amcan NRAP 3: Cynyddu gwytnwch ein hamgylchedd naturiol drwy adfer cynefinoedd sydd wedi dirywio a chreu cynefinoedd

Cymerwyd camau i:

  • Creu neu gyfrannu at Rwydweithiau Ecolegol Cadarn[3] er enghraifft drwy:
    • Adfer a/neu greu cynefinoedd drwy bolisi drafft y Fferm Sirol i ystyried Dyletswydd S6
    • Cysylltu neu ehangu ardaloedd o gynefin drwy Brosiect PLANT gyda'r GIG/Tir Coed yn darparu tir ar gyfer plannu coed
    • Gwella’r rheolaeth a/neu’r amrywiaeth o ardaloedd o gynefinoedd a reolir gan CSP
    • Cyfrannu tystiolaeth i'r broses datganiad ardal - wedi bod yn bresennol yn nifer o seminarau lleol gan Staff y Tîm Cadwraeth

Mesurau a/neu ddangosyddion sy’n cael eu monitro neu eu casglu:

  • Asesiadau Seilwaith Gwyrdd[4]
  • Gwybodaeth Ychwanegol: Cydweithio ag APCAP ar Brosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol ‘Pwyth mewn Pryd’

Amcan 4 NRAP: Mynd i'r afael â phwysau allweddol sydd ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau i:

 
  • Fynd i'r afael â phwysau allweddol:
    • Lleihau neu, lle bo'n bosibl, atal y defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr drwy weithio gyda rheolwyr cynnal a chadw ardaloedd
    • Lleihau ardaloedd o rywogaethau estron goresgynnol drwy drin tir CSP lle maent i’w cael a gweithio mewn Partneriaeth drwy Brosiect APCAP.
    • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau – gweithdrefnau newydd sydd bellach ar waith i ailgylchu mwy o wastraff cartref.
    • Datganwyd argyfwng newid yn yr hinsawdd;
    • Hysbysiad o Gynnig yn Ymwneud  Newid yn yr Hinsawdd 6 Mehefin 2019.
  • Defnyddio datrysiadau bioamrywiol a brodorol sy'n seiliedig ar natur lle bynnag y bo modd, er enghraifft drwy:
    • Annog systemau draenio trefol cynaliadwy - Mae CSP yn Gorff Cymeradwyo SDCau (SAB).
    • Ymgynghori â'r Tîm Cadwraeth ar geisiadau am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin
    • Defnyddio seilwaith gwyrdd a glas trefol bioamrywiol i reoli tymheredd, llif dŵr, erydiad pridd – gan gynnwys plannu coed, glaswelltiroedd a gwlypdiroedd – Prosiect Cleddau Reaches sy'n cynnwys gosod waliau gwyrdd yng Nghanol Tref Hwlffordd
    • Defnyddio mesurau atal llifogydd naturiol, fel pantiau a gwlypdiroedd Afon Solfach mewn partneriaeth â CNC
    • Darparu mannau gwyrdd lleol i gymunedau ac ymwelwyr er mwyn gwella canlyniadau iechyd a lles drwy;

a)    Prosiect Cleddau Reaches – Tir yr Hen Felin a’r Saltings

b)    Rhostir Wdig mewn partneriaeth ag ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (WTSWW)

c)     Cefnogi Cynghorwyr a Grwpiau Amgylchedd Cymunedol (e.e. Llandudoch)

 

Mesurau a/neu ddangosyddion sy’n cael eu monitro neu eu casglu, er enghraifft:

  • Annog adrannau i leihau'r defnydd o blaladdwyr, chwynladdwyr a chynhyrchion/arferion eraill sy'n peri risg i fioamrywiaeth
  • Polisïau a gyflwynwyd i hyrwyddo cynaliadwyedd – Mae Manylion y Gweithgor Di-garbon ar gael yn Hysbysiad o Gynnig yn Ymwneud  Newid yn yr Hinsawdd 6 Mehefin 2019
  • Defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur lle bo'n briodol
  • Ardaloedd o Rywogaethau Estron Goresgynnol wedi'u lleihau neu eu rheoli
 

Amcan NRAP 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n gwaith monitro

Camau i:

  • Wella'r defnydd o dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau, er enghraifft drwy:
    • Gasglu a rhannu tystiolaeth mewn trafodaethau gyda swyddogion awdurdodau lleol cyfagos e.e. y Gweithgor Clefyd Coed Ynn
    • Defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau, er enghraifft defnyddio data byw Canolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (WWBIC) wrth wneud penderfyniadau cynllunio drwy ddatblygu Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we
    • Rhoi ystyriaeth i restrau adran 7 o rywogaethau a chynefinoedd yr Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol a’r Datganiadau Ardal (Mae Aelodau'r Tîm Cadwraeth wedi cyfrannu at nifer o weithdai a seminarau Datganiad Ardal CNC)
    • Ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol/defnyddio mewnbwn arbenigol
    • Adolygiad o CCA Bioamrywiaeth i gynnwys Goleuadau
    • Nodi bylchau mewn tystiolaeth
    • Ymgymryd ag ymchwil drwy;

a)    Grŵpiau Awdurdodau Perthnasol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

b)    Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau

c)     Datblygu Prosiectau DNA Ffwng mewn partneriaeth â PFRN/Kew/Prifysgol Aberystwyth.

d) Mae Swyddog Bioamrywiaeth/Ecolegydd CSP yn aelod o Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig Llywodraeth Cymru sy'n cynrychioli CLlLC.

  •  Rhannu tystiolaeth sy'n hygyrch, er enghraifft trwy
    • Sicrhau bod data ar gael drwy Ganolfannau Cofnodion Amgylchedd Lleol
    • Sicrhau bod tystiolaeth amgylcheddol yn hygyrch i gymunedau lleol drwy gynnal trafodaethau gyda grwpiau lleol a Chynghorwyr perthnasol.

Mesurau a/neu ddangosyddion sy’n cael eu monitro neu eu casglu, er enghraifft:

  • Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar waith gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru
  • Gwnaed penderfyniadau cynllunio gan ddefnyddio tystiolaeth bioamrywiaeth a aseswyd drwy ymgynghori/gwaith craffu gydag Ecolegydd Cynghorydd Arbenigol CSP a datblygwyd elfen "gwella" ar gyfer Dyletswydd S6 o fewn y CCA Bioamrywiaeth.

Amcan NRAP 6: Sefydlu fframwaith o lywodraethu a chymorth ar gyfer cyflawni

Camau i:

  • Sicrhau bod llywodraethu ar gyfer bioamrywiaeth o fewn eich sefydliad, er enghraifft drwy:
    • Gael  Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Fioamrywiaeth, gan sicrhau bod y ddyletswydd S6 yn berthnasol ledled yr awdurdod
  • Darparu capasiti ar gyfer bioamrywiaeth, er enghraifft drwy:
    • Sicrhau y gellir defnyddio arbenigedd ecolegol lle bo angen, naill ai'n fewnol neu'n allanol, drwy ddarparu Tîm Cadwraeth CSP a chysylltu'n agos â Thimau CNC a Swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru.
    • Annog a chefnogi cyfranogiad gwirfoddol staff mewn gwaith ar fioamrywiaeth trwy ddefnyddio’r Cynllun Gwirfoddoli Gweithwyr - Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i weithwyr gymryd hyd at dri diwrnod neu amser talu cyfatebol (pro-rata) i wirfoddoli.
    • Annog a chefnogi cyfranogiad gwirfoddol gan gymunedau lleol mewn gwaith ar fioamrywiaeth trwy Brosiectau Adfywio Cymunedol.
    • Sicrhau bod y Ddyletswydd S6 yn cael ei monitro a'i hadolygu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a CNC
  • Cefnogi camau gweithredu bioamrywiaeth drwy gyllid a/neu bartneriaethau, er enghraifft drwy:
    • roi cyllid a chymorth gweinyddol i Bartneriaeth Natur Sir Benfro i hwyluso gweithio ar draws sectorau.
    • yn y blynyddoedd blaenorol mae CSP wedi cyfrannu arian parod i Bartneriaeth Natur Sir Benfro i gefnogi prosiectau cadwraeth lleol ac i dynnu arian ychwanegol i lawr. Cadernid ecolegol yw thema graidd y prosiectau hyn.
    • Gweithio gyda Phartneriaeth Natur Sir Benfro a Phartneriaethau Natur Lleol yr ardal gyfagos i gydlynu Cynlluniau Gweithredu.
    • Cefnogi sefydliadau a phrosiectau amgylcheddol eraill y tu hwnt i Bartneriaeth Natur Sir Benfro – Gweithio gydag aelodau eraill y BGC i gyflawni arfer gorau wrth weithredu ar ddyletswydd S6. Un enghraifft yw darparu data cadwraeth i'r gwasanaeth tân i lywio penderfyniadau penaethiaid digwyddiadau pan fyddant ar y safle – Llwybr Peilot yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro yn cael ei gyflwyno i adrannau ychwanegol.
    • Cefnogi grwpiau amgylcheddol cymunedol i arolygu a rheoli bioamrywiaeth leol mewn modd cynaliadwy drwy gynnal Diwrnodau Cofnodi WWBIC a phrosiectau Bioamrywiaeth Gymunedol ar y cyd â Phartneriaeth Natur Sir Benfro.

Mesurau a/neu ddangosyddion sy’n cael eu monitro neu eu casglu, er enghraifft:

  • Dyddiau gwirfoddoli perthnasol a gymerwyd.
  • Cynlluniau grant a buddsoddi a gefnogir drwy Grantiau Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Capasiti Perthnasol - mae'r staff presennol yn parhau i gael eu cyflogi er gwaethaf y dirwasgiad economaidd.
  • Grwpiau amgylcheddol lleol/cenedlaethol sy'n cymryd rhan/rhoi cefnogaeth sylweddol e.e. Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro, BUGLIFE, PLANTLIFE, Bumblebee Conservation, ARC ac ARG.
  • Parhau i gysylltu â Grwpiau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CNC ac Adrannau Llywodraeth Cymru 

Adolygiad o ddyletswydd a6

Nid yw'r adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ond caiff hwn ei ymgorffori yn yr adroddiad llawn ym mis Ebrill 2020. Mae cynllun S6 yn ddogfen fyw a chaiff ei diweddaru yn ôl yr angen yn unol â hynny.
 


[1] Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) Cymru

[2] Ceir gwybodaeth am Adroddiadau Monitro Blynyddol ym mharagraff 6.2.12 Polisi Cynllunio Cymru (argraffiad 10) 

[3] Rhwydweithiau o gynefinoedd mewn cyflwr ecolegol da sy’n uno safleoedd dynodedig a mannau lle ceir problemau bioamrywiaeth eraill er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i fioamrywiaeth ac i’n lles.

[4] Ceir gwybodaeth am Asesiadau Seilwaith Gwyrdd yn adran 6.2 o Bolisi Cynllunio Cymru (argraffiad 10).

ID: 9599, adolygwyd 02/02/2023