Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Atodiadau

Atodiad 1 – Cyfarwyddiaethau’r Awdurdod yr Ymgynghorwyd â Hwy ynghylch Effeithiau ar Fioamrywiaeth

 Cyfarwyddiaeth

 Tîm

Hyrwyddwr Cadwraeth

Wedi ymateb ar y templed

 Wedi Gofyn am Gyfarfod

Gwasanaethau Cymunedol

Tîm Eiddo

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Seilwaith

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden a Chofrestru

Oes

 -

Gwasanaethau Cymunedol

Polisi corfforaethol a Phartneriaethau

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Datblygu Economaidd ac Adfywio

 -

 -

Gwasanaethau Cymunedol

Gwasanaethau amgylcheddol a Diogelu’r Cyhoedd

 -

 -

Addysg

Addysg

 -

 -

 -

Addysg

Ymgysylltu, Perfformiad a Chymuned

 -

 -

Adnoddau

Adnoddau Dynol

Oes

Adnoddau

TGCh

Oes

 Adnoddau

 Caffael a Gwasanaethau cwsmeriaid

Oes

Trafodaethau penodol gyda’r tîm

 -

Adnoddau

Cyllid

Oes

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Perfformiad a Chymorth Busnes

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Perfformiad a Chymorth Busnes

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Cynnal a Chadw Adeiladau/ Tai

Oes

Do

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Gofal Oedolion

 -

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Cydgomisiynu Strategol

 -

-

-

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Gwasanaethau Plant

 -

 -

 -

 

Atodiad 2 – Crynodeb o’r Amcanion a’r Themâu Gweithredu

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

1.1 Rhaglen o weithgareddau addysg a chodi ymwybyddiaeth sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac yn cynnwys digwyddiadau, cylchlythyrau, y cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’w wasg.

1.2 Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau bod bioamrywiaeth yn ymwreiddio mewn prosesau penderfynu.

1.3 Gweithio gyda’r sector preifat i sicrhau bod bioamrywiaeth yn ymwreiddio mewn prosesau penderfynu.

1.4 Gweithio gyda grwpiau buddiant arbenigol i wella dealltwriaeth am statws cadwraeth a rôl ecolegol nodweddion penodol.

1.5 Gweithio gyda chymunedau a thirfeddianwyr i amlygu nodweddion cadwraeth yn eu hardal a’u hannog i’w hystyried wrth reoli safleoedd.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

2.1 Darparu gwybodaeth eglur, sy’n hygyrch i’r cyhoedd, am y rhywogaethau a chynefinoedd sydd o bwys yn Sir Benfro, gan nodi statws, tueddiadau, bygythiadau a chyfleoedd.

2.2 Cynorthwyo partneriaid i adnabod, datblygu a chyflawni camau gweithredu i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd o bwys yn Sir Benfro.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

3.1 Cynorthwyo partneriaid i adnabod, datblygu a chyflawni camau gweithredu i gynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd yn Sir Benfro.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

4.1 Gweithio gyda pherchnogion safleoedd a rheolwyr safleoedd i leihau darniad cynefinoedd, gan nodi camau gweithredu unigol yn y cyd-destun ehangach, ar raddfa’r dirwedd trwy fentrau megis B-Lines, y Goedwig Hir a’r prosiect Ailgysylltu Dreigiau Cymru ac eraill wrth iddynt godi.

4.2 Cynyddu cydnerthedd rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau rhag effeithiau newid hinsawdd trwy wella cyflwr, maint a chysylltedd ecolegol ein hardaloedd sy’n gyfoethog o ran natur.

4.3 Rhoi anogaeth i ddefnyddio datrysiadau naturiol megis corslwyni, stribedi clustogi a phlannu gyda rhediad y tir i leihau llygredd gwasgarog ac erydiad pridd.

4.4 Rhoi anogaeth i ddatblygu a mabwysiadu codau ymddygiad gwirfoddol i reoli’r defnydd o’n hamgylchedd o fewn terfynau cynaliadwy.

4.5 Rhoi anogaeth ar gyfer prosiectau cydweithredol i fynd i’r afael â Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol ar raddfeydd priodol megis dalgylchoedd afonydd.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan5:Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

5.1 Gweithio gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru i ddarparu data o ansawdd da am ddosbarthiad cynefinoedd a rhywogaethau a datblygu offer i ddefnyddio’r data hwn er mwyn adnabod a thargedu cyfleoedd cadwraeth.

5.2 Cefnogi arolygon gan wirfoddolwyr trwy ddarparu mynediad at gyngor, hyfforddiant, offer a chyfeirio at fentrau gwyddoniaeth i ddinasyddion.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

6.1 Darparu partneriaeth leol gref i weithredu fel rhyngwyneb rhwng partneriaid cyflawni lleol a Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Atodiad 3 – Ymatebion i’r Holiadur

 

Y Gyfarwyddiaeth Adnoddau - Caffael a Gwasanaethau Cwsmeriaid

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Mae’r strategaeth gaffael yn cael ei hadolygu ac arferion gorau’n cael eu rhannu gyda staff.
  • Tendrau i beidio â defnyddio ffosffadau – cynhyrchion glanhau/glanedyddion/chwynladdwyr.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Defnyddio pecyn cymorth bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru a’r wefan ar gyfer caffael.
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Amcanu at beidio â defnyddio ffosffadau.

 

Y Gyfarwyddiaeth Addysg – Dim ymateb wedi dod i law

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai - Tai

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cynhelir arolygon amgylcheddol cyn i weithgareddau cynnal a chadw ddigwydd lle credir bod effeithiau bywyd gwyllt ar dai ac adeiladau masnachol/cyhoeddus fel arolygon ystlumod; rydym yn ymgysylltu â Trevor Theobald ar hyn.
  • Mae’r holl gyflogeion yn cael eu briffio trwy sgyrsiau 1:1 ar effeithiau bioamrywiaeth a sut y mae’n effeithio ar gynnal a chadw adeiladau

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Gwneud meddwl am fioamrywiaeth yn fwy o ran annatod o weithgareddau o ddydd i ddydd o fewn y tîm cynnal a chadw adeiladau.
Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Y posibilrwydd o osod blychau ystlumod a blychau adar mewn mannau strategol yn cael ei ystyried, cyllid i gael ei gadarnhau ar gyfer hyn a strategaeth ehangach. Ar gyfer adeiladau newydd caiff y rhain eu cynnwys fel rhan o’r ceisiadau cynllunio

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Cael cyllid ar gyfer blychau adar ac ystlumod a gofyn am arolygon manwl gan eraill i bennu ble y dylai’r rhain fynd. Trwy SATC (sy’n cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd), deall a hwyluso’r mentrau arbed dŵr ehangach, ac arbedion carbon, e.e. casgenni dŵr, corslwyni, plannu coed a.y.b.
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Mae’r ochr cynefinoedd o bethau’n cael ei rheoli gan ochr Cynnal a Chadw Parciau ac Ardaloedd y Cyngor
  • O safbwynt Caffael rydym yn sicrhau bod llwybrau cynaliadwy’n cael eu defnyddio lle y bo’n bosibl, e.e. Caffael pren cynaliadwy

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Ymgysylltu parhaus trwy staff Caffael ehangach wrth gaffael contractau ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau
  • Ffensys – byddwn yn amcanu at ymgorffori rhodfeydd rhywogaethau wrth osod ffensys solet. Treialwyd hyn ar gyfer rhodfeydd draenogod a rhoddir ystyriaeth yn awr i fabwysiadu hyn yn ein manyleb cynnal a chadw.
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Ystyriaeth yn cael ei rhoi yn yr holl amgylchiadau wrth godi adeiladau newydd ac yn rhan o gyn-arolygon ar gyfer prosiectau cyfalaf

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Edrych ar PPR a’r rhaglen gyfalaf ac amcanu at ymgorffori gosod blychau adar / ystlumod pan ydym yn uwchraddio’r tu allan i eiddo
Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cofnodion i gael eu cadw sy’n nodi ble rydym wedi gosod blychau adar a blychau ystlumod hyd yma i sicrhau bod eraill yn Adran Gadwraeth y Cyngor yn gallu gwneud gwaith monitro
  • Potensial trwy’r cyfryngau cymdeithasol i ennyn ymgysylltiad y cyhoedd ac ysgolion a phlant ar bob lefel
  • Ennyn ymgysylltiad y gweithlu presennol trwy wirfoddoli i wneud gwaith i fonitro rhywogaethau a chynefinoedd ehangach. Mae aelodau o’n tîm yn gwirfoddoli e.e. Ardal Warchod Forol Bae Ceredigion a monitro rhywogaethau e.e. dolffiniaid a morloi

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Llunio dogfennaeth sy’n nodi ble rydym wedi gosod blychau adar ac ystlumod hyd yma neu ble rydym yn ymwybodol eu bod wedi cael eu canfod. Cadw cofnodion yn y dyfodol
  • Ennyn ymgysylltiad pellach gan y tîm a hyrwyddo gweithgareddau gwirfoddoli, cysylltu trwy’r fenter llesiant a sgyrsiau 1:1 gyda’r tîm
Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu a gymerir:

  • Datblygu dogfen gyflawni ychwanegol i gael ei chynnwys o fewn gweithgareddau cynnal a chadw o ddydd i ddydd a phrosiectau cyfalaf lle y bo’n berthnasol
  • Mynd ati’n ehangach i ennyn ymgysylltiad y gweithlu o fewn Llesiant i wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau Cadwraeth

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Gweithio gydag eraill i sicrhau bod llywodraethu ehangach yn cynnwys gweithgareddau cynnal a chadw adeiladau

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai - Perfformiad a Chymorth Busnes

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Datblygu prosiect tyfu cymunedol ym Mharc Cerrig, Wdig gyda disgwyliad y bydd y cyhoedd ac ysgolion lleol yn cyfranogi.
  • Digwyddiadau Llesiant ar Ddiwrnod y Ddaear yn yr arfaeth gyda sgiliau traddodiadol yn cael eu rhannu (gwaith coed a chrefftau coed).
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cynnal a chadw tir Maenordy Scolton i gynnwys pentyrrau o foncyffion ac ar gyfer cynefinoedd, cysylltedd perthi, blychau ystlumod, pryfed ac adar.

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol - Seilwaith

Amcan1:Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil ac Eraill – maent yn cynnwys yr arbenigwr ecolegol mewnol ar gyfer asesiad cychwynnol ynghylch unrhyw angen posibl i warchod bioamrywiaeth.
  • Swyddogion Cefn Gwlad yn ymgysylltu ac yn rhoi cyflwyniadau diogelwch rheolaidd i gontractwyr.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo rheolaeth ar chwyn goresgynnol
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â CNC wrth wneud gwaith
  • Hyrwyddo a herio adroddiad ecoleg sy’n nodi pryderon / materion gyda chontractwyr, gan roi anogaeth ar gyfer adborth a mewnbynnau.
  • Tîm Rheoli Llwybrau i gynnal asesiad amgylcheddol o bob cam cyn bod y gwaith yn dechrau.
  • Defnyddio gwasanaeth ecolegydd CSP
  • Ymgysylltu ag arbenigwyr CNC a thrafod a chwblhau gofynion trwyddedu
  • Gwirio ac adolygu gofynion deddfwriaethol ar gyfer ardal y prosiect (SoDdGA, ACA)
  • Pontydd a chwlfertau i asesu a dilyn deddfwriaeth a chynnal asesiad amgylcheddol o’r safle.
  • Cynnwys gwelliannau Bioamrywiaeth megis blychau adar / ystlumod o dan strwythurau
  • Cydweithio rhagweithiol agosach gyda chontractwyr, trwy Whatsapp, cyflwyniadau diogelwch, gan eu hannog i arloesi.
  • Rhoi prosiectau trwy dîm dylunio er mwyn lleihau risg / gwaith cynnal a chadw a hefyd ychwanegu gwerth amgylcheddol.
  • Mwy o gydweithio o fewn mewnbwn yr isadran ehangach, gan fanteisio ar sgiliau a sgiliau gan swyddogion eraill.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol//Sifil – Wrth feddwl am gysyniad dylunio dylem gynnwys bioamrywiaeth fel elfen graidd a gaiff ei hymgorffori yn y dyluniad, nid dim ond cynnal a chadw a symud cynefinoedd ac ecosystemau ond mynd y tu hwnt a’u gwella/creu rhai newydd.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – SDCau gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw a thoeau gwyrdd i gael eu hymgorffori yn nyluniad ardaloedd newydd / ailddatblygu.
  • Swyddogion Cefn Gwlad – Cydweithio tryloyw gyda PCAP, CNC, YG, YNGC.
Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Ceir arolwg ecolegol llawn (os yw’n ofynnol) gan arbenigwyr annibynnol sy’n cwblhau adroddiad ac yn darparu canfyddiadau gydag argymhellion ynghylch gwarchod cynefinoedd/rhywogaethau a warchodir sydd wedi’u lleoli yn y datblygiad, neu gynefinoedd posibl.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd - Ceir arolwg ecolegol llawn a / neu Asesiad Effaith Amgylcheddol gan arbenigwyr annibynnol sy’n cwblhau adroddiad ac yn darparu canfyddiadau gydag argymhellion ynghylch gwarchod cynefinoedd/rhywogaethau a warchodir sydd wedi’u lleoli yn y datblygiad, neu gynefinoedd posibl.
  • Rheoli amseriad gweithgareddau i dorri llystyfiant trwy gyflwyniadau diogelwch
  • Defnyddio fflagiau ffisegol i ar gyfer rhybuddion ynghylch cynefinoedd penodol o ddiddordeb yn ardal y prosiect.
  • Cynnal arolygon ar gyfer adar, ystlumod ac unrhyw fflora neu ffyngau sy’n bresennol (mae gan nifer o safleoedd rywogaeth sy’n brin yn genedlaethol)
  • Rheoli dirywiad diogel coed neu goed moel i ganiatáu cynefin pren marw safadwy diogel.
  • Ychwanegu mantais i fioamrywiaeth trwy wneud gwaith coedlannu wedi’i dargedu os gellir gwneud hynny yn ôl caniatadau.
  • Ymgysylltu â phartneriaid / adain Goedwigaeth CNC. Ymddiriedolaeth natur leol ac arbenigwr coed / ecolegydd fel y bo angen.
  • Sicrhau bod pibellau a chwlfertau’n cael eu gosod islaw gwelyau blodau i ganiatâ gwely â ffrwd ddi-dor ar gyfer adfywio naturiol.
  • Grwpiau Gorchwyl a Gorffen addasu arfordirol, gydag un yn edrych yn benodol ar yr Amgylchedd Naturiol, i alluogi ymgysylltu â’r gymuned.
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Gan ddilyn cyngor o’r adroddiad, rydym yn rhoi mesurau ar waith i gynnal neu greu cynefinoedd/bywyd planhigion y mae angen eu symud neu eu disodli neu hyd yn oed cyflwyno bioamrywiaeth newydd mewn ymgais i wella’r lleoliad ar gyfer yr ecosystem a llesiant cyffredinol preswylwyr a fydd yn byw mewn datblygiad newydd.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – SDCau gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw, toeau gwyrdd a phalmentydd athraidd yn cael eu hymgorffori yn nyluniad ardaloedd a ddatblygir o’r newydd / ailddatblygir.
  • Ychwanegu rheolaeth ar fioamrywiaeth trwy arferion da, pentyrrau cynefinoedd, gadael pren marw, cynnwys toriadau cadwraeth os yn fuddiol.
  • Asesu cyfleoedd ar gyfer ailblannu / adfywio naturiol
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Addasu arfordirol, yn unol â’r Cynllun Rheoli Traethlin, lle mae uned bolisi'n newid o (er enghraifft) o ddal y llinell i adlinio a reolir.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Gofyn am gyngor ar greu cynefinoedd newydd ar gyfer y fioamrywiaeth sy’n gweddu orau yn seiliedig ar leoliad y safle ar gyfer yr opsiwn i greu cynefinoedd, ecosystemau newydd
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Yn seiliedig ar adroddiadau ecoleg/arolygon cychwynnol, caiff unrhyw ddatblygiad newydd sy’n cyfyngu ar gynefin a theithio gan fywyd gwyllt presennol neu bosibl ei ystyried gyda chynlluniau a thirlunio.
  • Cyflwyno twneli/tramwyfeydd os oes angen
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Arolygon o gynefinoedd yn cael eu cynnal mewn ardaloedd datblygu arfaethedig i sicrhau y darperir ar gyfer twneli / rhedfeydd / llwybrau hedfan.
  • Monitro a diweddaru arferion ar gyfer rheoli a chyfyngu ar chwyn goresgynnol.
Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – rydym yn cael cyngor cyson ynghylch unrhyw faterion bioamrywiaeth ar gyfer safleoedd ac yn nodi pethau i gadw golwg amdanynt mewn datblygiadau yn y dyfodol ac i’w rhoi ar waith ar adeg gynnar wrth ddatblygu prosiect. Mae ein tîm cadwraeth mewnol yn darparu gwybodaeth am bethau i ni eu dysgu a bod yn ymwybodol ohonynt yn ein dyluniadau.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Cynnwys yr arbenigwr ecolegol mewnol ar gyfer asesiad cychwynnol o unrhyw fesurau posibl i warchod bioamrywiaeth.
  • Defnyddio technoleg i greu GPS o’r safle ar gyfer adroddiadau rheoli safle.
Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – O fewn cynllun gwaith RIBA cam 1, proses yn cael ei dilyn ar y cyfan fel canllaw ar gyfer yr holl brosiectau i benseiri, peirianwyr ar brosiectau a pheirianwyr. Rhoddir sylw i Gynaliadwyedd, Arolygu a chynnal ymchwiliadau llawn i safleoedd cyn bod y prif waith dylunio’n digwydd er mwyn ystyried pob agwedd, gan gynnwys ecoleg.
  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Rhoddir sylw i Gynaliadwyedd (gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)), arolygu a chynnal ymchwiliadau llawn i safleoedd cyn bod y prif waith dylunio’n digwydd er mwyn ystyried pob agwedd, gan gynnwys ecoleg.
  • Dilyn cyfundrefn dryloyw ar gyfer asesu risg coed sy’n lleihau atebolrwydd CSP am risgiau ond hefyd yn dwyn deilliannau cadarnhaol o ran bioamrywiaeth.

 

Atodiad 4 – Gweithgareddau CSP sy’n Berthnasol i A6 & Atodiad 5 – Digwyddiadau a Allai Fod yn Gysylltiedig â Newid Hinsawdd

 

ID: 9592, adolygwyd 02/02/2023

Cyflwyniad a’r Cyd-destun

Acronymau

  • GGADA: Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau
  • GIG: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • CGAN: Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur
  • CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru
  • CSP: Cyngor Sir Penfro
  • APCAP: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • PNSB: Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • ACA: Ardal Cadwraeth Arbennig
  • GAPACA: Grwpiau Awdurdodau Perthnasol yr Ardal Cadwraeth Arbennig
  • SoDdGA: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • SDCau: Systemau Draenio Cynaliadwy
  • CLlLC: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • CGBGC: Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru

Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) yn sefydliad:

  • sy’n berchen/yn meddiannu adeilad swyddfa ac nad yw ei swyddogaethau’n gysylltiedig yn uniongyrchol â bioamrywiaeth a/neu reoli tir.
  • sy’n berchen, yn meddiannu neu’n rheoli ei adeiladau a’i dir ei hun, y mae ei swyddogaethau’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir, neu sy’n gallu dylanwadu ar y rhai sy’n berchen ar dir neu’n rheoli tir.
  • sy’n berchen ar dir neu’n rheoli tir y tu hwnt i’w dir ei hun, ni waeth pa un a yw ei swyddogaethau’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir ai peidio.
    • Is-Sir VC 45 er nad oes ganddo Swyddogaeth Gynllunio ar gyfer yr ardal o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro;
    • Mae CSP yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n aelod statudol o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae ganddo gynllun llesiant cyhoeddedig
  • Mae gwella bioamrywiaeth yn cyfrannu at ymrwymiad CSP ac effeithir arno gan ymrwymiad CSP i gefnogi Partneriaeth Natur Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd, Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau ac fel Cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol Llywodraeth Cymru.
  • Mae Tîm Cadwraeth CSP yn cynnwys Swyddog Tir Comin, Swyddog y Map Swyddogol, Swyddog Tirwedd, Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Ecolegydd Cynghori Arbenigol (mae’r swydd yn darparu swyddogaeth ecolegydd cynllunio ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, APCAP), Swyddog Bioamrywiaeth, Cynorthwyydd Cadwraeth ac mae’n lletya’r Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth a Swyddog Gweithredu’r Bartneriaeth Natur (Partneriaeth Natur Sir Benfro).
  • Mae polisïau, amcanion, dangosyddion perfformiad a threfniadau monitro corfforaethol perthnasol wedi’u gwreiddio ar draws adrannau; mae’n debygol y bydd pob maes yn datblygu dull ar gyfer adrodd ar weithgareddau A6 gan gyfeirio at gynllun A6 CSP. Cydlynir hyn gan y Swyddog Bioamrywiaeth.
  • Mae gwella bioamrywiaeth yn ategu polisïau a chynlluniau eraill ar draws yr Awdurdod a cheir amcanion a chamau gweithredu penodol o fewn y cynlluniau hyn:
    • Cynllun Llesiant 2018
    • Prosiectau – Asesiad Risg Amgylcheddol a Newid Hinsawdd
    • Diogelu ein hamgylchedd.
    • Y Cynllun Corfforaethol a’r Rhaglen Weinyddu 2020-21
    • Byddwn yn hybu balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella’i henw da fel lle ar gyfer ansawdd amgylcheddol eithriadol (Amcan 5, sy’n cael ei fonitro’n chwarterol). Cam Gweithredu – cynnal a gwella ansawdd yr holl agweddau ar yr amgylchedd yn Sir Benfro a’i fioamrywiaeth naturiol (sy’n cael ei fonitro’n chwarterol).

 

ID: 9518, adolygwyd 03/02/2023

Uchafbwyntiau, Deilliannau Allweddol a Materion

  • Ar draws yr Awdurdod mae cydweithio’n ei gwneud yn bosibl gweithredu ar fioamrywiaeth trwy godi ymwybyddiaeth a rhoi anogaeth i ymgynghori’n gynnar/llawn â’r Tîm Cadwraeth ar gyfer prosiectau a gwasanaethau CSP, sydd hefyd o gymorth i arbed costau ac yn osgoi oedi gyda’r prosiect.
  • O ran effeithiau negyddol sy’n amlwg neu sy’n parhau, ystyrir bod Adnoddau (staffio/cyllid) yn rhwystrau i gyflawni camau gweithredu. Mae cyllid sydd wedi bod mewn cylchoedd o dair blynedd wedi darparu peth sicrwydd (cyllid Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles blaenorol ar gyfer y Bartneriaeth Natur, a’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fwy diweddar). Mae CSP, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, yn parhau i fod â phwysau ar i gyllideb ac yn ceisio arbed costau ar draws yr Awdurdod. Mae diffyg arian ar gyfer prosiectau/camau gweithredu bioamrywiaeth a'r adnoddau staffio y mae eu hangen i reoli a chyflawni'r prosiectau a'r camau gweithredu hyn yn broblem hefyd.
  • Mae’r Tîm Cadwraeth yn cydweithio’n agos gyda’r Swyddog Coed Eiddo a’r Tîm Clefyd Coed Ynn i fynd ati’n barhaus i asesu cyflwr/diogelwch coed ac ystyried gwaith diogelwch i goed gan gadw’r boncyff lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
  • Mae CSP wedi bod yn gweithredu polisi torri ymylon ffyrdd ers 2013 i ddwyn bydd i rywogaethau sy’n blodeuo/mynd i had yn y gwanwyn yn debyg i gynigion cyfredol Plantlife. Rhoddir cyfundrefnau torri penodol ar waith ar gyfer gwarchodfeydd ymylon ffyrdd a chyda thrafodaethau parhaus gyda grwpiau cymunedol/amgylcheddol.

Mae Tîm Amwynder CSP yn treialu dull torri-a-chasglu gan ddefnyddio Grillo (gweler y ffotograff ar dudalen 13) o reoli mannau gwyrdd amwynder ar amryw safleoedd yn Hwlffordd gyda phlannu hadau a phlygiau yn creu ardaloedd o ddolydd ochr yn ochr ag ardaloedd amwynder a gaiff eu torri ar hyn o bryd.

ID: 9519, adolygwyd 02/02/2023

Adnabod Camau Gweithredu Adrannol

Cyflwyniad ar y “Ddyletswydd Bioamrywiaeth dan A6 a Gweithio mewn Partneriaeth” i “Dîm Arwain Estynedig” CSP a oedd yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ym mis Ionawr 2022. Gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaeth enwebu Hyrwyddwr Cadwraeth a fyddai’n cynnal cyswllt â’r Swyddog Bioamrywiaeth a’r Cynorthwyydd Cadwraeth i adnabod gweithgareddau o fewn eu gwasanaeth sydd â’r potensial i effeithio ar fioamrywiaeth/ei chynnal/ei gwella (Atodiad 1). Yn dilyn hyn, anfonwyd holiadur at yr Hyrwyddwyr neu’r Penaethiaid Gwasanaeth lle na roddwyd enw rhywun penodol. Roedd yr holiadur yn seiliedig ar y 6 amcan yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (CGAN, Atodiad 2) y cydnabuwyd eu bod yn cyfrannu at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.

  1. Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.
  2. Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well.
  3. Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd.
  4. Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd
  5. Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro.
  6. Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion.

Yn dilyn cael ymatebion i’r holiadur (Atodiad 3), cynhaliwyd cyfarfodydd unigol gyda’r hyrwyddwyr cadwraeth a’r Swyddog Bioamrywiaeth i drafod yr ymatebion ac i roi cyfle ar gyfer cymorth pellach gan y tîm cadwraeth.

ID: 9520, adolygwyd 27/02/2023

Cynllun Gweithredu

1. Amcan 1 yn y CGAN: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

 

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad:
    • Darparodd y Tîm Cadwraeth Seminar ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i Swyddogion ac Aelodau yn 2017 a 2022.
    • Ymgynghori ac ymgysylltu cynnar parhaus â swyddogion perthnasol mewn perthynas â chynlluniau/prosiectau/strategaethau.
    • Rhedeg seminarau neu ddarparu gwybodaeth i amlygu pwysigrwydd a gwerth bioamrywiaeth a sut yr ydym yn cyfrannu at weithredu fel sefydliad.
    • Cyfrannu at Gynulliad Blynyddol Partneriaeth Natur Sir Benfro (PNSB) a chynnwys gwahoddiadau i’r Aelod Cabinet a Chynghorwyr.
    • Ymgysylltu wyneb yn wyneb â swyddogion.
  • Mae proses ailadroddus gyda newidiadau cynyddrannol yn aml yn ei wneud yn anodd i’w feintioli.
  • Mae cynnydd mewn ymgyngoriadau a cheisiadau am Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol gan Adrannau wedi dwyn goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer Swyddogion Ecoleg.

 

2. Amcan 2 yn y CGAN: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd arbennig sydd wedi’u cynnwys ar y rhestrau bioamrywiaeth adran 7, er enghraifft trwy:
    • Darparu cynefinoedd addas ac a reolir yn briodol i rywogaethau a warchodir lle y bo’n briodol – rheolaeth ar gyfer Pothellau Helyg, Clefyd Coed Cyll, Casgliad o Ffyngau Glaswelltir trwy gyswllt â Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro (2022), wedi ailargraffu a diweddaru “Llyfryn Arweiniad i Gapiau Cwyr yng Ngorllewin Cymru” sy’n cynnwys 57 o rywogaethau gan gynnwys ffyngau A7.
    • Mae Prosiect Bro Cleddau wedi cynnwys gosod 4 gwâl dyfrgwn artiffisial o amgylch Hwlffordd – cyswllt/cyngor gan The Otter Consultancy.
    • Gwella rheolaeth ar gynefinoedd, er enghraifft ar gyfer peillwyr trwy newidiadau Cynnal a Chadw Ardal i gyfundrefnau torri a chynlluniau plannu;
    • Defnyddio’r system gynllunio i “gynnal a gwella” rhywogaethau a chynefinoedd ar gyfer yr holl geisiadau cynllunio – e.e. Camau Lliniaru ar gyfer Ystlumod ar ffurf gwelliannau yn y fan a’r lle a darparu tai ystlumod ar eu pennau eu hunain.
    • Mapiau wedi’u datblygu ar gyfer rheoli Clefyd Coed Ynn lle ceir risg uchel ar gyfer hynny, croesfannau ffyrdd ystlumod trwyn pedol a hefyd Cymunedau Lobarion (cennau) (atodiad 1 A7).
    • Prosiect Maenordy Scolton i ddarparu cyfleoedd clwydo i anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac ystlumod trwy Dyfwr Coed yn gweithio ar goed yr effeithiwyd arnynt gan Glefyd Coed Ynn gan gadw boncyff y goeden mewn cyflwr diogel.
    • Ymwneud â Phrosiect PNSB i godi blychau Gwenoliaid a chwaraewyr MP3 ar Ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), gorsafoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
    • Trafod y potensial ar gyfer gwybodaeth bellach am “laswelltir capiau cwyr” gyda phryderon ynghylch y posibilrwydd o golli safleoedd ffyngau pwysig i brosiectau “Plannu Coed Gwrthbwyso Carbon”.
    • Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we wedi’i ddeillio o Ddata Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.
  • Cyfrannu at reoli safleoedd a rhywogaethau a warchodir:
    • Aelod o 3 Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol (GAPACA, cadeirydd ar ddau grŵp); yn ymgysylltu’n llawn yn y broses hon, gan sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu gwerthfawrogi mewn prosesau penderfynu a chyfrannu at eu rheoli lle y bo’n bosibl.
    • Ar hyn o bryd, ae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Cleddau ac Afon Teifi yn methu â chyrraedd targedau a ddiweddarwyd yn 2021 ar ffosffadau a sefydlwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae CSP yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r mater hwn ochr yn ochr â phartneriaid strategol eraill. Mae wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau Cleddau (Sy’n cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai) ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Maethynnau Teifi. Mae’r byrddau newydd hyn yn cynrychioli partneriaeth strategol a fydd yn datblygu Cynllun penodol i fynd i’r afael â dalgylchoedd sy’n methu.
    • Ymweliadau â safleoedd ACA i feithrin tîm gyda’r Tîm Cynllunio a Chadwraeth;
    • Cymorth i’r prosiect 3 blynedd “Llithrfa sy’n Glanhau Ei Hun” gan Fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar lithrfeydd CSP yn Aberdaugleddau.
    • Rheoli tir o amgylch safleoedd gwarchodedig i greu clustogfa a’u cydgysylltu fel rhan o rwydweithiau ecolegol cydnerth e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Somerton, Tiroedd yr Hen Felin a Phrosiect Bro Cleddau Hwlffordd.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

 

3. Amcan 3 yn y CGAN: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Cymerwyd camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • Creu neu gyfrannu at Rwydweithiau Ecolegol Cydnerth3 er enghraifft trwy:
    • Adfer a/neu greu cynefinoedd drwy bolisi Ffermydd Sirol diwygiedig i ystyried Dyletswydd A6.
    • Cysylltu neu helaethu ardaloedd o gynefinoedd drwy Brosiect PLANT gyda'r GIG/Tir Coed yn darparu tir fferm sirol ar gyfer plannu coed.
    • Gwella rheolaeth a/neu amrywiaeth ardaloedd  o gynefinoedd a reolir gan CSP.
    • Cyfrannu tystiolaeth at broses y Datganiad Ardal – mae staff y Tîm Cadwraeth wedi mynychu sawl seminar leol.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Asesiadau Seilwaith Gwyrdd[4];  
  • Prosiect Gwybodaeth Ddaearyddol diwygiedig wedi’i gyflawni yn 2022 – aeth Staff Cadwraeth gyda Land Use Consultants LUC ar gyfer asesiadau tref
  • Gwybodaeth ychwanegol: Cydweithio gyda Phrosiect Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol “Pwyth mewn Pryd” ACPAC.

 

4. Amcan 4 yn y CGAN: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd:

  • Mynd i’r afael â’r prif bwysau:
    • Lleihau neu lle y bo’n bosibl atal y defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy weithio gyda rheolwyr cynnal a chadw ardaloedd.
    • Y gwasanaeth caffael yn treialu deunyddiau glanhau “Nad Ydynt yn Cynnwys Ffosffadau” i asesu eu heffeithiolrwydd a dadansoddi costau a budd – yn mynd rhagddo.
    • Lleihau’r ardal o rywogaethau anfrodorol goresgynnol trwy drin tir CSP sy’n llawn ohonynt a gweithio mewn partneriaeth gyda Phrosiect “Pwyth mewn Pryd” APCAP.
    • Adnoddau arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu – gweithdrefnau bellach yn eu lle i ailgylchu mwy o wastraff cartrefi.
    • Wedi datgan ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd.
    • Hysbysiad o Gynnig mewn perthynas â Newid Hinsawdd ar 6 Mehefin 2019.
    • Datganiad Caeredin wedi’i lofnodi ym mis Hydref 2021.
  • Defnyddio datrysiadau seiliedig-ar-natur bioamrywiol a brodorol lle bynnag y bo’n bosibl, er enghraifft trwy:
    • Roi anogaeth ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (SDCau) – mae CSP yn Gorff Cymeradwyo SDCau (CCS).
    • Fe ymgynghorwyr â’r Tîm Cadwraeth ynghylch ceisiadau am Ganiatadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin.
    • Defnyddio seilwaith gwyrdd a glas trefol bioamrywiol brodorol i reoli tymheredd, llif dŵr, erydiad pridd – gan gynnwys plannu coed, glaswelltiroedd a gwlypdiroedd – Prosiect Bro Cleddau sy’n cynnwys “gwyrddu” o fewn Canol Tref Hwlffordd.
    • Defnyddio mesurau atal llifogydd naturiol, megis pantiau a gwlypdiroedd ar Afon Solfach mewn partneriaeth gyda CNC.
    • Darparu mannau gwyrdd lleol i gymunedau ac ymwelwyr wella deilliannau iechyd a llesiant trwy;

a) Prosiect Bro Cleddau – Tiroedd yr Hen Felin a’r Halwyndir

b) Newidiadau o ran plannu peillwyr a thorri glaswellt

c) Rhos Wdig mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

d) Cefnogi Cynghorwyr a Grwpiau Amgylcheddol Cymunedol (e.e. Eco Dewi, Cymuned Ailnaturio Llanteg ac Amroth, Brynberian, Llandudoch).

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Annog adrannau i leihau’r defnydd o blaladdwyr, chwynladdwyr a chynhyrchion/arferion eraill sy’n achosi risg i fioamrywiaeth.
  • Prosiect peilot Gwasanaeth Caffael CSP sy’n defnyddio deunyddiau glanhau nad ydynt yn cynnwys ffosffadau yn Nepo Thornton.
  • Polisïau wedi’u cyflwyno i hybu cynaliadwyedd – manylion y Gweithgor Carbon Sero ar gael yn yr Hysbysiad o Gynnig ynghylch Newid Hinsawdd 6 Mehefin 2019.
  • Defnyddio datrysiadau seiliedig-ar-natur lle y bo’n briodol.
  • Ardal o Rywogaethau Anfrodorol Goresgynnol yn cael ei lleihau neu ei rheoli.

 

5. Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro:

  • Gwella’r defnydd o dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau, er enghraifft trwy:
    • Gasglu a rhannu tystiolaeth trwy drafodaethau gyda swyddogion awdurdodau lleol cyfagos e.e. Gweithgor Clefyd Coed Ynn.
    • Defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i wneud penderfyniadau, er enghraifft defnyddio data byw Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru mewn penderfyniadau cynllunio trwy ddatblygu Offeryn Cynllunio Defnydd Tir ar y we.
    • Ystyried y rhestr adran 7 o rywogaethau a chynefinoedd, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal (mae Aelodau’r Tîm Cadwraeth wedi cyfrannu at nifer o weithdai a seminarau ar Ddatganiadau Ardal gan CNC).
    • Ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol/defnyddio mewnbwn arbenigwyr.
    • Adolygu’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Bioamrywiaeth i gynnwys Goleuadau.
    • Adnabod bylchau o ran tystiolaeth.
    • Gwneud gwaith ymchwil trwy;

a)    GAPAGiau

b)    Grŵp Goruchwylio Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau

c)     Gwaith mewn partneriaeth i ddatblygu Prosiectau Ffyngau DNA gyda Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro/Kew/Prifysgol Aberystwyth.

d)    Mae Swyddog Bioamrywiaeth/Ecolegydd CSP yn aelod o Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol Llywodraeth Cymru gan gynrychioli CLlLC.

 

  • Rhannu tystiolaeth yn hygyrch, er enghraifft trwy
    • Trefnu bod data ar gael trwy Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol.
    • Sicrhau bod tystiolaeth amgylcheddol yn hygyrch i gymunedau lleol trwy drafodaethau gyda grwpiau lleol a Chynghorwyr perthnasol.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu:

  • Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le gyda CGBGC.
  • Penderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud gan ddefnyddio tystiolaeth bioamrywiaeth a gaiff ei hasesu trwy ymgynghori/craffu gydag Ecolegydd Cynghori Arbenigol CSP ac, o fewn y CCA Bioamrywiaeth, datblygu’r elfen “gwella” ar gyfer y Ddyletswydd A6.

 

6. Amcan 6 yn y CGAN: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu i:

  • Sicrhau llywodraethu ar gyfer bioamrywiaeth o fewn eich sefydliad, er enghraifft trwy:
    • Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Fioamrywiaeth sy’n sicrhau bod y ddyletswydd A6 yn berthnasol drwy’r Awdurdod i gyd.
  • Darparu capasiti ar gyfer bioamrywiaeth, er enghraifft trwy:
    • Sicrhau, lle y bo angen, y gellir manteision ar arbenigedd ecolegol, naill ai’n fewnol neu’n allanol trwy ddarpariaeth Tîm Cadwraeth CSP a chyswllt agos â Thimau CNC a Swyddogion perthnasol yn Llywodraeth Cymru.
    • Annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i gyfranogi mewn camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth gan staff trwy’r Cynllun Gweithwyr yn Gwirfoddoli – Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i gyflogeion gymryd hyd at dridiau neu amser cyfatebol (pro rata) â thâl o’r gwaith i wirfoddoli.
    • Annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i gyfranogi mewn camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth gan gymunedau lleol trwy Brosiectau Adfywio Cymunedol.
    • Sicrhau bod y Ddyletswydd A6 yn cael ei monitro a’i hadolygu gyda chymorth Llywodraeth Cymru a CNC.
  • Cefnogi camau gweithredu bioamrywiaeth trwy gyllid a/neu bartneriaethau, er enghraifft trwy:
    • roi cyllid a chymorth gweinyddol i Bartneriaeth Natur Sir Benfro i hwyluso trefniadau gweithio ar draws sectorau.
    • mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfraniad mewn arian parod gan CSP i PNSB wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cadwraeth lleol ac i gael cyllid ychwanegol. Mae cydnerthedd ecolegol yn thema graidd yn y prosiectau hyn.
    • Gweithio gyda PNSB a Phartneriaethau Natur Lleol yn yr ardal gyfagos i gydlynu Cynlluniau Gweithredu.
    • Cefnogi sefydliadau a phrosiectau amgylcheddol eraill y tu allan i PNSB – Gweithio gydag aelodau eraill y Bwrdd Gwasanaethau Lleol i gyflawni arfer gorau o ran gweithredu i gyflawni’r ddyletswydd A6. Enghraifft yw darparu data cadwraeth ar gyfer y gwasanaeth tân i oleuo penderfyniadau yn y fan a’r lle gan gomanderiaid digwyddiadau – Llwybr Peilot yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro’n cael ei gyflwyno i isadrannau ychwanegol.
    • Cynorthwyo grwpiau amgylcheddol cymunedol i arolygu a rheoli bioamrywiaeth leol mewn modd cynaliadwy trwy Ddiwrnodau Cofnodi CGBGC a phrosiectau Bioamrywiaeth Gymunedol ar y cyd â PNSB.

Mesurau a/neu ddangosyddion a gaiff eu monitro neu eu casglu, er enghraifft:

  • Diwrnodau gwirfoddolwyr perthnasol a gwblhawyd.
  • Cynlluniau grantiau a buddsoddi a gefnogwyd trwy Grantiau PNSB.
  • Capasiti Perthnasol – mae staff cyfredol yn dal i gael eu cyflogi er gwaethaf y dirwasgiad economaidd.
  • grwpiau amgylcheddol lleol/cenedlaethol yr ymgysylltwyd â hwy/a gefnogwyd yn weithredol neu’n sylweddol e.e. Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Benfro, Buglife, Plantlife, Cadwraeth Cacwn, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid a Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid y DU.
  • Cyswllt parhaus â Grwpiau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CNC ac Adrannau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun A6 yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei ddiweddaru’n briodol pan gyfyd yr angen. Adroddir ar Ddyletswydd A6 y Cyngor bob tair blynedd, gyda’r adroddiad byr nesaf i gael ei baratoi yn 2025.

 

 



[1] Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru

[2] Ceir gwybodaeth am Adroddiadau Monitro Blynyddol ym mharagraff 6.2.12 Polisi Cynllunio Cymru (rhifyn 11)

[3] Rhywogaethau o gynefinoedd mewn cyflwr ecolegol da gan gydgysylltu safleoedd dynodedig a mannau eraill sy’n gyforiog o fioamrywiaeth i ddwyn y budd mwyaf i fioamrywiaeth a’n llesiant.

 

[4] Ceir gwybodaeth am Asesiadau Seilwaith Gwyrdd yn adran 6.2 

ID: 9521, adolygwyd 02/02/2023