Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2019
Uchafbwyntiau, Canlyniadau a Materion Allweddol
Uchafbwyntiau, Canlyniadau a Materion Allweddol
- Ceir galluogwyr ar draws yr Awdurdod sy’n gweithredu ar fioamrywiaeth drwy wella ymwybyddiaeth a thrwy annog ymgyngoriadau cynnar/llawn â'r Tîm Cadwraeth ar gyfer prosiectau a gwasanaethau CSP, mae hyn hefyd yn cefnogi arbedion cost ac yn osgoi oedi o ran y prosiect.
- Effeithiau negyddol nodedig neu barhaus: ystyrir bod Adnoddau (staffio/ariannu) yn rhwystrau i gyflawni camau gweithredu. Mae'r cyllid 3 blynedd gan gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru ar gyfer y Bartneriaeth Natur wedi darparu rhywfaint o ddiogelwch. Mae CSP, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, yn parhau i wynebu pwysau cyllidebol ac yn ceisio gwneud arbedion cost ar draws yr awdurdod. Mae diffyg arian ar gyfer prosiectau/camau gweithredu bioamrywiaeth a'r adnoddau staff sydd eu hangen i’w rheoli a’u cyflawni hefyd yn broblem.
- Mae CSP wedi gweithredu polisi torri ymylon ffyrdd ers 2013 sy’n buddio rhywogaethau sy’n blodeuo/hadu yn y gwanwyn, tebyg i gynigion presennol PLANTLIFE. Gweithredir cyfundrefnau torri penodol ar gyfer gwarchodfeydd ymylon ffyrdd a cheir trafodaethau parhaus gyda grwpiau cymunedol/amgylchedd.
ID: 9598, adolygwyd 02/02/2023