Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Atodiadau

Atodiad 1 – Cyfarwyddiaethau’r Awdurdod yr Ymgynghorwyd â Hwy ynghylch Effeithiau ar Fioamrywiaeth

 Cyfarwyddiaeth

 Tîm

Hyrwyddwr Cadwraeth

Wedi ymateb ar y templed

 Wedi Gofyn am Gyfarfod

Gwasanaethau Cymunedol

Tîm Eiddo

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Seilwaith

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden a Chofrestru

Oes

 -

Gwasanaethau Cymunedol

Polisi corfforaethol a Phartneriaethau

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymunedol

Datblygu Economaidd ac Adfywio

 -

 -

Gwasanaethau Cymunedol

Gwasanaethau amgylcheddol a Diogelu’r Cyhoedd

 -

 -

Addysg

Addysg

 -

 -

 -

Addysg

Ymgysylltu, Perfformiad a Chymuned

 -

 -

Adnoddau

Adnoddau Dynol

Oes

Adnoddau

TGCh

Oes

 Adnoddau

 Caffael a Gwasanaethau cwsmeriaid

Oes

Trafodaethau penodol gyda’r tîm

 -

Adnoddau

Cyllid

Oes

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Perfformiad a Chymorth Busnes

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Perfformiad a Chymorth Busnes

Oes

Do

Do

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Cynnal a Chadw Adeiladau/ Tai

Oes

Do

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Gofal Oedolion

 -

 -

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Cydgomisiynu Strategol

 -

-

-

Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Gwasanaethau Plant

 -

 -

 -

 

Atodiad 2 – Crynodeb o’r Amcanion a’r Themâu Gweithredu

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

1.1 Rhaglen o weithgareddau addysg a chodi ymwybyddiaeth sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac yn cynnwys digwyddiadau, cylchlythyrau, y cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’w wasg.

1.2 Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau bod bioamrywiaeth yn ymwreiddio mewn prosesau penderfynu.

1.3 Gweithio gyda’r sector preifat i sicrhau bod bioamrywiaeth yn ymwreiddio mewn prosesau penderfynu.

1.4 Gweithio gyda grwpiau buddiant arbenigol i wella dealltwriaeth am statws cadwraeth a rôl ecolegol nodweddion penodol.

1.5 Gweithio gyda chymunedau a thirfeddianwyr i amlygu nodweddion cadwraeth yn eu hardal a’u hannog i’w hystyried wrth reoli safleoedd.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

2.1 Darparu gwybodaeth eglur, sy’n hygyrch i’r cyhoedd, am y rhywogaethau a chynefinoedd sydd o bwys yn Sir Benfro, gan nodi statws, tueddiadau, bygythiadau a chyfleoedd.

2.2 Cynorthwyo partneriaid i adnabod, datblygu a chyflawni camau gweithredu i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd o bwys yn Sir Benfro.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

3.1 Cynorthwyo partneriaid i adnabod, datblygu a chyflawni camau gweithredu i gynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd yn Sir Benfro.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

4.1 Gweithio gyda pherchnogion safleoedd a rheolwyr safleoedd i leihau darniad cynefinoedd, gan nodi camau gweithredu unigol yn y cyd-destun ehangach, ar raddfa’r dirwedd trwy fentrau megis B-Lines, y Goedwig Hir a’r prosiect Ailgysylltu Dreigiau Cymru ac eraill wrth iddynt godi.

4.2 Cynyddu cydnerthedd rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau rhag effeithiau newid hinsawdd trwy wella cyflwr, maint a chysylltedd ecolegol ein hardaloedd sy’n gyfoethog o ran natur.

4.3 Rhoi anogaeth i ddefnyddio datrysiadau naturiol megis corslwyni, stribedi clustogi a phlannu gyda rhediad y tir i leihau llygredd gwasgarog ac erydiad pridd.

4.4 Rhoi anogaeth i ddatblygu a mabwysiadu codau ymddygiad gwirfoddol i reoli’r defnydd o’n hamgylchedd o fewn terfynau cynaliadwy.

4.5 Rhoi anogaeth ar gyfer prosiectau cydweithredol i fynd i’r afael â Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol ar raddfeydd priodol megis dalgylchoedd afonydd.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan5:Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

5.1 Gweithio gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru i ddarparu data o ansawdd da am ddosbarthiad cynefinoedd a rhywogaethau a datblygu offer i ddefnyddio’r data hwn er mwyn adnabod a thargedu cyfleoedd cadwraeth.

5.2 Cefnogi arolygon gan wirfoddolwyr trwy ddarparu mynediad at gyngor, hyfforddiant, offer a chyfeirio at fentrau gwyddoniaeth i ddinasyddion.

 

Amcan yn CGAN Cymru

Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion.

Themâu Gweithredu yn CGAN Sir Benfro

6.1 Darparu partneriaeth leol gref i weithredu fel rhyngwyneb rhwng partneriaid cyflawni lleol a Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Atodiad 3 – Ymatebion i’r Holiadur

 

Y Gyfarwyddiaeth Adnoddau - Caffael a Gwasanaethau Cwsmeriaid

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Mae’r strategaeth gaffael yn cael ei hadolygu ac arferion gorau’n cael eu rhannu gyda staff.
  • Tendrau i beidio â defnyddio ffosffadau – cynhyrchion glanhau/glanedyddion/chwynladdwyr.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Defnyddio pecyn cymorth bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru a’r wefan ar gyfer caffael.
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Amcanu at beidio â defnyddio ffosffadau.

 

Y Gyfarwyddiaeth Addysg – Dim ymateb wedi dod i law

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai - Tai

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cynhelir arolygon amgylcheddol cyn i weithgareddau cynnal a chadw ddigwydd lle credir bod effeithiau bywyd gwyllt ar dai ac adeiladau masnachol/cyhoeddus fel arolygon ystlumod; rydym yn ymgysylltu â Trevor Theobald ar hyn.
  • Mae’r holl gyflogeion yn cael eu briffio trwy sgyrsiau 1:1 ar effeithiau bioamrywiaeth a sut y mae’n effeithio ar gynnal a chadw adeiladau

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Gwneud meddwl am fioamrywiaeth yn fwy o ran annatod o weithgareddau o ddydd i ddydd o fewn y tîm cynnal a chadw adeiladau.
Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Y posibilrwydd o osod blychau ystlumod a blychau adar mewn mannau strategol yn cael ei ystyried, cyllid i gael ei gadarnhau ar gyfer hyn a strategaeth ehangach. Ar gyfer adeiladau newydd caiff y rhain eu cynnwys fel rhan o’r ceisiadau cynllunio

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Cael cyllid ar gyfer blychau adar ac ystlumod a gofyn am arolygon manwl gan eraill i bennu ble y dylai’r rhain fynd. Trwy SATC (sy’n cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd), deall a hwyluso’r mentrau arbed dŵr ehangach, ac arbedion carbon, e.e. casgenni dŵr, corslwyni, plannu coed a.y.b.
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Mae’r ochr cynefinoedd o bethau’n cael ei rheoli gan ochr Cynnal a Chadw Parciau ac Ardaloedd y Cyngor
  • O safbwynt Caffael rydym yn sicrhau bod llwybrau cynaliadwy’n cael eu defnyddio lle y bo’n bosibl, e.e. Caffael pren cynaliadwy

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Ymgysylltu parhaus trwy staff Caffael ehangach wrth gaffael contractau ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau
  • Ffensys – byddwn yn amcanu at ymgorffori rhodfeydd rhywogaethau wrth osod ffensys solet. Treialwyd hyn ar gyfer rhodfeydd draenogod a rhoddir ystyriaeth yn awr i fabwysiadu hyn yn ein manyleb cynnal a chadw.
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Ystyriaeth yn cael ei rhoi yn yr holl amgylchiadau wrth godi adeiladau newydd ac yn rhan o gyn-arolygon ar gyfer prosiectau cyfalaf

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Edrych ar PPR a’r rhaglen gyfalaf ac amcanu at ymgorffori gosod blychau adar / ystlumod pan ydym yn uwchraddio’r tu allan i eiddo
Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cofnodion i gael eu cadw sy’n nodi ble rydym wedi gosod blychau adar a blychau ystlumod hyd yma i sicrhau bod eraill yn Adran Gadwraeth y Cyngor yn gallu gwneud gwaith monitro
  • Potensial trwy’r cyfryngau cymdeithasol i ennyn ymgysylltiad y cyhoedd ac ysgolion a phlant ar bob lefel
  • Ennyn ymgysylltiad y gweithlu presennol trwy wirfoddoli i wneud gwaith i fonitro rhywogaethau a chynefinoedd ehangach. Mae aelodau o’n tîm yn gwirfoddoli e.e. Ardal Warchod Forol Bae Ceredigion a monitro rhywogaethau e.e. dolffiniaid a morloi

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Llunio dogfennaeth sy’n nodi ble rydym wedi gosod blychau adar ac ystlumod hyd yma neu ble rydym yn ymwybodol eu bod wedi cael eu canfod. Cadw cofnodion yn y dyfodol
  • Ennyn ymgysylltiad pellach gan y tîm a hyrwyddo gweithgareddau gwirfoddoli, cysylltu trwy’r fenter llesiant a sgyrsiau 1:1 gyda’r tîm
Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu a gymerir:

  • Datblygu dogfen gyflawni ychwanegol i gael ei chynnwys o fewn gweithgareddau cynnal a chadw o ddydd i ddydd a phrosiectau cyfalaf lle y bo’n berthnasol
  • Mynd ati’n ehangach i ennyn ymgysylltiad y gweithlu o fewn Llesiant i wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau Cadwraeth

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Gweithio gydag eraill i sicrhau bod llywodraethu ehangach yn cynnwys gweithgareddau cynnal a chadw adeiladau

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai - Perfformiad a Chymorth Busnes

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Datblygu prosiect tyfu cymunedol ym Mharc Cerrig, Wdig gyda disgwyliad y bydd y cyhoedd ac ysgolion lleol yn cyfranogi.
  • Digwyddiadau Llesiant ar Ddiwrnod y Ddaear yn yr arfaeth gyda sgiliau traddodiadol yn cael eu rhannu (gwaith coed a chrefftau coed).
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Cynnal a chadw tir Maenordy Scolton i gynnwys pentyrrau o foncyffion ac ar gyfer cynefinoedd, cysylltedd perthi, blychau ystlumod, pryfed ac adar.

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol - Seilwaith

Amcan1:Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth ymwreiddio yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil ac Eraill – maent yn cynnwys yr arbenigwr ecolegol mewnol ar gyfer asesiad cychwynnol ynghylch unrhyw angen posibl i warchod bioamrywiaeth.
  • Swyddogion Cefn Gwlad yn ymgysylltu ac yn rhoi cyflwyniadau diogelwch rheolaidd i gontractwyr.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo rheolaeth ar chwyn goresgynnol
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â CNC wrth wneud gwaith
  • Hyrwyddo a herio adroddiad ecoleg sy’n nodi pryderon / materion gyda chontractwyr, gan roi anogaeth ar gyfer adborth a mewnbynnau.
  • Tîm Rheoli Llwybrau i gynnal asesiad amgylcheddol o bob cam cyn bod y gwaith yn dechrau.
  • Defnyddio gwasanaeth ecolegydd CSP
  • Ymgysylltu ag arbenigwyr CNC a thrafod a chwblhau gofynion trwyddedu
  • Gwirio ac adolygu gofynion deddfwriaethol ar gyfer ardal y prosiect (SoDdGA, ACA)
  • Pontydd a chwlfertau i asesu a dilyn deddfwriaeth a chynnal asesiad amgylcheddol o’r safle.
  • Cynnwys gwelliannau Bioamrywiaeth megis blychau adar / ystlumod o dan strwythurau
  • Cydweithio rhagweithiol agosach gyda chontractwyr, trwy Whatsapp, cyflwyniadau diogelwch, gan eu hannog i arloesi.
  • Rhoi prosiectau trwy dîm dylunio er mwyn lleihau risg / gwaith cynnal a chadw a hefyd ychwanegu gwerth amgylcheddol.
  • Mwy o gydweithio o fewn mewnbwn yr isadran ehangach, gan fanteisio ar sgiliau a sgiliau gan swyddogion eraill.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol//Sifil – Wrth feddwl am gysyniad dylunio dylem gynnwys bioamrywiaeth fel elfen graidd a gaiff ei hymgorffori yn y dyluniad, nid dim ond cynnal a chadw a symud cynefinoedd ac ecosystemau ond mynd y tu hwnt a’u gwella/creu rhai newydd.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – SDCau gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw a thoeau gwyrdd i gael eu hymgorffori yn nyluniad ardaloedd newydd / ailddatblygu.
  • Swyddogion Cefn Gwlad – Cydweithio tryloyw gyda PCAP, CNC, YG, YNGC.
Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf a’u rheoli’n well

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Ceir arolwg ecolegol llawn (os yw’n ofynnol) gan arbenigwyr annibynnol sy’n cwblhau adroddiad ac yn darparu canfyddiadau gydag argymhellion ynghylch gwarchod cynefinoedd/rhywogaethau a warchodir sydd wedi’u lleoli yn y datblygiad, neu gynefinoedd posibl.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd - Ceir arolwg ecolegol llawn a / neu Asesiad Effaith Amgylcheddol gan arbenigwyr annibynnol sy’n cwblhau adroddiad ac yn darparu canfyddiadau gydag argymhellion ynghylch gwarchod cynefinoedd/rhywogaethau a warchodir sydd wedi’u lleoli yn y datblygiad, neu gynefinoedd posibl.
  • Rheoli amseriad gweithgareddau i dorri llystyfiant trwy gyflwyniadau diogelwch
  • Defnyddio fflagiau ffisegol i ar gyfer rhybuddion ynghylch cynefinoedd penodol o ddiddordeb yn ardal y prosiect.
  • Cynnal arolygon ar gyfer adar, ystlumod ac unrhyw fflora neu ffyngau sy’n bresennol (mae gan nifer o safleoedd rywogaeth sy’n brin yn genedlaethol)
  • Rheoli dirywiad diogel coed neu goed moel i ganiatáu cynefin pren marw safadwy diogel.
  • Ychwanegu mantais i fioamrywiaeth trwy wneud gwaith coedlannu wedi’i dargedu os gellir gwneud hynny yn ôl caniatadau.
  • Ymgysylltu â phartneriaid / adain Goedwigaeth CNC. Ymddiriedolaeth natur leol ac arbenigwr coed / ecolegydd fel y bo angen.
  • Sicrhau bod pibellau a chwlfertau’n cael eu gosod islaw gwelyau blodau i ganiatâ gwely â ffrwd ddi-dor ar gyfer adfywio naturiol.
  • Grwpiau Gorchwyl a Gorffen addasu arfordirol, gydag un yn edrych yn benodol ar yr Amgylchedd Naturiol, i alluogi ymgysylltu â’r gymuned.
Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Gan ddilyn cyngor o’r adroddiad, rydym yn rhoi mesurau ar waith i gynnal neu greu cynefinoedd/bywyd planhigion y mae angen eu symud neu eu disodli neu hyd yn oed cyflwyno bioamrywiaeth newydd mewn ymgais i wella’r lleoliad ar gyfer yr ecosystem a llesiant cyffredinol preswylwyr a fydd yn byw mewn datblygiad newydd.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – SDCau gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw, toeau gwyrdd a phalmentydd athraidd yn cael eu hymgorffori yn nyluniad ardaloedd a ddatblygir o’r newydd / ailddatblygir.
  • Ychwanegu rheolaeth ar fioamrywiaeth trwy arferion da, pentyrrau cynefinoedd, gadael pren marw, cynnwys toriadau cadwraeth os yn fuddiol.
  • Asesu cyfleoedd ar gyfer ailblannu / adfywio naturiol
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Addasu arfordirol, yn unol â’r Cynllun Rheoli Traethlin, lle mae uned bolisi'n newid o (er enghraifft) o ddal y llinell i adlinio a reolir.

Camau gweithredu i’w cymryd:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Gofyn am gyngor ar greu cynefinoedd newydd ar gyfer y fioamrywiaeth sy’n gweddu orau yn seiliedig ar leoliad y safle ar gyfer yr opsiwn i greu cynefinoedd, ecosystemau newydd
Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Yn seiliedig ar adroddiadau ecoleg/arolygon cychwynnol, caiff unrhyw ddatblygiad newydd sy’n cyfyngu ar gynefin a theithio gan fywyd gwyllt presennol neu bosibl ei ystyried gyda chynlluniau a thirlunio.
  • Cyflwyno twneli/tramwyfeydd os oes angen
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Arolygon o gynefinoedd yn cael eu cynnal mewn ardaloedd datblygu arfaethedig i sicrhau y darperir ar gyfer twneli / rhedfeydd / llwybrau hedfan.
  • Monitro a diweddaru arferion ar gyfer rheoli a chyfyngu ar chwyn goresgynnol.
Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – rydym yn cael cyngor cyson ynghylch unrhyw faterion bioamrywiaeth ar gyfer safleoedd ac yn nodi pethau i gadw golwg amdanynt mewn datblygiadau yn y dyfodol ac i’w rhoi ar waith ar adeg gynnar wrth ddatblygu prosiect. Mae ein tîm cadwraeth mewnol yn darparu gwybodaeth am bethau i ni eu dysgu a bod yn ymwybodol ohonynt yn ein dyluniadau.
  • Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd – Cynnwys yr arbenigwr ecolegol mewnol ar gyfer asesiad cychwynnol o unrhyw fesurau posibl i warchod bioamrywiaeth.
  • Defnyddio technoleg i greu GPS o’r safle ar gyfer adroddiadau rheoli safle.
Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Camau gweithredu a gymerir:

  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – O fewn cynllun gwaith RIBA cam 1, proses yn cael ei dilyn ar y cyfan fel canllaw ar gyfer yr holl brosiectau i benseiri, peirianwyr ar brosiectau a pheirianwyr. Rhoddir sylw i Gynaliadwyedd, Arolygu a chynnal ymchwiliadau llawn i safleoedd cyn bod y prif waith dylunio’n digwydd er mwyn ystyried pob agwedd, gan gynnwys ecoleg.
  • Tîm Peirianneg Strwythurol/Sifil – Rhoddir sylw i Gynaliadwyedd (gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)), arolygu a chynnal ymchwiliadau llawn i safleoedd cyn bod y prif waith dylunio’n digwydd er mwyn ystyried pob agwedd, gan gynnwys ecoleg.
  • Dilyn cyfundrefn dryloyw ar gyfer asesu risg coed sy’n lleihau atebolrwydd CSP am risgiau ond hefyd yn dwyn deilliannau cadarnhaol o ran bioamrywiaeth.

 

Atodiad 4 – Gweithgareddau CSP sy’n Berthnasol i A6 & Atodiad 5 – Digwyddiadau a Allai Fod yn Gysylltiedig â Newid Hinsawdd

 

ID: 9592, adolygwyd 02/02/2023