Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022
Cyflwyniad a’r Cyd-destun
Acronymau
- GGADA: Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau
- GIG: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- CGAN: Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur
- CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru
- CSP: Cyngor Sir Penfro
- APCAP: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- PNSB: Partneriaeth Natur Sir Benfro
- ACA: Ardal Cadwraeth Arbennig
- GAPACA: Grwpiau Awdurdodau Perthnasol yr Ardal Cadwraeth Arbennig
- SoDdGA: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- SDCau: Systemau Draenio Cynaliadwy
- CLlLC: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- CGBGC: Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru
Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) yn sefydliad:
- sy’n berchen/yn meddiannu adeilad swyddfa ac nad yw ei swyddogaethau’n gysylltiedig yn uniongyrchol â bioamrywiaeth a/neu reoli tir.
- sy’n berchen, yn meddiannu neu’n rheoli ei adeiladau a’i dir ei hun, y mae ei swyddogaethau’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir, neu sy’n gallu dylanwadu ar y rhai sy’n berchen ar dir neu’n rheoli tir.
- sy’n berchen ar dir neu’n rheoli tir y tu hwnt i’w dir ei hun, ni waeth pa un a yw ei swyddogaethau’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir ai peidio.
- Is-Sir VC 45 er nad oes ganddo Swyddogaeth Gynllunio ar gyfer yr ardal o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro;
- Mae CSP yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n aelod statudol o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae ganddo gynllun llesiant cyhoeddedig
- Mae gwella bioamrywiaeth yn cyfrannu at ymrwymiad CSP ac effeithir arno gan ymrwymiad CSP i gefnogi Partneriaeth Natur Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd, Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau ac fel Cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol Llywodraeth Cymru.
- Mae Tîm Cadwraeth CSP yn cynnwys Swyddog Tir Comin, Swyddog y Map Swyddogol, Swyddog Tirwedd, Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Ecolegydd Cynghori Arbenigol (mae’r swydd yn darparu swyddogaeth ecolegydd cynllunio ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, APCAP), Swyddog Bioamrywiaeth, Cynorthwyydd Cadwraeth ac mae’n lletya’r Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth a Swyddog Gweithredu’r Bartneriaeth Natur (Partneriaeth Natur Sir Benfro).
- Mae polisïau, amcanion, dangosyddion perfformiad a threfniadau monitro corfforaethol perthnasol wedi’u gwreiddio ar draws adrannau; mae’n debygol y bydd pob maes yn datblygu dull ar gyfer adrodd ar weithgareddau A6 gan gyfeirio at gynllun A6 CSP. Cydlynir hyn gan y Swyddog Bioamrywiaeth.
- Mae gwella bioamrywiaeth yn ategu polisïau a chynlluniau eraill ar draws yr Awdurdod a cheir amcanion a chamau gweithredu penodol o fewn y cynlluniau hyn:
- Cynllun Llesiant 2018
- Prosiectau – Asesiad Risg Amgylcheddol a Newid Hinsawdd
- Diogelu ein hamgylchedd.
- Y Cynllun Corfforaethol a’r Rhaglen Weinyddu 2020-21
- Byddwn yn hybu balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella’i henw da fel lle ar gyfer ansawdd amgylcheddol eithriadol (Amcan 5, sy’n cael ei fonitro’n chwarterol). Cam Gweithredu – cynnal a gwella ansawdd yr holl agweddau ar yr amgylchedd yn Sir Benfro a’i fioamrywiaeth naturiol (sy’n cael ei fonitro’n chwarterol).
ID: 9518, adolygwyd 28/04/2023