Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022
Adnabod Camau Gweithredu Adrannol
Cyflwyniad ar y “Ddyletswydd Bioamrywiaeth dan A6 a Gweithio mewn Partneriaeth” i “Dîm Arwain Estynedig” CSP a oedd yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ym mis Ionawr 2022. Gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaeth enwebu Hyrwyddwr Cadwraeth a fyddai’n cynnal cyswllt â’r Swyddog Bioamrywiaeth a’r Cynorthwyydd Cadwraeth i adnabod gweithgareddau o fewn eu gwasanaeth sydd â’r potensial i effeithio ar fioamrywiaeth/ei chynnal/ei gwella (Atodiad 1). Yn dilyn hyn, anfonwyd holiadur at yr Hyrwyddwyr neu’r Penaethiaid Gwasanaeth lle na roddwyd enw rhywun penodol. Roedd yr holiadur yn seiliedig ar y 6 amcan yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (CGAN, Atodiad 2) y cydnabuwyd eu bod yn cyfrannu at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.
- Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.
- Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well.
- Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd.
- Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd
- Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro.
- Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion.
Yn dilyn cael ymatebion i’r holiadur (Atodiad 3), cynhaliwyd cyfarfodydd unigol gyda’r hyrwyddwyr cadwraeth a’r Swyddog Bioamrywiaeth i drafod yr ymatebion ac i roi cyfle ar gyfer cymorth pellach gan y tîm cadwraeth.